Neidio i'r prif gynnwy
Cynnydd o ran ein blaenoriaethau

Mynd i’r afael â thlodi plant

Bydd lleihau tlodi plant yn helpu pobl i gael y dechrau gorau mewn bywyd.

Plant sy’n byw mewn tlodi 

Mae’r siart hon yn dangos canran y plant sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru. Ystyrir bod plant mewn tlodi incwm cymharol os ydynt yn byw mewn aelwyd ag incwm sy’n is na 60% o incwm aelwyd nodweddiadol yn y DU, ar ôl talu costau tai megis taliadau rhent neu daliadau morgais.  

Eglurhad ynghylch data plant sy’n byw mewn tlodi incwm cymharol

Mae’r siart linell yn dangos bod canran y plant sy’n byw mewn aelwydydd sydd mewn tlodi incwm ar ôl costau tai wedi cynyddu ers y cyfnod tair blynedd a ddaeth i ben yn 2023. Fodd bynnag, mae’r cynnydd o 2 bwynt canran o fewn yr ystod o amrywiad tymor byr a welir fel arfer ac nid yw’n ystadegol arwyddocaol. 
 
Nid oes modd cymharu data o’r cyfnod tair blynedd a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023 â chyfnodau blaenorol oherwydd bod data gweinyddol integredig wedi’u cyflwyno ar fudd-daliadau na ddefnyddiwyd o’r blaen. 

Dangosir y canlyniadau fel cyfartaleddau tair blynedd, o’r cyfnod tair blynedd a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020 i’r cyfnod tair blynedd a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2025.  

Gwybodaeth fethodolegol fanylach am dlodi incwm cymharol.

Daw’r data hyn o set ddata Aelwydydd Incwm Is Na’r Cyfartaledd yr Adran Gwaith a Phensiynau, sy’n seiliedig ar ganlyniadau’r Arolwg Adnoddau Teuluol. Fe’u dosberthir yn ystadegau swyddogol o dan ddatblygiad. 

Gweld data tlodi incwm ar StatsCymru.

Pam mae mynd i’r afael â thlodi plant yn bwysig 

Mae tlodi plant yn effeithio ar fywydau plant yn awr ac yn y dyfodol. Gall mynd i’r afael â thlodi plant helpu mwy o blant i:

  • gael iechyd corfforol a meddyliol gwell 
  • mynychu’r ysgol yn fwy rheolaidd a gwneud y mwyaf o’u haddysg 
  • datblygu sgiliau llythrennedd a rhifedd cryfach 
  • cael llesiant da a theimlo’n hyderus  
  • cael mynediad at gyfleoedd yn ddiweddarach mewn bywyd 
  • sicrhau swyddi da ac ennill incwm sefydlog fel oedolion

Mae tlodi plant hefyd yn effeithio ar gymdeithas yn ehangach. Gall gynyddu’r pwysau ar wasanaethau iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus eraill, a gall ei gwneud yn anoddach i gymunedau a’r economi ffynnu.

Gall lleihau tlodi plant wella iechyd, addysg, llesiant a chyfleoedd yn y dyfodol. Gall helpu plant i ffynnu a chreu Cymru gryfach a thecach i bawb.

Sut rydym yn mynd ati i fynd i’r afael â thlodi plant 

Yn rhan o’r ymrwymiad i fynd i’r afael â thlodi plant a chefnogi teuluoedd ledled Cymru, mae’r Llywodraeth yn datblygu strategaeth tlodi plant ar frys, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ynghylch yr hyn sy’n gweithio. Bydd y strategaeth yn cynnwys targedau a mesurau i helpu i fonitro cynnydd tuag at y canlyniadau a’r nod o fynd i’r afael â thlodi plant.

Bydd y strategaeth a’r camau gweithredu cysylltiedig yn ceisio lleihau achosion ac effeithiau tlodi plant, a rhoi cyfle i bob plentyn gyrraedd ei lawn botensial.

Yn dilyn cyhoeddi’r strategaeth, caiff y mesurau a’r wybodaeth sydd wedi’u cyflwyno yma eu diweddaru i adlewyrchu’r camau gweithredu a’r targedau.  

Bydd ymrwymiadau’r Llywodraeth i dreialu Cynnal (Taliad Plant Cymru), ehangu mynediad at brydau ysgol am ddim ac ehangu mynediad at ofal plant a ariennir hefyd yn cyfrannu at fynd i’r afael â thlodi plant yng Nghymru 

Hysbysiadau diweddaraf

Dilynwch ni