Neidio i'r prif gynnwy

Yn mynd i'r afael â sut rydym yn bwriadu cyflawni ein hamcan i gyflymu datblygiad prosiectau ynni adnewyddadwy ar ystâd gyhoeddus Cymru.

Cyflwyniad

Diben yr Achos Busnes

Mae'r achos busnes hwn yn ymwneud â sut mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu cyflawni ei hamcan o gyflymu'r broses o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar ystad gyhoeddus Cymru.

Yn dilyn arfarniad o amryw o opsiynau sefydliadol ar gyfer RED Cyf, argymhellwyd a chytunwyd ym mis Mawrth 2022 y dylid sefydlu RED Cyf fel cwmni annibynnol. 

Cyfleoedd ar yr Ystad Gyhoeddus

Mae Llywodraeth Cymru’n rheoli ac yn berchen ar ardaloedd mawr o dir sy'n cynnwys ei Hystad Goed, a reolir gan Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) ac yn cynnwys mwy na 126,000 hectar, sef bron i 6% o gyfanswm arwynebedd tir y wlad. 

Nodwyd bod ardaloedd helaeth o dir sy'n rhan o'r Ystad Goed yn addas ar gyfer datblygu ynni adnewyddadwy, ac ar gyfer ynni gwynt yn benodol. Mae CNC wedi bod yn hyrwyddo prosiectau ynni adnewyddadwy mawr yn llwyddiannus ar yr Ystad Goed dros y degawd diwethaf, ac mae hyn wedi arwain at osod 441MW o gapasiti ynni gwynt, sy'n cynnwys 170 o dyrbinau fel rhan o bedwar prosiect, y cyfan trwy brydlesi hirdymor i'r sector masnachol, gyda 134MW arall yn cael ei ddatblygu. 

Yn 2020, penderfynodd Llywodraeth Cymru ystyried modelau cyflenwi amgen gyda'r nod o gynyddu'r gwerth i Gymru o ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy ar yr ystad gyhoeddus a sicrhau cysondeb â'i hamcanion polisi.

Datblygwyd asesiadau amlinellol yn 2021, yn seiliedig ar brosiect peilot enghreifftiol yn Sir Gaerfyrddin, er mwyn deall goblygiadau rhaglen ddatblygu sy'n eiddo i'r cyhoedd. Daeth y gwaith i'r casgliad bod modd cyfiawnhau cadw rheolaeth y sector cyhoeddus dros ddatblygu prosiectau, o leiaf hyd at y cam ôl-gynllunio, ar yr amod bod gan y tîm datblygu sgiliau priodol a bod y prosiectau’n rhai risg ganolig. O ganlyniad, sefydlodd Llywodraeth Cymru dîm rhaglen ym mis Tachwedd 2021 er mwyn canolbwyntio yn y lle cyntaf ar ddiffinio prosesau a gweithdrefnau datblygu a chwblhau astudiaethau dichonoldeb ar safleoedd ledled yr Ystad Goed er mwyn diffinio portffolio â blaenoriaeth o brosiectau. 

Achos strategol

Cyflwyniad

Mae'r cyd-destun polisi ar gyfer cynhyrchu ynni gwynt ar raddfa fawr a chynhyrchu ynni solar ffotofoltäig ar y llawr yng Nghymru yn cael ei egluro mewn nifer o ddogfennau polisi a chanllawiau cynllunio cenedlaethol a lleol. Mae cysylltiad agos rhwng y dogfennau hyn a thargedau Llywodraeth Cymru ar gyfer darparu mwy o gapasiti cynhyrchu ynni adnewyddadwy a sicrhau perchnogaeth leol o'r datblygiadau hyn.

Polisïau a Thargedau Llywodraeth Cymru

Yn 2019, cyhoeddodd y Senedd argyfwng hinsawdd. Senedd Cymru oedd y Senedd genedlaethol gyntaf yn y byd i wneud hyn.

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun Cymru Sero Net ym mis Hydref 2021, a oedd yn amlinellu graddfa'r newid sydd ei angen i gyrraedd y targedau lleihau allyriadau statudol, a fydd yn golygu bod angen trydaneiddio diwydiant, trafnidiaeth a gwres domestig. Mae Cymru Sero Net yn amlinellu cyfres o gynlluniau a pholisïau i gyflwyno'r newid hwn mewn ffordd sy'n sicrhau budd net i Gymru. Mae hyn yn cynnwys ymrwymiad i wneud y canlynol:

  • adeiladu ar y llif presennol o brosiectau adnewyddadwy cyhoeddus a chymunedol, gan werthuso'r potensial ar gyfer ynni adnewyddadwy ar dir cyhoeddus
  • nodi cyfleoedd ar yr Ystad Goed, gan sicrhau cydbwysedd rhwng y potensial i gynhyrchu ynni a'r angen i warchod bioamrywiaeth a chynyddu nifer y coed sy'n cael eu plannu yng Nghymru 
  • sefydlu datblygwr ynni Llywodraeth Cymru neu ddatblygwr ynni cyhoeddus i gyflymu'r broses o ddarparu ynni adnewyddadwy. 

Ar ôl ymgymryd ag ymarferiad yn 2021 i nodi cyfleoedd a rhestr o argymhellion i gynyddu lefelau ynni adnewyddadwy yng Nghymru’n sylweddol, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y weledigaeth ganlynol: 

Ein Gweledigaeth yw i Gymru gynhyrchu ynni adnewyddadwy i ddiwallu ein hanghenion ynni yn llawn o leiaf a defnyddio cynhyrchu dros ben i fynd i'r afael ag argyfyngau'r hinsawdd a natur. Byddwn yn cyflymu'r camau gweithredu i leihau'r galw am ynni a gwneud y mwyaf o berchnogaeth leol gan gadw manteision economaidd a chymdeithasol yng Nghymru.

Byddai datblygiadau ynni adnewyddadwy dan arweiniad y sector cyhoeddus ar ystad gyhoeddus Cymru’n gwneud cyfraniad pwysig at brosiectau cynhyrchu ynni adnewyddadwy presennol Cymru a thargedau ar gyfer perchnogaeth leol:

Gan ychwanegu at hyn, roedd Rhaglen Lywodraethu 2021 yn cynnwys ymrwymiad i:

ehangu cynhyrchu ynni adnewyddadwy gan gyrff cyhoeddus a grwpiau cymunedol yng Nghymru i lefel dros 100MW erbyn 2026.

Y Cynllun Cenedlaethol a'r Polisi Cynllunio Cenedlaethol

Mae Polisi Cynllunio Cymru yn amlinellu'r polisïau cynllunio defnydd tir ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn rhoi cyngor ar amrywiaeth eang o faterion ac yn cael ei ategu gan nifer o Nodiadau Cyngor Technegol. Mae’r Polisi’n mynegi cefnogaeth Llywodraeth Cymru’n glir i ynni gwynt fel elfen allweddol o wireddu ei gweledigaeth ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy yn y dyfodol.

Mae Cymru'r Dyfodoly fframwaith datblygu cenedlaethol sy'n pennu'r cyfeiriad ar gyfer datblygu yng Nghymru hyd at 2040 yn amlinellu dyheadau Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu ynni ar raddfa fawr yn y dyfodol. Mae'n nodi Ardaloedd a Aseswyd ymlaen llaw ar gyfer Ynni Gwynt lle mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi modelu'r effaith debygol ar y dirwedd ac wedi canfod bod modd datblygu'r ardaloedd hyn mewn ffordd dderbyniol. Bydd rhagdybiaeth o blaid datblygiadau ynni gwynt ar raddfa fawr yn yr ardaloedd hyn. 

Ar gyfer datblygiadau ynni adnewyddadwy mawr eraill ar y tir, gan gynnwys prosiectau solar ffotofoltäig ar y llawr, mae fframwaith polisi cadarnhaol yn bodoli ar yr amod nad yw cynigion yn cael effaith amgylcheddol annerbyniol, gan gynnwys effeithiau ar y dirwedd ac effeithiau gweledol.

Deddfau a Chanllawiau Ategol

Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016

Mae Deddf yr Amgylchedd yn ymrwymo Cymru i darged hirdymor i leihau allyriadau o leiaf 80% erbyn 2050 yn ogystal â thargedau dros dro a chyllidebau carbon pum mlynedd. Mae'r Ddeddf yn gosod fframwaith hirdymor ar gyfer datgarboneiddio, gan greu eglurder a sicrwydd i hwyluso camau gweithredu a buddsoddiad carbon isel. Bydd cynhyrchu ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ffermydd gwynt ar y tir, yn chwarae rhan allweddol yn y gwaith o leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr. 

Yn 2019, argymhellodd Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd y dylai Cymru gynyddu ei tharged lleihau carbon i 95% erbyn 2050. Derbyniodd Llywodraeth Cymru’r argymhelliad hwn, ond ar ôl ystyried tystiolaeth newydd, cyhoeddodd ddyhead i gynyddu'r targed i sero net erbyn 2050. Ym mis Chwefror 2021, amlinellodd Llywodraeth Cymru ei hymrwymiad cyfreithiol i gyflawni allyriadau sero net erbyn 2050, gan nodi dyhead i gyflawni'r nod yn gynt.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn amlinellu'r uchelgais, y caniatâd a'r rhwymedigaeth gyfreithiol i wella llesiant cymdeithasol, diwylliannol, amgylcheddol ac economaidd Cymru. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i gyrff cyhoeddusyng Nghymru ystyried effaith hirdymor eu penderfyniadau, gweithio'n well gyda phobl, cymunedau a'i gilydd, ac atal problemau parhaus fel tlodi, anghydraddoldebau iechyd, a’r newid yn yr hinsawdd. Mae'n cyflwyno saith nod llesiant, gan nodi'n glir bod yn rhaid i gyrff cyhoeddus weithio i gyflawni'r holl nodau.

Datgarboneiddio'r Sector Cyhoeddus (2017)

Mae uchelgais Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y sector cyhoeddus yn garbon niwtral erbyn 2030 i’w weld mewn datganiad polisi. Dim ond drwy gyflwyno rhaglen uchelgeisiol o brosiectau effeithlonrwydd ynni a chynhyrchu ynni adnewyddadwy ledled ystad gyhoeddus Cymru y gellir cyflawni hyn.

Polisi a Chanllawiau ar Berchnogaeth Leol

Ym mis Chwefror 2020, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei bod yn disgwyl i bob prosiect ynni adnewyddadwy newydd yng Nghymru gynnwys o leiaf elfen o berchnogaeth leol, er mwyn cadw cyfoeth mewn cymunedau a sicrhau budd gwirioneddol i gymunedau. Mae prosiectau cynhyrchu mewn perchnogaeth leol yn gyfle da i gadw gwerth economaidd, gan gyfrannu at ffyniant. Byddai datblygu portffolio o brosiectau ynni adnewyddadwy dan arweiniad y sector cyhoeddus ar ystad gyhoeddus Cymru’n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'r polisi perchnogaeth leol yn glir.

Mae Perchnogaeth Leol a Rhanberchnogaeth Prosiectau Ynni yn darparu canllawiau ar yr opsiynau sydd ar gael ar gyfer cyflawni'r amcan polisi perchnogaeth leol a'r manteision craidd sy'n gysylltiedig ag elfen o berchnogaeth leol. Mae prosiectau ‘mewn perchnogaeth leol’ yn cael eu diffinio fel gosodiadau ynni, a leolir yng Nghymru, sy'n eiddo i un neu fwy o unigolion neu sefydliadau, sy'n eiddo’n llwyr ac wedi'u lleoli'n gyfan gwbl yng Nghymru, neu sefydliadau y mae eu prif bencadlys yng Nghymru.

Casgliad

Mae cefnogaeth gref mewn polisïau i ddatblygiadau ynni adnewyddadwy mawr ar y tir, yn y lleoliad cywir, a gallant wneud cyfraniad pwysig at y newid i ynni carbon isel gyda phwyslais ar gadw perchnogaeth a gwerth lleol yng Nghymru.

Hefyd, mae'n amlwg bod yna ddyhead polisi cryf i gadw mwy o'r gwerth o brosiectau yng Nghymru er mwyn creu Cymru carbon isel lewyrchus, a sicrhau bod y cyhoedd yn parhau i gefnogi’r newid ym maes ynni trwy ddangos y manteision i Gymru.