Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r dadansoddiad hwn yn adrodd am ddefnydd cymdeithasol o'r Gymraeg, gan gynnwys defnydd o'r iaith mewn gwahanol grwpiau cymdeithasol a sefyllfaoedd. Mae hefyd yn adrodd ar ddefnyddio sgiliau Cymraeg y tu allan i'r gweithle neu'r ysgol, defnydd digidol o'r Gymraeg a mynychu digwyddiadau a gweithgareddau cymdeithasol Cymraeg.

Mae'r adroddiad hwn yn cyflwyno rhai canfyddiadau o Arolwg Defnydd Iaith 2019-20. Daeth yr arolwg i ben yn gynt na’r disgwyl yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae rhagor o wybodaeth am oblygiadau hyn, a’r cyfyngiadau o ran y data o ganlyniad i hynny, yn yr adran am ansawdd a methodoleg.

Rydym yn bwriadu cyhoeddi’r gweddill o ganfyddiadau’r arolwg mewn bwletinau ystadegol ar wahân, yn ôl thema, gan gyfuno data Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 lle bo’n berthnasol.

Prif bwyntiau

Oedolion

  • Siaradwyr Cymraeg y gogledd orllewin, siaradwyr Cymraeg rhugl, rhai sy'n siarad yr iaith bob dydd a’r rhai oedd wedi dechrau dysgu siarad yr iaith gartref yn blant ifanc sydd fwyaf tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg gyda’u grwpiau cymdeithasol.
  • Mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg mewn negeseuon testun ac e-bost nag ar y cyfryngau cymdeithasol.
  • Roedd tua thraean o siaradwyr Cymraeg wedi mynd i ddigwyddiad cymdeithasol neu weithgaredd a gynhaliwyd yn Gymraeg yn ystod y 12 mis blaenorol, ac roedd 23% ychwanegol wedi mynd i o leiaf un digwyddiad a gynhaliwyd drwy’r Gymraeg a'r Saesneg.

Plant a phobl ifanc

  • Dywed bron 70% o blant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg fod mwy o'u ffrindiau’n gallu siarad Cymraeg nag sy'n methu.
  • Mae plant a phobl ifanc sy'n gallu siarad Cymraeg yn fwy tebygol o wneud hynny gyda'u ffrindiau yn yr ysgol nag ydyn nhw o siarad Cymraeg â ffrindiau y tu allan i'r ysgol.
  • Mae tua dwy ran o dair o blant a phobl ifanc sy'n gallu siarad Cymraeg yn dweud eu bod yn cael digon o gyfleoedd i siarad Cymraeg y tu allan i'r ysgol.
  • Roedd pedwar o bob deg o blant a phobl ifanc sy’n gallu siarad Cymraeg wedi mynd i o leiaf un digwyddiad a gynhaliwyd drwy'r Gymraeg dros y 12 mis diwethaf, a 24% arall wedi mynd i o leiaf un digwyddiad a gynhaliwyd drwy’r Gymraeg a'r Saesneg.

Defnydd cymdeithasol oedolion o'r Gymraeg

Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, Cymraeg 2050, yn nodi'r weledigaeth ar gyfer sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.  Mae hefyd yn cynnwys y targed i ddyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg yn ystod yr un cyfnod, gan gynnwys defnyddio'r Gymraeg yn gymdeithasol ac yn y gweithle.

Gofynnwyd i’r oedolion a’r plant a’r bobl ifanc tair oed neu hŷn, a gafodd eu dewis ar gyfer yr Arolwg Defnydd Iaith am eu defnydd o'r Gymraeg mewn sefyllfaoedd cymdeithasol. Mae pob siaradwr Cymraeg yn cael eu cynnwys yn y dadansoddiad hwn, o’r rhai a oedd yn ystyried eu hunain yn rhugl, i’r rhai a nododd y gallent ddweud ychydig eiriau'n unig. Mae cysylltiad clir rhwng amlder siarad Cymraeg a rhuglder, fel y gwelir mewn dadansoddiadau blaenorol gan ddefnyddio'r data hyn. Mae'n bwysig cofio hynny wrth ddehongli'r canfyddiadau hyn.

Gallu grwpiau cymdeithasol yn y Gymraeg a’u defnydd ohoni

Er mwyn deall defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg yn well, gofynnwyd i'r ymatebwyr am allu y grwpiau o bobl y siaradent â nhw fel arfer yn y Gymraeg. Dylid cymryd i ystyriaeth mai asesiad yr ymatebwyr o allu eu grwpiau cymdeithasol yn y Gymraeg yw hyn. Gallai asesiad yr ymatebwyr fod yn wahanol i sut y byddai'r unigolion hynny'n adrodd am eu gallu eu hunain yn y Gymraeg.

Y rheswm pam yr oeddem wedi holi am allu grwpiau cymdeithasol ymatebwyr yn y Gymraeg oedd y gallai roi syniad o'u cyfleoedd i siarad Cymraeg mewn cyd-destun cymdeithasol.

Gallwn gymharu'r cyfleoedd sydd ar gael i siaradwyr Cymraeg siarad yr iaith â faint o Gymraeg y maent yn dweud eu bod yn ei defnyddio. Gallai hynny ddangos pa grwpiau sy'n gwneud defnydd o'r cyfleoedd i siarad Cymraeg, neu i'r gwrthwyneb, pa grwpiau sy'n cael mwy o gyfleoedd nad ydynt yn manteisio arnynt i siarad yr iaith.

Image
Mae'r siart bar bentyrru hwn yn dangos canran y teulu estynedig, ffrindiau a phobl yn eu cymuned sy'n gallu siarad Cymraeg. Mae canran uwch o deuluoedd estynedig siaradwyr Cymraeg yn gallu siarad Cymraeg o gymharu â’u ffrindiau a phobl yn eu cymuned.

Nodyn: Mae nifer yr ymatebwyr sydd wedi nodi nad oedd y cwestiwn hwn yn berthnasol iddynt yn fach, a dylid eu trin â gofal.

Image
Mae'r siart bar pentwr hwn yn dangos canran y teulu estynedig, ffrindiau a phobl sy'n siarad Cymraeg yn eu cymuned yn ôl yr iaith a siaredir fel arfer gyda'r grwpiau cymdeithasol hyn. Mae canran is o siaradwyr Cymraeg yn siarad Cymraeg yn bennaf neu bob amser gyda ffrindiau neu bobl yn eu cymuned o gymharu â’u teulu estynedig.

Nodyn: Mae nifer yr ymatebwyr sydd wedi nodi eu bod yn defnyddio iaith arall neu fod y cwestiwn hwn yn amherthnasol iddynt yn fach, a dylid eu trin â gofal.

Dywedodd 52% o siaradwyr Cymraeg bod o leiaf hanner eu teulu estynedig yn gallu siarad Cymraeg. Dywedodd 56% bod o leiaf hanner eu ffrindiau yn gallu siarad Cymraeg, ac roedd 53% o siaradwyr Cymraeg yn dweud bod o leiaf hanner y bobl yn eu cymuned leol yn gallu siarad Cymraeg.

O edrych ar yr iaith y siaredir fel arfer â'r grwpiau hyn o bobl, roedd 28% yn siarad Cymraeg yn bennaf neu bob amser â’u teulu estynedig. Mae hyn yn disgyn i 21% o ran siarad â ffrindiau, ac i 19% o ran siarad â phobl yn eu cymuned leol. Mae hyn yn dangos bod llai o ddefnydd yn cael ei wneud o’r cyfleoedd sydd ar gael i gymdeithasu yn y Gymraeg gyda ffrindiau ac yn y gymuned nag o’r cyfleoedd sydd ar gael mewn teulu estynedig.

Mae gweddill yr adran hon yn dangos, yn gyffredinol, bod y grwpiau hynny sy'n dweud bod cyfran uchel o'u grwpiau cymdeithasol yn gallu siarad Cymraeg hefyd yn debygol o ddweud eu bod yn siarad Cymraeg yn amlach â’r grwpiau cymdeithasol hynny.

Image
Mae'r siart bar hwn yn dangos canran grwpiau cymdeithasol siaradwyr Cymraeg lle mae o leiaf hanner yn gallu siarad Cymraeg a lle defnyddir y Gymraeg yn bennaf neu bob amser gyda'r grwpiau cymdeithasol hynny fesul rhanbarth. Mae’n dangos bod canran uwch o siaradwyr Cymraeg yng ngogledd orllewin Cymru yn adrodd bod o leiaf hanner eu grwpiau cymdeithasol yn gallu siarad Cymraeg a’u bod yn defnyddio’r Gymraeg yn bennaf neu bob amser gyda’u grwpiau cymdeithasol o gymharu â rhanbarthau eraill yng Nghymru.

Nodyn: Mae nifer yr ymatebwyr yn ne ddwyrain Cymru yn Siart 3 yn fach a dylid eu trin â gofal.

Rydym yn gwybod o'n cyhoeddiadau blaenorol, ac o ffynonellau data eraill, fod amrywiadau rhanbarthol mawr o ran canran y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, ac mae hynny'n cael ei adleisio yn y canfyddiadau hyn.

Roedd siaradwyr Cymraeg yn y gogledd orllewin yn ystadegol arwyddocaol fwy tebygol na siaradwyr Cymraeg mewn rhannau eraill o Gymru i ddweud bod o leiaf hanner nifer eu grwpiau cymdeithasol yn gallu siarad Cymraeg (77% ohonynt o ran teulu estynedig, 81% o ran ffrindiau ac 85% o ran pobl yn eu cymuned leol).

Roedd siaradwyr Cymraeg y de ddwyrain yn sylweddol llai tebygol na siaradwyr Cymraeg mewn rhannau eraill o Gymru i ddweud bod o leiaf hanner nifer eu grwpiau cymdeithasol yn gallu siarad Cymraeg (25% ohonynt o ran teulu estynedig, 31% ohonynt o ran ffrindiau, a 10% ohonynt o ran pobl yn eu cymuned leol).

Roedd patrymau tebyg i'w gweld wrth edrych ar ddefnydd o’r Gymraeg, gyda 51% o siaradwyr Cymraeg yng ngogledd orllewin Cymru yn siarad Cymraeg yn bennaf neu bob amser â’u teulu estynedig. Dywedodd 44% eu bod yn gwneud hynny â’u ffrindiau, a 46% eu bod yn gwneud hynny â phobl yn eu cymuned leol. I siaradwyr Cymraeg yn y de ddwyrain, roedd 8% yn siarad Cymraeg yn bennaf neu bob amser â’u teulu estynedig. Dywedodd 5% eu bod yn gwneud hynny â’u ffrindiau, a nifer fechan dweud eu bod yn gwneud hynny â phobl yn eu cymuned leol.

Mae siaradwyr Cymraeg rhugl, y rheini sy'n siarad Cymraeg bob dydd, a'r rheini oedd wedi dechrau dysgu siarad yr iaith gartref yn blant ifanc yn llawer mwy tebygol o ddweud bod o leiaf hanner nifer eu grwpiau cymdeithasol yn gallu siarad Cymraeg, a'u bod yn siarad Cymraeg yn bennaf neu bob amser â’u grwpiau cymdeithasol.

Image
Mae’r siart bar hwn yn dangos y ganran o grwpiau cymdeithasol siaradwyr Cymraeg lle mae o leiaf hanner yn gallu siarad Cymraeg a lle defnyddir y Gymraeg yn bennaf neu bob amser gyda’r grwpiau cymdeithasol hynny fesul grŵp oedran. Mae'n dangos bod canran uwch o siaradwyr Cymraeg 65 oed neu hŷn yn adrodd bod o leiaf hanner eu grwpiau cymdeithasol yn gallu siarad Cymraeg a'u bod yn defnyddio'r Gymraeg yn bennaf neu bob amser gyda'u grwpiau cymdeithasol o gymharu â grwpiau oedran eraill.

Mae defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg yn amrywio yn ôl oedran a grŵp cymdeithasol. Roedd siaradwyr Cymraeg 65 oed neu'n hŷn yn fwy tebygol nag unrhyw grŵp oedran arall o ddweud bod eu grwpiau cymdeithasol yn gallu siarad Cymraeg. Roedden nhw hefyd yn fwy tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg gyda'r holl grwpiau cymdeithasol yr oeddent wedi adrodd amdanynt na siaradwyr Cymraeg yn y grwpiau oedran eraill.

Dywedodd siaradwyr Cymraeg rhwng 16 a 29 oed bod eu ffrindiau'n fwy tebygol o allu siarad Cymraeg na'u teulu estynedig neu bobl yn eu cymuned leol. Ond roedd siaradwyr Cymraeg rhwng 16 a 29 oed yn llai tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg gyda'u ffrindiau na siaradwyr Cymraeg yn y grwpiau oedran eraill, o ystyried â gallu eu grwpiau cymdeithasol i siarad Cymraeg.

Roedd siaradwyr Cymraeg benywaidd ychydig yn llai tebygol na dynion o ddweud bod eu grwpiau cymdeithasol yn gallu siarad Cymraeg, a'u bod yn llai tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg o fewn eu grwpiau cymdeithasol.

Iaith y sgwrs ddiwethaf

Gofynnwyd i'r ymatebwyr ym mha iaith yr oedd eu sgwrs ddiwethaf â rhywun nad oedd yn perthyn i’w teulu. Er efallai na fyddai'r sgwrs honno o reidrwydd wedi bod mewn cyd-destun cymdeithasol (gallai, er enghraifft, fod wedi digwydd yn y gweithle, am waith), mae'n deg tybio y byddai llawer o'r rhain wedi digwydd mewn cyd-destun cymdeithasol. Mae'r atebion i'r cwestiwn hwn felly yn rhoi syniad o'r defnydd cyffredinol o'r Gymraeg yn gymdeithasol.

Yn gyffredinol, dywedodd 28% o siaradwyr Cymraeg mai yn Gymraeg oedd y  sgwrs ddiwethaf a gawsant â rhywun nad oedd perthyn i’w teulu.

Roedd y rhai a ymatebodd mai yn Gymraeg oedd eu sgwrs ddiwethaf â rhywun nad oedd yn perthyn i’w teulu, yn fwy tebygol o fod:

  • yn 65 oed neu hŷn
  • yn rhywun sy’n rhugl yn y Gymraeg
  • yn rhywun sy’n siarad Cymraeg bob dydd
  • yn rhywun a ddechreuodd ddysgu siarad Cymraeg gartref yn blentyn ifanc
  • yn byw yng ngogledd orllewin Cymru

Y defnydd o sgiliau Cymraeg y tu allan i’r gwaith

Gofynnwyd i'r ymatebwyr pa mor aml yr oedden nhw'n darllen, ysgrifennu, gwylio'r teledu, fideos neu glipiau ar-lein, ac yn gwrando ar gerddoriaeth neu radio yn Gymraeg neu'n Saesneg, y tu allan i gyd-destun gwaith.

Image
Mae’r siart bar pentyrredig hwn yn dangos canran y siaradwyr Cymraeg sy’n defnyddio sgiliau darllen, ysgrifennu, gwylio a gwrando y tu allan i’r gwaith yn Gymraeg a Saesneg yn ôl pa mor aml y maent yn defnyddio’r sgiliau hyn. Mae’n dangos bod canran uwch o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r sgiliau hyn i gyd yn Saesneg o gymharu â’u defnydd o’r sgiliau hyn yn y Gymraeg.

Nodyn: Mae nifer yr ymatebwyr a ddywedodd nad oeddent erioed wedi defnyddio’r sgiliau hyn yn Saesneg yn fach a dylid eu trin â gofal.

Mae siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o ddarllen, ysgrifennu, gwylio'r teledu neu fideos a gwrando ar gerddoriaeth neu radio yn Saesneg nag yn Gymraeg y tu allan i'r gwaith. Mae siaradwyr Cymraeg hefyd yn fwy tebygol o ddweud nad ydynt byth yn defnyddio unrhyw un o'r sgiliau hyn yn y Gymraeg y tu allan i'r gwaith nag ydynt o ddweud hynny am ddefnyddio’r sgiliau hyn yn Saesneg.

Roedd siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o wylio teledu, fideos neu glipiau ar-lein yn Gymraeg na darllen, ysgrifennu neu wrando ar gerddoriaeth neu radio yn Gymraeg. Roedd dros hanner (55%) nifer y siaradwyr Cymraeg yn adrodd eu bod yn ysgrifennu yn Gymraeg o leiaf weithiau, ac roedd tua un o bob chwech yn ysgrifennu bod dydd yn Gymraeg. Roedd hyn ychydig yn uwch na'r gyfran sy'n darllen bob dydd yn Gymraeg.

Roedd siaradwyr Cymraeg 65 oed neu hŷn yn llawer mwy tebygol o wylio neu wrando ar bethau yn Gymraeg na siaradwyr Cymraeg iau, ond dim ond ychydig yn fwy tebygol o ddarllen yn Gymraeg. Ychydig iawn o wahaniaeth oedd rhwng y grwpiau oedran o ran pa mor aml yr oedden nhw'n ysgrifennu yn y Gymraeg.

Roedd siaradwyr Cymraeg rhugl, rhai oedd yn siarad Cymraeg bob dydd a’r rhai ddechreuodd ddysgu siarad Cymraeg gartref yn blentyn ifanc yn fwy tebygol o ddarllen, ysgrifennu, gwylio a gwrando ar bethau yn Gymraeg y tu allan i'r gweithle na siaradwyr Cymraeg nad oedd yn rhugl, y rheini a oedd yn siarad yr iaith yn llai aml a’r rheini oedd wedi dechrau dysgu yn yr ysgol neu fel oedolyn.

Roedd siaradwyr Cymraeg yn y gogledd orllewin yn fwy tebygol na'r rhai mewn ardaloedd eraill yng Nghymru o ddarllen neu ysgrifennu yn Gymraeg, tra bo’r rhai yn y gogledd orllewin neu'r canolbarth yn fwy tebygol o wylio neu wrando ar bethau yn Gymraeg na siaradwyr Cymraeg mewn ardaloedd eraill yng Nghymru.

Defnydd digidol o’r Gymraeg

Gofynnwyd i'r ymatebwyr pa iaith yr oeddent fel arfer yn ei defnyddio ar gyfer anfon neges destun, e-bostio a phostio ar y cyfryngau cymdeithasol.

Image
Mae’r siart bar pentyrru hwn yn dangos canran y siaradwyr Cymraeg yn ôl yr iaith a ddefnyddir yn arferol ar gyfryngau digidol. Mae’n dangos bod canran uwch o siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg yn bennaf neu bob amser i anfon neges destun neu e-bost at ffrind Cymraeg o gymharu â’r rhai oedd yn defnyddio’r Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol.

Roedd ychydig llai na thraean o'r holl ymatebwyr yn defnyddio’r Gymraeg yn bennaf neu bob amser i anfon neges destun neu e-bost at ffrind a oedd yn gallu siarad Cymraeg.

Roedd postio ar y cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg yn llai poblogaidd, gyda 15% neu lai o'r ymatebwyr yn postio yn Gymraeg yn bennaf neu bob amser. Efallai’r rheswm am hynny, yn rhannol o leiaf, yw’r tebygolrwydd nad yw pob un o'u ffrindiau a'u dilynwyr ar y cyfryngau cymdeithasol yn gallu deall, siarad, darllen neu ysgrifennu Cymraeg.

Roedd siaradwyr Cymraeg rhugl llawer mwy tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg wrth anfon e-bost, neges destun neu ar y cyfryngau cymdeithasol na siaradwyr Cymraeg nad oedd yn rhugl.

Roedd 52% o siaradwyr Cymraeg a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd yn defnyddio Cymraeg yn bennaf neu bob amser i anfon neges destun at ffrindiau a oedd yn gallu siarad Cymraeg, o’u cymharu â 13% o'r rhai a oedd yn siarad Cymraeg bob wythnos.

Siaradwyr Cymraeg yng ngogledd orllewin Cymru oedd y mwyaf tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg i anfon negeseuon testun neu e-bost at ffrindiau Cymraeg, neu i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol yn Gymraeg.

Digwyddiadau a gweithgareddau a drefnwyd

Rhoddwyd rhestr o ddigwyddiadau a gweithgareddau i’r ymatebwyr a’u holi a oeddent wedi mynychu unrhyw rai ohonynt dros y 12 mis blaenorol, ac a oedd y digwyddiadau a’r gweithgareddau hynny’n cael eu cynnal yn Gymraeg yn unig, yn y ddwy iaith (Cymraeg ac Saesneg) neu yn Saesneg yn unig.

Dywedodd bron traean o siaradwyr Cymraeg eu bod wedi mynd i ddigwyddiad neu weithgaredd a drefnwyd ac a gafodd ei gynnal yn Gymraeg yn ystod y 12 mis blaenorol. Roedd 23% o siaradwyr Cymraeg ychwanegol wedi mynd i o leiaf un digwyddiad a gynhaliwyd drwy’r Gymraeg a'r Saesneg. Dywedodd 31% o'r siaradwyr Cymraeg eu bod ond wedi mynd i ddigwyddiadau Saesneg dros y 12 mis diwethaf, ac roedd 13% heb fynd i’r un digwyddiad na gweithgaredd dros y cyfnod hwnnw.

Image
Mae’r siart colofn hwn yn dangos canran y siaradwyr Cymraeg a fynychodd ddigwyddiadau neu weithgareddau a drefnwyd dros y 12 mis blaenorol a gynhaliwyd yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn Gymraeg neu a gynhaliwyd yn Saesneg. Mynychodd canran uwch o siaradwyr Cymraeg bob math o ddigwyddiadau neu weithgareddau a drefnwyd yn Saesneg nag yn y Gymraeg neu’r ddwy iaith, heblaw am fynychu grŵp crefyddol neu ŵyl neu eisteddfod.

Roedd siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o fod wedi mynychu gŵyl neu Eisteddfod a gynhaliwyd yn Gymraeg nag unrhyw fath arall o ddigwyddiad neu weithgaredd a gynhaliwyd yn Gymraeg, gyda 20% wedi mynychu digwyddiad o'r fath yn y 12 mis blaenorol. Dyma hefyd yr unig fath o ddigwyddiad neu weithgaredd a drefnwyd yr oedd siaradwyr Cymraeg yn fwy tebygol o fod wedi’i fynychu a gynhaliwyd yn Gymraeg nag a gynhaliwyd yn Saesneg.

Y grwpiau o siaradwyr Cymraeg a oedd fwyaf tebygol o fod wedi mynychu digwyddiad neu weithgaredd a drefnwyd a oedd wedi’i gynnal drwy gyfrwng y Gymraeg oedd:

  • siaradwyr Cymraeg gogledd orllewin Cymru
  • siaradwyr Cymraeg rhugl
  • y rheini a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd
  • y rheini a ddechreuodd ddysgu siarad Cymraeg gartref yn blentyn ifanc

Y siaradwyr Cymraeg rhwng 16 a 29 oed oedd leiaf tebygol o fod wedi mynychu digwyddiad neu weithgaredd a drefnwyd a oedd wedi’i gynnal yn Gymraeg, er bod y gwahaniaeth hwn ond yn arwyddocaol yn ystadegol o'i gymharu â siaradwyr Cymraeg 65 oed neu'n hŷn.

Y ffordd fwyaf cyffredin i bobl gael gwybod am ddigwyddiadau cymunedol a gynhaliwyd yn y Gymraeg oedd ar air rhywun arall ('drwy siarad ag eraill').

Defnydd cymdeithasol plant a phobl ifanc o’r Gymraeg

Gofynnwyd cwestiynau tebyg i blant a phobl ifanc (3 i 15 oed) am y defnydd o'r Gymraeg mewn cyd-destun cymdeithasol. Mae’n bwysig nodi ei bod hi’n bosibl mai rhiant neu warcheidwad oedd yn ateb y cwestiynau ar ran eu plant. Yn yr achosion hyn, mae’n debyg mai’r hyn a geir, felly, yw asesiad y rhieni neu’r gwarcheidwaid eu hunain, yn hytrach na’r plentyn neu’r person ifanc.

Gallu grwpiau cymdeithasol yn y Gymraeg a’u defnydd ohoni

Image
Mae'r siart cylch hwn yn dangos y ganran o ffrindiau plant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg sy'n gallu siarad Cymraeg.

Nodyn: Mae nifer fechan o ymatebwyr wedi nodi bod y cwestiwn yn amherthnasol. Nid yw’r rhain wedi eu cynnwys yn y siart.

Roedd plant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg yn fwy tebygol o ddweud bod o leiaf hanner eu ffrindiau'n gallu siarad Cymraeg (69%) o'u cymharu ag oedolion sy'n siarad Cymraeg (56%). 

Roedd plant a ddechreuodd ddysgu siarad Cymraeg yn y cartref yn llawer mwy tebygol o ddweud bod eu ffrindiau'n gallu siarad Cymraeg, gyda 94% yn dweud bod o leiaf hanner eu ffrindiau yn gallu siarad Cymraeg, o'u cymharu â 58% o'r rheini a ddechreuodd ddysgu siarad Cymraeg yn y feithrinfa neu'r ysgol.

Roedd plant a phobl ifanc sy'n siarad yr iaith bob dydd yn fwy tebygol o ddweud bod eu ffrindiau'n gallu siarad Cymraeg na'r rhai sy'n siarad Cymraeg yn llai aml.

Image
Mae’r ddau siart cylch hyn yn dangos y gwahaniaethau yng nghanran y plant a phobl ifanc sy’n siarad Cymraeg yn ôl yr iaith a siaredir fel arfer gyda’u ffrindiau yn yr ysgol a thu allan i’r ysgol. Maent yn dangos bod canran uwch o blant a phobl ifanc sy’n siarad Cymraeg yn siarad Cymraeg yn bennaf neu bob amser gyda’u ffrindiau yn yr ysgol o gymharu â thu allan i’r ysgol.

Nodyn: Mae nifer fechan o ymatebwyr wedi nodi bod y cwestiwn yn amherthnasol. Nid yw’r rhain wedi eu cynnwys yn y siart.

Gofynnwyd i blant pa iaith maen nhw'n siarad â'u ffrindiau yn yr ysgol a’r tu allan i'r ysgol. Roedd yr ymatebwyr yn llawer fwy tebygol o siarad Cymraeg â'u ffrindiau yn yr ysgol nag y tu allan i’r ysgol. Roedd dros draean o blant a phobl ifanc a oedd yn siarad Cymraeg yn defnyddio'r Gymraeg yn bennaf neu bob amser wrth siarad â ffrindiau yn yr ysgol, o'u cymharu ag 16% y tu allan i'r ysgol. Wrth gymharu defnydd plant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg y tu allan i'r ysgol â defnydd oedolion sy'n siarad Cymraeg y tu allan i’r gwaith, roedd oedolion sy’n siarad Cymraeg yn fwy tebygol o siarad Cymraeg â'u ffrindiau.

Gofynnwyd hefyd i blant a phobl ifanc am allu eu neiniau a'u teidiau a’u teulu estynedig. Yn ychwanegol at hynny, gofynnwyd iddynt am yr iaith yr oeddent fel arfer yn siarad â’u neiniau a theidiau.

Yn gyffredinol, dywedodd 41% o blant a phobl ifanc sy’n siarad Cymraeg fod o leiaf hanner eu neiniau a theidiau yn gallu siarad Cymraeg, a 35% yn dweud bod o leiaf hanner eu teulu estynedig yn gallu siarad Cymraeg. Yr ymateb mwyaf cyffredin, fodd bynnag, ar gyfer neiniau a teidiau a'r teulu estynedig, oedd nad oedd yr un neu ychydig iawn o'r rhain yn gallu siarad Cymraeg, gyda 45% yn dweud hyn am eu neiniau a’u teidiau, a 41% am eu teulu estynedig.

Dywedodd bron un o bob pump o blant a phobl ifanc sy’n siarad Cymraeg eu bod yn siarad Cymraeg yn bennaf neu bob amser â’u neiniau a'u teidiau. Eto, siaradwyr Cymraeg oedd yn siarad Cymraeg bob dydd, y rhai a oedd yn rhugl, y rhai a ddechreuodd ddysgu siarad Cymraeg yn y cartref yn blentyn ifanc, a'r rhai a oedd yn byw yng ngogledd orllewin Cymru oedd fwyaf tebygol o ddweud eu bod yn bennaf neu bob amser yn siarad Cymraeg â'u neiniau a’u teidiau.

Mae cysylltiad cryf rhwng ble y dechreuodd plentyn neu berson ifanc ddysgu siarad Cymraeg a siarad Cymraeg yn bennaf neu bob amser â neiniau a theidiau. Roedd dros hanner y plant a phobl ifanc a ddechreuodd ddysgu siarad Cymraeg yn eu cartrefi yn blant ifanc yn siarad Cymraeg yn bennaf neu bob amser â'u neiniau a’u teidiau.

Y defnydd o sgiliau Cymraeg y tu allan i’r ysgol

Gofynnwyd i blant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg a oeddent yn darllen, ysgrifennu, gwylio pethau, gwrando ar bethau, a lawrlwytho apiau neu gemau yn Gymraeg y tu allan i'r ysgol. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai o'r gweithgareddau hyn yn gysylltiedig â'r ysgol, fel darllen ac ysgrifennu ar gyfer gwaith cartref.

Y tu allan i'r ysgol, mae ychydig dros bedwar o bob deg o blant a phobl ifanc sy’n siarad Cymraeg yn darllen pethau yn Gymraeg, a bu ychydig o dan bedwar o bob deg yn ysgrifennu yn Gymraeg. Mae llai o blant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg yn gwylio pethau neu'n gwrando ar bethau yn Gymraeg, neu'n lawrlwytho apiau neu gemau yn y Gymraeg.

Roedd siaradwyr Cymraeg rhugl yn fwy tebygol na'r rheini nad oedd yn rhugl o ddefnyddio pob math o gyfryngau digidol yn y Gymraeg. Roedd yr un peth yn wir am y rhai a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd, o’u cymharu â'r rhai a oedd yn ei siarad yn llai aml na bob dydd, ac i'r rhai a oedd wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg yn eu cartref o'u cymharu â'r rhai a oedd wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg yn y feithrinfa neu'r ysgol.

Dywedodd bron dwy ran o dair o blant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg (66%) eu bod wedi cael digon o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol.

Plant a phobl ifanc a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd, y rhai a oedd yn rhugl a'r rhai hynny a oedd yn byw yng ngogledd orllewin Cymru, oedd fwyaf tebygol o ddweud eu bod wedi cael digon o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg y tu allan i'r ysgol. Roedd y rhai a oedd wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg yn y cartref yn llawer mwy tebygol o ddweud eu bod wedi cael digon o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg (dros naw o bob deg), o’u cymharu â'r rhai a oedd wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg yn y feithrinfa neu'r ysgol (ychydig dros hanner).

Defnydd digidol o’r Gymraeg

Cafodd pobl ifanc oedran ysgol uwchradd eu holi am eu defnydd o'r Gymraeg ar y cyfryngau digidol.

Image
Mae’r siart bar hwn yn dangos canran y plant a phobl ifanc sy’n siarad Cymraeg yn ôl yr iaith a ddefnyddir yn arferol ar gyfryngau digidol.

Nodyn: Mae nifer yr ymatebwyr a ymatebodd i’r cwestiwn hwn yn fach a dylid eu trin â gofal.

Yn unol â defnydd oedolion o’r Gymraeg, roedd plant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg yn fwy tebygol o ddefnyddio’r Gymraeg i anfon negeseuon testun nag i bostio ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond roedd oedolion sy'n siarad Cymraeg fwy na dwywaith yn fwy tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg i anfon neges destun at ffrindiau a oedd yn gallu siarad Cymraeg o'u cymharu â phlant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg.

Digwyddiadau a gweithgareddau a drefnwyd

Gofynnwyd i'r ymatebwyr a oeddent wedi mynd i ddigwyddiadau a gweithgareddau a drefnwyd ac a gafodd eu cynnal y tu allan i'r ysgol dros y 12 mis blaenorol, ac a oedd y digwyddiadau a’r gweithgareddau hynny’n cael eu cynnal yn Gymraeg yn unig, yn y ddwy iaith (Cymraeg ac Saesneg) neu yn Saesneg yn unig.

Image
Mae’r siart colofn hwn yn dangos canran y plant a’r bobl ifanc sy’n siarad Cymraeg a fynychodd ddigwyddiadau neu weithgareddau a drefnwyd dros y 12 mis blaenorol a gynhaliwyd yn Gymraeg, yn Saesneg ac yn Gymraeg neu a gynhaliwyd yn Saesneg. Mynychodd canran uwch o blant a phobl ifanc Cymraeg bob math o ddigwyddiadau neu weithgareddau a drefnwyd yn Saesneg nag yn y Gymraeg neu’r ddwy iaith, heblaw am fynychu gŵyl neu eisteddfod.

Nodyn: Mae nifer yr ymatebwyr a ymatebodd i’r cwestiwn hwn yn fach a dylid eu trin â gofal.

Roedd ychydig dros 40% o blant a phobl ifanc sy'n siarad Cymraeg wedi mynychu o leiaf un digwyddiad a gynhaliwyd yn y Gymraeg dros y 12 mis blaenorol, ac roedd 24% arall wedi mynychu digwyddiad a gynhaliwyd drwy’r Gymraeg a'r Saesneg. Yn unol ag arfer yr oedolion, roedd plant a phobl ifanc sy’n siarad Cymraeg yn fwy tebygol o fod wedi mynychu gŵyl neu Eisteddfod a gynhaliwyd yn y Gymraeg nag unrhyw ddigwyddiad neu weithgaredd arall a drefnwyd.

Siaradwyr Cymraeg rhugl, y rhai a oedd yn siarad Cymraeg bob dydd, a'r rheini a oedd yn byw yn y gogledd orllewin oedd fwyaf tebygol o fod wedi mynychu o leiaf un digwyddiad a gynhaliwyd yn y Gymraeg.

Y ffordd fwyaf cyffredin o bell ffordd i blant a phobl ifanc Cymraeg gael gwybod am ddigwyddiadau neu weithgareddau a drefnir ac sy’n cael eu cynnal yn Gymraeg yn eu hardal leol oedd drwy'r ysgol.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Diben yr Arolwg Defnydd Iaith yw casglu gwybodaeth ynghylch pa mor aml, ble, pryd ac â phwy y mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg, a chael gwybod mwy am eu gallu yn yr iaith. Rydym yn parhau i ystyried y cyfrifiad fel y brif ffynhonnell wybodaeth ynghylch sgiliau’r boblogaeth tair oed neu hŷn yng Nghymru yn y Gymraeg, ond mae’r arolwg hwn yn rhoi gwybodaeth inni am ddefnydd siaradwyr Cymraeg o’r iaith.

Mae Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 yn barhad o waith ymchwil a wnaed ar y cyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru yn 2013-15. Bu hefyd Arolwg Defnydd Iaith yn 2004 i 2006 (Darparwr Gwasanaeth Data'r DU), a gynhaliwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Cafodd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 ei gynnal fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru, yn yr un modd ag Arolwg Defnydd Iaith 2013-15. Yn dilyn Arolwg Defnydd Iaith 2013-15, y bwriad gwreiddiol oedd cynnal yr arolwg defnydd iaith dilynol rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mawrth 2021, sef Arolwg Defnydd Iaith 2019-21. Fodd bynnag, oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), daeth yr arolwg i ben yn gynt na’r disgwyl, ac felly cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 1 Gorffennaf 2019 a 14 Mawrth 2020, hefyd yn golygu bod ein sampl yn llai nag a fwriadwyd iddi fod. Er mwyn caniatáu’r dadansoddiadau manwl gan ddefnyddio’r sampl lai o faint sydd ar gael ar gyfer 2019-20, rydym wedi cynnwys cyfansymiau rhwng 5 a 30 yn ein dadansoddiadau. Yn sgil hynny, rydym yn nodi bod ansawdd y gwaith dadansoddi yn is os yw hynny'n briodol.

Datblygwyd yr holiaduron a ddefnyddiwyd ar gyfer arolwg 2019-20 gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgynghoriad â defnyddwyr ystadegau am y Gymraeg. Nid oedd y rhan fwyaf o’r cwestiynau wedi cael eu newid ers Arolwg Defnydd Iaith 2013-15. Fodd bynnag, cyflwynwyd rhai cwestiynau newydd, er enghraifft, ynglŷn â barn siaradwyr Cymraeg am yr iaith, a hyder siaradwyr Cymraeg wrth siarad yr iaith.

Roedd dau fath o holiadur, un ar gyfer oedolion (16 oed neu hŷn) ac un ar gyfer plant a phobl ifanc (3 i 15 oed). Cafodd yr holiadur i blant a phobl ifanc ei gwblhau gan y rhiant neu warcheidwad, neu gan y person ifanc os oedd yn dymuno cwblhau’r holiadur. Roedd modd cwblhau’r holiaduron yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ceir copïau o'r ddau holiadur ar dudalen we deunydd yr arolwg.

Cyfradd ymateb yr arolwg oedd 47%, h.y. o’r holl siaradwyr Cymraeg a gafodd eu nodi drwy Arolwg Cenedlaethol Cymru, roedd 47% o’r rheini wedi cwblhau a dychwelyd yr holiadur. Mae hyn ychydig yn uwch na’r gyfradd ymateb o 44% yn Arolwg Defnydd Iaith 2013-15.

Mae rhagor o wybodaeth dechnegol a gwybodaeth am ansawdd Arolwg Cenedlaethol Cymru ar gael ar ein gwefan.

Bydd gwybodaeth dechnegol a gwybodaeth am ansawdd Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 (gan gynnwys gwybodaeth bellach am gyfraddau derbyn, dychwelyd ac ymateb yr arolwg) yn adroddiadau Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 cyn gynted ag y byddant ar gael.

Rhanbarthau Cymru

Er mwyn gallu adrodd ar lefel ddaearyddol gyson drwy’r adroddiad hwn, rydym yn cyflwyno data ar lefel rhanbarthau. Mae’r rhanbarthau hyn yn gyson â’r rhai a ddefnyddir yn nadansoddiadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar y Gymraeg. Bydd rhywfaint o ddata o Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 ar gael ar lefel awdurdod lleol yn y tablau data fydd yn cael eu cyhoeddi maes o law.

Rhanbarthau Cymru ac awdurdodau lleol cyfansoddol y cyfeirir atynt yn yr adroddiad hwn

Gogledd orllewin Cymru
  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy
Gogledd ddwyrain Cymru
  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam
Canolbarth Cymru
  • Powys
  • Ceredigion
De orllewin Cymru
  • Sir Benfro
  • Sir Gaerfyrddin
  • Abertawe
  • Castell-nedd Port Talbot
De ddwyrain Cymru
  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Rhondda Cynon Taf
  • Merthyr Tudful
  • Caerffili
  • Blaenau Gwent
  • Torfaen
  • Sir Fynwy
  • Casnewydd

Effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19)

Oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), daeth yr arolwg i ben yn gynt na'r disgwyl a'r hyn sy'n cael ei gyflwyno yma, felly, yw canlyniadau naw mis cyntaf yr arolwg, sef Arolwg Defnydd Iaith 2019-20.

Mae mwy o fanylion am yr effaith ar y dadansoddiadau i'w gweld yn yr adran am ansawdd a methodoleg ynghylch canfyddiadau cychwynnol yr arolwg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar ganfyddiadau arolwg a oedd yn edrych ar effeithiau COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg ers dechrau cyfnod y pandemig. Gofynnwyd i grwpiau hysbys gwblhau’r arolwg, a oedd yn casglu tystiolaeth ar sut roedd y grwpiau wedi gweithredu cyn y pandemig, p’un a oedden nhw wedi gallu gweithredu ers cychwyn y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, a beth oedd eu disgwyliadau ar gyfer y dyfodol.

Cynlluniau ar gyfer y dyfodol

Hon yw’r drydedd mewn cyfres o fwletinau ystadegol yn ôl thema yn dilyn cyhoeddi canfyddiadau cychwynnol Arolwg Defnydd Iaith 2019-20 ym mis Medi 2021. Bydd bwletinau i ddilyn ar y Gymraeg yn y gweithle, defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg a defnydd o’r Gymraeg mewn perthynas â gwasanaethau. Byddwn yn cyfuno data o Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 lle bo’n berthnasol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig  wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod yr ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan fraich reoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a dadleuon cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu p’un a yw’r ystadegau hyn yn parhau i fodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei ddiddymu ar unrhyw bryd os nad ydynt yn glynu at y safonau uchaf, a gellir adennill y dyfarniad pan fo’r safonau yn cael eu hadfer.

Cynhaliwyd asesiad llawn o'r ystadegau hyn yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2016.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud gwelliannau, fel ymgynghori ymhellach â’n defnyddwyr am eu hanghenion mewn perthynas â’r defnydd o’r Gymraeg.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru, sef  Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Nid oes unrhyw ddangosydd cenedlaethol wedi ei gynnwys yn y datganiad hwn, ond diweddarwyd y dangosydd cenedlaethol am ddefnydd o’r Gymraeg, sydd yn defnyddio’r un ffynhonnell ddata, sef Arolwg Defnydd Iaith 2019-20, yn ein canlyniadau cychwynnol ar y defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Llio Owen
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SB 33/2022