Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Chwefror 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rwy'n croesawu adroddiad Estyn ar gyfraddau presenoldeb mewn ysgolion uwchradd ers cael gwared ar y cyfyngiadau a oedd ar waith o ganlyniad i’r pandemig, a'i gyhoeddiad ym mis Ionawr.  

Rydym yn gwybod pa mor bwysig yw presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol o ran deilliannau, safonau a chynnydd y dysgwyr. Rwy'n falch felly bod yr adroddiad hwn yn cyd-daro â gwelliant yn y cyfraddau presenoldeb cyfartalog ar gyfer y flwyddyn ysgol hyd yma, sydd bellach yn 90.5%, i fyny o 88.3% dros yr un cyfnod y llynedd. 

Er bod y gwelliant hwn i'w groesawu'n fawr, nid wy’n awgrymu mai dyma hyd a lled ein huchelgais neu nad oes lle i wella ymhellach. Rwy'n parhau i fod wedi ymrwymo i sicrhau bod ffocws di-baid ar barhau i wella presenoldeb. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer dysgwyr yr ydym yn gwybod eu bod yn fwy tebygol o fod yn absennol, fel y rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim. Dyna pam y byddwn yn parhau i weithio gyda rhieni, plant, awdurdodau lleol ac ysgolion i gael gwared ar rwystrau i bresenoldeb ac i ysgogi gwelliant parhaus.

Mae adroddiad Estyn hefyd yn nodi rhai tueddiadau sy’n achosi pryder, megis yr amrywiad mawr mewn cyfraddau presenoldeb mewn ysgolion unigol. Rydym eisoes yn ystyried, ynghyd â'r Tasglu Presenoldeb Cenedlaethol, pa waith dadansoddi data ychwanegol sydd ei angen i ddeall tueddiadau daearyddol, yn ogystal ag edrych ar ddatblygu clwstwr er mwyn cefnogi ysgolion i rannu arferion da a gwneud y mwyaf o’r gefnogaeth a'r gwasanaethau sydd ar gael mewn ardaloedd unigol. 

Canfyddiad arall a oedd yn achosi pryder oedd y ffaith bod amserlenni rhan-amser yn cael eu defnyddio mewn ffyrdd na chawsant eu cynllunio na'u hadolygu'n ddigon rheolaidd i roi mwy o gefnogaeth i ddisgyblion i ddychwelyd i lefelau presenoldeb da. 

Rwyf eisoes wedi amlinellu fy mhryderon ynghylch defnyddio amserlenni rhan-amser. Fel rhan o gynllun ffurfiol, megis cynllun ailintegreiddio, gall amserlenni rhan-amser helpu dysgwyr i ailintegreiddio mewn ysgol ar ôl cyfnod hir o absenoldeb, neu gallant fod yn ffordd o atal mwy o absenoldeb. Fodd bynnag, gallant hefyd gael effaith negyddol ar gynnydd a llesiant dysgwyr, gan roi rhagor o bwysau ar deuluoedd ac arwain at ymddieithrio ymhellach oddi wrth addysg. Mae'r canllawiau Perthyn, ymgysylltu a chyfranogi yn rhoi eglurder mewn perthynas â defnyddio amserlenni rhan-amser mewn ysgolion. Er hynny, rydym yn bwriadu cyhoeddi canllawiau ar wahân ynghylch defnyddio amserlenni rhan-amser, a fydd yn cynnwys rhagor o fanylion ynghylch defnyddio amserlenni rhan-amser ar gyfer disgyblion sy’n cael addysg heblaw yn yr ysgol a disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol. 

Gellir dod o hyd i ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion yma.