Neidio i'r prif gynnwy

Jayne Bryant AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai
Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a’r Prif Chwip

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Ionawr 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn unol ag adran 27 o Ddeddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024, mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru wneud trefniadau ar gyfer darparu gwasanaethau i gefnogi ymgeiswyr â nodweddion gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Senedd ac mewn llywodraeth leol. 

Yn hydref 2025, lansiwyd y Cynllun Grant Peilot Amrywiaeth Ymgeiswyr. Mae’r grant yn darparu £400,000 dros ddwy flynedd i gefnogi’r trydydd sector, a sefydliadau nid-er-elw sy’n gweithio yng Nghymru i ddarparu gwasanaethau i gefnogi’r rheini sydd fel arfer heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein sefydliadau democrataidd. 

Rydym yn falch o gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn dyfarnu cyllid i dri sefydliad o dan y cynllun grant peilot hwn: 

  • Elect Her, a fydd yn rhedeg rhaglen i gefnogi menywod
  • Race Equality First, a fydd yn darparu gwasanaethau i unigolion sy’n dod o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol arall
  • Shout Out UK, a fydd yn cydlunio Canllaw Gwydnwch Ymgeiswyr i fynd i’r afael â’r rhwystr o achosion cynyddol o gam-drin a bygylu a brofir gan y rheini mewn bywyd cyhoeddus, sy’n cael effaith anghymesur o ran rhwystro ymgeiswyr â nodweddion gwarchodedig sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd rhag sefyll

Bydd y sefydliadau hyn yn darparu gwasanaethau i gefnogi ymgeiswyr yn etholiad y Senedd yn 2026 ac yn yr etholiadau llywodraeth leol yn 2027. 

Gan mai cynllun peilot yw hwn, treialu pa mor effeithiol y mae gwasanaethau o’r fath yw un o’n prif nodau. Rydym am ddysgu rhagor am sut y gall y gwasanaethau hyn helpu i annog rhagor o unigolion o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i sefyll mewn etholiadau. Bydd y canfyddiadau hyn yn cael eu defnyddio fel sail ar gyfer rhaglen waith hwy ar gynyddu amrywiaeth sefydliadau democrataidd yng Nghymru.

Ar hyn o bryd, data cyfyngedig yn unig sydd i’w cael ar amrywiaeth ymgeiswyr ac aelodau etholedig sefydliadau democrataidd yng Nghymru. Felly, mae’n anodd sicrhau gwybodaeth fanwl gywir am ba grwpiau penodol sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd. Fodd bynnag, mae’r data sydd ar gael yn darparu tystiolaeth bod menywod ac unigolion sy’n dod o gefndir Du, Asiaidd neu ethnig leiafrifol arall heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein sefydliadau ar hyn o bryd:

  • Dangosodd Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol 2022 fod 40% o’r Cynghorwyr Sir etholedig a oedd yn rhan o’r arolwg yn fenywod a bod 96% o’r Cynghorwyr Sir a Chynghorwyr Cymuned etholedig wedi adrodd eu bod o grŵp ethnig gwyn
  • Yn ôl adroddiad Gwasanaeth Ymchwil y Senedd, Etholiad 2021: Pa mor amrywiol yw’r Chweched Senedd?, yn etholiad diwethaf y Senedd, roedd 43% o Aelodau’r Senedd a gafodd eu hethol yn fenywod, a dim ond 5% o’r Aelodau etholedig oedd yn dod o gefndir ethnig leiafrifol 
  • Mae’r adroddiadau hyn hefyd yn awgrymu y gallai grwpiau LHDTC+ ac anabl hefyd fod heb gynrychiolaeth ddigonol, er bod angen rhagor o ddata i ddeall hyn yn llawn. Gwnaeth yr Ymchwil i ddylanwadau economaidd-gymdeithasol ar gyfranogiad democrataidd a gynhaliwyd gennym hefyd dynnu sylw at y ffaith bod rhwystrau i sefyll am swydd etholedig i’r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is

O gymharu â hyn, yn ôl Cyfrifiad 2021, menywod oedd 51.1% o boblogaeth Cymru a nododd 93.8% o’r boblogaeth eu bod o grŵp ethnig gwyn. At hynny, roedd 3% o’r boblogaeth yn ystyried eu hunain yn LHDT+, a dewisodd 7.6% beidio ag ateb am eu cyfeiriadedd rhywiol. Roedd 21.1% o boblogaeth Cymru yn anabl.

Rydym yn ystyried sut y gallwn lenwi’r bylchau yn y data i sicrhau bod gennym ddarlun cywir o bwy sydd yn dewis a phwy nad ydynt yn dewis sefyll am swydd etholedig ar wahanol gamau yn y cyflenwad o ymgeiswyr. Ein nod drwy wneud hyn yw gallu cymryd camau priodol pan fydd unrhyw grwpiau o’r boblogaeth heb gynrychiolaeth ddigonol. Bydd hyn yn cynnwys ymdrechion i gynyddu’r gyfradd ymateb i Arolwg Ymgeiswyr Llywodraeth Leol o 12% yn 2022, y cafwyd awgrymiadau defnyddiol ar gyfer ei gyflawni yn adroddiad Amrywiaeth mewn Llywodraeth Leol Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai y Senedd (Hydref 2023). 

Mae’r cynllun grant hwn yn rhan o ymdrechion ehangach i wneud ein sefydliadau democrataidd yng Nghymru yn fwy cynrychioliadol o amrywiaeth y boblogaeth. Ym mis Mawrth 2025, gwnaethom gyhoeddi ein canllawiau ar amrywiaeth a chynhwysiant ar gyfer pleidiau gwleidyddol yng Nghymru, sy’n annog pleidiau gwleidyddol i ddatblygu a chyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant, gan amlinellu sut y maen nhw’n bwriadu helpu i gynyddu cynrychiolaeth grwpiau penodol yn etholiadau Cymru. Byddem yn annog pleidiau gwleidyddol i weithio gyda’r sefydliadau sy’n cael eu hariannu o dan y cynllun grant hwn wrth iddynt gymryd camau i weithredu canllawiau Llywodraeth Cymru ar amrywiaeth a chynhwysiant.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella amrywiaeth ym mhob agwedd ar fywyd cyhoeddus, a hyrwyddo hawliau a chanlyniadau i bobl sydd heb gynrychiolaeth ddigonol ar hyn o bryd yn y Senedd ac mewn llywodraeth leol yng Nghymru. Mae’r Cynllun Grant Peilot Amrywiaeth Ymgeiswyr yn rhoi cyfle inni weithio gyda sefydliadau sydd mewn sefyllfa dda i ymgysylltu â phobl mewn ffyrdd arloesol i gefnogi ymgeiswyr uchelgeisiol o grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn ein sefydliadau democrataidd ar hyn o bryd, a dileu’r rhwystrau sy’n eu hwynebu. Rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda Elect Her, Race Equality First a Shout Out UK ac i ddysgu rhagor am sut y gall y gwasanaethau hyn helpu i wneud ein sefydliadau democrataidd yn fwy cynrychioliadol o’r bobl y maen nhw’n eu gwasanaethu.