Jeremy Miles AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol
Yn dilyn fy natganiad ysgrifenedig ym mis Ionawr ynghylch dull gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella gwasanaethau canser, heddiw, rwy'n nodi rhagor o fanylion.
Mae'r Bwrdd Arweinyddiaeth Canser Cenedlaethol wedi'i sefydlu ac mae'n cyfarfod bob mis. Mae'r cyfarfodydd hyn wedi cael eu cadeirio gan Ddirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru, ond byddant bellach yn cael eu harwain gan y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol. Mae gan y bwrdd gylch gorchwyl a chynllun gwaith cytunedig, sy'n cwmpasu'r canlynol:
- Cyflawni'r camau gweithredu o dan arweiniad cenedlaethol yng Nghynllun Gwella Canser y GIG.
- Rhaglen Adfer Canser, Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
- Swyddogaethau Rhwydwaith Clinigol Strategol ar gyfer Canser, Perfformiad a Gwella GIG Cymru.
- Y camau gweithredu o ran canser sy'n deillio o adroddiad ac argymhellion y Grŵp Cynghori Gweinidogol ar Berfformiad a Chynhyrchiant y GIG.
- Y mentrau Mynd i'r Afael â Chanser ar gyfer ymchwil ac arloesi.
Bydd y cynllun gwaith yn cefnogi sefydliadau'r GIG i wella perfformiad ym maes gofal canser drwy weithredu'r llwybrau cenedlaethol a newid modelau gwasanaeth i wella cynhyrchiant; datblygu setiau data a gwasanaethau digidol i wella goruchwyliaeth o wasanaethau a thryloywder ar gyfer gwasanaethau canser; a datblygu camau gweithredu i wella profiadau cleifion.
Amlinellodd fy natganiad ysgrifenedig ar 28 Mehefin sut y bydd Cymru yn cyflwyno rhaglen sgrinio genedlaethol ar gyfer yr ysgyfaint wedi'i thargedu at y bobl hynny sy'n wynebu'r risg fwyaf o ddatblygu'r clefyd. Mae gwaith ar sefydlu'r rhaglen hon a all achub bywydau wedi dechrau. Disgwylir iddi gostio tua £13m y flwyddyn pan fydd yn gwbl weithredol.
Mae'r Datganiad Ansawdd ar gyfer Canser wedi'i ddiweddaru i fynd i'r afael â'r pryderon ynghylch eglurder y dull gweithredu a pha fetrigau sy'n cael eu defnyddio i fonitro gwasanaethau canser. Mae'r diweddariadau yn nodi'r trefniadau arwain newydd a'r trefniadau atebolrwydd presennol; yn disgrifio'r metrigau a ddefnyddir; ac yn darparu set gliriach o ddisgwyliadau i sefydliadau'r GIG eu cyflawni mewn cynlluniau lleol.
Mewn ymateb i adroddiad ac argymhellion y Grŵp Cynghori Gweinidogol, rwyf wedi derbyn yr argymhelliad i gadw'r targed ar gyfer gwasanaethau canser ar y lefel bresennol, sef 75%. Mae hyn yn golygu na fydd unrhyw newid i'r targed presennol, sef y dylai 75% o bobl gael eu rhyddhau neu ddechrau eu triniaeth ddiffiniol gyntaf o fewn 62 diwrnod i'r adeg pan gafodd eu canser ei amau.
Mae'r GIG yn gweithio'n galed iawn i wella'r perfformiad yn erbyn y targed hwn, a hynny yng nghyd-destun cynnydd mawr yn nifer yr ymchwiliadau sy'n ofynnol, cymhwysedd ehangach ar gyfer sgrinio, ac argaeledd triniaethau newydd a chymhleth.
Mae arwyddion o welliannau mewn sawl bwrdd iechyd ac ar gyfer sawl math o ganser. Ers y pwynt isel o 51.9% ym mis Ionawr 2023, mae perfformiad wedi sefydlogi ac wedi gwella'n raddol i oddeutu 60%.
Rhaid i fyrddau iechyd wneud mwy i wella perfformiad a chyrraedd y targed o 75% ar gyfer pob math o ganser a lleihau'r amrywiadau rydym yn parhau i weld rhwng mathau o ganser. Bydd gwella diagnosis a thriniaeth ar gyfer canser yn helpu i wella canlyniadau i bobl.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau am imi wneud datganiad pellach, neu ateb cwestiynau ynghylch hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
