Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn ar gyfer gwasanaethau ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn ar gyfer gwasanaethau ar-lein Awdurdod Cyllid Cymru ar gyfer y Dreth Trafodiadau Tir a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi.

Mae ein gwasanaethau treth ar-lein ar gael drwy wefan LLYW.CYMRU.

Mae'r dudalen hon yn esbonio:

  • pa mor hygyrch yw'r gwasanaethau hyn
  • beth i'w wneud os byddwch yn cael anhawster eu defnyddio
  • sut i roi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r gwasanaethau hyn

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i'n:

Mae yna ddatganiad hygyrchedd ar wahân gyfer prif wefan LLYW.CYMRU. Mae'n cynnwys gwybodaeth am hygyrchedd ein tudalennau ar LLYW.CYMRU a’n ffurflenni ar-lein. Mae ein holl gynnwys sy'n hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau yn hygyrch.

Defnyddio ein gwasanaethau

Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio ein gwasanaethau ar-lein. Er enghraifft, mae hyn yn golygu y dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo i mewn hyd at 300% heb i’r testun gael ei wthio oddi ar ymyl y sgrin
  • llywio'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau hyn gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r gwasanaethau hyn gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r cynnwys gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi gwneud y testun mor syml â phosibl i'w ddeall.

Mae cyngor ar gael ar AbilityNet ynglŷn â gwneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Hygyrchedd y wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o’r gwasanaethau hyn yn gwbl hygyrch ac rydym yn nodi isod ein bwriad i wella hygyrchedd y wefan hon erbyn mis Medi 2021 gyda rhywfaint o ddarganfyddiadau pellach yn angenrheidiol ar gyfer rhai materion.

Mae rhai o'r gwelliannau hyn wedi'u gwneud ac rydym hefyd wedi rhyddhau gwasanaethau newydd sydd ar wahanol gamau o'r broses profi a gwella.

Rydym yn gwybod nad yw ein holl wasanaethau yn gwbl hygyrch ond rydym yn gweithio i’w profi neu eu hailbrofi, neu rydym yn gweithio ar ddatrys lle rydym yn gwybod nad ydynt yn hygyrch.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch am ein gwasanaethau ar-lein mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, cysyltwch â ni drwy:

Mae’r llinellau ffôn ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 3pm, ac eithrio gwyliau banc.

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi cyn pen 10 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'n gwasanaethau

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd ein gwasanaethau. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â'n tîm profiad cwsmeriaid.

E-bostiwch dweudeichdweud@acc.llyw.cymru

Gweithdrefn orfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â’r ffordd rydym ni'n ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Cysylltu â ni

Mae ein tîm desg gymorth wedi ymrwymo i ddarparu cymorth ychwanegol i gwsmeriaid sydd angen hynny. Os oes angen help ychwanegol arnoch wrth ddefnyddio ein gwasanaethau, ffoniwch ni ar 03000 254 000. Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg / We welcome calls in Welsh.

Mae’r llinellau ffôn ar agor ddydd Llun i ddydd Gwener, 10am i 3pm, ac eithrio gwyliau banc.

Os ydych chi'n cael trafferth ein ffonio, defnyddiwch ein ffurflen gyswllt ar-lein a byddwn yn ceisio cyfathrebu â chi drwy’r dull o’ch dewis.

Darganfyddwch sut i gysylltu â ni.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd ein gwasanaethau ar-lein

Mae Awdurdod Cyllid Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wasanaethau’n hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff y Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau ar gyfer Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Cyfrifiannell y Dreth Trafodiadau Tir

Mae'r gyfrifiannell Treth Trafodiadau Tir yn caniatáu i ddefnyddwyr gyfrifo’r dreth sy'n ddyledus ar bryniannau tir ac eiddo posibl.

Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn

Cafodd y gwasanaeth hwn ei ryddhau ym mis Mawrth 2022 a phrofwyd ei hygyrchedd ym mis Rhagfyr 2022.

Statws cydymffurfio

Ystyriwyd bod y gwasanaeth hwn yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.1 y Ganolfan Hygyrchedd Digidol pan gafodd ei brofi ym mis Rhagfyr 2022.

Baich anghymesur

Amherthnasol

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Amherthnasol

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Byddwn yn parhau i fonitro'r rheoliadau hygyrchedd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fodloni safon AA WCAG 2.1 yn llawn ar y gwasanaeth hwn.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Profwyd y gwasanaeth hwn ym mis Rhagfyr 2022 a'i ailbrofi ar ôl i ni weithredu'r newidiadau a argymhellwyd ym mis Ionawr 2023. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.

Gwnaethom brofi sampl o’r tudalennau.

Gwiriwr cyfradd uwch y Dreth Trafodiadau Tir

Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn

Roedd y gwasanaeth hwn yn gwbl hygyrch pan gafodd ei brofi ddiwethaf, ar 28 Ionawr 2021, gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.

Statws cydymffurfio

Roedd y gwasanaeth hwn yn cydymffurfio’n llawn â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 safon AA pan gafodd ei brofi ddiwethaf, ar 28 Ionawr 2021, gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.

Baich anghymesur

Amherthnasol.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Amherthnasol.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Byddwn yn parhau i fonitro'r rheoliadau hygyrchedd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fodloni safon AA WCAG 2.1 yn llawn ar y gwasanaeth hwn.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 7 Mehefin 2021.

Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ar 28 Ionawr 2021. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.

Gwnaethom brofi sampl o’r tudalennau.

Cyfrifiannell rhyddhad anheddau lluosog

Mae’r gyfrifiannell rhyddhad anheddau lluosog yn galluogi defnyddwyr i gyfrifo’r dreth sy’n ddyledus ar bryniannau tir ac eiddo posibl sy’n destun rhyddhad anheddau lluosog.

Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn

Cafodd y gwasanaeth hwn ei ryddhau ym mis Mawrth 2022 a phrofwyd ei hygyrchedd ym mis Rhagfyr 2022.

Statws cydymffurfio

Ystyriwyd bod y gwasanaeth hwn yn cydymffurfio â safon AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We (WCAG) fersiwn 2.1 y Ganolfan Hygyrchedd Digidol pan gafodd ei brofi ym mis Rhagfyr 2022.

Baich anghymesur

Amherthnasol.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Amherthnasol.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Byddwn yn parhau i fonitro'r rheoliadau hygyrchedd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fodloni safon AA WCAG 2.1 yn llawn ar y gwasanaeth hwn.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Profwyd y gwasanaeth hwn ym mis Rhagfyr 2022 a'i ailbrofi ar ôl i ni weithredu'r newidiadau a argymhellwyd ym mis Ionawr 2023. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.

Gwnaethom brofi sampl o’r tudalennau.

Y system Dreth Trafodiadau Tir (TTT)

Mae'r system rheoli Treth Trafodiadau Tir yn caniatáu i asiantau cofrestredig gyflwyno a gweld ffurflenni treth.

Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn

Mae’r holl faterion a nodwyd pan gafodd y gwasanaeth hwn ei brofi ddiwethaf ar 11 Tachwedd 2019 gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol wedi’u datrys.

Statws cydymffurfio

Mae’r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 safon AA gan fod yr holl faterion a nodwyd yn y prawf ar 11 Tachwedd 2019 gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol wedi’u datrys.

Baich anghymesur

Amherthnasol.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Mae gennym un PDF (y dystysgrif TTT) ar y gwasanaeth TTT, sy'n hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaeth. Mae angen i ni wneud ymchwil pellach i hyn cyn i ni gynnwys hwn yn ein map ffordd. Byddwn yn gwneud yr ymchwil hon a byddwn yn diweddaru'r datganiad hwn gyda'n dull arfaethedig o weithredu.

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni addasu dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu newid y slip talu a gynhyrchir ar ôl cyflwyno ffurflen ar-lein gan nad ydym yn ystyried hyn yn hanfodol ar gyfer y gwasanaeth.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Byddwn yn parhau i fonitro'r rheoliadau hygyrchedd er mwyn sicrhau ein bod yn parhau i fodloni safon AA WCAG 2.1 yn llawn ar y gwasanaeth hwn.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 15 Medi 2020, a'i ddiweddaru ar 7 Mehefin 2021 a 10 Hydref 2022.

Cafodd y gwasanaeth hwn ei ddiweddaru ddiwethaf ar 11 Tachwedd 2019. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.

Gwnaethom brofi sampl o’r tudalennau gan ddefnyddio'r dull canlynol i nodi'r sampl.

Gwnaethom ystyried:

  • pa mor aml y defnyddir ein gwasanaethau a blaenoriaethu’r profion yn seiliedig ar hyn, gan gynnwys y teithiau defnyddwyr mwyaf cyffredin a ddilynir ar ein system TTT
  • sylfaen defnyddwyr ein gwasanaethau a blaenoriaethu’r rhannau y defnyddiwyd y gwasanaeth gan amrywiaeth ehangach o ddefnyddwyr sy’n fwy tebygol o ddefnyddio technoleg gynorthwyol
  • lle'r ydym wedi derbyn ceisiadau o'r blaen sy’n seiliedig ar faterion hygyrchedd neu anghenion digidol a gynorthwyir.

Y system Dreth Gwarediadau Tirlenwi (TGT)

Mae’r system rheoli'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yn caniatáu i weithredwyr safleoedd tirlenwi gyflwyno a gweld ffurflenni treth.

Pa mor hygyrch yw'r gwasanaeth hwn

Rydym yn gwybod nad yw rhai rhannau o'r gwasanaeth hwn yn gwbl hygyrch:

  • ar rai tudalennau, mae’r penawdau mewn trefn afresymegol ar gyfer defnyddwyr bysellfwrdd-yn-unig a defnyddwyr darllenwyr sgrin
  • nid yw'n glir pan ddangosir hysbysiad o wall ar rai tudalennau ar gyfer defnyddwyr darllenwyr sgrin
  • nid yw rhai teitlau tudalen yn ddisgrifiadol felly mae'n anodd gwahaniaethu rhyngddynt wrth ddefnyddio darllenydd sgrin

Yn wreiddiol, gwnaethom nodi ein bwriad i wella hygyrchedd y gwasanaeth hwn erbyn mis Medi 2021. Rydym wedi datrys sawl mater ac wedi gwneud gwaith darganfod i gwmpasu ein penderfyniadau. Byddwn yn parhau i wella hygyrchedd ein holl wasanaethau erbyn mis Medi 2023.

Statws cydymffurfio

Mae'r gwasanaeth hwn yn cydymffurfio'n rhannol â Chanllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 Safon AA, oherwydd y diffyg cydymffurfio a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch
Ardal diffyg cydymffurfio Meini prawf heb eu bodloni Penderfyniad
Mae trefn ffocws rhai tudalennau’n afresymegol a gallant ddrysu rhai defnyddwyr. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.3 (Trefn Ffocws). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Nid yw rhai delweddau wedi darparu testun amgen disgrifiadol priodol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (Cynnwys nad yw’n destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Mae gan rai tudalennau elfennau gyda gwerthoedd adnabod nad ydynt yn unigryw. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.1 (Dosrannu). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Nid oes dolen sgipio-i-gynnwys ar gael ar gyfer defnyddwyr sy'n dibynnu ar y bysellfwrdd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.1 (Osgoi blociau). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Defnyddiwyd tabl i gyflwyno cynllun a all fod yn ddryslyd i ddarllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Nid yw botymau radio wedi'u grwpio o fewn set maes gydag allwedd. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Mae teitlau tudalennau'n cael eu dyblygu ar draws tudalennau ac nid ydynt yn unigryw o ran disgrifio cynnwys tudalennau. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.2 (Teitl Tudalen). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Mae rhai rolau wedi'u neilltuo i elfennau mewn modd annilys. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.2 (Enw, Rôl, Gwerth). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Nid yw tablau wedi'u fformatio'n gywir i arddangos celloedd yn y mannau priodol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Mae tablau wedi'u defnyddio gyda phennyn gwag. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd) a 2.4.6 (Penawdau a Labeli). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Nid oes rhybudd y bydd y system yn eich allgofnodi ar ôl cyfnod o anweithgarwch. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.2.1 (Amseru y gellir ei addasu). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Mae penawdau wedi’u defnyddio mewn achosion lle nad ydynt yn cyflwyno cynnwys. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.3.1 (Gwybodaeth a Pherthnasoedd). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Mae'r cynnwys yn cael ei golli neu ei guddio pan fydd y dudalen yn cael ei chwyddo. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.10 (Ail-lifo). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Nid yw elfennau ffurflenni wedi cael label unigryw. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.6 (Penawdau a Labeli). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Nid yw rhai negeseuon gwall yn cael eu hysbysu i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 4.1.3 (Negeseuon Statws.) Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Mewn rhai mannau nid yw'r gymhareb cyferbynnedd lliw yn bodloni'r safon, a all effeithio ar allu rhai pobl i weld y wybodaeth. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.4.11 (Cyferbynnedd nad yw’n destun). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.
Nid yw labeli'n disgrifio diben ffurflenni’n ddigonol. Mae hyn yn methu maen prawf llwyddiant WCAG 2.1 2.4.6 (Penawdau a Labeli). Rydym yn bwriadu datrys hyn erbyn mis Medi 2023.

Baich anghymesur

Amherthnasol. Rydym wedi ymrwymo i wella hygyrchedd ein gwasanaethau ac mae gennym fap ffordd i fodloni safon AA WCAG 2.1 erbyn mis Medi 2023. Fodd bynnag, mae rhai newidiadau'n dal i gael eu hasesu. Byddwn yn diweddaru'r datganiad hwn pan fyddwn yn gwneud yr ymchwil hon ac mae gennym ragor o wybodaeth.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw'r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni addasu dogfennau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol ar gyfer darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, nid ydym yn bwriadu newid y slip talu a gynhyrchir ar ôl cyflwyno ffurflen ar-lein gan nad ydym yn ystyried hyn yn hanfodol ar gyfer y gwasanaeth.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddir gennym yn bodloni safonau hygyrchedd.

Beth rydym yn ei wneud i wella hygyrchedd

Rydym yn bwriadu bodloni safon AA WCAG 2.1 ar y gwasanaeth hwn erbyn mis Medi 2023. Byddwn ni'n profi’r gwasanaeth hwn eto yn 2024.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 15 Medi 2020 a'i ddiweddaru ar 7 Mehefin 2021 a 10 Hydref 2022.

Profwyd y gwasanaeth hwn ddiwethaf ar 28 Ebrill 2021. Cynhaliwyd y prawf gan y Ganolfan Hygyrchedd Digidol.

Gwnaethom brofi sampl o’r tudalennau gan ddefnyddio'r dull canlynol i nodi'r sampl.

Gwnaethom ystyried:

  • pa mor aml y defnyddir ein gwasanaethau a blaenoriaethu’r profion yn seiliedig ar hyn, gan gynnwys y teithiau defnyddwyr mwyaf cyffredin
  • sylfaen defnyddwyr ein gwasanaethau a blaenoriaethu’r rhannau y defnyddiwyd y gwasanaeth gan amrywiaeth ehangach o ddefnyddwyr sy’n fwy tebygol o ddefnyddio technoleg gynorthwyol
  • lle'r ydym wedi derbyn ceisiadau o'r blaen sy’n seiliedig ar faterion hygyrchedd neu anghenion digidol a gynorthwyir