Data am y Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth: Gorffennaf 2025 i Mehefin 2026
Data ar allu pobl yn y Gymraeg a pha mor aml y maent yn ei siarad ar gyfer Gorffennaf 2025 i Mehefin 2026.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Arferiai’r amcangyfrifon hyn fod yn ystadegau swyddogol achrededig. Oherwydd gostyngiad ym maint sampl yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac oherwydd nad yw'r arolwg wedi'i ailbwysoli i'r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf, mae'r achrediad hwn wedi'i ddileu ac mae'r amcangyfrifon bellach wedi'u dynodi fel ystadegau swyddogol (Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, SRY). Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) wedi cadarnhau na fydd yn ceisio adennill statws ystadegau swyddogol achrededig ar gyfer yr Arolwg o’r Llafurlu (LFS) a’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol. Yn hytrach, bydd yn canolbwyntio ei hymdrechion ar sicrhau bod yr Arolwg y Llafurlu a rei Newydd Wedd (TLFS) yn bodloni’r gofynion ar gyfer achrediad, ac mae’r OSR wedi cytuno â’r ffordd yma ymlaen.
Mae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn. Fodd bynnag, nodwch yr ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Serch hynny, mae amcangyfrifon ar gyfer daearyddiaethau llai neu is-grwpiau o’r boblogaeth yn llai dibynadwy.
Dylai defnyddwyr ystyried y tueddiadau a gyflwynir yn y datganiad hwn ochr yn ochr â data arall ar siaradwyr Cymraeg, fel o Arolwg Cenedlaethol Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn ystyried mai’r cyfrifiad o’r boblogaeth ydy’r ffynhonnell allweddol ar gyfer mesur nifer y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru.
Cyhoeddwyd canlyniadau Cyfrifiad 2021 am nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ym mis Rhagfyr 2022. Mae’r amcangyfrifon o’r cyfrifiad am allu yn y Gymraeg yn parhau i fod yn is na’r amcangyfrifon o arolygon cartrefi fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth. Fodd bynnag, dyma’r tro cyntaf i’r cyfrifiad amcangyfrif gostyngiad yn nifer y bobl sy’n gallu siarad Cymraeg ar yr un pryd ag yr oedd Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn amcangyfrif bod nifer cynyddol o bobl yn gallu siarad Cymraeg.
Dylai defnyddwyr nodi bod gwahaniaethau sylfaenol rhwng y ffynonellau data hyn, gan gynnwys gwahaniaethau yn y modd y cesglir y data, a'u hamseroldeb.
Ym mis Ebrill 2023, cyhoeddwyd cynllun gwaith ar y cyd gyda’r Swyddfa Ystadegau Gwladol (y SYG), sydd yn manylu ar waith pellach i wella ein dealltwriaeth o'r gwahaniaethau hyn. Ers hynny, rydym wedi cyhoeddi erthygl ystadegol sy'n archwilio gwahaniaethau rhwng amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg yng Nghyfrifiad 2021 a’r Arolwg o’r Llafurlu, sy’n sail i’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth, ynghyd â chanfyddiadau arolwg byr ar anghenion am ddata am y Gymraeg tu allan i Gymru. Ceir diweddariad am gynnydd y prosiectau eraill a amlinellir yn y cynllun gwaith isod.
Prif ganlyniadau
Ffigur 1: nifer y bobl 3 oed neu hŷn sy’n gallu siarad Cymraeg, 2001 i fis Mehefin 2026
Disgrifiad o ffigur 1: mae’r siart llinell hon yn dangos bod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi gostwng yn gyffredinol dros y 2 flynedd ddiwethaf. Er gwaethaf y gostyngiad diweddar, mae’r niferoedd wedi cynyddu’n gyffredinol ers mis Mawrth 2010 (25.2%, 731,000), ar ôl gostyngiad graddol rhwng 2001 a 2007. Amcangyfrifwyd gan yr Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth bod 845,200 o siaradwyr Cymraeg yn byw yng Nghymru yn y flwyddyn a ddaeth i ben ar 30 Mehefin 2026. Mae nifer y siaradwyr Cymraeg a gofnodwyd yng Nghyfrifiad 2001, 2011 a 2021 wedi'u cynnwys ar yr un siart, ac wedi'u labelu, sef 582,400, 562,000 a 538,300 yn y drefn honno.
Ffynhonnell: Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth (y SYG) a chyfrifiad o’r boblogaeth (y SYG).
[Nodyn 1] Newidiwyd i gynnal yr arolwg dros y ffôn yn unig ym mis Mawrth 2020. Cafodd cyfweliadau wyneb-yn-wyneb eu hailgyflwyno yn ystod tymor yr hydref 2023.
Yn y flwyddyn yn dod i ben ar 30 Mehefin 2026, yn ôl yr Arolwg Blynyddol roedd 27.4% o bobl 3 oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Mae’r ffigur hwn yn cyfateb i oddeutu 845,200 o bobl.
Mae’r amcangyfrif diweddaraf tua 0.2 pwynt canran yn uwch na’r flwyddyn yn dod I ben ar 30 Mehefin 2025 pan amcangyfrifwyd fod 27.2% o bobl 3 oed neu hŷn yn gallu siarad Cymraeg. Dydy’r cynnydd hwn dim yn arwyddocaol yn ystadegol, a dylid dehongli’r cynnydd gyda gofal gan fod newid wedi bod yn y modd y cynhelir yr arolwg rhwng y 2 gyfnod, ac hefyd y penderfyniad i atal statws Ystadegau swyddogol achrededig yr arolwg dros dro o ganlyniad i'r ansicrwydd cynyddol a amlinellwyd uchod.
Roedd plant a phobl ifanc 3 i 15 oed yn fwy tebygol o adrodd eu bod yn gallu siarad Cymraeg (48.3%, 234,300) nag unrhyw grŵp oedran arall. Mae hyn yn gyson dros amser ond mae canran y plant a phobl ifanc 3 i 15 oed sy’n gallu siarad Cymraeg wedi bod yn gostwng yn gyffredinol ers dechrau 2019.
Yng Nghaerdydd (93,900), Gwynedd (93,300) a Sir Gaerfyrddin (85,500) y mae’r niferoedd uchaf o siaradwyr Cymraeg.
Ym Merthyr Tudful (7,400) a Blaenau Gwent (8,500) y mae’r niferoedd isaf.
Yng Ngwynedd (75.9%) ac Ynys Môn (64.6%) y mae’r canrannau uchaf o siaradwyr Cymraeg.
Ym Merthyr Tudful, Blaenau Gwent (12.3% ill dau) a Pen-y-Bont ar Ogwr (12.7%) y mae’r canrannau isaf.
Dywedodd 31.5% (972,300) y gallent ddeall Cymraeg llafar, gallai 25.0% (771,400) ddarllen yn Gymraeg a 22.5% (693,800) ysgrifennu’n Gymraeg.
Nodyn
Mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth yn arolwg ledled y Deyrnas Unedig a gynhelir gan y SYG. Mae'r Arolwg, a ddechreuodd yn 2004, yn cael ei lunio o gyfweliadau ar gyfer yr Arolwg o'r Llafurlu. Gellir cael manylion am sut mae’r arolwg yn cael ei gynnal ar wefan y SYG.
Ni ddylai canlyniadau’r Arolwg Blynyddol gael eu cymharu â chanlyniadau’r cyfrifiad, na’u defnyddio i fesur cynnydd tuag at darged Llywodraeth Cymru o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Mae strategaeth y Gymraeg Llywodraeth flaenorol Cymru, Cymraeg 2050, yn nodi’n glir bod y targed hwn wedi’i seilio ar ddata’r cyfrifiad, ac y bydd y cynnydd tuag at y targed yn cael ei fonitro drwy ddefnyddio data’r cyfrifiad o’r boblogaeth.
Mae canlyniadau’r cyfrifiad ar gyfer 2001, 2011 a 2021 wedi’u cynnwys ar y siart uchod, er mwyn dangos y gwahaniaethau rhwng y cyfrifiad a’r Arolwg Blynyddol yn yr un cyfnod. Mae’r gwahaniaethau yn yr amcangyfrifon o allu yn y Gymraeg rhwng y cyfrifiad ac arolygon cartrefi fel yr Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth yn hir-sefydlog, ac mae’r SYG (‘Differences in estimates of Welsh Language Skills’) a Llywodraeth Cymru (‘Data am y Gymraeg o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth’) wedi archwilio rhesymau posibl dros rai o’r gwahaniaethau hyn yn y gorffennol. Er enghraifft, mae’r cyfrifiad yn holiadur statudol sy’n cael ei gwblhau gan unigolion, ond arolwg gwirfoddol yw’r Arolwg Blynyddol sy’n cael ei gynnal ar ffurf cyfweliadau wyneb yn wyneb a thros y ffôn. Mewn erthygl blog a gyhoeddwyd gan y Prif Ystadegydd yn 2019 ('Diweddariad gan y Prif Ystadegydd: trafodaeth am ddata ar y Gymraeg sy’n deillio o’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth'), trafodwyd yn fyr sut i ddehongli data’r Arolwg Blynyddol o’r Boblogaeth am y Gymraeg.
Nid yw ystadegau ar amlder siarad Cymraeg wedi'u cynnwys y tro hwn. Nodwyd mater methodolegol yn ystod gwaith sicrhau ansawdd, ac mae'r dull cyfrifo yn cael ei adolygu. Byddwn yn ailgyflwyno'r ystadegau hyn pan fydd y fethodoleg ddiwygiedig wedi'i chwblhau a'i sicrhau o ran ansawdd.
Diweddariad am y cynllun gwaith ar y cyd gyda'r SYG
Ym mis Ebrill 2023, fe gyhoeddon ni gynllun gwaith sy’n amlinellu’r gwaith y mae’r SYG a Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i wella ein dealltwriaeth o’r prif ffynonellau arolygon a data gweinyddol a ddefnyddir i gynhyrchu ystadegau am y Gymraeg. I gyd-fynd â'r cynllun gwaith hwn, cyhoeddwyd erthygl blog gan y Prif Ystadegydd ('Diweddariad y Prif Ystadegydd: cynlluniau i wella cydlyniad ystadegau ar y Gymraeg yng Nghymru').
Er bod rhai elfennau o’r rhaglen wedi cymryd mwy o amser na’r rhagwelwyd oherwydd cymhlethdod y gwaith cysylltu data a’r prosesau llywodraethu a chymeradwyo angenrheidiol, mae gwaith yn parhau ar y prosiectau sy’n weddill.
Mae prosiect cysylltu data sy’n cymharu ymatebion a gasglwyd drwy’r Cyfrifiad a’r Arolwg Cenedlaethol Cymru yn agos at gael ei gwblhau, a disgwylir cyhoeddi’r canfyddiadau yn ystod hydref 2026. Disgwylir i’r gwaith hwn ddarparu dealltwriaeth fanylach o’r ffactorau sy’n dylanwadu ar y ffordd y mae pobl yn disgrifio eu sgiliau Cymraeg ar draws gwahanol ffynonellau data.
Mae gwaith hefyd ar y gweill i ddatblygu prosiect cysylltu data pellach sy’n cyfuno ymatebion i arolygon â data gweinyddol o’r Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion. Gan adeiladu ar ddadansoddiadau cynharach, bydd y prosiect hwn yn archwilio nodweddion plant lle mae eu gallu yn y Gymraeg yn cael ei gofnodi yn wahanol ar draws ffynonellau.
Ar yr un pryd, mae ymchwil yn parhau i archwilio effaith dulliau casglu data, gan gynnwys arolygon ar-lein, dros y ffôn ac wyneb yn wyneb, ar y wybodaeth a gesglir am y Gymraeg.
Mae’r SYG hefyd yn parhau â’i rhaglen o drawsnewid ystadegau’r farchnad lafur a datblygu’r Arolwg o’r Llafurlu ar ei Newydd Wedd (TLFS) (SYG). Ym mis Awst 2026, cyhoeddodd yr SYG ddiweddariad ar y cynnydd a wnaed gyda’r prosiect trawsnewid y farchnad lafur ac ar gynllun y TLFS ar gyfer y dyfodol. Bydd goblygiadau’r newidiadau hyn ar gyfer ystadegau’r Gymraeg yn parhau i gael eu hystyried wrth i’r rhaglen gydlyniant fynd rhagddi.
The ONS is also continuing its programme of labour market transformation and development of the Transformed Labour Force Survey (TLFS) (ONS). The ONS published an update on the progress of the labour market transformation project and the future design of the TLFS in August 2026.The implications of these changes for Welsh language statistics will continue to be considered as the coherence programme progresses.
Gyda’i gilydd, bydd y prosiectau hyn yn darparu tystiolaeth ychwanegol i wella’r ddealltwriaeth o’r gwahaniaethau rhwng y prif ffynonellau data am y Gymraeg a helpu i fonitro’r cynnydd tuag at uchelgeisiau Cymraeg 2050.
Newidiadau i’r arolwg
Yn dilyn cyngor y llywodraeth ynghylch pandemig y coronafeirws (COVID-19), cafodd Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, yn ogystal â phob astudiaeth wyneb yn wyneb arall sy’n cael eu cynnal gan y SYG am bobl, teuluoedd ac aelwydydd, ei atal. Mae rhagor o fanylion am y newidiadau hyn i'w gweld mewn datganiad ar wefan y SYG: Ensuring the best possible information during COVID-19 through safe data collection.
Ar ddechrau’r pandemig COVID-19 newidiodd yr arolwg o gyfweliadau wyneb yn wyneb i gyfweliadau ffon. Erbyn hyn mae’r data yn bennaf yn seiliedig ar gyfweliadau wyneb-yn-wyneb eto. Mae’r SYG wedi bod yn monitro’r newid hwn, ac wedi pwysoli’r amcangyfrifon i gymryd y newid hwn i ystyriaeth.
Trwy gymharu'r bobl a gwblhaodd yr arolwg dros y ffôn yn erbyn y bobl a gwblhaodd yr arolwg wyneb yn wyneb yn y cyfnod cyn mis Mawrth 2020, roedd yn ymddangos bod ymatebwyr yn fwy tebygol o ddweud y gallent siarad Cymraeg wrth ateb yr arolwg dros y ffôn.
Ar hyn o bryd, nid yw’n bosibl dweud os yw unrhyw newidiadau diweddar yng ngallu’r boblogaeth yn y Gymraeg o ganlyniad i'r newid yn ffordd y mae’r arolwg yn cael ei gynnal neu newidiadau gwirioneddol yng ngallu'r boblogaeth yn y Gymraeg. Dylid dehongli’r canlyniadau felly â gofal.
Arferiai’r amcangyfrifon hyn fod yn ystadegau swyddogol achrededig. Oherwydd gostyngiad ym maint sampl yr Arolwg Poblogaeth Blynyddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac oherwydd nad yw'r arolwg wedi'i ailbwysoli i'r amcangyfrifon poblogaeth diweddaraf, mae'r achrediad hwn wedi'i ddileu ac mae'r amcangyfrifon bellach wedi'u dynodi fel ystadegau swyddogol. Mae’r SYG wedi cadarnhau na fydd yn ceisio adennill statws ystadegau swyddogol achrededig ar gyfer yr Arolwg o’r Llafurlu a’r Arolwg Poblogaeth Blynyddol. Yn hytrach, bydd yn canolbwyntio ei hymdrechion ar sicrhau bod y TLFS yn bodloni’r gofynion ar gyfer achrediad, ac mae’r Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau wedi cytuno â’r ffordd yma ymlaenMae'n dal yn briodol defnyddio'r ystadegau hyn, fodd bynnag, nodwch yr ansicrwydd cynyddol ynghylch amcangyfrifon sy'n deillio o'r arolwg. Serch hynny, mae amcangyfrifon ar gyfer daearyddiaethau llai neu is-grwpiau o’r boblogaeth yn llai dibynadwy.
Data
Ar ôl lansiad beta o blatfform newydd StatsCymru, ers 26 Medi 2025 y mae’r holl setiau data newydd a diwygiedig yn cael eu cyhoeddi’n drwy’r gwasanaeth newydd yn unig. Mae mwy o wybodaeth am y gwasanaeth newydd ar gael ym mlog diweddaraf y Prif Ystadegydd: Chwe mis yn ddiweddarach: yr wybodaeth ddiweddaraf am wasanaeth data agored newydd StatsCymru. Nid oes modd defnyddio hen safle StatsCymru bellach.
Datasets and interactive tools
Adolygiad o drefniadau cyhoeddi
Rydym yn adolygu ein trefniadau ar gyfer cyhoeddi ystadegau'r Gymraeg o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i ddiwallu anghenion defnyddwyr yn effeithiol. Mae hyn yn cynnwys ystyried opsiynau ar gyfer cyhoeddi data a dadansoddiadau yn y dyfodol.
Os hoffech roi adborth ar sut rydych yn defnyddio'r data hyn, cysylltwch â mewnflwch Data iaith Gymraeg.
Manylion cyswllt
Data iaith Gymraeg
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru
Cyfryngau: 0300 025 8099
