Neidio i'r prif gynnwy

Jeremy Miles AS, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Gorffennaf 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae mynd i'r afael â llwyth gwaith staff a lleihau biwrocratiaeth yn un o flaenoriaethau allweddol Cenhadaeth Ein Cenedl. Er mwyn cyflawni hyn, cynhaliwyd trafodaethau dros y misoedd diwethaf ag arweinwyr addysg ac undebau athrawon, awdurdodau lleol, partneriaethau rhanbarthol, Estyn a rhanddeiliaid allweddol eraill. Rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol, sydd wedi'i grynhoi isod:

Asesiad o’r effaith ar lwyth gwaith

Bydd yr asesiad hwn yn flaenllaw o ran datblygu polisïau Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd yn sicrhau ystyriaeth briodol o oblygiadau llwyth gwaith a’r angen i ymrwymo’r undebau yn gynnar yn y broses o lunio polisïau. Mae rhaglen ddysgu broffesiynol ar gyfer gwneuthurwyr polisi wedi'i chynllunio a bydd honno’n dechrau ym mis Medi. Rydym hefyd yn datblygu offeryn digidol sydd wedi'i gynllunio i gasglu tystiolaeth gan benaethiaid yn seiliedig ar gwestiynau am beth sy'n creu llwyth gwaith. Bydd yr wybodaeth honno’n sail i fireinio'r trefniadau presennol, a bydd hefyd yn cefnogi'r broses o asesu’r effaith ar lwyth gwaith. Bydd yr offeryn digidol yn barod i’w ddefnyddio yn ystod tymor yr hydref. 

Adrodd ac ymgysylltu

Rydym yn bwrw ymlaen ag adolygiad polisi trylwyr o'r rheoliadau â gofynion adrodd sy'n effeithio ar ysgolion, er mwyn sicrhau eu bod yn cyd-fynd â disgwyliadau polisi'r Gweinidog a'u bod mor syml a chydgysylltiedig â phosibl. Mae yna hefyd ystod o ofynion adrodd anstatudol drwy Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol a Chonsortia a Phartneriaethau rhanbarthol. Byddwn yn datblygu proses adrodd fwy cydlynol a syml er mwyn lleihau’r baich, yn seiliedig ar ganllawiau gwella ysgolion.

Byddwn yn sefydlu fforwm cenedlaethol a gadeirir gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod ysgolion yn cael eu cefnogi'n briodol. Bydd ei rôl yn cynnwys sicrhau bod diben pob trafodaeth â phenaethiaid yn glir, ac i feithrin cydweithio pwrpasol i wella safonau gyda'n gilydd.

Yn ogystal, mae Estyn wedi cyfarfod â'r undebau, awdurdodau lleol a Chonsortia a Phartneriaethau rhanbarthol ac wedi cytuno ar y meysydd canlynol ar gyfer gwaith pellach:

  • Adolygu'r wybodaeth y mae Estyn yn ei gwneud yn ofynnol i ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion ei chyflwyno cyn arolygiad.
  • Ymgyrch gyfathrebu ar y cyd i sicrhau bod ysgolion ac Unedau Cyfeirio Disgyblion yn glir ynghylch y gofynion.
  • Dull mwy cyson o gefnogi ysgolion ar ôl arolygiad, yn enwedig os ydynt yn mynd i gategori statudol. Bydd hyn yn cynnwys sicrhau cysylltiad agosach rhwng cynllun gweithredu ôl-arolygiad yr ysgol a datganiad gweithredu'r awdurdod lleol.
Amodau gwasanaeth

Rydym wedi cytuno y bydd amodau gwasanaeth arweinwyr yn rhan o Gylch Gwaith Corff Adolygu Cyflogau Annibynnol Cymru ar gyfer 2024/25. Mae undebau athrawon hefyd wedi cytuno i gynnwys rhestr o dasgau gweinyddol a chlerigol yn Nogfen Cyflog ac Amodau Athrawon Ysgol (Cymru) 2023.

Datblygiad proffesiynol

Yn flaenorol rwyf wedi cyhoeddi bod diwrnod HMS ychwanegol wedi ei gyflwyno i’r flwyddyn academaidd bresennol a’r ddwy nesaf er mwyn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru, y diwygiadau ADY a Thegwch mewn Addysg. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn parhau i ddatblygu a gwella mynediad teg i ddysgu proffesiynol yn unol â’r Hawl Genedlaethol. Byddaf yn cyhoeddi yn fuan sut y byddwn yn sicrhau ansawdd dysgu proffesiynol yn y system, a ddylai fireinio a gwella’r cynnig yn gyffredinol. Rydym hefyd wedi gweithio gydag ymarferwyr ac undebau’r gweithlu addysg i adolygu’r canllawiau ar gyfer rheoli perfformiad er mwyn sicrhau bod hon yn broses ystyrlon sy’n helpu ymarferwyr i ddatblygu eu hunain yn barhaus fel dysgwyr proffesiynol ymroddedig.

Anghenion dysgu ychwanegol (ADY)

Rwyf eisoes wedi cymryd camau gweithredu, mewn ymateb i bwysau llwyth gwaith, drwy gyhoeddi yn flaenorol gyllid ychwanegol i ysgolion ac ymestyn y cyfnod ar gyfer gweithredu’r system ADY o dair blynedd i bedair blynedd. Rwyf wedi dyblu bron y cyllid i bartneriaid addysg i weithredu’r system ADY, gan fuddsoddi £12m yn 23-24 a 24-25 er mwyn rhoi hwb i’r adnoddau sydd eu hangen i ymgorffori’r diwygiadau i’r system ADY yn llwyddiannus. Rydym hefyd wedi ysgrifennu at benaethiaid i ailadrodd mai dibenion y £10.4m sydd ar gael i ysgolion yw rhyddhau neu ôl-lenwi amser Cydlynwyr ADY, hyrwyddo cynllunio ysgol gyfan ac ymgorffori ADY mewn blaenoriaethau gwella ysgolion.

Rydym yn ymwybodol o bryderon ynghylch llwyth gwaith cynyddol Cydlynwyr ADY a’r angen i ysgolion sicrhau bod gan y Cydlynwyr ADY ddigon o gefnogaeth fel nad ydynt yn dod yn ynysig nac yn cael eu llethu gan lwythi achosion. Mae’r Cod ADY yn ei gwneud yn glir nad yw dynodi Cydlynydd ADY yn dileu cyfrifoldebau’r gweithlu ehangach. Mae grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer Cydlynwyr ADY ar y gweill, sy’n cynnwys ymarferwyr a chynrychiolwyr undebau llafur. Bydd yn adolygu ac yn darparu argymhellion ynghylch cyflog ac amser digyswllt Cydlynwyr ADY erbyn fis Rhagfyr 2023.

Byddwn yn parhau i weithio gyda’r undebau i gasglu tystiolaeth ar faterion o ran y gweithlu mewn perthynas ag ADY, ac yn ymateb yn unol â hynny er mwyn helpu i leddfu pwysau llwyth gwaith a diogelu ansawdd y ddarpariaeth i ddiwallu anghenion dysgwyr.

Ariannu ysgolion

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaethau rhanbarthol i symleiddio’r adroddiadau am gyllid grant ac adroddiadau alldro eraill, fel bod cymaint â phosibl yn cael ei gynnwys mewn un adroddiad. Yn y flwyddyn ariannol hon rydym eisoes wedi lleihau'r gofyniad i gyflwyno adroddiad ar draws wyth o’r grantiau sydd ar gael. Mae gwaith hefyd ar y gweill i adolygu'r Grant Gwella Addysg a'r Grant Datblygu Disgyblion, gyda'r bwriad o symleiddio'r broses uniongyrchol o awdurdodi cyllid i ysgolion. Rydym yn parhau i roi argymhellion yr Adolygiad o Wariant Ysgolion yng Nghymru ar waith, gan gynnwys ystyried fformiwlâu cyllido ysgolion awdurdodau lleol a'r Rheoliadau Cyllido Ysgolion. Bwriedir i’r gwaith hwnnw sicrhau mwy o hyblygrwydd a fydd yn caniatáu i awdurdodau lleol gefnogi ysgolion yn well i reoli eu cyllidebau, gan sicrhau mwy o dryloywder, cyfatebolrwydd a chysondeb o ran y system.

Gwella ysgolion: rôl a chyfrifoldebau partneriaid addysg

Yr wythnos hon, cyhoeddais adolygiad o rôl a chyfrifoldebau partneriaid addysg.  Bydd hyn yn ein helpu i ystyried mewn ffordd gyfunol, amserol a thryloyw yr hyn sydd ei angen ar y system wrth i ni edrych tua'r dyfodol, ac yn rhoi cyfle i ni greu gofod ar gyfer cydweithio at bwrpas penodol mewn ffordd gadarnhaol a chefnogol, drwy leihau biwrocratiaeth ddiangen.

Ymrwymiad parhaus

Er bod llawer wedi'i gyflawni eisoes, byddwn yn parhau i gwrdd â rhanddeiliaid, gan barhau â'n trafodaethau adeiladol, a gweithio mewn partneriaeth i sicrhau newid gwirioneddol. Byddwn yn ailstrwythuro ac yn ailffocysu’r Grŵp Rheoli Llwyth Gwaith a Lleihau Biwrocratiaeth yn yr hydref i roi rôl fwy strategol iddo, a byddaf yn gwneud datganiad pellach ynghylch y cynnydd yn yr hydref.