Jane Hutt AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip
Mae bod yn hyderus yn ddigidol yn hanfodol yn y gymdeithas sydd ohoni heddiw. Boed hynny i gael mynediad at gyflogaeth, iechyd a gofal, gwasanaethau cyhoeddus, gwasanaethau ariannol neu i gynnal cysylltiadau â ffrindiau a theulu. Mae hyn yn peri mwy o risg o brofi annhegwch i'r bobl hynny sydd heb hyder digidol.
Mae Cynhwysiant Digidol Cymru, dull newydd Llywodraeth Cymru i ymdrin â chynhwysiant digidol, a lansiwyd ym mis Mai 2025, yn cynnwys dwy elfen. Rhaglen genedlaethol wedi'i chaffael, sy'n cael ei darparu gan Cwmpas, yn cynnig gwasanaeth cyngor a chymorth dwyieithog wedi'i gydlynu yn genedlaethol i gryfhau cynhwysiant digidol ledled Cymru. Cyllid amlflwyddyn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer prosiectau grant a ddatblygir ac a ddarperir yn lleol. Mae'r ddwy elfen yn cael eu rheoli a'u hariannu gan Lywodraeth Cymru.
Dangosodd adborth o'r gweithgarwch ymgysylltu â rhanddeiliaid wrth ddylunio'r rhaglen cynhwysiant digidol newydd ar gyfer Cymru fod bwlch mewn prosiectau a ddatblygir ac a gyflawnir yn lleol, wedi'u teilwra i ddiwallu anghenion lleol. Mae'r grant amlflwyddyn newydd hwn wedi'i gynllunio i lenwi'r bwlch hwn trwy gefnogi prosiectau sy'n helpu pobl i oresgyn rhwystrau rhag defnyddio technoleg a gwasanaethau digidol.
Nod y grant hwn yw sicrhau bod pawb yng Nghymru yn gallu cael mynediad at dechnoleg ddigidol ac elwa arni, os ydynt yn dewis gwneud hynny. Wrth wneud hynny, byddwn yn hyrwyddo ein huchelgais i bawb yng Nghymru fodloni'r safon ofynnol ar gyfer bywyd digidol, a fydd yn ei dro yn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei adael ar ôl mewn byd cynyddol ddigidol.
Mae'n bleser gennyf roi gwybod i'r aelodau fod Grant Cynhwysiant Digidol Cymru wedi'i lansio'n swyddogol ar llyw.cymru ddydd Llun 17 Tachwedd 2025.
Mae dwy elfen wahanol i’r Grant:-
- Grant Craidd yn darparu hyd at dair blynedd o gymorth ar gyfer prosiectau a ddatblygir ac a gyflawnir yn lleol, gan helpu sefydliadau i ymgorffori cynhwysiant digidol mewn bywyd bob dydd. Bydd tua £390,000 ar gael ym mhob blwyddyn ariannol, gyda dyfarniadau arferol o tua £43,500;
- Grant Arloesi yn ariannu prosiectau tymor byr sy'n profi dulliau newydd a chreadigol o gefnogi pobl sy'n defnyddio technoleg ddigidol. Gyda chyfanswm o £60,000 ar gael y flwyddyn, rhagwelir y bydd y dyfarniadau oddeutu £15,000 yr un. Bydd y prosiectau hyn yn cael eu cynnal am hyd at ddeuddeg mis.
Mae'r Grant yn agored i bob sector, gan gynnwys grwpiau cymunedol, mentrau cymdeithasol, sefydliadau'r trydydd sector, grwpiau ffydd, a chyrff cyhoeddus a phreifat.
Er mwyn sicrhau effaith barhaol a gwelliant parhaus, bydd yn ofynnol i bob prosiect a ariennir drwy'r Grant nodi gwersi a ddysgwyd a chanlyniadau trwy astudiaethau achos manwl. Bydd yr astudiaethau achos hyn yn tynnu sylw at ddulliau effeithiol, heriau sydd wedi'u goresgyn, a'r ffyrdd y mae cynhwysiant digidol wedi'i ymgorffori drwy gyflawni prosiectau, gan gefnogi hirhoedledd a chynaliadwyedd cynhwysiant digidol ledled Cymru. Byddant ar gael ar llyw.cymru.
Bydd y cyfnod ymgeisio yn dod i ben ar 9 Chwefror 2026, gyda phrosiectau llwyddiannus yn dechrau o 1 Ebrill 2026.
I gael rhagor o wybodaeth ac i wneud cais am Grant Cynhwysiant Digidol Cymru, ewch i Cynhwysiant Digidol Cymru (grant).
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, anfonwch e-bost i DigitalInclusionMailbox@llyw.cymru.
