Neidio i'r prif gynnwy

Hannah Blythyn AS, y Dirprwy Weinidog Partneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf:

Yn ystod Mis Balchder eleni, rydym eisiau talu teyrnged i eiriolwyr a gweithredwyr sydd wedi helpu i adeiladu mudiad cryf ac unedig dros yr hanner can mlynedd diwethaf. Mae ymdrechion yr arloeswyr a wnaeth arwain y ffordd wedi sicrhau bod cydraddoldeb i bobl LHDTC+ wedi symud ymlaen yn aruthrol. Rydym yn cofio ac yn cydnabod y cenedlaethau o bobl LHDTC+ sydd wedi ymladd fel unigolion, ac fel un grŵp cadarn, i ni gael bod, i ni gael byw, ac i ni gael caru fel ni ein hunain. 

Mae’r mis hwn hefyd yn ein hatgoffa bod llawer o waith i’w wneud eto. Mae’r angen am Fis Balchder a Digwyddiadau Balchder yn parhau, a hynny er mwyn diogelu hawliau LHDTC+ a symud y gwaith ymlaen, yn enwedig wrth i garfannau ymosod ar ein hawliau yma a ledled y byd. Er gwaethaf hyn, mae cymunedau LHDTC+ yng Nghymru yn parhau’n gryf, yn gadarn ac yn gwbl falch.

Mae’r llywodraeth hon yn falch o sefyll ochr yn ochr â chymunedau LHDTC+ yn yr ymdrech  dros ryddid a chydraddoldeb – heddiw, fory, drennydd. Bydd y Prif Weinidog, Mark Drakeford a minnau yn mynd i Pride Cymru yng Nghaerdydd y penwythnos hwn i ddathlu pobl LHDTC+ yng Nghymru, ac i orymdeithio a chefnogi’r rheini sydd yn parhau i frwydro dros gynnydd. Nid yw cynnydd i’w gymryd yn ganiataol, ac ni allwn orffwys ar ein rhwyfau.

Rydyn ni'n gwybod bod ariannu sefydliadau Balchder lleol yn werth chweil, a’r gwahaniaeth y maent yn ei wneud i gymunedau LHDTC+ ledled y wlad - mae hynny’n rhywbeth rydw i wedi'i weld a'i deimlo drosof fy hun. Rwy'n falch ein bod wedi ehangu ein Cronfa Balchder Llawr Gwlad i alluogi mwy o gymunedau i ddod at ei gilydd a bod yn nhw’u hunain.

Bydd hyn yn adeiladu ar y gefnogaeth rydym eisoes wedi'i chynnig i lawer o ddigwyddiadau Balchder ledled Cymru, gan gynnwys Balchder y Bari, Balchder y Bont-faen, Grŵp Balchder Glitter Pride, Balchder yn y Porthladd (Casnewydd), Balchder Abertawe, Balchder Bae Colwyn, Balchder y Fenni a  Balchder y Gelli. Rydym hefyd yn parhau i gefnogi Balchder Gogledd Cymru, a gynhaliwyd ym Mangor y llynedd ac eleni bydd yn cael ei gynnal yng Nghaernarfon.

Ers cyhoeddi ein Cynllun Gweithredu LHDTC+ i Gymru, rydym wedi canolbwyntio ein hymdrechion ar roi'r cynllun ar waith. Yr wythnos hon, rydym wedi cyhoeddi ein Traciwr Cynllun Gweithredu LHDTC+, fel y gall unrhyw un yng Nghymru fonitro diweddariadau a chynnydd ar bob cam gweithredu yn y Cynllun, yn ogystal â chael mynediad at wasanaethau cymorth ac adnoddau megis ein bwletin newydd i randdeiliaid y Cynllun Gweithredu LHDTC+. Rydym hefyd yn gweithio i lunio fframwaith i asesu effaith y Cynllun Gweithredu LHDTC+ ac rydym wedi sefydlu'r Grŵp Atebolrwydd Mewnol LHDTC+ i sicrhau ein bod yn adeiladu dull cydlynol ar draws meysydd polisi.

Ym mis Ebrill, cynhaliwyd cyfarfod â’r Cenhedloedd Unedig a’u Harbenigwr Annibynnol ar Gyfeiriadedd Rhywiol a Hunaniaeth Rhywedd. Cydnabuwyd Cynllun Gweithredu LHDTC+ Cymru yn y datganiad diwedd cenhadaeth fel ‘an example of good practice in human rights policymaking’. Wrth i ni fwrw ymlaen i weithredu’r Cynllun hwn, rhaid cofio ein bod ni, yma yng Nghymru, yn sefyll yn gadarn dros undod a chynhwysiant ac yn chwyrn yn erbyn cymdeithas ranedig sy’n allgau, ac yn credu mewn gobaith nid casineb.

Rydym eisiau creu Cymru lle mae pawb yn teimlo’n rhydd, wedi’u cefnogi ac yn ddiogel i fyw eu bywydau fel y mynnant. Dyna pam mae hawliau LHDTC+  wedi’u gwreiddio yn ein Rhaglen Lywodraethu. Gyda’n gilydd fe wnawn greu Cymru le mae pobl LHDTC+ yn cael e derbyn yn ddieithriad.