Lleihau rhestrau aros y GIG
Mae darparu mynediad amserol at driniaeth yn sicrhau bod pobl yn iachach am gyfnod hirach ac yn cael y cymorth y mae ei angen arnynt pan fyddant ei angen fwyaf.
Rhestrau aros ysbytai
Mae’r siartiau hyn yn dangos cyfanswm yr arosiadau rhwng atgyfeirio a thriniaeth a’r nifer sydd wedi bod yn aros mwy na 104 o wythnosau (dwy flynedd).
Mae’r cyfnod aros yn dechrau pan fydd ysbyty yn cael atgyfeiriad, fel arfer gan ymarferydd cyffredinol. Mae’r cyfnod aros yn dod i ben pan fydd gofal yn yr ysbyty yn dechrau, neu pan benderfynir nad oes angen triniaeth ysbyty.
Efallai y bydd rhai pobl yn cael eu cynnwys fwy nag unwaith os byddant yn aros am fwy nag un driniaeth.
Eglurhad ynghylch data rhestrau aros ysbytai
Disgrifiad o’r siart: Cynyddodd rhestrau aros yn sydyn o 2020 ymlaen, gan gyrraedd brig yn ystod y blynyddoedd ar ôl y pandemig. Yn fwy diweddar, mae’r ddau fesur wedi gostwng, er bod cyfanswm y rhestrau aros yn parhau i fod yn uwch na’r lefelau cyn y pandemig. Mae nifer yr arosiadau rhwng atgyfeirio a thriniaeth sy’n fwy na dwy flynedd o hyd wedi gostwng o’r brig yn sylweddol ac mae’n parhau i ddangos tuedd gyffredinol ar i lawr.
Mae data pob mis yn dangos y sefyllfa ar ddiwrnod olaf y mis calendr hwnnw.
Mae’r ffigurau yn seiliedig ar y bwrdd iechyd sy’n darparu’r driniaeth, yn hytrach na bwrdd iechyd preswyl y claf.
Gallai diwedd triniaeth gynnwys y canlynol:
- llawdriniaethau (fel gosod clun neu ben-glin newydd)
- triniaeth nad oes angen aros yn yr ysbyty ar ei chyfer (er enghraifft, meddyginiaeth neu ffisiotherapi)
- dechrau gosod dyfeisiau meddygol fel brês coesau
- dechrau cyfnod o amser y cytunwyd arno i fonitro cyflwr y claf er mwyn asesu’r angen am driniaethau pellach
- y claf yn gwrthod triniaeth
- y claf yn marw
Pam mae rhestrau aros yn bwysig
Gall amseroedd aros llai arwain at ganlyniadau cadarnhaol, fel:
- cyflyrau iechyd yn gwella a gall triniaethau fod yn haws
- llai o boen a gwell ansawdd bywyd
- llai o straen a phryder a achosir gan oedi ac ansicrwydd
- llai o anghydraddoldeb, gan fod arosiadau hir yn cael mwy o effaith ar bobl sy’n llai cefnog o gymharu ag eraill
- mwy o allu i ddychwelyd i’r gwaith yn gynt, gan hybu twf mewn cynhyrchiant
- hybu llai o alw am ofal cymdeithasol
I’r gwrthwyneb, gall peidio â gwella amseroedd effeithio’n negyddol ar yr holl feysydd hyn. Dyna pam y mae lleihau rhestrau aros yn flaenoriaeth allweddol i’r Llywodraeth.
Sut rydym yn mynd ati i leihau rhestrau aros
I leihau rhestrau aros a gwella iechyd pobl yn ehangach, mae’r Llywodraeth yn gweithio ar y mentrau canlynol:
- buddsoddi mewn capasiti, gan gynnwys creu hybiau llawfeddygol a diagnostig newydd i gynyddu capasiti a chyfeirio adnoddau i’r mannau lle mae eu hangen fwyaf
- diwygio’r protocolau triniaeth a diagnostig presennol er mwyn addasu i anghenion cleifion unigol ac osgoi camau neu oedi diangen
- sicrhau gwell defnydd o adnoddau digidol i wella gwasanaethau sy’n wynebu cleifion, gan ganolbwyntio ar leihau’r nifer o apwyntiadau a gollir, rhyddhau cleifion yn fwy effeithlon a chael gwared â chofnodion dyblyg ar draws systemau
- darparu cyllid ychwanegol i fynd i’r afael â hyn, gan ddechrau gyda’r arosiadau hiraf
