Neidio i'r prif gynnwy

Lee Waters AS, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yr haf diwethaf, cyhoeddais y byddai adolygiad yn cael ei gynnal o'r holl gynlluniau ffyrdd newydd a gyllidir gan Lywodraeth Cymru ac ar ôl hynny, sefydlais banel Adolygu Ffyrdd ac arno arbenigwyr annibynnol ym maes polisi trafnidiaeth, newid yn yr hinsawdd, peirianneg priffyrdd a'r sector cludo nwyddau a logisteg.

Roedd cylch gwaith yr adolygiad yn un eang er mwyn i’r Panel fedru ystyried ystod eang o gynlluniau, a chyflwyno argymhellion am yr amodau pan mai adeiladu ffyrdd newydd yw'r peth iawn i'w wneud.

Mae Cadeirydd y Panel wedi cyflwyno adroddiad interim y Panel Adolygu Ffyrdd ac mae ynddo gynigion ar sut y bydd yr Adolygiad Ffyrdd yn cael ei gynnal. Mae hefyd yn ymdrin â’r amodau y dylid eu hystyried wrth asesu a yw cynlluniau’n cyd-fynd â Strategaeth Drafnidiaeth newydd Cymru, ein nodau llesiant a Chymru Sero Net.

Rwyf wedi ystyried yr Adroddiad Cychwynnol, wedi cytuno ar gwmpas yr Adolygiad Ffyrdd ac ar y 55 o gynlluniau ffyrdd i'w hystyried yn fanylach gan y Panel. Mae’r rhestr lawn o gynlluniau i’w gweld yn Nhabl 1. Bydd y rhestr hon o gynlluniau yn sail i'r panel fedru cyflwyno argymhellion at y dyfodol ar adeiladu ffyrdd yng Nghymru er mwyn llywio penderfyniadau ar gynlluniau ffyrdd eraill a gyllidir gan Lywodraeth Cymru.

Bydd argymhellion llawn ar y ffordd ymlaen ar gyfer pob un o'r 55 o gynlluniau yn cael eu cynnwys yn adroddiad terfynol y Panel Adolygu Ffyrdd a fydd yn cael ei gyflwyno yn yr haf.

Yn rhan o'r gwaith hwn, gwnaed cais penodol mewn perthynas â chynllun gwella Cyffyrdd 14/15 a 16/16A ar yr A55. Gofynnwyd i'r Panel Adolygu Ffyrdd fynegi barn ynghylch a ddylai’r prosiect hwnnw gael blaenoriaeth ai peidio. Argymhellodd y Panel, yn hytrach na bwrw ymlaen â’r cynllun ar ei ffurf bresennol, fod achos cryf dros ystyried coridor cyfan Gogledd Cymru, fel yr argymhellwyd yn adroddiad terfynol Adolygiad Cysylltedd yr Undeb. Rwy’n cytuno â'r achos hwnnw ac, ar y sail honno, byddaf yn sefydlu Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, dan arweiniad yr Arglwydd Burns, a fydd yn gyfrifol am fynd ati ar sail tystiolaeth i ddatblygu argymhellion ar atebion integredig aml-ddull ym maes trafnidiaeth.

Bydd y Comisiwn yn adeiladu ar fodel llwyddiannus Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru a’r gwaith ar Fetro Gogledd Cymru, a bydd yn caniatáu inni gyflawni’n nodau datgarboneiddio a’n nodau o ran newid dulliau teithio drwy gysylltiadau trafnidiaeth uchel eu hansawdd a mwy effeithlon ar draws ac i Ogledd Cymru. Bydd Comisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru yn edrych ar Ogledd Cymru yn ei chyfanrwydd ac nid dim ond coridor yr A55, a bydd yn ystyried sut y gellir newid dulliau teithio mewn ardaloedd trefol a gwledig.

Ar ôl blwyddyn o weithio'n agos gyda’r awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru drwy Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, rydym yn dechrau gweld ein cynlluniau ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn cael eu gwireddu. Dyma'r math o cydweithredu yr ydym am adeiladu arno gyda Chomisiwn Trafnidiaeth Gogledd Cymru, a dyma pam yr wyf yn hynod falch o gyhoeddi mai'r Arglwydd Burns fydd yn Gadeirydd.

 

Mae’n amlwg nad dyma ddiwedd y buddsoddiad yn y rhwydwaith ffyrdd yng Nghymru ac rwy'n ymwybodol iawn y bydd angen inni barhau i fuddsoddi mewn cynnal a chadw’n ffyrdd, gan sicrhau mai’r ffocws a'r flaenoriaeth fydd:

  • osgoi gweithredu mewn ffyrdd a fydd yn arwain at gynnydd mewn allyriadau carbon
  • ailddyrannu'r gofod ffyrdd presennol
  • addasu'r seilwaith ffyrdd presennol er mwyn ymdopi â'r newid yn yr hinsawdd
  • buddsoddi er mwyn cadw’r rhwydweithiau ffyrdd presennol yn ddiogel ac mewn cyflwr addas i’w defnyddio
  • gwella bioamrywiaeth ar hyd y prif lwybrau trafnidiaeth

Bydd ailflaenoriaethu’n cyllid trafnidiaeth yn caniatáu inni ailddyblu’n hymdrechion i wella’r sefyllfa o ran cyfran y dulliau trafnidiaeth gynaliadwy ac i hyrwyddo’n buddsoddiad mewn trafnidiaeth gyhoeddus a seilwaith teithio llesol. Bydd arian a arbedir drwy beidio ag adeiladu ffyrdd newydd yn cael ei ddefnyddio i wella'r seilwaith presennol, gan helpu i greu lonydd bysiau a beicio newydd a fydd yn rhoi dewis arall ystyrlon i bobl wrth iddynt deithio.

Nid yw’r mater hwn yn un cyfforddus na hawdd. Ond mae taer angen am newid ac os na wnawn ni roi’r gorau i adeiladau ffyrdd yn yr un hen ffordd, ni fyddwn byth yn gallu darparu'r trafnidiaeth gyhoeddus ragorol y credwn fod gan bawb yr hawl iddo.

Mae’r hinsawdd yn newid ac mae'n hen bryd inni weithredu. Mae'r adolygiad hwn yn gam mawr tuag at newid sut yr ydym yn meddwl am ein seilwaith ffyrdd a sut yr ydym yn buddsoddi ynddo mewn ffordd sy’n gwrthsefyll ac yn lliniaru effeithiau’r newid yn yr hinsawdd. Felly, mae hwn yn ddechrau taith inni, ond rwyf wir yn credu – yn unol â'n nodau llesiant – y bydd yn well i gymunedau, yn well i'r amgylchedd, ac yn well i economi Cymru.

Rhestr o gynlluniau sydd wedi'u cynnwys yn yr adolygiad ffyrdd