Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r dadansoddiad hwn yn adrodd ar y defnydd o'r Gymraeg â gwasanaethau. Mae hefyd yn adrodd ar y gydnabyddiaeth o’r logo "Cymraeg" oren.

Mae'r canfyddiadau yn y bwletin ystadegol hwn yn seiliedig ar ddata o Arolwg Defnydd Iaith 2019 i 2020. Daeth yr arolwg i ben yn gynharach nag a gynlluniwyd ym mis Mawrth 2020 yn sgil pandemig y coronafeirws (COVID-19). Mae rhagor o wybodaeth am fethodoleg yr arolwg, a'r cyfyngiadau o ran y data o'r herwydd, ar gael yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Yn flaenorol, rydym wedi cyhoeddi canfyddiadau cychwynnol a chrynodebau pwnc ar y defnydd o'r Gymraeg yn y cartref ac mewn addysg, defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg a'r defnydd o'r Gymraeg yn y gweithle

Gofynnwyd rhai cwestiynau i blant a phobl ifanc rhwng 3 a 15 oed yn yr Arolwg Defnydd Iaith. Fodd bynnag, dim ond i bobl 16 oed neu hŷn y gofynnwyd cwestiynau am eu defnydd o'r Gymraeg â gwasanaethau.

Oni nodir yn wahanol, mae'r holl ddata yn y bwletin ystadegol hwn yn dod o Arolwg Defnydd Iaith 2019 i 2020.

Y prif bwyntiau

Cynnig gwasanaeth Cymraeg

  • Dywedodd 85% o’r siaradwyr Cymraeg eu bod wedi cael cynnig gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r awdurdod lleol.
  • Dywedodd dros hanner (56%) y siaradwyr Cymraeg eu bod wedi cael cynnig gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â meddygfa neu ysbyty.
  • Dywedodd y siaradwyr Cymraeg eu bod yn fwy tebygol o fod wedi cael cynnig gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg gan fanciau a chymdeithasau adeiladu wrth gysylltu â nhw wyneb yn wyneb, o gymharu â chysylltu â nhw dros y ffôn neu ar-lein. 

Defnyddio gwasanaeth Cymraeg

  • Dywedodd dros hanner (53%) y siaradwyr Cymraeg eu bod wedi derbyn gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r awdurdod lleol, a thros draean y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r feddygfa neu'r ysbyty. 
  • Siaradwyr Cymraeg hŷn, siaradwyr Cymraeg mwy rhugl, a siaradwyr Cymraeg a oedd wedi dechrau dysgu siarad Cymraeg gartref fel plant ifanc oedd fwyaf tebygol o adrodd eu bod wedi derbyn gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r gwasanaethau hyn. 

Y Logo Cymraeg

  • Dywedodd y rhan fwyaf o’r siaradwyr Cymraeg (71%) eu bod yn ymwybodol o'r logo "Cymraeg" oren ac yn gwybod beth y mae'n ei olygu. 

Dewis iaith

  • Dywedodd dros hanner (51%) y siaradwyr Cymraeg y byddent fel arfer yn dewis Cymraeg o leiaf i'r un graddau â'r Saesneg wrth ryngweithio â staff sy'n ei gwneud yn hysbys eu bod yn gallu siarad Cymraeg a byddai 30% ohonynt bob amser neu bron bob amser yn defnyddio'r Gymraeg. 
  • Dywedodd dros draean (36%) y siaradwyr Cymraeg y byddent fel arfer yn dewis Cymraeg o leiaf i'r un graddau â'r Saesneg mewn peiriant twll yn y wal, a dywedodd dros un rhan o bump (21%) y byddent bob amser neu bron bob amser yn defnyddio'r Gymraeg.

Iaith wedi'i chynnig ac wedi'i defnyddio â gwasanaethau

Gofynnwyd i'r ymatebwyr a gawsant gynnig gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu ag amrywiol wasanaethau, ac a oeddent wedi derbyn y gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg. Mae'r canlyniadau a gyflwynir yn yr adran hon yn eithrio siaradwyr Cymraeg nad oeddent wedi cysylltu â'r gwasanaeth perthnasol yn ystod y 12 mis blaenorol.

Ym mhob achos, roedd cyfran is o siaradwyr Cymraeg wedi derbyn gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg na'r gyfran a gafodd ei gynnig. Er hyn, ym mhob achos roedd rhai a oedd wedi derbyn gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg ond heb gael ei gynnig. 

O'r siaradwyr Cymraeg a ddywedodd eu bod wedi cysylltu â'r gwasanaethau canlynol: 

  • dywedodd 85% eu bod wedi cael cynnig gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r awdurdod lleol
  • dywedodd 56% eu bod wedi cael cynnig gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r feddygfa neu'r ysbyty
  • dywedodd 34% eu bod wedi cael cynnig gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r banc neu gymdeithas adeiladu
  • dywedodd 27% eu bod wedi cael cynnig gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r darparwr nwy, trydan neu ddŵr 
  • dywedodd 14% eu bod wedi cael cynnig gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r darparwr ffôn, rhyngrwyd neu ffôn symudol

O'r siaradwyr Cymraeg a ddywedodd eu bod wedi cysylltu â'r gwasanaethau canlynol: 

  • dywedodd 53% eu bod wedi derbyn gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r awdurdod lleol
  • dywedodd 36% eu bod wedi derbyn gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r feddygfa neu'r ysbyty
  • dywedodd 22% eu bod wedi derbyn gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r banc neu gymdeithas adeiladu
  • dywedodd 12% eu bod wedi derbyn gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r darparwr nwy, trydan neu ddŵr
  • dywedodd 7% eu bod wedi derbyn gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r darparwr ffôn, rhyngrwyd neu ffôn symudol

Yn 2019-20, gofynnodd Arolwg Cenedlaethol Cymru i siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn am eu cyswllt ag awdurdodau lleol. Wrth feddwl am y tro diwethaf iddynt siarad â rhywun yn yr awdurdod lleol, roedd 57% o’r siaradwyr Cymraeg wedi cael sgwrs yn Gymraeg.   

Ffigur 1: Adroddwyd bod yr iaith wedi'i chynnig a'i defnyddio wrth ddelio â darparwyr gwasanaethau [Nodyn 1] 

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Siart bar pentwr yn dangos bod siaradwyr Cymraeg fwyaf tebygol o adrodd bod gwasanaeth cwsmeriaid wedi'i gynnig ac wedi'i dderbyn y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r awdurdod lleol, yna'r feddygfa neu'r ysbyty, ac yn lleiaf tebygol o gael cynnig a derbyn gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r darparwr ffôn, rhyngrwyd neu ffôn symudol. 

[Nodyn 1] Nid yw'r siart hon yn cynnwys siaradwyr Cymraeg nad oeddent wedi bod mewn cysylltiad â'r darparwr gwasanaeth perthnasol yn ystod y 12 mis blaenorol. 

Pan fo’r siaradwyr Cymraeg wedi adrodd eu bod wedi cael cynnig gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg, roedd 60% wedi derbyn y gwasanaeth yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r awdurdod lleol, ac roedd 58% wedi derbyn y gwasanaeth yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r feddygfa neu'r ysbyty, a'r banc neu'r gymdeithas adeiladu. Dywedodd 36% eu bod wedi derbyn y gwasanaeth yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r darparwr ffôn, rhyngrwyd neu ffôn symudol, a dywedodd 35% eu bod wedi derbyn y gwasanaeth yn Gymraeg y tro diwethaf iddynt gysylltu â'r darparwr nwy, trydan neu ddŵr. 

Yn y rhan fwyaf o achosion, ni chafodd y ffordd y cysylltwyd â'r gwasanaeth unrhyw effaith ystadegol arwyddocaol ar yr iaith a gynigiwyd neu a dderbyniwyd, ond yn achos banciau neu gymdeithasau adeiladu, roedd y siaradwyr Cymraeg fwyaf tebygol o adrodd eu bod wedi cael cynnig ac wedi derbyn y gwasanaeth yn Gymraeg pan oeddent wedi gwneud cyswllt wyneb yn wyneb.

Gofynnodd Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019-20 i siaradwyr Cymraeg 16 oed neu hŷn a oedd wedi ymweld â banc yn ystod y saith diwrnod blaenorol pa iaith yr oeddent wedi ei siarad â staff, gan ganfod bod 36% wedi siarad Cymraeg â'r holl staff. Mae hyn yn debyg i'n canfyddiadau ni, sy'n dangos bod 33% o’r siaradwyr Cymraeg yn defnyddio'r Gymraeg wyneb yn wyneb â banciau neu gymdeithasau adeiladu. Roedd y cwestiwn yn yr Arolwg Defnydd Iaith yn ymdrin â chyfnod hirach o 12 mis, tra bod Arolwg Cenedlaethol Cymru yn ymdrin â rhyngweithiadau yn ystod y saith diwrnod blaenorol yn unig.

Ffigur 2: Canran y siaradwyr Cymraeg a adroddodd bod y Gymraeg wedi'i chynnig a'i defnyddio â banciau a chymdeithasau adeiladu, yn ôl cyfrwng cyswllt [Nodyn 1] 

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Siart far yn dangos bod 40% o’r siaradwyr Cymraeg wedi adrodd bod banciau a chymdeithasau adeiladu yn cynnig y Gymraeg mewn sgyrsiau wyneb yn wyneb â siaradwyr Cymraeg, a bod y Gymraeg wedi’i defnyddio mewn 33% o'r sgyrsiau hyn. Roedd y Gymraeg leiaf tebygol o gael ei chynnig neu ei defnyddio pan oedd siaradwyr Cymraeg wedi cysylltu â'r gwasanaeth drwy e-bost, llythyr neu ffurflen ar-lein. 

[Nodyn 1] Nid yw'r siart hon yn cynnwys y rhai nad oeddent wedi bod mewn cysylltiad â'r darparwr gwasanaeth perthnasol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. 

Ar gyfer awdurdodau lleol, meddygfeydd neu ysbytai, a banciau a chymdeithasau adeiladu, roedd siaradwyr Cymraeg yng ngogledd-orllewin Cymru yn fwy tebygol o adrodd eu bod wedi cael cynnig ac wedi derbyn gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg, o gymharu â siaradwyr Cymraeg mewn mannau eraill yng Nghymru. Nid oedd unrhyw wahaniaethau ystadegol arwyddocaol yn ôl ardal ar gyfer darparwyr nwy, trydan neu ddŵr, nac ar gyfer darparwyr ffôn a rhyngrwyd.

Mae elfen leol i'r gwasanaethau hyn, er enghraifft meddygfeydd neu ganghennau banciau lleol, a allai esbonio pam mae gwahaniaeth daearyddol i'w weld ar gyfer y gwasanaethau hyn ond nid ar gyfer darparwyr nwy, trydan neu ddŵr a darparwyr ffôn a rhyngrwyd, sy'n fwy tebygol o fod â phwynt cyswllt canolog, er enghraifft canolfannau galwadau.

Ar gyfer pob gwasanaeth, roedd siaradwyr Cymraeg hŷn, siaradwyr Cymraeg rhugl, pobl sy'n siarad Cymraeg yn ddyddiol, a phobl a ddechreuodd ddysgu siarad Cymraeg gartref fel plant ifanc i gyd yn fwyaf tebygol o fod wedi dweud iddynt dderbyn gwasanaeth cwsmeriaid yn Gymraeg. 

Y Logo Cymraeg

Image

Gofynnwyd i'r ymatebwyr a oeddent yn ymwybodol o'r logo Cymraeg oren. Dywedodd y rhan fwyaf o’r siaradwyr Cymraeg (71%) eu bod yn ymwybodol o'r logo a'i ystyr, tra dywedodd 7% eu bod wedi ei weld o'r blaen ond nad oeddent yn siŵr beth oedd ei ystyr, a dywedodd 22% nad oeddent yn ymwybodol ohono na'i ystyr. 

Siaradwyr Cymraeg rhugl oedd fwyaf ymwybodol o'r logo a'i ystyr, gydag 83% o’r siaradwyr Cymraeg rhugl yn ymwybodol o'r logo a'i ystyr, yn yr un modd ag 81% o’r siaradwyr Cymraeg a oedd yn siarad yr iaith yn ddyddiol. Roedd siaradwyr Cymraeg a ddechreuodd ddysgu siarad yr iaith yn yr ysgol yn llai ymwybodol o'r logo a'i ystyr, gyda 55% o’r siaradwyr Cymraeg a ddechreuodd ddysgu'r iaith yn yr ysgol gynradd yn ymwybodol o'r logo a'i ystyr, a 60% o'r siaradwyr Cymraeg a ddechreuodd ddysgu'r iaith yn yr ysgol uwchradd yn ymwybodol o'r logo a'i ystyr. Roedd siaradwyr Cymraeg 65 oed neu hŷn hefyd yn llai tebygol o fod yn ymwybodol o'r logo a'i ystyr o gymharu â siaradwyr Cymraeg iau, gyda 58% yn ymwybodol o'r logo a'i ystyr. 

Ffigur 3: Canran y siaradwyr Cymraeg sy'n dweud eu bod yn ymwybodol o'r logo Cymraeg yn ôl grŵp oedran

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Siart bar pentwr sy'n dangos bod siaradwyr Cymraeg 65 oed neu hŷn yn llai tebygol o fod yn ymwybodol o'r logo Cymraeg a'i ystyr na siaradwyr Cymraeg mewn grwpiau oedran eraill, ac mai siaradwyr Cymraeg 16 i 29 oed sydd fwyaf tebygol o fod wedi gweld y logo o'r blaen ond heb fod yn siŵr o'i ystyr.

Dewis iaith

Gofynnwyd i'r ymatebwyr am eu dewis iaith arferol mewn amrywiaeth o sefyllfaoedd, os oes opsiwn iaith Gymraeg ar gael. Nid yw'r canlyniadau a gyflwynir yn yr adran hon yn cynnwys siaradwyr Cymraeg a ddywedodd nad oeddent yn defnyddio'r gwasanaeth.

Dywedodd y siaradwyr Cymraeg eu bod yn fwy tebygol o ddewis defnyddio'r Gymraeg wyneb yn wyneb nag mewn sefyllfaoedd eraill. Dyma'r unig sefyllfa lle dywedodd dros hanner y siaradwyr Cymraeg y byddent fel arfer yn dewis defnyddio'r Gymraeg o leiaf i'r un graddau â'r Saesneg.

Wrth siarad â staff sy'n ei gwneud yn hysbys eu bod yn gallu siarad Cymraeg: 

  • mae 51% o’r siaradwyr Cymraeg fel arfer yn dewis Cymraeg o leiaf i'r un graddau â'r Saesneg
  • mae 30% bob amser neu bron bob amser yn dewis Cymraeg fel arfer

Wrth ddefnyddio peiriant twll yn y wal:

  • mae 36% o’r siaradwyr Cymraeg fel arfer yn dewis Cymraeg o leiaf i'r un graddau â'r Saesneg
  • mae 21% bob amser neu bron bob amser yn dewis Cymraeg fel arfer

Wrth ddefnyddio gwefannau gwasanaethau cyhoeddus: 

  • mae 25% o’r siaradwyr Cymraeg fel arfer yn dewis Cymraeg o leiaf i'r un graddau â'r Saesneg
  • mae 9% bob amser neu bron bob amser yn dewis Cymraeg fel arfer

Wrth lenwi ffurflenni swyddogol: 

  • mae 23% o’r siaradwyr Cymraeg fel arfer yn dewis Cymraeg o leiaf i'r un graddau â'r Saesneg
  • mae 10% bob amser neu bron bob amser yn defnyddio'r Gymraeg fel arfer

Wrth ddefnyddio tiliau hunanwasanaeth: 

  • mae 22% o’r siaradwyr Cymraeg fel arfer yn dewis Cymraeg o leiaf i'r un graddau â'r Saesneg
  • mae 11% bob amser neu bron bob amser yn defnyddio'r Gymraeg fel arfer 
     

Ffigur 4: Iaith a ddewisir fel arfer yn ôl y math o wasanaeth [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar pentwr sy'n dangos bod siaradwyr Cymraeg fwyaf tebygol o ddewis Cymraeg fel arfer i siarad â staff sy'n ei gwneud yn hysbys eu bod yn gallu siarad Cymraeg, ac yn lleiaf tebygol o ddefnyddio'r Gymraeg ar wefannau gwasanaeth cyhoeddus, wrth ddefnyddio tiliau hunanwasanaeth, ac i lenwi ffurflenni swyddogol, pan fo'r opsiwn i ddefnyddio'r Gymraeg ar gael.

[Nodyn 1] Mae’r siaradwyr Cymraeg a ddywedodd nad ydynt yn gwneud hyn wedi cael eu heithrio o'r siart. 

Siaradwyr Cymraeg rhugl a dyddiol, a siaradwyr Cymraeg a ddechreuodd ddysgu siarad yr iaith gartref fel plant ifanc oedd fwyaf tebygol o ddewis Cymraeg fel arfer ar gyfer yr holl fathau hyn o wasanaethau.

Mae siaradwyr Cymraeg hŷn yn fwy tebygol na siaradwyr iau o ddewis siarad Cymraeg fel arfer gyda staff sy'n ei gwneud yn hysbys eu bod yn gallu siarad Cymraeg, gyda 61% o’r siaradwyr Cymraeg 65 oed neu hŷn yn dweud eu bod fel arfer yn dewis siarad Cymraeg o leiaf i'r un graddau â'r Saesneg, o gymharu â 45% o’r siaradwyr Cymraeg rhwng 16 a 29 oed. 

Ffigur 5: Iaith a ddewisir â staff sy'n siarad Cymraeg, yn ôl oedran [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart bar pentwr yn dangos bod y tebygolrwydd o ddewis siarad Cymraeg fel arfer â staff sy'n ei gwneud yn hysbys eu bod yn gallu siarad Cymraeg yn cynyddu gydag oedran. 

[Nodyn 1] Mae’r siaradwyr Cymraeg a ddywedodd nad ydynt yn siarad â staff sy’n siarad Cymraeg wedi cael eu heithrio o'r siart. 

Mae'n bosibl y bydd siaradwyr Cymraeg yn dewis defnyddio'r Gymraeg ym mhob un o'r sefyllfaoedd a restrir sy'n berthnasol iddynt hwy, neu rai ohonynt, neu mae'n bosibl na fyddant yn dewis gwneud hynny yn yr un ohonynt. Gyda'i gilydd, dywedodd 18% o’r siaradwyr Cymraeg eu bod fel arfer yn dewis y Gymraeg o leiaf i'r un graddau â'r Saesneg ym mhob sefyllfa lle maent yn defnyddio'r gwasanaeth, tra dywedodd 46% o’r siaradwyr Cymraeg y byddent yn dewis defnyddio Saesneg neu Saesneg yn bennaf bob amser ym mhob sefyllfa lle maent yn defnyddio'r gwasanaeth. 

Siaradwyr Cymraeg hŷn a siaradwyr Cymraeg sy'n siarad yr iaith yn rhugl sydd fwyaf tebygol o ddweud y byddent fel arfer yn dewis defnyddio'r Gymraeg o leiaf i'r un graddau â'r Saesneg ar gyfer y gwasanaethau hynny, yn ogystal â siaradwyr Cymraeg sy'n siarad yr iaith yn ddyddiol, siaradwyr Cymraeg sy'n byw yng ngogledd-orllewin Cymru, a siaradwyr Cymraeg a ddechreuodd ddysgu siarad yr iaith gartref fel plant ifanc. 

Ffigur 6: Siaradwyr Cymraeg a fyddai bob amser yn defnyddio'r Gymraeg o leiaf i'r un graddau â'r Saesneg [Nodyn 1], [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Siart far yn dangos pa gyfran o siaradwyr Cymraeg ag amrywiol nodweddion fyddai fel arfer yn dewis defnyddio'r Gymraeg o leiaf i'r un graddau â'r Saesneg yn y sefyllfaoedd hyn.

[Nodyn 1] Mae rhai nodweddion wedi'u hepgor.

[Nodyn 2] Mae’r siaradwyr Cymraeg a ddywedodd nad ydynt yn ymwneud â phob un o'r sefyllfaoedd uchod wedi'u heithrio o'r siart hon. 

O ran y siaradwyr Cymraeg a ddywedodd eu bod fel arfer yn dewis Saesneg yn bennaf, bron bob amser neu bob amser mewn unrhyw un o'r sefyllfaoedd hyn, gofynnwyd iddynt egluro pam. Roedd modd iddynt ddewis mwy nag un rheswm. 

O'r siaradwyr Cymraeg sydd fel arfer yn dewis Saesneg gydag o leiaf un o'r gwasanaethau, dywedodd 52% bod yn well ganddynt ddefnyddio'r Saesneg ar gyfer y gwasanaethau hynny. Dyma'r rheswm a roddwyd amlaf gan siaradwyr Cymraeg rhwng 16 a 29 oed, a siaradwyr Cymraeg 65 oed neu hŷn. Hwn hefyd oedd y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd gan siaradwyr Cymraeg rhugl, siaradwyr Cymraeg a oedd yn siarad yr iaith yn ddyddiol, siaradwyr Cymraeg nad oeddent byth yn siarad yr iaith, a siaradwyr Cymraeg a oedd wedi dechrau dysgu siarad yr iaith gartref fel plant ifanc.

Dywedodd cyfran gyfwerth fwy neu lai o siaradwyr Cymraeg a atebodd y cwestiwn hwn (52%) eu bod yn poeni nad oedd eu Cymraeg yn ddigon da. Dyma'r rheswm a roddwyd amlaf gan siaradwyr Cymraeg rhwng 30 a 44 oed, a siaradwyr Cymraeg rhwng 45 a 64 oed. Hwn hefyd oedd y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd gan siaradwyr Cymraeg nad oeddent yn siarad yr iaith yn rhugl, siaradwyr Cymraeg a oedd yn siarad yr iaith yn wythnosol neu'n llai aml, a siaradwyr Cymraeg a oedd wedi dechrau dysgu siarad yr iaith yn y feithrinfa, yn yr ysgol, neu fel oedolion. 

O'r rhesymau eraill a ddewiswyd gan siaradwyr Cymraeg a ddywedodd y byddent yn dewis defnyddio Saesneg gydag o leiaf un o'r gwasanaethau: 

  • dywedodd 26% y gallai'r Gymraeg fod yn rhy ffurfiol neu dechnegol  
  • dywedodd 18% fod defnyddio Saesneg yn arbed gwaith i bawb
  • dywedodd 17% nad oedd y rhai a oedd gyda nhw yn siarad Cymraeg
  • roedd 4% yn poeni na fyddai'r gwasanaeth mor gyflym
  • roedd 4% wedi cael profiad gwael yn defnyddio'r Gymraeg yn y gorffennol
  • roedd gan 6% reswm arall

Ffigur 7: Rhesymau a roddwyd gan ymatebwyr dros ddefnyddio Saesneg  

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Siart far yn dangos y rhesymau a roddwyd gan siaradwyr Cymraeg dros ddefnyddio'r Saesneg, yn dangos mai’r ddau reswm mwyaf cyffredin a roddwyd yw eu bod yn poeni nad oedd eu Cymraeg yn ddigon da a bod yn well ganddynt ddefnyddio'r Saesneg ar gyfer y gwasanaethau hynny.

Cafodd yr ymatebwyr a nododd fod ganddynt resymau eraill dros ddefnyddio gwasanaethau yn Saesneg opsiwn o roi ymateb ysgrifenedig. Ymysg y rhesymau a roddwyd gan y rhai a roddodd ymateb ysgrifenedig roedd y ffaith bod eu Saesneg yn well na'u Cymraeg, neu'n iaith gyntaf iddynt, neu eu bod yn gweld y Saesneg yn haws ei defnyddio; y Gymraeg ddim ar gael, neu ddim yn cael ei chynnig fel yr opsiwn cyntaf; tafodiaith anghyfarwydd yn cael ei defnyddio (tafodiaith ogleddol neu ddeheuol); y Gymraeg a oedd ar gael heb fod yn ddigon safonol; ac arferiad.

Arolwg Cenedlaethol Cymru

Gofynnodd Arolwg Cenedlaethol Cymru yn 2019-20 i ymatebwyr 16 oed neu hŷn am yr iaith a ddefnyddir mewn banciau, tafarnau, caffis neu fwytai, siopau, swyddfeydd post, archfarchnadoedd a chydag awdurdodau lleol. Mae'r canlyniadau hyn ar gael drwy'r Dangosydd Canlyniadau. I fod yn gymwys ar gyfer y cwestiynau hyn, roedd rhaid i'r ymatebydd fod wedi ymweld â'r sefydliad perthnasol o fewn y saith diwrnod blaenorol. Felly, mae'r cwestiwn hwn yn ymdrin dim ond â chyswllt sy'n digwydd mewn sefydliad ffisegol, nid rhyngweithio sy'n digwydd ar-lein, dros y ffôn na thrwy ohebiaeth ysgrifenedig. Nododd ymatebwyr i'r Arolwg Cenedlaethol ddefnydd tebyg o'r Gymraeg gydag awdurdodau lleol a banciau i'r hyn a welir yma.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Diben yr Arolwg Defnydd Iaith yw casglu gwybodaeth ynghylch pa mor aml, ble, pryd ac â phwy y mae siaradwyr Cymraeg yn defnyddio’r Gymraeg, a chael gwybod mwy am eu gallu yn yr iaith. Rydym yn ystyried mai’r cyfrifiad yw’r brif ffynhonnell wybodaeth o hyd ynghylch gallu'r boblogaeth tair oed neu hŷn yng Nghymru yn y Gymraeg, ond mae’r arolwg hwn yn rhoi gwybodaeth inni am ddefnydd siaradwyr Cymraeg o’r iaith.

Mae Arolwg Defnydd Iaith 2019 i 2020 yn barhad o ymchwil a wnaed ar y cyd gan Gomisiynydd y Gymraeg a Llywodraeth Cymru yn 2013 i 2015. Bu Arolygon Defnydd Iaith yn 2004 i 2006 hefyd (Darparwr UK Data Service), a gynhaliwyd gan Fwrdd yr Iaith Gymraeg.

Cafodd Arolwg Defnydd Iaith 2019 i 2020 ei gynnal fel rhan o Arolwg Cenedlaethol Cymru, yn yr un modd ag Arolwg Defnydd Iaith 2013 i 2015. Y bwriad gwreiddiol oedd cynnal yr arolwg defnydd iaith dilynol rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mawrth 2021, sef Arolwg Defnydd Iaith 2019 i 2021. Fodd bynnag, oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), daeth yr arolwg i ben yn gynharach na’r disgwyl, felly cynhaliwyd y gwaith maes rhwng 1 Gorffennaf 2019 ac 14 Mawrth 2020, gan arwain at sampl lai na'r hyn a gynlluniwyd. Er mwyn caniatáu’r dadansoddiadau manwl gyda’r sampl lai sydd ar gael ar gyfer 2019 i 2020, rydym wedi cynnwys cyfansymiau rhwng 5 a 30 yn ein dadansoddiadau. Mae'r ansawdd is yn cael ei nodi pan fo hynny'n briodol.

Datblygwyd yr holiaduron a ddefnyddiwyd ar gyfer arolwg 2019 i 2020 gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ymgynghoriad â defnyddwyr ystadegau am y Gymraeg. Nid oedd y rhan fwyaf o’r cwestiynau wedi cael eu newid ers Arolwg Defnydd Iaith 2013 i 2015. Fodd bynnag, cyflwynwyd rhai cwestiynau newydd, er enghraifft, ynglŷn â barn siaradwyr Cymraeg am yr iaith, a hyder siaradwyr Cymraeg wrth siarad yr iaith.

Roedd dau fath o holiadur, un ar gyfer oedolion (16 oed neu hŷn) ac un ar gyfer plant a phobl ifanc (3 i 15 oed). Cafodd yr holiadur i blant a phobl ifanc ei gwblhau gan y rhiant neu warcheidwad, neu gan y person ifanc os oedd yn dymuno cwblhau’r holiadur. Roedd modd cwblhau’r holiaduron yn Gymraeg neu yn Saesneg. Ceir copïau o'r ddau holiadur ar dudalen we deunydd yr arolwg.

Cyfradd ymateb yr arolwg oedd 47%; o’r holl siaradwyr Cymraeg a gafodd eu hadnabod yn Arolwg Cenedlaethol Cymru, roedd 47% o’r bobl wedi cwblhau a dychwelyd yr holiadur. Mae hyn ychydig yn uwch na’r gyfradd ymateb o 44% yn Arolwg Defnydd Iaith 2013 i 2015.

Bydd gwybodaeth dechnegol a gwybodaeth am ansawdd Arolwg Defnydd Iaith 2019 i 2020 (gan gynnwys gwybodaeth bellach am gyfraddau derbyn, dychwelyd ac ymateb yr arolwg) ar gael yn adroddiad technegol Arolwg Cenedlaethol Cymru 2019 i 2020.

Rhanbarthau Cymru

Er mwyn gallu adrodd ar lefel ddaearyddol gyson drwy’r adroddiad hwn, rydym yn cyflwyno data ar lefel rhanbarthau. Mae’r rhanbarthau hyn yn gyson â’r rhai a ddefnyddir yn nadansoddiadau Arolwg Cenedlaethol Cymru ar y Gymraeg. 

Rhestrir y rhanbarthau a ddefnyddir yn yr adroddiad hwn a'u hawdurdodau lleol cyfansoddol isod:

Gogledd-orllewin Cymru

  • Ynys Môn
  • Gwynedd
  • Conwy

Gogledd-ddwyrain Cymru

  • Sir Ddinbych
  • Sir y Fflint
  • Wrecsam

Canolbarth Cymru

  • Powys
  • Ceredigion

De-orllewin Cymru

  • Sir Benfro
  • Sir Gaerfyrddin
  • Abertawe
  • Castell-nedd Port Talbot

De-ddwyrain Cymru

  • Pen-y-bont ar Ogwr
  • Bro Morgannwg
  • Caerdydd
  • Rhondda Cynon Taf
  • Merthyr Tudful
  • Caerffili
  • Blaenau Gwent
  • Torfaen
  • Sir Fynwy
  • Casnewydd

Effaith pandemig y coronafeirws (COVID-19)

Oherwydd pandemig y coronafeirws (COVID-19), daeth yr arolwg i ben yn gynharach na'r disgwyl a'r hyn a gyflwynir yma, felly, yw canlyniadau naw mis cyntaf yr arolwg, sef Arolwg Defnydd Iaith 2019 i 2020.

Mae rhagor o fanylion ynghylch yr effaith ar y dadansoddiadau i'w gweld yn yr adran ansawdd a methodoleg yng nghanfyddiadau cychwynnol yr arolwg.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi adroddiad ar ganfyddiadau arolwg a oedd yn edrych ar effeithiau COVID-19 ar grwpiau cymunedol Cymraeg ers dechrau cyfnod y pandemig. Gofynnwyd i grwpiau hysbys gwblhau’r arolwg, a oedd yn casglu tystiolaeth ar sut roedd y grwpiau wedi gweithredu cyn y pandemig, p’un a oeddent wedi gallu gweithredu ers cychwyn y cyfnod clo cyntaf ym mis Mawrth 2020, a beth oedd eu disgwyliadau ar gyfer y dyfodol.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).

Golyga statws Ystadegau Gwladol fod yr ystadegau swyddogol yn bodloni'r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai pob ystadegyn swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt ar ôl i gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU eu hasesu. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau yn cyrraedd y safonau uchaf o ran cydymffurfiaeth â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at drafodaethau a phenderfyniadau cyhoeddus. 

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw parhau i gydymffurfio â'r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os byddwn yn pryderu a yw'r ystadegau hyn yn parhau i fodloni'r safonau priodol, byddwn yn trafod unrhyw bryderon â'r Awdurdod yn ddi-oed. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei ddiddymu ar unrhyw adeg pan nad yw'r safonau uchaf yn cael eu cynnal, a'i adfer pan fodlonir y safonau eto.

Cynhaliwyd asesiad llawn o'r ystadegau hyn yn erbyn y Cod Ymarfer yn 2016 (Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig).

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud gwelliannau, fel ymgynghori ymhellach â’n defnyddwyr am eu hanghenion mewn perthynas â’r defnydd o’r Gymraeg.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn cyflwyno saith nod llesiant ar gyfer Cymru. Diben y rhain yw sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion ("dangosyddion cenedlaethol") sy’n gorfod cael eu defnyddio at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Gosodwyd y dangosyddion cenedlaethol hyn gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016. 

Nid oes unrhyw ddangosydd cenedlaethol wedi ei gynnwys yn y datganiad hwn ond diweddarwyd y dangosydd cenedlaethol am ddefnydd o’r Gymraeg, sydd yn defnyddio’r un ffynhonnell ddata, sef Arolwg Defnydd Iaith 2019 i 2020, yn ein canlyniadau cychwynnol ar y defnydd o’r Gymraeg yng Nghymru.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o’r nodau llesiant a’r wybodaeth dechnegol gysylltiedig, ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Ymhellach, gallai’r ystadegau yn y datganiad hwn gynnig naratif ategol ar gyfer y dangosyddion cenedlaethol a gallai byrddau gwasanaethau cyhoeddus eu defnyddio mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant lleol a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Patience Jones
E-bost: dataiaithgymraeg@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol