Neidio i'r prif gynnwy

Trosolwg o ddata sy'n ymwneud â Deddf Plant (Cymru) 2020.

Mae’r datganiad hwn wedi’i ddiweddaru i gynnwys atgyfeiriadau at wasanaethau cymdeithasol.

Cafodd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) (‘y Ddeddf’) Gydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth 2020 ac ar ôl cyfnod gweithredu o 2 flynedd, daeth i rym ar 21 Mawrth 2022.

Mae adran 3 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi 2 adroddiad ar effaith y Ddeddf, a’u gosod gerbron y Senedd. Rhaid cynhyrchu’r rhain cyn gynted ag y bo’n ymarferol 3 a 5 mlynedd ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (2025 a 2027).

I gefnogi'r adroddiadau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn casglu data gan awdurdodau lleol, yr heddlu, a Gwasanaeth Erlyn y Goron i fesur yr effaith y mae'r Ddeddf yn ei chael ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi data sy'n cynnwys y cyfnod rhwng 01 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Data monitro cymorth rhiant y tu allan i'r llys: Ebrill 2024 i Fawrth 2025 , math o ffeil: XLSX, maint ffeil: 57 KB

XLSX
57 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Ymchwil Plant a Theuluoedd

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn:

0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.