Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Mae gan bawb yng Nghymru ei 'gynefin' - lle mae hunaniaeth a pherthyn yn bwysig, boed ar y tir neu ar y môr. Mae gwytnwch y lleoedd hyn, a'r cymunedau sy'n gysylltiedig â nhw, yn dibynnu ar wytnwch yr ecosystemau sy'n eu cynnal. Dyna pam mae'n rhaid i ni amddiffyn y lle sydd ei angen ar ecosystemau i fagu gwytnwch.
Rwy'n falch o fod wedi cael cyhoeddi ein Fframwaith 30x30 i Gymru yn ddiweddar, a ddatblygwyd mewn cydweithrediad â rhanddeiliaid. Mae'r fframwaith yn disgrifio sut ydym am ddiogelu 30% o'n tir, dŵr croyw a'n moroedd dros bobl a natur erbyn 2030 ac mae'n cynnig meini prawf clir, cyson ar gyfer yr ardaloedd a fydd yn cyfrannu ato.
Er mwyn cyfrif tuag at y targed 30x30, rhaid i ardaloedd sicrhau canlyniadau gwirioneddol, parhaol dros natur a phobl. Mae hyn yn cynnwys cynnal y fioamrywiaeth lawn, gan gefnogi cynefinoedd, rhywogaethau a phrosesau ecosystemau allweddol, a chreu rhwydwaith cysylltiedig, gwydn sy'n caniatáu i natur adfer a ffynnu. Rhaid eu rheoli mewn ffordd hyblyg ac yn unol â'r dystiolaeth. Rhaid gwneud penderfyniadau cynhwysol, teg, tryloyw, sy'n cyfrannu at reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy. Mae sicrhau amddiffyniad parhaol, boed trwy gytundebau cyfreithiol, neu ddulliau amgen fel cynlluniau rheoli gweithredol hirdymor, yn hanfodol i sicrhau buddion parhaol i genedlaethau'r dyfodol.
Ymhlith yr ardaloedd sy'n cyfrif tuag at 30x30 yw ein Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig, cyn belled â’u bod mewn cyflwr ffafriol neu'n gwella, ac ardaloedd yn ein Parciau a'n Tirweddau Cenedlaethol sy'n cael eu rheoli'n effeithiol er lles natur. Rydym hefyd yn chwilio am ardaloedd gwirfoddol sy'n sicrhau manteision tebyg i fioamrywiaeth nad ydyn nhw'n ddynodiadau traddodiadol, a’u grymuso. Yr enw rhyngwladol arnyn nhw yw "Mesurau Cadwraeth Effeithiol Eraill ar Sail Ardal". Maen nhw'n ffordd newydd o ddiogelu natur ac o gydnabod stiwardiaeth eithriadol, heb ychwanegu at y baich rheoleiddio – dyma weithredu "o'r gwaelod i fyny" nid "o'r top i lawr". Edrychaf ymlaen at weithio ar y cyd â rhanddeiliaid iddyn nhw allu cyfrannu at 30x30.
Yn y tymor hwn o'r Senedd, rydym wedi buddsoddi dros 150 miliwn yn ein tir, ein dŵr croyw a'n moroedd, i helpu 30x30.
Rydym wedi cryfhau'r mesurau i warchod ein hamgylchedd morol trwy gynlluniau strategol, cyllid wedi'i dargedu, a chryfhau cymunedau. Ar ben hynny, mae'r Cynllun Grant Rheoli Rhwydwaith Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn parhau i helpu prosiectau i reoli gwasgfeydd yn well, gwella cyflwr safleoedd a magu gwytnwch i wynebu’r dyfodol. Mae'r help hwnnw'n cynnwys cyllid i Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru i ddatblygu Cynllun Gweithredu'r Rhwydwaith Morfeydd Heli, i adfer morfeydd heli ledled Cymru. Enghraift arall o gyllid Llywodraeth Cymru yn cefnogi gweithredu ar y cyd yw’r £100,000 ychwanegol a ddyfarnwyd i Rwydwaith Morwellt Cymru i helpu i ddatblygu Cynllun Gweithredu Cenedlaethol ar gyfer Morwellt (NSAP). Mae’r Cynllun yn atal colli morwellt ac adfer 266 hectar erbyn 2030.
Er mwyn sicrhau bod yr ymdrechion hyn yn cael eu cynnal ac yn tyfu dros amser, rydym yn buddsoddi yn y seilwaith a'r partneriaethau sydd eu hangen arnyn nhw dros y tymor hir. Rydym wedi ariannu Rheolwr Datblygu Cronfa MARINE i ddod o hyd i gyllid cymysg a phreifat ar gyfer prosiectau adfer morol. Bydd y Gronfa Her Cydlynydd Arfordirol, pan ddaw, yn rhoi rhagor o help i drafod â chymunedau arfordirol a'u hannog i gymryd rhan, gan sicrhau mai'r bobl sy'n byw ac yn gweithio wrth y môr sy'n llunio 30x30. Yn gynharach eleni, fe wnaethom gefnogi lansiad 'Y Môr a Ni', fframwaith llythrennedd cefnforol Cymru – yr ail o'i fath yn y byd.
Mae cynlluniau morol yn esblygu i gefnogi bioamrywiaeth a gwytnwch ecosystemau yn well. Fe wnaethon ni gyhoeddi'n ddiweddar asesiad gofodol newydd o foroedd Cymru, sy'n dod â'r dystiolaeth orau sydd ar gael ynghyd i fwydo cynlluniau morol. Bydd hyn yn ein helpu i ddeall adnoddau naturiol y môr yn well, i weld y gwrthdaro a'r synergeddau posibl rhwng sectorau morol allweddol ac yn asesu eu heffaith ar Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Ar yr un pryd, rydym yn cynnal astudiaeth i archwilio sut y gall datblygiadau morol ddod â 'budd net i'r môr' – i sicrhau bod datblygiadau newydd yn cyfrannu'n gadarnhaol at fioamrywiaeth forol.
Ar y tir, rydym yn cefnogi gweithredu ar raddfa tirwedd sy'n magu gwytnwch ecosystemau. Mae bron i £1 miliwn wedi'i ddyfarnu i bartneriaethau dan arweiniad ffermwyr drwy'r Cynllun Adnoddau Naturiol Integredig i ddatblygu gweithgareddau arloesol ar raddfa'r dirwedd, gan gynnwys cysylltu safleoedd gwarchodedig â'i gilydd a gwella'u cyflwr. Ers 2022, mae £11.7 miliwn wedi'i fuddsoddi yn ein Tirweddau Dynodedig drwy'r gronfa Tirweddau Cynaliadwy, Lleoedd Cynaliadwy sy'n adfer cynefinoedd, o fawnogydd i ddolydd. Eleni, rydym yn buddsoddi £1.8 miliwn yn y cynllun newydd, Ffermio Bro i helpu ffermwyr i ddatblygu prosiectau cydweithredol sy'n gyfeillgar i natur.
Mae'r buddsoddiadau hyn yn dangos ein hymrwymiad i sicrhau canlyniadau ystyrlon, tymor hir er lles pobl a natur. Fel y dywedwn yn ein fframwaith, i sicrhau bod 30% o'n tir, dŵr croyw a moroedd yn cael eu diogelu a’u rheoli’n effeithiol, rhaid iddo ddigwydd o dan arweiniad pobl - er lles cenedlaethau heddiw ac yfory. Dwi'n disgwyl ymlaen at weithio gydag Aelodau a phartneriaid i wireddu'r uchelgais cytûn hwn: 30x30 sy'n cael ei adeiladu gan bobl Cymru er lles pobl Cymru.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
