Neidio i'r prif gynnwy

Cefndir

Cafodd Deddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) (y Ddeddf) Gydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth 2020 ac ar ôl cyfnod gweithredu o ddwy flynedd, daeth i rym ar 21 Mawrth 2022.

Amcan cyffredinol y ddeddfwriaeth yw helpu i ddiogelu hawliau plant drwy wahardd eu cosbi’n gorfforol, a hynny drwy ddileu amddiffyniad cosb resymol. Mae hyn yn golygu nad yw’r amddiffyniad ar gael bellach o fewn tiriogaeth Cymru i rieni na’r rhai sy’n gweithredu in loco parentis (yn gweithredu â chyfrifoldeb rhiant), fel amddiffyniad yn erbyn cyhuddiad o ymosod cyffredin ar blentyn neu guro plentyn sydd yn eu gofal.

Mae adran 3 o’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru baratoi dau adroddiad ar effaith y Ddeddf, a’u gosod gerbron y Senedd. Rhaid cynhyrchu’r rhain cyn gynted ag y bo’n ymarferol dair a phum mlynedd ar ôl i’r Ddeddf ddod i rym (2025 a 2027). 

I gefnogi'r adroddiadau hyn, mae Llywodraeth Cymru yn casglu data gan awdurdodau lleol, yr heddlu, a Gwasanaeth Erlyn y Goron i fesur yr effaith y mae'r Ddeddf yn ei chael ar wasanaethau cyhoeddus. Mae'r adroddiad hwn yn crynhoi data a gasglwyd am yr trydydd gyfnod o 12 mis ar ôl gweithredu'r Ddeddf, sy'n cynnwys y cyfnod rhwng 01 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025.

Mae’r Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu Allan i’r Llys wedi cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol ers mis Mawrth 2022. Cafodd y grant ei greu wrth baratoi ar gyfer y Ddeddf yn dod i rym. Mae’n ariannu cymorth rhianta wedi’i deilwra y gall yr heddlu atgyfeirio pobl ato fel dewis arall yn lle erlyniad, mewn achosion lle mae'r heddlu'n penderfynu ei bod hi'n briodol cynnig datrysiad y tu allan i'r llys. 

Mae'r awdurdodau lleol yn cofnodi data ynghylch nifer yr atgyfeiriadau am gymorth rhianta a geir gan yr heddlu, y cyfraddau ar gyfer yr unigolion sy’n manteisio ar y cymorth ac yn ei gwblhau a’r canlyniadau i unigolion. Hefyd, caiff data demograffig a data am geisiadau ar gyfer yr ymyrraeth drwy gyfrwng y Gymraeg eu casglu. Mae crynodeb o’r data hyn am yr trydydd flwyddyn ers i’r Ddeddf ddod i rym yn cael ei gyflwyno isod. Mae rhai unigolion wedi datgysylltu o'r gefnogaeth cyn cwblhau'r sesiynau, heb unrhyw fwriad o gwblhau yn y dyfodol. Mae hyn yn golygu y gallai nifer yr unigolion sydd wedi cwblhau'r sesiynau yn llawn neu yn rhannol fod yn llai na chyfanswm yr unigolion a ddewisodd fanteisio ar y cynnig o gymorth rhianta.

Dylid dehongli’r data yn ofalus o ystyried eu bod yn ymwneud â blwyddyn yn unig. Mae'r holl rifau sy'n ymwneud â chymorth rhianta y tu allan i'r llys yn cael eu talgrynnu i'r pump agosaf i leihau unrhyw risg o ddatgelu data. Oherwydd bod y niferoedd yn cael eu talgrynnu i'r pump agosaf, gall swm unrhyw ganrannau ddod i fwy na 100%.

Nid yw'r datganiad data hwn yn cynnwys ffigurau sy'n ymwneud ag atgyfeiriadau gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys nifer y cysylltiadau â gwasanaethau cymdeithasol a nifer yr asesiadau a gwblhawyd gan wasanaethau cymdeithasol sy'n ymwneud â chosbi plant yn gorfforol. Mae gwaith yn cael ei wneud ar hyn o bryd i asesu ansawdd y data, fel y gellir cyhoeddi adroddiad data llawn gan gynnwys data gwasanaethau cymdeithasol ar gyfer y cyfnod Ebrill 2024 i Fawrth 2025 i lywio'r adolygiad ar ôl gweithredu llawn 3 blynedd o’r Ddeddf.

Bydd datganiad data llawn, a fydd yn cynnwys data ar atgyfeiriadau at wasanaethau cymdeithasol, yn cael ei gyhoeddi yn hydref hwn.

Prif canfyddiadau: 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025

Cafodd 110 o unigolion eu hatgyfeirio am gymorth rhianta y tu allan i'r llys yn y flwyddyn adrodd hon.

Manteisiodd 100 o unigolion newydd ar y cynnig o gymorth rhianta a pharhaodd 20 o unigolion i ddefnyddio’r cymorth o'r flwyddyn adrodd flaenorol.

O'r 120 unigolion hyn, cwblhaodd 105 o unigolion y sesiynau yn llawn. Mae 15 o unigolion wedi cwblhau'r sesiynau yn rhannol a byddant yn parhau i ddefnyddio'r cymorth yn y flwyddyn adrodd ganlynol. Datgysylltodd llai na 5 unigolyn o’r gefnogaeth yn y flwyddyn adrodd hon.

Adroddodd 95 o'r unigolion a gwblhaodd y sesiynau ganlyniad cadarnhaol mewn holiadur a ddosbarthwyd ôl iddynt gwblhau’r sesiynau. Nid oes ffigurau ar gael ynghylch cyfanswm yr holiaduron a lenwyd.

Grant Cymorth Rhianta ar gyfer Datrysiadau y Tu allan i'r Llys: 1 Ebrill 2024 i 31 Mawrth 2025

Yn ystod yr trydydd flwyddyn ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym, roedd 110 o atgyfeiriadau newydd am gymorth rhianta ar gyfer datrysiadau y tu allan i'r llys ledled Cymru gan yr heddlu.

Rhwng 1 Ebrill 2024 a 31 Mawrth 2025, dewisodd 100 o unigolion newydd fanteisio ar y cynnig o gymorth rhianta. Roedd 20 wedi cwblhau'r sesiynau yn rhannol yn ystod y cyfnod adrodd blaenorol, ac wedi parhau i ddefnyddio’r cymorth rhwng mis Ebrill 2024 a mis Mawrth 2025. O'r 120 unigolion hyn, mae 105 wedi cwblhau'r sesiynau yn llawn ac mae 15 wedi cwblhau'r sesiynau yn rhannol a byddant yn parhau i ddefnyddio'r cymorth yn y flwyddyn adrodd ganlynol. Datgysylltodd llai na 5 unigolyn o’r gefnogaeth.

O'r unigolion a oedd yn defnyddio'r cymorth rhianta rhwng Ebrill 2024 a Mawrth 2025, nododd 82% o'r unigolion eu bod yn y grŵp "Gwyn" a 6% yn y grŵp "Asiaidd, Asiaidd Cymreig neu Asiaidd Prydeinig". Dywedodd llai na 5 unigolyn eu bod yn y grwpiau "Grwpiau ethnig cymysg neu lluosog", "Du, Du Cymreig, Du Prydeinig, Caribïaidd neu Affricanaidd" neu "Grŵp ethnig arall". Roedd 56% yr unigolion yn ddynion a 44% yn fenywod. Canran yr unigolion anabl oedd 5%.

Derbyniodd 10 o unigolion y sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg ar ôl dweud mai dyma oedd eu dewis. Cwblhaodd 10 o unigolion y sesiynau drwy gyfrwng y Gymraeg.

Gofynnir i'r unigolion sy'n manteisio ar y cymorth rhianta lenwi holiadur a ddosberthir gan awdurdodau lleol ar ôl iddynt gwblhau'r sesiynau. Nid oes ffigurau ar gael ynghylch cyfanswm yr holiaduron a lenwyd. Mae’r data diweddaraf yn dangos bod 95 o’r unigolion a lenwodd yr holiadur wedi adrodd canlyniad cadarnhaol. Mae canlyniad cadarnhaol yn cael ei ddiffinio fel gwelliant yn ymddygiad y plentyn, neu welliant o ran lles neu effeithiolrwydd rhieni.

Gwasanaeth Erlyn y Goron

Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru yn gallu monitro nifer yr achosion yn ymwneud â’r Ddeddf sy’n cael eu hatgyfeirio atynt, yn ogystal â faint o’r achosion hyn sy’n arwain at gyhuddiad, a beth yw canlyniadau’r achosion hyn.

Nid yw’n bosibl cyhoeddi ffigurau sy’n ymwneud ag atgyfeiriadau at Wasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru ar hyn o bryd, gan fod y nifer a gofnodwyd yn llai na phump, sy’n peri’r risg o ddatgelu gwybodaeth bersonol.

Manylion cyswllt

Awdur yr adroddiad: Dan Boon

Safbwyntiau’r ymchwilwyr ac nid o reidrwydd rhai Llywodraeth Cymru yw’r safbwyntiau a fynegir yn yr adroddiad hwn.

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch ag:

Yr Is-adran Tystiolaeth a Chefnogaeth ar gyfer Cydraddoldeb, Tlodi a Phlant
Yr Is-adran Ymchwil Gymdeithasol a Gwybodaeth
Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

E-bost: ymchwil.plantatheuluoedd@llyw.cymru 

Rhif ymchwil gymdeithasol: 88/2025
ISBN Digidol: 978-1-80633-382-0

GSR logo