Datganiad Polisi Caffael Cymru drafft
Rydym yn ceisio barn ar Ddatganiad Polisi Caffael drafft Cymru (DPCC) a'r asesiad effaith integredig drafft (IIA).
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Rydym yn ceisio barn ar y DPCC drafft a'r Asesiad Effaith Integredig drafft. Mae'r DPCC yn pennu'r cyfeiriad strategol ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru ac yn cynnig un flaenoriaeth gyffredinol, sef: cryfhau economi Cymru drwy gaffael cyhoeddus.
Mae caffael cyhoeddus yng Nghymru yn cyfrif am fwy nag £11 biliwn o wariant bob blwyddyn ac yn chwarae rôl bwysig o ran cyflawni canlyniadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ehangach. Mae'r DPCC drafft yn ceisio sicrhau bod caffael cyhoeddus yn cefnogi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y rhai a nodir yn y Rhaglen Lywodraethu, gan helpu i gynyddu hyd yr eithaf ar y gwerth a gynhyrchir drwy wariant cyhoeddus yng Nghymru.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn, nid yn unig ar y flaenoriaeth arfaethedig, ond hefyd ar y canlyniadau bwriadedig, yr ysgogiadau caffael a'r fframwaith cyflawni a nodir yn y DPCC drafft. Rydym am wybod a yw'r cynigion hyn yn glir, yn ymarferol ac yn gallu darparu mwy o werth i Gymru.
Rydym yn ymgynghori ar y DPCC drafft cyn iddo gael ei gwblhau. Byddwn yn ystyried yr ymatebion a geir, yn adolygu'r DPCC drafft a'r Asesiad Effaith Integredig drafft ac yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion a'r camau nesaf, gan gynnwys nodi unrhyw ddiwygiadau y gallai fod angen eu gwneud i'r DPCC ar ôl ymgynghori. Yna, gosodir y DPCC terfynol gerbron y Senedd cyn iddo ddod i rym.
Cefndir
Mae caffael cyhoeddus yng Nghymru yn cyfrif am fwy nag £11 biliwn o wariant bob blwyddyn. Mae caffael yn fwy na dim ond mecanwaith ar gyfer prynu nwyddau, gwasanaethau a gweithiau. Mae'n helpu i sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei wario'n dryloyw, yn deg ac yn effeithiol, yn sicrhau gwerth am arian, yn cefnogi marchnadoedd iach a chystadleuol, ac yn rhoi cyfleoedd i fusnesau ennill contractau cyhoeddus. Gellir defnyddio gweithgarwch caffael yn strategol hefyd i gryfhau cadwyni cyflenwi, ysgogi arloesedd, cefnogi twf economaidd a chyfrannu at ganlyniadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ehangach i Gymru. Felly, mae'n un o ysgogiadau ymarferol pwysicaf Llywodraeth Cymru ar gyfer cyflawni blaenoriaethau'r llywodraeth.
Mae'r DPCC yn nodi blaenoriaethau a chyfeiriad strategol Llywodraeth Cymru ar gyfer caffael cyhoeddus yng Nghymru. Mae Adran 14 o Ddeddf Caffael 2023 yn rhoi sail statudol i'r DPCC drwy alluogi Gweinidogion Cymru i gyhoeddi datganiad caffael i Gymru a'i gwneud yn ofynnol i awdurdodau contractio yng Nghymru ei ystyried wrth arfer swyddogaethau caffael perthnasol. Mae hyn yn atgyfnerthu rôl y DPCC fel datganiad o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac yn darparu fframwaith strategol clir ar gyfer gweithgarwch caffael ledled Cymru.
Cyhoeddwyd y DPCC presennol yn 2021. Mae angen DPCC newydd i ddisodli cyhoeddiad 2021 er mwyn adlewyrchu'r dirwedd gaffael newydd a'r fframwaith statudol a sefydlwyd gan Ddeddf Caffael 2023, Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 a Deddf Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) 2024. Bydd yn dwyn ynghyd ddeddfwriaeth, polisi a blaenoriaethau caffael presennol o fewn un fframwaith strategol.
Mae'r DPCC arfaethedig yn seiliedig un flaenoriaeth gyffredinol, sef: cryfhau economi Cymru drwy gaffael cyhoeddus. Ei nod yw helpu i greu economi gryfach, fwy cynhwysol a mwy gwydn yng Nghymru drwy sicrhau bod mwy o werth o wariant cyhoeddus yn cael ei gadw yng Nghymru a bod busnesau, gweithwyr a chymunedau yn elwa o fuddsoddiad y sector cyhoeddus.
Er mwyn llywio'r gwaith o ddatblygu'r DPCC drafft, bu swyddogion Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu ag amrywiaeth o dimau polisi a chyflawni mewnol y mae eu portffolios yn gorgyffwrdd â chaffael cyhoeddus. Roedd hyn yn cynnwys swyddogion sy'n gyfrifol am waith teg, cyflawni caffael, polisi a deddfwriaeth caffael, polisi amgylcheddol, gwerth cymdeithasol, iechyd a gofal cymdeithasol, a meysydd polisi perthnasol eraill. Mae eu mewnbwn wedi helpu i lywio'r cyfeiriad strategol arfaethedig a sicrhau aliniad â blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru.
Mae'r ymgynghoriad hwn yn cynnig cyfle i randdeiliaid roi eu barn ar y DPCC arfaethedig a helpu i lywio'r datganiad terfynol. Mae hefyd yn cyflawni'r gofyniad o dan Ddeddf Caffael 2023 i Weinidogion Cymru ymgynghori cyn cyhoeddi datganiad caffael i Gymru. Mae'r ymgynghoriad yn ceisio barn awdurdodau contractio, cyflenwyr, cynrychiolwyr busnes, mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, undebau llafur, partneriaid cymdeithasol a rhanddeiliaid eraill sydd â diddordeb ynghylch a yw'r flaenoriaeth a'r disgwyliadau arfaethedig yn glir, yn ymarferol ac yn gallu darparu mwy o werth i Gymru. Bydd yr ymatebion a geir yn helpu i lywio'r DPCC terfynol cyn iddo gael ei osod gerbron y Senedd.
Y flaenoriaeth arfaethedig
Cyhoeddir y DPCC drafft llawn ochr yn ochr â’r ymgynghoriad hwn.
Mae'n canolbwyntio ar un flaenoriaeth gyffredinol, sef:
cryfhau economi Cymru drwy gaffael cyhoeddus.
Mae hyn yn golygu defnyddio gweithgarwch caffael i greu economi gryfach, fwy cynhwysol a mwy gwydn yng Nghymru, lle mae mwy o werth yn cael ei gadw yng Nghymru a lle mae mwy o fusnesau, gweithwyr a chymunedau yn elwa o wariant cyhoeddus.
Er bod y DPCC arfaethedig yn canolbwyntio ar gryfhau economi Cymru fel ei brif amcan strategol, mae'n cydnabod bod cysylltiad agos rhwng canlyniadau economaidd a chanlyniadau cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol ehangach. Mae gwaith teg, cynaliadwyedd, gwydnwch cymunedol, y Gymraeg a chanlyniadau llesiant yn parhau i fod yn ystyriaethau trawsbynciol pwysig drwy gydol y cylch oes caffael.
Byddai'r flaenoriaeth gyffredinol arfaethedig yn cael ei chyflawni drwy saith canlyniad bwriadedig:
- Swyddi a sgiliau yng Nghymru – Creu swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi newydd â chyflog da drwy ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr eu darparu fel rhan o'r contract.
- Twf busnesau bach a chanolig (BBaChau) ac atgyfnerthu cadwyni cyflenwi yng Nghymru – Cynyddu'r gwerth a gedwir yn economi Cymru, helpu i greu cyfoeth cymunedol, ymgorffori mwy o wydnwch a chapasiti mewn cadwyni cyflenwi lleol a dileu rhwystrau i dendro er mwyn i fwy o BBaChau allu cystadlu am gontractau cyhoeddus a'u hennill.
- Creu cyfoeth cymunedol – Gwella mynediad teg at gaffael cyhoeddus ar gyfer BBaChau a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, gan helpu i gryfhau cadwyni cyflenwi lleol, cadw gwerth mewn cymunedau yng Nghymru a helpu i gyflawni llesiant cymdeithasol, economaidd a chymunedol.
- Gwaith teg – Hyrwyddo gwaith teg drwy annog cyflogaeth ddiogel a boddhaol, llais effeithiol i weithwyr, cydraddoldeb ac arferion gwaith diogel a chynhwysol sy'n cyfrannu at lesiant ac at wella'r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus.
- Arloesedd – Cefnogi arloesedd yng Nghymru drwy annog datblygu, profi a defnyddio cynhyrchion a gwasanaethau newydd a gwell, a ffyrdd newydd a gwell o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus.
- Sectorau economi sylfaenol – Cefnogi ein heconomi sylfaenol lle mae capasiti cyflenwyr yng Nghymru yn realistig, megis cynhyrchu a phrosesu bwyd a phren, adeiladu, cynnal a chadw, rheoli cyfleusterau, gofal cymdeithasol a gwasanaethau proffesiynol.
- Deall effaith gwariant cyhoeddus - Dangos sut mae gwariant cyhoeddus yn cyfrannu at gymunedau cryfach, llesiant diwylliannol, y Gymraeg a chanlyniadau gwell i Gymru.
Sut y gellir cyflawni ein blaenoriaethau?
Mae'r DPCC drafft yn cynnwys Fframwaith Cyflawni sy'n nodi amrywiaeth o ddulliau caffael a all gynorthwyo Awdurdodau Contractio Cymru i gyflawni'r flaenoriaeth arfaethedig. Mae'r fframwaith yn rhoi enghreifftiau o ysgogiadau caffael y gellir eu defnyddio drwy gydol y cylch oes caffael i gefnogi canlyniadau economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol. Bwriedir i'r enghreifftiau hyn helpu i roi'r DPCC ar waith ac nid ydynt yn hollgynhwysfawr.
Bwriedir i'r Fframwaith Cyflawni helpu awdurdodau contractio i ystyried sut y gellir defnyddio gweithgarwch caffael yn strategol i gynyddu hyd yr eithaf ar y gwerth a gynhyrchir o wariant cyhoeddus. Mae'n annog ystyried canlyniadau ehangach o'r camau cynllunio caffael cynharaf hyd at reoli a gwerthuso contractau, gan roi hyblygrwydd i adlewyrchu amgylchiadau a gofynion lleol.
Mae'r DPCC yn cynnwys enghreifftiau o ddulliau a allai helpu i gyflawni'r flaenoriaeth arfaethedig, megis ymgysylltu'n gynnar â'r farchnad, dileu rhwystrau diangen i gyfranogiad, creu cyfleoedd i BBaChau a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, cefnogi gwaith teg, annog arloesedd, cryfhau cadwyni cyflenwi yng Nghymru ac ystyried sut y gall gweithgarwch caffael gyfrannu at sgiliau, cyflogaeth a buddion cymunedol. Mae hefyd yn pwysleisio pwysigrwydd ystyried cynaliadwyedd, gwerth oes gyfan a chanlyniadau tymor hwy wrth wneud penderfyniadau caffael.
Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cefnogi'r broses o roi'r DPCC ar waith drwy ganllawiau ac adnoddau i helpu awdurdodau contractio i gymhwyso ei amcanion yn gyson ac yn effeithiol drwy gydol y cylch oes caffael.
Crynodeb o ganfyddiadau'r Asesiad Effaith Integredig drafft
Rydym wedi llunio Asesiad Effaith Integredig drafft i gefnogi'r ymgynghoriad hwn. Mae'n ystyried sut y gallai'r DPCC arfaethedig atgyfnerthu economi Cymru drwy gaffael cyhoeddus, gan gynnwys effeithiau posibl ar swyddi a sgiliau, gwaith teg, arloesedd, busnesau a chadwyni cyflenwi yng Nghymru, llesiant cymunedol, cynaliadwyedd a'r Gymraeg.
Mae'r asesiad hefyd yn ystyried amrywiaeth o ffactorau sy'n ymwneud â chydraddoldeb, iechyd, hawliau plant, cymunedau gwledig, anfantais economaidd-gymdeithasol a datblygu cynaliadwy.
Rydym yn croesawu barn ar yr Asesiad Effaith Integredig drafft ac ar ba un a oes unrhyw risgiau ychwanegol rydych yn credu y dylai fynd i'r afael â nhw cyn iddo gael ei gyhoeddi gyda'r DPCC terfynol.
Cwestiynau’r ymgynghoriad
Amdanoch chi
1. Pa un o'r canlynol sy'n eich disgrifio chi neu'r sefydliad rydych yn ymateb ar ei ran orau?
- Aelod o'r cyhoedd
- Awdurdod contractio yng Nghymru neu gorff arall yn y sector cyhoeddus
- BBaCh neu ficrofusnes
- Busnes mawr
- Menter wirfoddol, gymunedol neu gymdeithasol
- Cwmni cydweithredol neu gydfuddiannol
- Cynrychiolydd undeb llafur neu weithlu
- Corff cynrychioliadol busnes
- Sefydliad academaidd neu sefydliad ymchwil
- Os nodwyd arall, rhowch fanylion:
2. Pa un o'r canlynol sy'n disgrifio eich lleoliad chi neu leoliad y sefydliad rydych yn ymateb ar ei ran orau? (dewiswch bob un sy'n gymwys)
- Ynys Môn
- Gwynedd
- Conwy a Sir Ddinbych
- De-orllewin Cymru (Sir Gaerfyrddin, Sir Benfro, Ceredigion)
- Canol y Cymoedd (Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf)
- Cymoedd Gwent (Torfaen, Blaenau Gwent, Caerffili)
- Pen-y-bont ar Ogwr a Chastell-nedd Port Talbot
- Abertawe
- Sir Fynwy a Chasnewydd
- Caerdydd a Bro Morgannwg
- Sir y Fflint a Wrecsam
- Powys
- Y tu allan i Gymru
3. Pa sector sy'n disgrifio eich sefydliad orau?
- Amaethyddiaeth, coedwigaeth a physgota
- Gweithgynhyrchu bwyd a diod
- Gweithgynhyrchu a gweithgynhyrchu uwch
- Adeiladu a'r amgylchedd adeiledig
- Ynni a chyfleustodau
- Mwyngloddio, chwarela a deunyddiau crai
- Trafnidiaeth, logisteg a warysau
- Manwerthu a chyfanwerthu
- Lletygarwch a thwristiaeth
- Technoleg gwybodaeth a chyfathrebu (TGCh)
- Gwasanaethau ariannol, yswiriant a phroffesiynol
- Gwasanaethau cyfreithiol a gwasanaethau cyfrifyddiaeth
- Eiddo ac eiddo tiriog
- Gwasanaethau busnes a gweinyddol
- Diwydiannau Creadigol
- Gwyddorau bywyd a gofal iechyd
- Addysg, hyfforddiant a sgiliau
- Iechyd a gofal cymdeithasol
- Gwasanaethau amgylcheddol a'r economi gylchol
- Gweinyddiaeth gyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus
- Y celfyddydau, diwylliant, chwaraeon a hamdden
- Gwasanaethau personol a gwasanaethau eraill
- Arall (nodwch)
Swyddi a sgiliau yng Nghymru
Canlyniad: Creu swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi newydd â chyflog da drwy ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr eu darparu fel rhan o'r contract
Ysgogiadau caffael (lle mae'r Awdurdod Contractio yng Nghymru yn credu ei bod yn bosibl neu'n briodol):
- Cynnwys gofynion mewn manylebau sy'n cefnogi prentisiaethau, hyfforddiant a datblygu'r gweithlu.
- Ymgorffori canlyniadau Gwaith Teg a llesiant lle y bo'n berthnasol ac yn gymesur.
- Annog buddsoddi mewn sgiliau lleol, cyflogadwyedd a chyfleoedd i gamu ymlaen
- Monitro'r ffordd y mae ymrwymiadau o ran cyflogaeth a sgiliau yn cael eu cyflawni drwy ddangosyddion perfformiad allweddol (DPAau) a rheoli contractau.
4. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y canlyniad arfaethedig ar gyfer swyddi a sgiliau yng Nghymru yn rhoi cyfeiriad clir ac ymarferol ar gyfer caffael cyhoeddus?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
Eglurwch eich ateb, gan gynnwys beth fyddai’n ei gwneud hi’n haws i gaffael cyhoeddus gefnogi swyddi, datblygu sgiliau, prentisiaethau a chynnydd y gweithlu yng Nghymru:
Twf BBaChau ac atgyfnerthu cadwyni cyflenwi yng Nghymru
Canlyniad: Cynyddu'r gwerth a gedwir yn economi Cymru, helpu i greu cyfoeth cymunedol, ymgorffori mwy o wydnwch a chapasiti mewn cadwyni cyflenwi lleol a dileu rhwystrau i dendro er mwyn i fwy o BBaChau allu cystadlu am gontractau cyhoeddus a'u hennill
Ysgogiadau caffael (lle mae'r Awdurdod Contractio yng Nghymru yn credu ei bod yn bosibl neu'n briodol):
- Cyhoeddi piblinellau caffael gan roi cymaint o wybodaeth â phosibl ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod gan BBaChau ddigon o amser i ffurfio consortia, ehangu neu addasu gweithrediadau er mwyn cyflwyno cynnig llwyddiannus.
Ymgymryd â gweithgarwch ymgysylltu cymesur cyn y farchnad er mwyn llywio'r gwaith o gynllunio ymarferion caffael ac ehangu cyfranogiad BBaChau. - Ymgysylltu â Busnes Cymru er mwyn nodi BBaChau a busnesau newydd arloesol wrth ymgysylltu â'r farchnad.
- Sicrhau bod gwasanaethau Busnes Cymru wedi'u cynnwys mewn Gwahoddiadau i Dendro a Gwahoddiadau i Gyflwyno Dyfynbris.
- Defnyddio strategaethau rhannu'n lotiau a gofynion cymesur i wella hygyrchedd i BBaChau a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol.
Hwyluso cyflwyno cynigion ar y cyd neu fel consortiwm lle y bo'n briodol. - Defnyddio cydgasglu galw strategol i atgyfnerthu cadwyni cyflenwi yng Nghymru a gwella gwydnwch marchnadoedd.
- Sicrhau taliadau teg a phrydlon drwy gydol cadwyni cyflenwi er mwyn gwella llif arian profiad, gwella gwydnwch busnesau a chefnogi twf cynaliadwy BBaChau a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol sy'n gweithredu yng Nghymru.
- Defnyddio hyblygrwydd islaw'r trothwy i neilltuo contractau addas ar gyfer BBaChau a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol sydd wedi'u lleoli yn eich ardal leol.
- Ymgorffori canlyniadau lles sy'n cefnogi swyddi, sgiliau a datblygiad cadwyni cyflenwi.
- Cynnwys meini prawf cyflawni carbon isel mewn tendrau er mwyn i BBaChau a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol allu cystadlu ar sail eu hagosrwydd, eu hymatebolrwydd a'u perfformiad amgylcheddol lle y bo'n berthnasol.
- Rhoi adborth adeiladol i gyflenwyr yn dilyn ymarfer caffael er mwyn annog gwelliant parhaus.
At hynny, dylai pob Awdurdod Contractio yng Nghymru (p'un a yw'n dod o fewn cwmpas Deddf Partneriaeth Gymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) 2023 ai peidio) gymhwyso egwyddorion caffael cymdeithasol cyfrifol drwy gydol y cylch oes caffael, gan ddefnyddio gweithgarwch caffael i wella llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol, atgyfnerthu cadwyni cyflenwi a hyrwyddo gwaith teg. Bydd hyn yn creu cyfleoedd i gwmnïau yng Nghymru gan y bydd ganddynt gryfderau yn y meysydd hyn yn aml a'r gallu i wahaniaethu rhyngddyn nhw eu hunain a chyflenwyr mwy o faint wrth dendro.
5. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y canlyniad arfaethedig ar gyfer twf BBaChau ac atgyfnerthu cadwyni cyflenwi yng Nghymru yn rhoi cyfeiriad clir ac ymarferol ar gyfer caffael cyhoeddus?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Esboniwch eich ateb, gan gynnwys beth fyddai’n ei gwneud hi’n haws i BBaChau gystadlu am gontractau cyhoeddus a'u hennill:
Creu cyfoeth cymunedol
Canlyniad: Gwella mynediad teg at gaffael cyhoeddus ar gyfer BBaChau a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, gan helpu i gryfhau cadwyni cyflenwi lleol, cadw gwerth mewn cymunedau yng Nghymru a helpu i gyflawni llesiant cymdeithasol, economaidd a chymunedol
Ysgogiadau caffael (lle mae'r Awdurdod Contractio yng Nghymru yn credu ei bod yn bosibl neu'n briodol):
- Ymgysylltu â’r farchnad yn gynnar ac yn gymesur i ddeall capasiti a gallu BBaChau a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol a'r rhwystrau a wynebir ganddynt.
- Cynllunio caffaeliadau mewn ffordd sy'n gymesur â'r gofyniad, gan gynnwys trothwyon ariannol, lefelau yswiriant, gofynion achredu a cheisiadau am dystiolaeth.
- Rhannu contractau mwy o faint yn lotiau llai, neu lunio fframweithiau mewn ffordd sy'n rhoi cyfle teg i gyflenwyr arbenigol a llai gyflwyno cynigion.
- Cyhoeddi piblinellau a darparu gwybodaeth glir a hygyrch am dendrau er mwyn sicrhau bod gan gyflenwyr amser i baratoi a deall cyfleoedd yn y dyfodol.
- Cefnogi cyfleoedd i gyflwyno cynigion fel consortiwm neu isgontractio neu gyfleoedd i gadwyn gyflenwi lle y byddai hyn yn gwella mynediad teg ac yn ehangu cyfranogiad.
- Cynnwys canlyniadau llesiant perthnasol a chymesur sy'n cydnabod y cyfraniad y gall cyflenwyr llai o faint a chyflenwyr cymunedol ei wneud.
6. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y canlyniad arfaethedig ar gyfer creu cyfoeth cymunedol yn rhoi cyfeiriad clir ac ymarferol ar gyfer caffael cyhoeddus?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Esboniwch eich ateb, gan gynnwys sut y gallai caffael cyhoeddus gefnogi BBaChau, cwmnïau cydweithredol, mentrau cymdeithasol a sefydliadau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol yn well:
Gwaith teg
Canlyniad: Hyrwyddo gwaith teg drwy annog cyflogaeth ddiogel a boddhaol, llais effeithiol i weithwyr, cydraddoldeb ac arferion gwaith diogel a chynhwysol sy'n cyfrannu at lesiant ac at wella'r modd y darperir gwasanaethau cyhoeddus
Ysgogiadau caffael (lle mae'r Awdurdod Contractio yng Nghymru yn credu ei bod yn bosibl neu'n briodol):
- Ystyried canlyniadau gwaith teg yn ystod y cam cynllunio a nodwch ble maent yn berthnasol ac yn gymesur â phwnc y contract.
- Defnyddio manylebau, meini prawf dyfarnu ac amodau contract, i annog cyflogaeth ddiogel, gwobrwyo deg, datblygu'r gweithlu, cydraddoldeb ac arferion gwaith diogel.
- Annog cyflenwyr i ddangos sut maent yn ymgysylltu â'u gweithlu a chefnogi llais effeithiol i weithwyr, gan gynnwys drwy undebau llafur cydnabyddedig neu gynrychiolwyr priodol eraill o'r gweithlu.
- Cymhwyso Nodiadau perthnasol Polisi Caffael Cymru a'r Cod Allanoli Gwasanaethau Cyhoeddus a'r Gweithlu, gan gynnwys arferion cyflogaeth moesegol a chymalau gweithlu cyhoeddus cymdeithasol / cymalau gweithiau lle y bo'n berthnasol.
- Defnyddio gwaith rheoli contractau i fonitro'r ffordd y mae ymrwymiadau o ran gwaith teg yn cael eu cyflawni, gan gynnwys safonau cyflogaeth, datblygu'r gweithlu, iechyd a diogelwch, cydraddoldeb ac arferion cadwyni cyflenwi.
- Defnyddio'r Adroddiad Blynyddol ar Gaffael Cymdeithasol Gyfrifol, lle y bo'n gymwys, i ddangos sut mae gweithgarwch caffael wedi cyfrannu at waith teg a llesiant ac at wella'r ffordd y darperir gwasanaethau cyhoeddus.
7. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y canlyniad arfaethedig ar gyfer gwaith teg yn rhoi cyfeiriad clir ac ymarferol ar gyfer caffael cyhoeddus?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Esboniwch eich ateb, gan gynnwys beth fyddai’n ei gwneud hi’n haws i gaffael cyhoeddus gefnogi a hyrwyddo canlyniadau gwaith teg:
Arloesedd
Canlyniad: Cefnogi arloesedd yng Nghymru drwy annog datblygu, profi a defnyddio cynhyrchion a gwasanaethau newydd a gwell a ffyrdd newydd a gwell o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus
Ysgogiadau caffael (lle mae'r Awdurdod Contractio yng Nghymru yn credu ei bod yn bosibl neu'n briodol):
- Defnyddio ymgysylltu’n gynnar â’r farchnad i ddeall gallu busnesau yng Nghymru, syniadau sy’n datblygu a chyfleoedd i wella gwasanaethau cyhoeddus drwy gynhyrchion, gwasanaethau a phrosesau newydd neu well.
- Canolbwyntio manylebau ar y canlyniadau sydd i'w cyflawni, yn hytrach na rhagnodi ateb penodol, er mwyn i gyflenwyr allu cynnig ffyrdd arloesol ac ymarferol o ddiwallu anghenion o ran gwasanaethau cyhoeddus.
- Ystyried cynlluniau peilot, treialon neu brosiectau arddangos lle bo'n briodol er mwyn profi atebion newydd, rheoli risg a meithrin hyder cyn eu defnyddio'n ehangach.
- Annog cyflenwyr i gyflwyno cynhyrchion, gwasanaethau neu brosesau newydd neu well sy'n cefnogi canlyniadau gwell i bobl, cymunedau, busnesau a'r amgylchedd yng Nghymru.
- Defnyddio gwaith rheoli contractau a gwersi a ddysgwyd i asesu a yw dulliau gweithredu arloesol wedi gwella'r ffordd y darperir gwasanaethau, cynhyrchiant, effeithlonrwydd neu ganlyniadau.
- Defnyddio gweithgarwch caffael i gefnogi rhaglenni trawsnewid digidol sy'n gwella cynhyrchiant, hygyrchedd, ansawdd gwasanaethau a phrofiad defnyddwyr ym mhob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru.
- Annog cyflenwyr i gyflwyno atebion digidol arloesol, dulliau gweithredu wedi'u llywio gan ddata a modelau darparu gwasanaethau modern sy'n gwella canlyniadau ac effeithlonrwydd.
8. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y canlyniad arfaethedig ar gyfer arloesedd yn rhoi cyfeiriad clir ac ymarferol ar gyfer caffael cyhoeddus?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Esboniwch eich ateb, gan gynnwys unrhyw atebion i annog busnesau arloesol i gymryd rhan mewn caffael cyhoeddus:
Sectorau'r economi sylfaenol
Canlyniad: Cefnogi ein heconomi sylfaenol lle mae capasiti cyflenwyr yng Nghymru yn realistig (megis cynhyrchu a phrosesu bwyd a phren, neu adeiladu), y gellir ei gyflawni drwy ymgysylltu gwell cyn y farchnad
Ysgogiadau caffael (lle mae'r Awdurdod Contractio yng Nghymru yn credu ei bod yn bosibl neu'n briodol):
- Sicrhau bod ymarferwyr caffael yn cwblhau'r hyfforddiant (Adnodd dysgu newydd ar-lein ar gyfer yr Economi Sylfaenol – Cynnal Cymru) a chysoni strategaethau caffael â blaenoriaethau'r Economi Sylfaenol.
- Ystyried sut y gall caffaeliadau bwyd perthnasol gefnogi nodau Strategaeth Bwyd Cymunedol Cymru, gan gynnwys cadwyni cyflenwi bwyd lleol gwydn, cynhyrchu cynaliadwy a bwyd iachach a mwy hygyrch.
- Atgyfnerthu cadwyni cyflenwi yng Nghymru drwy roi mwy o sicrwydd i farchnadoedd drwy welededd piblinellau a chynllunio hirdymor.
- Annog dulliau caffael sy'n atgyfnerthu cadwyni cyflenwi domestig ac yn meithrin gallu marchnadoedd lleol.
- Hyrwyddo cydweithio, arloesi a gwydnwch mewn sectorau allweddol.
- Annog ystyried pren, bwyd a dur a dyfir ac a brosesir yng Nghymru mewn manylebau caffael a gweithgarwch ymgysylltu â marchnadoedd.
9. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y canlyniad arfaethedig ar gyfer sectorau'r economi sylfaenol yn rhoi cyfeiriad clir ac ymarferol ar gyfer caffael cyhoeddus?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Esboniwch eich ateb, gan gynnwys beth fyddai’n ei gwneud hi’n haws i gaffael cyhoeddus gefnogi ac atgyfnerthu sectorau'r economi sylfaenol yng Nghymru:
Deall effaith gwariant cyhoeddus
Canlyniad: Dangos sut mae gwariant cyhoeddus yn cyfrannu at gymunedau cryfach, llesiant diwylliannol, y Gymraeg a chanlyniadau gwell i Gymru
Ysgogiadau caffael (lle mae'r Awdurdod Contractio yng Nghymru yn credu ei bod yn bosibl neu'n briodol):
- Defnyddio system Themâu, Canlyniadau a Mesurau (TOMS) Cymru ar y cam cynllunio i ddewis mesurau perthnasol a chymesur sy'n adlewyrchu gwerth cymdeithasol a allai gael ei sicrhau ac anghenion cymunedol a allai gael eu diwallu drwy'r contract.
- Ymgorffori mesurau TOMs a ddewiswyd mewn manylebau, meini prawf dyfarnu, amodau contract a threfniadau rheoli contractau lle y bo'n gyfreithlon, yn berthnasol ac yn gymesur.
- Ei gwneud yn ofynnol i gyflenwyr gyflwyno adroddiadau TOMs rheolaidd wrth gyflawni contractau er mwyn monitro a yw ymrwymiadau o ran gwerth cymdeithasol yn cael eu cyflawni, nodi tanberfformiad a chefnogi camau cywirol amserol.
- Defnyddio data TOMs i fesur ei effaith er mwyn llywio penderfyniadau caffael yn y dyfodol a'u cynnwys yn yr adroddiad blynyddol ar Gaffael Cymdeithasol Gyfrifol lle y bo'n berthnasol.
- Darparu astudiaeth achos diwedd prosiect ar gwblhau prosiect sy'n dangos yr hyn sydd wedi'i gyflawni a'r perfformiad yn erbyn y contract.
10. I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y canlyniad arfaethedig ar gyfer deall a dangos effaith gwariant cyhoeddus yn rhoi cyfeiriad clir ac ymarferol ar gyfer caffael cyhoeddus?
Esboniwch eich ateb, gan gynnwys unrhyw beth arall y dylid ei fesur, yn eich barn chi:
Blaenoriaethau a chyflawni
11. Blaenoriaethau: O'r rhestr isod, beth fyddech chi'n dweud yw'r tri chanlyniad pwysicaf ar gyfer eich ardal ddaearyddol eich hun?
Dewiswch hyd at dri:
- Mwy o gyfleoedd ar gyfer swyddi â chyflog da, prentisiaethau a sgiliau
- Twf BBaChau a chadwyni cyflenwi cryfach yng Nghymru
- Mwy o gyfoeth cymunedol a mwy o werth yn cael ei gadw'n lleol
- Gwaith teg mwy diogel
- Mynediad gwell at gynhyrchion, gwasanaethau a dulliau darparu gwasanaethau cyhoeddus arloesol
- Sectorau cryfach yn yr economi sylfaenol
- Gwell tystiolaeth o effaith leol gwariant cyhoeddus
Unrhyw sylwadau eraill:
12: Rhwystrau i gyflawni: Ar gyfer ymatebwyr o Awdurdodau Contractio: Yn eich barn chi, beth yw'r prif rwystrau i gyflawni'r DPCC?
Dewiswch bob un sy'n gymwys.
- Sgiliau neu allu
- Capasiti staff
- Cost neu gyfyngiadau ariannol
- Argaeledd neu ansawdd data
- Capasiti marchnadoedd neu gyflenwyr
- Ansicrwydd cyfreithiol neu fasnachol
- Y gallu i reoli contractau
- Dulliau gweithredu anghyson rhwng cyrff cyhoeddus
- Ddim yn gwybod
- Arall (nodwch)
Dywedwch wrthym am unrhyw rwystrau penodol y dylid mynd i'r afael â nhw:
13. Cymorth gweithredu: Pa ganllawiau, adnoddau, hyfforddiant neu gymorth arall fyddai'n helpu awdurdodau contractio a chyflenwyr i roi'r DPCC ar waith yn effeithiol?
Rhowch fanylion:
Mynediad at gaffael cyhoeddus
14. Mynediad i BBaChau a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol: Os ydych yn BBaCh, yn ficrofusnes, yn gwmni cydweithredol, yn fenter gymdeithasol neu'n fenter wirfoddol, gymunedol neu gymdeithasol sy'n cymryd rhan mewn ymarferion caffael cyhoeddus dywedwch wrthym pa ffactorau a fyddai'n creu'r rhwystrau mwyaf i gyflwyno cynigion am gontractau cyhoeddus ar hyn o bryd?
Dewiswch bob un sy'n gymwys:
- Fawr ddim rhybudd ymlaen llaw o gyfleoedd
- Maint contractau
- Trothwyon ariannol
- Gofynion o ran yswiriant
- Gofynion o ran achredu
- Hyd neu gymhlethdod dogfennau tendro
- Amserlenni ar gyfer paratoi cynigion
- Cyfleoedd cyfyngedig i gyflwyno cynigion fel consortiwm neu ar y cyd
- Prosesau caffael Digidol
- Telerau talu neu arian parod
- Diffyg adborth yn dilyn cynigion aflwyddiannus
- Arall, nodwch
Pa newidiadau fyddai’n gwneud y gwahaniaeth mwyaf?
Mesur llwyddiant
15. Rhoi gwybod am wariant BBaChau a mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y dylai fod yn ofynnol i brif gontractwyr roi gwybod am werth gwariant sy'n gysylltiedig â chontractau a drosglwyddir drwy eu cadwyni cyflenwi i BBaChau, microfusnesau, mentrau cymunedol, cwmnïau cydweithredol a mentrau cymdeithasol, gan ddefnyddio'r Pecyn Cymorth Buddion Cymunedol neu fecanwaith adrodd priodol arall?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Esboniwch eich ateb, gan gynnwys beth fyddai’n ei gwneud hi’n haws i brif gontractwyr roi gwybod am wariant sy'n gysylltiedig â chadwyni cyflenwi drwy’r Pecyn Cymorth Buddion Cymunedol neu fecanwaith adrodd priodol arall:
16. Mesur canlyniadau: pa fesurau fyddai'n darparu'r dystiolaeth fwyaf ystyrlon ynghylch a yw'r DPCC yn cyflawni ei ganlyniadau bwriadedig?
Dewiswch hyd at bump:
- Gwario gyda BBaChau a microfusnesau
- Gwario gyda mentrau gwirfoddol, cymunedol a chymdeithasol, cwmnïau cydweithredol
- Gwario gyda chyflenwyr sy'n gweithredu yng Nghymru
- Cyfleoedd ar gyfer swyddi, prentisiaethau a hyfforddiant
- Perfformiad o ran talu'n brydlon
- Canlyniadau gwaith teg
- Gwydnwch cadwyni cyflenwi
- Gwerth cymdeithasol a buddion cymunedol
- Arloesedd a ddarperir drwy weithgarwch Caffael
- Canlyniadau o ran yr amgylchedd a datgarboneiddio
- Canlyniadau o ran y Gymraeg
- Arall, nodwch
17. Themâu, Canlyniadau a Mesurau a data caffael: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno y bydd y defnydd arfaethedig o'r dull Themâu, Canlyniadau a Mesurau (TOMS) a data caffael yn darparu tystiolaeth ddefnyddiol o effaith caffael cyhoeddus?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Esboniwch:
Safbwyntiau cyffredinol
18. Cyfeiriad strategol cyffredinol: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno bod y DPCC drafft yn rhoi cyfeiriad clir ac ymarferol ar gyfer caffael cyhoeddus?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Esboniwch eich ateb:
19. Blaenoriaeth gyffredin: I ba raddau rydych yn cytuno neu'n anghytuno â'r flaenoriaeth gyffredinol arfaethedig, sef: ‘cryfhau economi Cymru drwy gaffael cyhoeddus’?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Esboniwch eich ateb:
20. Fframwaith cyflawni: Yn gyffredinol, i ba raddau mae'r dull caffael arfaethedig yn darparu fframwaith ymarferol ar gyfer cyflawni blaenoriaeth a chanlyniadau bwriadedig y DPCC?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Esboniwch eich ateb:
21. Cymorth cyffredinol: Yn gyffredinol, i ba raddau rydych yn cefnogi'r DPCC arfaethedig?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Esboniwch eich ateb:
Asesiad effaith integredig
22. Cydraddoldeb: A ydych yn cytuno bod yr asesiad effaith cydraddoldeb drafft yn nodi'r prif effeithiau sy'n gysylltiedig â'r DPCC?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Dywedwch wrthym am unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ychwanegol, risgiau neu ganlyniadau anfwriadol y dylid eu hystyried:
23. Asesiad effaith hawliau plant: A ydych yn cytuno bod yr asesiad effaith hawliau plant drafft yn nodi'r prif effeithiau sy'n gysylltiedig â'r DPCC?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Dywedwch wrthym am unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ychwanegol, risgiau neu ganlyniadau anfwriadol y dylid eu hystyried:
24. Asesiad effaith iechyd: A ydych yn cytuno bod yr asesiad effaith iechyd drafft yn nodi'r prif effeithiau sy'n gysylltiedig â'r DPCC?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Dywedwch wrthym am unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ychwanegol, risgiau neu ganlyniadau anfwriadol y dylid eu hystyried:
25. Asesiad effaith y Gymraeg: A ydych yn cytuno bod asesiad effaith y Gymraeg drafft yn nodi'r prif effeithiau sy'n gysylltiedig â'r DPCC?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Dywedwch wrthym am unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ychwanegol, risgiau neu ganlyniadau anfwriadol y dylid eu hystyried:
26. Effeithiau: A ydych yn cytuno bod yr asesiadau effaith drafft ar ddiogelu data, bioamrywiaeth, prawfesur gwledig, rheoli tir cynaliadwy, effeithiau carbon, dyletswydd ansawdd (iechyd) ac effeithiau economaidd-gymdeithasol yn nodi'r prif effeithiau sy'n gysylltiedig â'r DPCC drafft?
- Cytuno'n gryf
- Cytuno
- Ddim yn cytuno nac yn anghytuno
- Anghytuno
- Anghytuno'n gryf
- Ddim yn gwybod
Dywedwch wrthym am unrhyw effeithiau cadarnhaol neu negyddol ychwanegol, risgiau neu ganlyniadau anfwriadol y dylid eu hystyried (Diogelu Data, Bioamrywiaeth, Prawfesur gwledig, Rheoli tir yn Gynaliadwy, Effeithiau carbon, Dyletswydd ansawdd (iechyd), Economaidd-gymdeithasol):
Y Gymraeg
27. Effeithiau ar y Gymraeg: Yn eich barn chi, beth fyddai effeithiau tebygol y DPCC drafft ar y Gymraeg, yn enwedig ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg? Sut y gellid cynyddu effeithiau cadarnhaol neu leihau effeithiau negyddol?
28. Newidiadau i'r DPCC drafft: A ellid newid y DPCC drafft er mwyn sicrhau ei fod yn cael effeithiau cadarnhaol, neu fwy cadarnhaol, ar gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg, neu'n lleihau unrhyw effeithiau negyddol?
29. Sylwadau eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg: Os oes gennych unrhyw sylwadau eraill sy'n ymwneud â'r Gymraeg nad ydych wedi'u trafod yng Nghwestiynau 23 a 24, nodwch nhw yma.
Sut i ymateb
Dylech gyflwyno eich sylwadau erbyn 28 Ionawr 2027, mewn unrhyw un o'r ffyrdd canlynol:
- Llenwi ein ffurflen ar-lein
- Lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb a'i hanfon drwy e-bost i WPPSDrafft.Ymgynghoriad@llyw.cymru
- Lawrlwytho a llenwi ein ffurflen ymateb ei llenwi a'i phostio i:
Grŵp y Prif Swyddog Gweithredu
Yr Is-adran Caffael Masnachol
Polisi Masnachol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Eich hawliau
O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl:
- i wybod am y data personol a gedwir amdanoch chi a'u gweld
- i’w gwneud yn ofynnol inni gywiro gwallau yn y data hynny
- (o dan amgylchiadau penodol) i wrthwynebu prosesu neu gyfyngu ar brosesu
- (o dan rai amgylchiadau) i'ch data gael eu ‘dileu’
- (o dan rai amgylchiadau) i gludadwyedd data.
I gael rhagor o fanylion am yr wybodaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei dal ac am y defnydd a wneir ohoni, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, gweler y manylion cyswllt isod:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
CAERDYDD
CF10 3NQ
E-bost: swyddogdiogeludata@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth
Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Cheshire
SK9 5AF
0303 123 1113
Rheoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU)
Llywodraeth Cymru fydd y rheolydd data ar gyfer ymgyngoriadau Llywodraeth Cymru ac unrhyw ddata personol a ddarperir gennych wrth ichi ymateb i'r ymgynghoriad.
Mae gan Weinidogion Cymru bwerau statudol y byddant yn dibynnu arnynt i brosesu’r data personol hyn a fydd yn eu galluogi i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch sut y maent yn cyflawni eu swyddogaethau cyhoeddus. Y sail gyfreithlon dros brosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru. (Erthygl 6(1)(e)).
Bydd unrhyw ymateb a anfonwch atom yn cael ei weld yn llawn gan staff Llywodraeth Cymru sy'n gweithio ar y materion y mae'r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â nhw neu sy’n cynllunio ymgyngoriadau ar gyfer y dyfodol. Yn achos ymgyngoriadau ar y cyd, gall hyn hefyd gynnwys awdurdodau cyhoeddus eraill. Pan fo Llywodraeth Cymru yn cynnal dadansoddiad pellach o'r ymatebion i ymgynghoriad, gall trydydd parti achrededig (e.e. sefydliad ymchwil neu gwmni ymgynghori) gael ei gomisiynu i wneud y gwaith hwn. Dim ond o dan gontract yr ymgymerir â gwaith o'r fath. Mae telerau ac amodau safonol Llywodraeth Cymru ar gyfer contractau o'r fath yn nodi gofynion caeth ar gyfer prosesu a chadw data personol yn ddiogel.
Er mwyn dangos bod yr ymgynghoriad wedi’i gynnal yn briodol, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion i'r ddogfen hon. Mae’n bosibl hefyd y byddwn yn cyhoeddi’r ymatebion yn llawn. Rydym yn cyhoeddi ymatebion yn ddienw ac ni chaiff eich enw na'ch manylion cyswllt eu cynnwys. Os hoffech i'ch enw neu fanylion eraill gael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'ch ymateb, rhowch wybod i ni pan fyddwch yn cyflwyno eich ymateb, a byddwn yn eu cynnwys.
Dylech hefyd fod yn ymwybodol o'n cyfrifoldebau o dan ddeddfwriaeth Rhyddid Gwybodaeth ac y gall fod rhwymedigaeth gyfreithiol ar Lywodraeth Cymru i ddatgelu rhai mathau o wybodaeth.
Os caiff eich manylion eu cyhoeddi fel rhan o'r ymateb i'r ymgynghoriad, caiff yr adroddiadau cyhoeddedig hyn eu cadw am gyfnod amhenodol. Ni fydd gweddill eich data a gedwir fel arall gan Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw am fwy na thair blynedd.
Gwneud cwyn
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i drin eich data personol yn ddiogel a dim ond cyhyd ag y mae angen inni wneud hynny.
Os bydd gennych unrhyw bryderon am y ffordd rydym yn defnyddio eich data personol, byddem yn eich annog i'w codi gyda'r tîm perthnasol yn y lle cyntaf.
Gallwch hefyd gysylltu â'r:
Swyddog Diogelu Data
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.
Os hoffech wneud cwyn ffurfiol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi prosesu eich data personol, gallwch wneud hynny gan ddefnyddio un o'r dulliau canlynol:
Ffurflen ar-lein: Cwblhewch ein ffurflen gwyno ar-lein.
Phone: 03000 251378
E-bost: Lawrlwythwych y ffurflen a'i hanfon drwy e-bost i cwynion@llyw.cymru
Drwy'r post:
Y Tîm Cynghori ar Gwynion
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
Byddwn yn cydnabod eich cwyn ac yn ymateb o fewn cyfnod priodol o amser, yn unol â deddfwriaeth diogelu data a'n proses gwyno.
Rhagor o wybodaeth a dogfennau cysylltiedig
Rhif: WG55424
Gellir gwneud cais am fersiynau o'r ddogfen hon mewn print bras, Braille ac mewn ieithoedd eraill.
