Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
21 Hydref 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cyrff llywodraethu ysgolion yn rhan hanfodol o'n system ysgolion, gan gefnogi dysgwyr a staff. Mae gan gyrff llywodraethu ystod eang ac amrywiol o gyfrifoldebau sy'n cael eu nodi mewn deddfwriaeth ac yng nghanllawiau Llywodraeth Cymru. 

Mae'r system ysgolion yng Nghymru wedi gweld diwygiadau enfawr dros y degawd diwethaf, gyda dyletswyddau ychwanegol neu ddiwygiedig yn aml wedi'u gosod ar gyrff llywodraethu, ond nid yw rôl cyrff llywodraethu ysgolion wedi newid mewn unrhyw ffordd sylfaenol.

Felly, heddiw rwy'n cyhoeddi adolygiad o gyrff llywodraethu ysgolion yng Nghymru.

Rydym yn cymryd camau i sicrhau bod ein llywodraethwyr yn cael y cymorth a'r hyfforddiant sydd eu hangen arnynt i wneud y rôl, a bod eu rôl wedi'i nodi'n briodol mewn deddfwriaeth a chanllawiau. 

 Bydd yr adolygiad yn cynnwys y themâu canlynol:

  • Strwythur a rolau
    • Cyfansoddiad cyrff llywodraethu (cynrychiolwyr sy'n rhieni, staff, aelodau'r gymuned, enwebai'r Awdurdod Lleol ac ati)
    • Eglurder a phriodoldeb rolau a chyfrifoldebau rhwng llywodraethwyr, penaethiaid ac awdurdodau lleol
  • Effeithiolrwydd ac effaith
    • Sut mae cyrff llywodraethu yn cyfrannu at godi safonau addysgol
    • Ansawdd yr her a'r cymorth a ddarperir i arweinwyr ysgolion
    • Yr effaith ar wella ysgolion a deilliannau dysgwyr
  • Cymorth a hyfforddiant
    • Argaeledd, hygyrchedd ac effeithiolrwydd yr hyfforddiant a’r arweiniad i lywodraethwyr
    • Ansawdd y cymorth clercio a gweinyddol
    • Cysondeb y cymorth ar draws gwahanol awdurdodau lleol a rhanbarthau
  • Atebolrwydd a goruchwylio
    • Cydymffurfio â dyletswyddau statudol (diogelu, cyllid, cwricwlwm, cynhwysiant)
    • Sut mae cyrff llywodraethu yn cael eu dwyn i gyfrif gan awdurdodau lleol, Estyn a Llywodraeth Cymru
  • Recriwtio a chadw llywodraethwyr
    • Proses recriwtio llywodraethwyr (gan gynnwys amrywiaeth a chynrychiolaeth)
    • Cadw llywodraethwyr, y llwyth gwaith a'r hyn sy'n rhwystro cyfranogiad effeithiol
  • Arferion gorau ac arloesi
    • Enghreifftiau o gyrff llywodraethu arbennig o dda ac arferion arloesol
    • Cyfleoedd i ysgolion a chyrff llywodraethu gydweithio â'i gilydd

Byddwn yn cydweithio â grŵp cyfeirio sy'n gynrychioliadol o'r sector ysgolion i lywio'r adolygiad.

Bydd y grŵp cyfeirio:

  • yn ystyried canfyddiadau ac argymhellion gwaith blaenorol a wnaed yn y maes hwn, gan gynnwys adolygiad thematig Estyn yn 2023
  • yn darparu cyngor ac yn ymateb i heriau mewn perthynas â’r maes, y fethodoleg, y canfyddiadau a'r opsiynau sy'n dod i'r amlwg
  • yn gweithredu fel cyfaill beirniadol, gan sicrhau bod yr adolygiad yn gytbwys, yn seiliedig ar dystiolaeth ac yn adlewyrchu safbwyntiau rhanddeiliaid allweddol
  • yn sicrhau bod yr aelodau'n cynrychioli safbwyntiau eu sector/sefydliad wrth gyfrannu at gonsensws ar y cyd
  • yn cefnogi cydlyniant a hygrededd argymhellion, gan sicrhau eu bod yn gyson â diwygiadau ehangach y maes addysg
  • yn cyfrannu at y gwaith o nodi'r risgiau, y cyfleoedd a'r goblygiadau ymarferol sy'n ymwneud â gweithredu argymhellion

Mae cylch gorchwyl llawn yr adolygiad wedi'i atodi i'r datganiad. Y nod fydd cyflwyno'r opsiynau ymarferol sy'n deillio o'r gwaith hwn i'r Gweinidogion o fewn blwyddyn.