I ddarparwyr gofal plant, gan gynnwys sut i weld, derbyn a newid cytundebau ar gyfer oriau wedi'u hariannu Cynnig Gofal Plant Cymru.
Cynnwys
Gweld y cytundebau mae rhieni wedi gofyn amdanynt
Byddwch yn mewngofnodi i'ch dangosfwrdd ac yn gweld yr holl gytundebau ar gyfer eich lleoliad, a fydd wedi eu rhestru o dan enw'r plentyn. Mae’r ceisiadau hyn yn dilyn sgyrsiau all-lein rhyngoch chi a’r rhieni a dylai’r manylion adlewyrchu’r sgyrsiau hynny.Bydd uchafswm yr oriau gofal plant a ariennir y mae'r rhiant arweiniol wedi gofyn amdanynt bob wythnos yn ystod y tymor a/neu yn ystod y gwyliau yn cael eu harddangos.
Uchafswm oriau
Bydd rhiant, trwy sgyrsiau gyda chi'ch hun, yn nodi uchafswm yr oriau y byddan nhw efallai’n dymuno eu harchebu gyda'ch lleoliad mewn unrhyw wythnos benodol yn y cytundeb. Nid yw’r broses hon yn ‘system archebu’ felly efallai na fydd y rhiant o reidrwydd yn ‘archebu’ yr holl oriau hynny. Er enghraifft, os yw eich lleoliad yn caniatáu ar gyfer patrymau sifft, gall y rhieni ddefnyddio mwy o oriau un wythnos na'r nesaf. Bydd yr elfen hawliad yn caniatáu i chi nodi'r oriau a archebwyd ar gyfer pob wythnos hyd at yr uchafswm hwn.
Wythnosau yn ystod y gwyliau
Os yw rhiant am fanteisio ar ofal plant wedi’i ariannu yn ystod wythnosau gwyliau ysgol, bydd angen iddo gael naill ai gytundeb sy’n cyfuno wythnosau adeg gwyliau/wythnosau adeg tymor, neu gytundeb adeg gwyliau yn ei le. Os mai cytundeb adeg tymor yn unig sydd gan y rhiant, ni fydd lleoliadau yn gallu hawlio am ofal sydd wedi’i ddarparu yn ystod y gwyliau ysgol. Fel bob amser, bydd angen i’r rhiant drafod â chi i weld a oes lle i’r plentyn cyn cadarnhau’r cytundeb ar-lein.
Mae pedair wythnos wyliau mewn blwyddyn nad ydynt yn cael eu hariannu o dan y Cynnig, a bydd angen i’r rhiant ddweud wrthych pa wythnosau y mae am eu cymryd yn wythnosau heb eu hariannu. Os yw’r rhiant am gael gofal plant mewn wythnos sydd heb ei hariannu, rhaid iddo ariannu’r gofal plant ei hun. At ddiben y gwasanaeth digidol, dylech roi 0 yn y golofn ar gyfer yr oriau sydd wedi’u harchebu i ddangos bod yr wythnos honno’n wythnos heb ei hariannu. Bydd hyn yn golygu nad effeithir ar gredydau wythnos wyliau y rhiant ar gyfer yr wythnos honno.
Cytundebau sy’n weddill
Mae unrhyw gytundebau sy'n weddill sy'n gofyn am weithredu yn cael eu harddangos fel rhybudd ar frig eich sgrin Cytundebau. Gallwch adolygu cytundebau gyda statws Adolygu a fydd yn dangos cyfnod y cytundeb, oriau a dyddiad dechrau'r plentyn hwnnw. Bydd gennych yr opsiwn i 'Dderbyn', 'Gwrthod' neu 'Newid oriau Cytundeb.'
Statws y cytundeb
Bydd y sgrin cytundebau yn arddangos yr holl gytundeb yn ôl enw'r Plentyn, enw'r Rhiant, math o Gytundeb (tymor a gwyliau, tymor yn unig, gwyliau yn unig), Statws a Gweithredu. Mae'r statws fel a ganlyn:
- gweithredol: cytundeb byw parhaus.
- dod i ben: pan fydd rhiant wedi canslo'r Cytundeb a phennu dyddiad gorffen canslo.
- adolygiad: cytundebau sydd newydd eu cyflwyno sy'n gofyn am eich sylw.
- adolygiad rhieni: pan fyddwch wedi gwneud cais am newid i oriau'r Cytundeb ac yn aros i'r rhiant adolygu a naill ai dderbyn y newidiadau neu ganslo'r
Dyddiadau cychwyn cytundebau
Rhaid i ddyddiadau cychwyn cytundebau fod yn y dyfodol, a rhaid iddynt ddechrau ar ddydd Llun. Er mwyn sicrhau bod gofal plant yn cael ei ariannu o’r dyddiad a ddewisir gan y rhiant, rhaid i rieni greu a chyflwyno eu Cytundebau ar-lein cyn dydd Llun cyntaf y gofal plant a ariennir.
Derbyn cytundebau ar gyfer oriau a ariennir
Rhaid i’ch lleoliad dderbyn y cytundeb erbyn dydd Iau yr wythnos gyntaf o ofal plant a ariennir fan bellaf.
Wrth adolygu cytundebau sydd newydd eu cyflwyno gyda statws adolygiad, bydd y crynodeb o'r oriau gofal plant y gofynnir amdanynt yn cael ei gyflwyno. Dylai cais y cytundeb adlewyrchu'n gywir y trafodaethau blaenorol a gawsoch gyda'r rhiant, h.y. uchafswm yr oriau y gallai fod eu hangen ar y rhiant mewn unrhyw wythnos. I dderbyn, cliciwch y botwm Derbyn a bydd hysbysiad cadarnhau yn ymddangos i chi a hefyd bydd hysbysiad e-bost yn cael ei anfon at y rhiant yn dweud wrthynt fod eu cytundeb wedi'i dderbyn. Bydd y cytundeb yn dangos statws 'Gweithredol' ar eich rhestr cytundebau.
Gwrthod cytundeb
Wrth adolygu cytundeb, mae botwm Gwrthod ar gael. Wrth wrthod cytundeb, bydd cadarnhad yn cael ei arddangos i chi a bydd hysbysiad e-bost yn cael ei anfon at y rhiant. Bydd y cytundeb yn cael ei dynnu o ddangos bwrdd eich lleoliad. Bydd e-bost yn hysbysu'r rhiant i fewngofnodi i'r system a gweld y cais a wrthodwyd. Byddai angen i'r rhiant gysylltu â chi i drafod y rhesymau gwrthod. Bydd y rhiant yn cael credyd am yr oriau gofal plant a gall greu cytundeb newydd os oes angen.
Newid oriau cytundeb cyn cymeradwyo
Wrth adolygu'r cais a gyflwynwyd, os nad yw'r cais yn cyfateb i'r sgyrsiau y mae’r lleoliad wedi’u cael gyda'r rhiant, dylai'r lleoliad ddewis newid oriau’r cytundeb a rhoi oriau a munudau wythnosol diwygiedig. Dim ond cyn derbyn y gellir gwneud hyn (neu fel arall mae rhaid ichi ddilyn y broses ‘Diwygio Cytundeb sydd eisoes wedi’i gymeradwyo’). Yna mae hyn yn anfon hysbysiad at y rhiant i'w hysbysu bod rhywbeth wedi newid yn y cytundeb ac y dylai fewngofnodi i'w ddangosfwrdd. Yna caiff y cais ei adolygu gan y rhiant. Ni all wneud unrhyw newidiadau ond rhaid iddo naill ai dderbyn y newidiadau neu wrthod y cytundeb.
Diwygio cytundeb sydd eisoes wedi’i gymeradwyo
Os yw rhiant am ddiwygio cytundeb sydd eisoes wedi’i gymeradwyo, rhaid iddo drafod hyn gyda’r lleoliad yn y lle cyntaf. Ar ôl iddynt gytuno ar hyn mewn sgwrs, bydd angen i’r lleoliad ddiweddaru’r cytundeb o fewn y gwasanaeth digidol drwy fewngofnodi i’r dangosfwrdd, dewis cytundebau ac yna ddewis gweld y cytundeb presennol ar gyfer y plentyn. Yma gall y lleoliad ddiwygio cytundeb sydd eisoes yn bodoli drwy ddewis ‘newid oriau’r Cytundeb’ a rhoi’r oriau a’r munudau wythnosol diwygiedig, naill ai ar gyfer adeg tymor, adeg gwyliau, neu’r ddau. Wrth gyflwyno’r newid, caiff hysbysiad e-bost a hysbysiad dangosfwrdd eu hanfon at y rhiant i ddangos bod rhywbeth wedi newid yn ei gytundeb. Bydd hyn yn annog y rhiant i fewngofnodi i’w ddangosfwrdd a rhaid iddo naill ai dderbyn neu wrthod y newidiadau. Hyd nes y bydd y newid wedi’i dderbyn gan y rhiant, bydd y cytundeb presennol ar gyfer oriau wedi’u hariannu yn dal i fod ar gael ar gyfer hawliadau. Bydd y newidiadau yn dod i rym yn syth pan fydd y rhiant yn eu cymeradwyo. Os caiff y newidiadau arfaethedig eu gwrthod gan y rhiant, bydd y cytundeb yn parhau gyda’r oriau a ariennir a oedd eisoes yn bodoli.
Rhaid i’r oriau newydd fod yn fwy na 0, felly os yw rhiant am roi’r gorau i fanteisio ar y gofal plant a ariennir neu ei ganslo ar gyfer naill ai adeg tymor neu adeg gwyliau mewn lleoliad penodol, bydd rhaid i’r rhiant ganslo’r cytundeb a chreu cytundebau newydd pan fo angen.
Rhiant yn canslo cytundeb
Os bydd rhiant yn canslo Cytundeb, bydd statws ‘Yn dod i ben’ yn dangos ar sgrin Cytundebau eich lleoliad a gallwch weld y dyddiad i’w ganslo ar gyfer y plentyn hwnnw. Mae’r rhiant yn canslo cyllid y Cynnig Gofal Plant. Mae’r rhiant yn dal yn atebol am unrhyw gostau sy’n gysylltiedig â chyfnodau rhybudd cytundebol a allai fod gennych gyda nhw.
Y gwahaniaeth rhwng cytundeb Cynnig Gofal Plant Cymru a chontractau busnes
Mae'r broses cytundebau yn y gwasanaeth digidol ond yn berthnasol i ofal plant a ariennir gan y Llywodraeth. Nid yw'n berthnasol i unrhyw ofal plant ychwanegol rydych wedi cytuno i'w ddarparu i'r rhieni. Dim ond i blant sy'n gymwys i gael Cynnig Gofal Plant Cymru y bydd yn berthnasol, ac nid i unrhyw frodyr na chwiorydd nad ydynt yn gymwys i gael y Cynnig.
Mae telerau ac amodau'r gwasanaeth digidol ond yn berthnasol i Gynnig Gofal Plant Cymru. Os oes telerau ac amodau eraill gennych y mae angen i rieni gytuno â nhw cyn anfon eu plant i'ch lleoliad, bydd angen iddynt gytuno â'r rheini y tu allan i'r gwasanaeth digidol.