Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Heddiw, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru erthygl ystadegol yn cyflwyno Amcangyfrifon newydd o'r angen am dai ychwanegol (yn seiliedig ar 2025).
Mae'r amcangyfrifon o'r angen am dai yn 2025 yn dangos faint o unedau tai ychwanegol y gallai fod eu hangen yng Nghymru dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae'r rhain yn disodli'r amcangyfrifon sy'n seiliedig ar 2019.
Mae'r ffigurau'n seiliedig ar ddwy ran:
- angen presennol heb ei ddiwallu, wedi'i amcangyfrif o aelwydydd sy'n orlawn ac wedi'u cuddio, ac aelwydydd digartref mewn llety dros dro; ac
- angen newydd sy'n codi, wedi'i amcangyfrif o amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2022
Er mwyn sicrhau bod yr amcangyfrifon yn gadarn ac yn dryloyw, sefydlwyd grŵp technegol ar ddechrau'r gwaith ac mae wedi cefnogi fersiynau blaenorol. Mae'r grŵp yn cynnwys arbenigwyr dadansoddol a pholisi o Lywodraeth Cymru a llywodraeth leol ac mae'n cynghori ar ddulliau a materion technegol.
Er bod y fethodoleg yn fras yr un fath ag ar gyfer amcangyfrifon 2019, mae rhai newidiadau wedi cael eu gwneud i'r ffynonellau data a'r rhagdybiaethau. Er enghraifft, cyflwynir angen presennol heb ei ddiwallu fel un amcangyfrif yn hytrach na chael ei rannu dros nifer rhagdybiedig o flynyddoedd. Mae'r ffynonellau a ddefnyddir i amcangyfrif newidiadau mewn incwm a phrisiau rhent preifat yn y dyfodol hefyd wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu'r data gorau sydd ar gael.
Mae rhagor o fanylion am yr holl newidiadau ar gael yn yr adroddiad ansawdd.
Y prif bwyntiau
- Ar hyn o bryd amcangyfrifir mai'r angen presennol heb ei ddiwallu yw 9,400 o unedau tai.
- Mae amcangyfrifon o'r angen presennol heb ei ddiwallu wedi cynyddu 64% ers yr amcangyfrifon yn 2019, oherwydd cynnydd mewn aelwydydd digartref mewn llety dros dro.
- Ar gyfartaledd, amcangyfrifir y bydd angen rhwng 7,800 a 9,300 o unedau tai ychwanegol bob blwyddyn dros y pum mlynedd rhwng Gorffennaf 2025 a Mehefin 2030, gydag amcangyfrif canolog o 8,700 o angen newydd sy'n codi.
- Mae'r angen am dai newydd sydd wedi cael ei amcangyfrif ar gyfer Gorffennaf 2025 i Fehefin 2030 yn uwch nag yn yr amcangyfrifon sy'n seiliedig ar 2019.
- Mae'r cynnydd hwn yn adlewyrchu twf amcanestynedig uwch mewn aelwydydd yn yr amcanestyniadau aelwydydd yn seiliedig ar 2022, o'u cymharu â'r amcanestyniadau yn seiliedig ar 2018 a ddefnyddiwyd yn flaenorol; yn bennaf mae amcanestyniadau o aelwydydd yn seiliedig ar amcanestyniadau poblogaeth.
- Rhagwelir y bydd twf yn yr angen am dai newydd yn arafu dros yr 20 mlynedd nesaf, yn unol â gostyngiad graddol mewn twf aelwydydd a ragwelir yn yr amcanestyniadau sy'n seiliedig ar 2022.
- Dros y pum mlynedd nesaf, amcangyfrifir mai tua 65% o'r angen newydd fydd ar gyfer tai'r farchnad agored, a thua 35% ar gyfer tai fforddiadwy.
- Ar wahân, rhagdybir mai ar gyfer tai fforddiadwy yw'r holl angen presennol heb ei ddiwallu, ac fe'i cyflwynir fel un amcangyfrif yn hytrach na chael ei rannu dros nifer rhagdybiedig o flynyddoedd.
Mae'r ffigurau'n dangos nifer amcangyfrifedig yr aelwydydd sydd angen uned dai ychwanegol dros y cyfnod ond ni ddylid eu dehongli na'u defnyddio yn dargedau tai. Maent yn seiliedig ar ragdybiaethau ac nid ydynt yn cynrychioli ymrwymiadau polisi na gofynion cynllunio.
Mae'r data yn y cyhoeddiad hwn yn rhan o'r sail dystiolaeth ar gyfer gwaith cynllunio yng Nghymru yn y dyfodol ac fe'i ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau tai eraill i greu darlun o'r angen cyffredinol am dai ychwanegol yng Nghymru. Caiff y data ei ddefnyddio i lywio unrhyw adolygiad o'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol yn y dyfodol, y gwaith o ddatblygu polisïau yn y dyfodol, yn ogystal â llywio adroddiadau ar Dueddiadau yn y Dyfodol (fel sy'n ofynnol gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015)
Mae blog y Prif Ystadegydd, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r amcangyfrifon, yn esbonio mwy am yr amcangyfrifon.
