Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Mawrth 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ym mis Mawrth 2021, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru adroddiad yr Athro Charlotte Williams OBE ar ran Gweithgor Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol yn y Cwricwlwm Newydd. Derbyniwyd pob un o'r 51 o argymhellion. Roedd yr argymhellion yn ymwneud ag ystod o faterion, gan gynnwys deunydd y cwricwlwm, y gweithlu addysgu, Addysg Gychwynnol Athrawon, datblygiad proffesiynol, arolygu a pholisi ehangach Llywodraeth Cymru ar ysgolion. 

Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw ein bod wedi gweithredu ar holl argymhellion yr adroddiad, ac rydym yn monitro'r gwaith sy'n parhau. Ers ei gyhoeddi, rydym wedi cymryd camau sy'n golygu mai Cymru yw'r genedl gyntaf yn y DU i'w gwneud yn orfodol addysgu hanes Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol, er mwyn sicrhau bod y cwricwlwm yn adlewyrchu hanes a chyfraniad ei holl ddinasyddion. 

Yn hanfodol, rydym wedi lansio Dysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-Hiliol, sydd wedi bod yn llwyddiant ysgubol, gan uwchsgilio dros 27,000 o ymarferwyr mewn ymarfer gwrth-hiliol drwy gefnogaeth, hyfforddiant ac arweiniad, hyd at fis Rhagfyr 2023. 

Rydym hefyd wedi cymryd camau i sicrhau bod ein proffesiwn addysgu yn cynrychioli'r boblogaeth yn well. Ym mis Medi 2022, aethom ati i ddechrau cynllun cymhelliant gwerth £5,000 i ddenu mwy o ymgeiswyr o leiafrifoedd ethnig i Addysg Gychwynnol Athrawon, gyda'r nod o greu gweithlu sy'n adlewyrchu amrywiaeth ein poblogaeth yn well. Yn yr un flwyddyn, lansiwyd Gwobr Addysgu Proffesiynol Betty Campbell (MBE) i hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Pobl Ddu, Asiaidd ac Ethnig Leiafrifol.

Ers cyhoeddi'r adroddiad, rydym wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar ein cynnydd tuag at ddatblygu dull ysgol gyfan a dull cenedlaethol o wrthwynebu hiliaeth yn adroddiad blynyddol 2021 ar weithredu'r argymhellion ac Adroddiad Blynyddol y llynedd ar y Cwricwlwm i Gymru.

Er bod y camau wedi'u cymryd a bod yr ymateb ffurfiol i'r adroddiad wedi dod i ben bellach, rhaid i'n hymdrechion i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb hiliol drwy ein system addysg barhau, ac mae'r adroddiad cau yn nodi sut y byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa er mwyn sicrhau bod y gwaith wedi ymsefydlu'n llawn. Mae'n dal i fod yn hanfodol cynnal y momentwm, parhau i ymgorffori arferion gwrth-hiliol ar draws ein system addysg, a sicrhau newid ystyrlon. Rydym yn parhau i fod yn ymrwymedig i ddarparu system addysg wrth-hiliol i gyd-fynd â'n huchelgais i fod yn genedl wrth-hiliol erbyn 2030. 

Hoffwn ddiolch yn bersonol i'r Athro Charlotte Williams OBE am y cyngor, yr arweiniad a'r arbenigedd y mae wedi'i ddarparu drwy gydol y gwaith hwn. Mae ei chrebwyll a'i chefnogaeth wedi bod yn amhrisiadwy ar ein taith tuag at fod yn genedl decach i bawb.