Neidio i'r prif gynnwy

Yn esbonio beth yw llywodraeth leol a sut mae'n gweithio yng Nghymru.

Cyhoeddwyd gyntaf: 20 Mehefin 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Awst 2025

Rhan 1: cyflwyniad i lywodraeth leol

Cyflwyniad

Bydd y cyflwyniad hwn i lywodraeth leol yn eich helpu i ddeall sut y mae penderfyniadau lleol sy’n effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru yn cael eu gwneud a phwy sy’n eu gwneud. Bydd yn egluro pwysigrwydd cynnwys pobl leol yn y broses hon o wneud penderfyniadau a sut y mae’r broses o wneud penderfyniadau yng Nghymru yn cyd-fynd â system gyfreithiol a gwleidyddol ehangach y Deyrnas Unedig.

Beth yw llywodraeth leol?

Mae Llywodraeth Leol yn derm a ddefnyddir i ddisgrifio rhan o’r llywodraeth sy’n rheoli ac yn gwneud penderfyniadau ar gyfer ardal leol, megis tref, dinas, sir neu fwrdeistref sirol. Mae’n darparu amryw o wasanaethau pwysig ac angenrheidiol i’r bobl sy’n byw yn yr ardal honno. Ceir dwy ran i lywodraeth leol, sef Cynghorau Sir neu Fwrdeistref Sirol, a elwir hefyd yn Brif Gynghorau a Chynghorau Cymuned a Thref.

Prif gynghorau

Mae 22 o’r cynghorau hyn. Mae pob un yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau llywodraeth leol yn ei ardal. Yn ôl y gyfraith mae ganddynt ddyletswydd gyfreithiol i ddarparu gwasanaethau gofal cymdeithasol, tai, cynllunio, sbwriel ac ailgylchu i bobl eu hardal.  

Cynghorau cymuned a thref

Mae 734 o gynghorau cymuned a thref yng Nghymru. Nid oes rhaid iddynt ddarparu unrhyw wasanaethau penodol yn ôl y gyfraith, ac nid oes gan rai ardaloedd gyngor cymuned neu gyngor tref. Ymhlith y gwasanaethau y gallent fod yn gyfrifol amdanynt mae darparu a chynnal neuaddau pentref, meysydd chwarae a mannau agored, seddi, llochesi, goleuadau stryd a llwybrau troed.

Mae pob cyngor yn cynnwys cynghorwyr. Yng Nghymru, mae llawer o gynghorwyr yn cynrychioli pobl ym mhob rhan o Gymru. Cânt eu dewis fel cynghorwyr drwy etholiadau. Pan fydd pobl yn sefyll mewn etholiad maent yn cyflwyno’u hunain i gynrychioli pobl eu hardal yn y cyngor. Gelwir y rhain yn ymgeiswyr. Mewn etholiad, bydd y cyhoedd yn dewis yr ymgeiswyr y maent am iddynt eu cynrychioli. Mae’r cyhoedd yn gwneud hyn drwy bleidleisio dros yr ymgeisydd y maent yn credu sy’n eu cynrychioli nhw a’u buddiannau orau. Mae rhai ymgeiswyr yn aelodau o bleidiau gwleidyddol. Mae ymgeiswyr eraill yn annibynnol ac nid ydynt yn cynrychioli pleidiau gwleidyddol. Nid yw rhai pobl yn cael eu cynrychioli’n ddigonol mewn llywodraeth. Mae hyn yn golygu nad oes llawer o bobl fel nhw mewn rolau etholedig, ac un nod allweddol yw newid hyn drwy hybu rhagor o amrywiaeth mewn democratiaeth leol.

Darllenwch fwy am pryd a sut mae cynghorau'n cael eu hethol.

Strwythur y Deyrnas Unedig ar gyfer deddfu

Mae llywodraeth leol yn rhan o fframwaith cyfreithiol cyffredinol yn y DU sy’n cynnwys Senedd y Deyrnas Unedig a Senedd Cymru.

Mae Senedd y DU yn cynnwys tair rhan:

  • y Goron, sy'n cyfeirio at swyddogaethau'r llywodraeth a'r rheini sy'n cael eu cyflogi i weithio i’r llywodraeth. Y gwasanaeth sifil yw’r gweithwyr hyn;
  • tŷ’r Cyffredin yw siambr gyntaf y Senedd. Mae’n cynnwys aelodau sydd wedi’u hethol gan y cyhoedd yn y DU i gynrychioli eu buddiannau a’u pryderon. Gallant gynnig deddfau newydd a chodi materion ynghylch cynigion y llywodraeth. Gelwir nhw’n aelodau seneddol neu ASau;
  • tŷ’r Arglwyddi yw ail siambr y Senedd. Caiff aelodau eu penodi gan y Llywodraeth, neu maent yn etifeddu aelodaeth drwy enedigaeth-fraint, neu maent yn dod yn aelodau oherwydd eu safle mewn cymdeithas megis deiliaid swyddi eglwysig penodol.

Prif swyddogaethau’r Senedd yw cynnal dadleuon, gwneud a newid deddfwriaeth (cyfreithiau) ac adolygu gwaith y llywodraeth i sicrhau bod y cyfreithiau a gaiff eu pasio yn deg ac yn angenrheidiol. Senedd y DU sy’n penderfynu pa gyfreithiau a rolau sy’n cael eu rhoi i Senedd Cymru i’w gweithredu yng Nghymru.

Y strwythur yng Nghymru

Cynyddodd Deddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 faint y Senedd o 60 o aelodau etholedig i 96 o aelodau. Gelwir y rhain yn aelodau o’r Senedd neu'n ASau Cymru. Bydd 6 AS o bob un o 16 o etholaethau newydd y Senedd ledled Cymru. Newidiodd y Ddeddf hefyd y system etholiadol i un sydd wedi'i seilio'n llawn ar yr egwyddor o gynrychiolaeth gyfrannol gan ddefnyddio fformiwla D'Hondt. Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym yn etholiad 2026. Mae Senedd Cymru:

  • yn gwneud deddfau newydd i Gymru yn y meysydd y mae’n gyfrifol amdanynt
  • mae’r aelodau’n siarad ar ran y bobl yn eu rhan nhw o Gymru

Mae’r aelodau’n gyfrifol am holl bobl Cymru ac yn sicrhau bod ei chymunedau’n cael eu trin yn deg o fewn y gyfraith mae'n ei llunio.

Mae’r cyfreithiau sy’n cael eu gwneud gan Senedd Cymru a Gweinidogion Cymru yn cael eu gwneud yn benodol ar gyfer Cymru.

Mae Llywodraeth Cymru yn cynnwys y Prif Weinidog, Gweinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol. Maent yn cael eu cefnogi gan weision sifil sy’n gweithio ar draws meysydd datganoledig sy’n cynnwys meysydd allweddol o fywyd cyhoeddus fel iechyd, addysg a’r amgylchedd.

Y fframwaith ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru yw Deddf Llywodraeth Leol 1972. Mae’r Ddeddf hon wedi cael ei diwygio gryn dipyn ers iddi gael ei gwneud yn wreiddiol. Cafodd ei diwygio’n sylweddol gan Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 a sefydlodd y system bresennol o brif gynghorau a chynghorau tref a chymuned.

Mae gan Weinidogion Cymru rôl oruchwylio gyffredinol yng nghyswllt llywodraeth leol yng Nghymru, a nhw sy’n pennu ac yn ariannu’r rhan fwyaf o’r setliadau refeniw a chyfalaf blynyddol ar gyfer llywodraeth leol. O dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 rhaid i Weinidogion Cymru greu cynllun sy’n dangos sut y maent yn cynnig cynnal a hyrwyddo llywodraeth leol yng Nghymru wrth arfer eu swyddogaethau.

Beth yw ystyr y term teulu llywodraeth leol?

Mae’r term teulu llywodraeth leol yn derm torfol a ddefnyddir ar gyfer y canlynol:

Awdurdodau tân ac achub

Mae tri awdurdod tân ac achub yng Nghymru:

  • Awdurdod Tân Gogledd Cymru
  • Awdurdod Tân Canolbarth a Gorllewin Cymru
  • Awdurdod Tân De Cymru

Mae pwerau a dyletswyddau'r awdurdodau tân ac achub wedi’u nodi yn Rhan 2 o Ddeddf Gwasanaethau Tân ac Achub 2004. Eu swyddogaethau craidd yw:

  • hyrwyddo diogelwch rhag tân
  • diffodd tanau
  • ymateb i ddamweiniau ffordd
  • delio ag argyfyngau eraill a nodir

Awdurdodau parc cenedlaethol

Mae tri awdurdod parc cenedlaethol yng Nghymru:

  • Bannau Brycheiniog
  • Arfordir Penfro
  • Eryri

Mae gan yr Awdurdodau Parc Cenedlaethol ddau bwrpas:

  • gwarchod a gwella harddwch naturiol, bywyd gwyllt a threftadaeth ddiwylliannol y Parciau Cenedlaethol
  • hyrwyddo cyfleoedd i’r cyhoedd ddeall a mwynhau nodweddion arbennig y parciau

Cyd-bwyllgorau corfforedig

arfer swyddogaethau sy'n ymwneud â chynllunio datblygu strategol a chynllunio trafnidiaeth ranbarthol. Maent hefyd yn gallu gwneud pethau i hyrwyddo llesiant economaidd eu hardaloedd. Mae 4 cyd-bwyllgor corfforedig:

  • Cyd-bwyllgor Corfforedig y Gogledd
  • Cyd-bwyllgor Corfforedig y Canolbarth
  • Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-ddwyrain
  • Cyd-bwyllgor Corfforedig y De-orllewin

Beth yw partneriaethau strategol a beth maent yn ei wneud?

Mae nifer o bartneriaethau strategol gydag aelodau o bob rhan o’r gwasanaethau cyhoeddus, ee prif gynghorau, byrddau iechyd lleol, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol a chynghorau tref a chymuned.

Mae enghreifftiau o bartneriaethau’n cynnwys:

  • Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol
  • Bargen Ddinesig / Bwrdd Twf/Uchelgais
  • Partneriaeth Diogelwch Cymunedol
  • Partneriaethau Diogelu Oedolion a Phlant
  • Grwpiau Cydweithredol Cymorth Tai Rhanbarthol
  • Byrddau Cynllunio Ardal (camddefnyddio sylweddau)

Ar ben hynny, fe wnaeth Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 sefydlu bwrdd statudol, o’r enw bwrdd gwasanaethau cyhoeddus, ym mhob awdurdod lleol. Mae byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn gwella’r cydweithio ar draws pob gwasanaeth cyhoeddus ym mhob ardal awdurdod lleol yng Nghymru.

Pedwar aelod statudol pob bwrdd yw’r awdurdod lleol, y bwrdd iechyd lleol, yr awdurdod tân ac achub ar gyfer yr ardal a Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae’r gwahoddedigion statudol yn cynnwys y Prif Gwnstabl a’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu perthnasol, gwasanaethau prawf a chynrychiolydd o’r sector gwirfoddol.

Ar hyn o bryd mae 15 o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus. Mae Blaenau Gwent, Caerffili, Sir Fynwy, Casnewydd a Thorfaen wedi uno i ffurfio Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent, mae Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful wedi uno i ffurfio Cwm Taf, ac mae Conwy a Sir Ddinbych wedi dod at ei gilydd i greu un bwrdd gwasanaethau cyhoeddus. Mae Ynys Môn a Gwynedd yn cydweithio’n ffurfiol ar eu cynlluniau llesiant.

Beth yw Cyngor Partneriaeth Cymru?

Mae Cyngor Partneriaeth Cymru (sy’n statudol o dan adran 72 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006) yn hybu cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol. Mae ei aelodau’n cynnwys y Prif Weinidog a holl Aelodau Cabinet Llywodraeth Cymru, arweinwyr awdurdodau lleol (prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned) a chynrychiolwyr gwasanaethau cyhoeddus ehangach. Mae partneriaid diwygio gwasanaethau cyhoeddus fel Archwilydd Cyffredinol Cymru, a chynrychiolwyr o TUC Cymru a Chyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn arsylwyr yn y cyfarfodydd.

Prif gyfrifoldebau Cyngor Partneriaeth Cymru yw hybu deialog a chydweithio ar faterion sy’n effeithio ar lywodraeth leol yng Nghymru, a darparu atebolrwydd gwleidyddol ar y cyd i wella canlyniadau i ddinasyddion.

A oes unrhyw gyrff eraill sy’n cyfrannu at sut y mae llywodraeth leol yn gweithio?

Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru

Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru wedi’i ailenwi yn Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru. Cafodd ei ailenwi a’i addasu drwy Ddeddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024. 

Roedd hyn yn adlewyrchu’r rôl ehangach sydd gan y Comisiwn o ganlyniad i newidiadau mewn deddfwriaeth (sydd wedi’u cynnwys yn Neddf Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) 2024 a Deddf Etholiadau a Chyrff Etholedig (Cymru) 2024).

Diddymwyd Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol ar 1 Ebrill 2025, pan gafodd ei swyddogaethau eu trosglwyddo i Gomisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru.

Prif bwrpas Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru yw penderfynu faint o wardiau etholiadol y rhennir pob sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru iddynt a faint o gynghorwyr sy'n cael cynrychioli pob ward etholiadol. Pwrpas adolygiadau rheolaidd o drefniadau etholiadol yw ystyried effaith newid cyson mewn cymunedau drwy sicrhau bod pob cynghorydd lleol yn cynrychioli tua’r un nifer o bobl.

Mae swyddogaethau ychwanegol Comisiwn Democratiaeth a Ffiniau Cymru bellach yn cynnwys:

  • y Bwrdd Rheoli Etholiadol, sy'n cydlynu'r gwaith o weinyddu etholiadau a refferenda yng Nghymru gan gynnwys etholiadau Senedd Cymru, etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru a refferenda datganoledig, a bydd yn gweithredu platfform gwybodaeth am etholiadau a fydd yn darparu gwybodaeth gyfredol i etholwyr er mwyn eu cefnogi i gymryd rhan mewn etholiadau
  • bod yn gyfrifol am benderfynu ar y fframwaith taliadau ar gyfer aelodau'r prif gynghorau, cynghorwyr tref a chymuned, awdurdodau tân ac achub, awdurdodau parciau cenedlaethol a chyd-bwyllgorau corfforedig ledled Cymru

Sut ydw i’n gwybod a yw’r cyngor yn perfformio ac yn gwella fel y dylai?

Mae Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn darparu fframwaith deddfwriaethol newydd a diwygiedig ar gyfer perfformiad a llywodraethu llywodraeth leol.

Mae’r dull gweithredu newydd a nodir yn y Ddeddf wedi’i gynllunio i fod yn ddull mwy syml a hyblyg, sy’n cael ei arwain gan y sector, o ymdrin â pherfformiad, llywodraethu da a gwella. Y bwriad yw i gynghorau fod yn rhagweithiol wrth ystyried sut y dylai prosesau a gweithdrefnau mewnol newid er mwyn galluogi cynllunio, cyflawni a gwneud penderfyniadau mwy effeithiol i sicrhau gwell canlyniadau.

Pwrpas y darpariaethau ar berfformiad a llywodraethu yn y Ddeddf yw cefnogi ac adeiladu ar ddiwylliant sy’n datblygu lle mae cynghorau’n mynd ati i chwilio am heriau a mynd i’r afael â nhw, boed y rhain yn dod i’r amlwg o fewn y cyngor, er enghraifft drwy weithdrefnau craffu, neu’n allanol. Cynlluniwyd y darpariaethau i roi fframwaith sy’n helpu cynghorau i feddwl am eu perfformiad a’u heffeithiolrwydd yn awr ac i’r dyfodol, drwy broses barhaus o adolygu; i annog sefydliadau mwy chwilfrydig sy’n barod i herio eu hunain i wneud rhagor; ac i fod yn fwy arloesol ac uchelgeisiol yn yr hyn a wnânt.

Mae’r Ddeddf yn ei gwneud yn ofynnol i bob cyngor yng Nghymru adolygu i ba raddau y mae’n cyflawni ei ‘ofynion perfformiad’, hynny yw, i ba raddau:

  • y mae’n arfer ei swyddogaethau yn effeithiol
  • y mae’n defnyddio ei adnoddau mewn modd darbodus, effeithlon ac effeithiol
  • y mae ei drefniadau llywodraethu yn effeithiol er mwyn sicrhau’r uchod

Mae cyngor yn adolygu ei berfformiad trwy ddull a elwir yn hunanasesiad, ac mae ganddo ddyletswydd i gyhoeddi adroddiad sy’n nodi casgliadau’r hunanasesiad, a hynny unwaith ar gyfer pob blwyddyn ariannol. Bydd yr hunanasesiad yn cael ei ategu gan asesiad perfformiad gan banel unwaith ym mhob cylch etholiadol, sy’n rhoi cyfle i gael gwybodaeth allanol (ac eithrio gan archwilwyr, rheoleiddwyr neu arolygwyr) am sut y mae’r cyngor yn bodloni’r gofynion o ran perfformiad.

Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau statudol sy’n nodi sut y dylai prif gynghorau gyflawni eu dyletswyddau fel y nodir yn Rhan 6, Pennod 1, o’r Ddeddf sy’n ymwneud â pherfformiad a llywodraethu prif gynghorau.

Mae Pennod 1 y canllawiau statudol ar gyfer perfformiad a llywodraethu prif gynghorau hefyd yn nodi’r cyd-destun ehangach a’r amgylchedd y mae’r drefn perfformiad a llywodraethu yn gweithredu ynddo, gan gynnwys rôl rheoleiddio ac arolygu allanol.

Disgwylir y bydd llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru, archwilwyr, arolygwyr, rheoleiddwyr a chomisiynwyr yn dal i gydweithio i rannu gwybodaeth, codi pryderon posibl a chytuno ar ddulliau i gefnogi gwelliannau.

Beth yw democratiaeth leol a pham ei bod yn bwysig?

Yr egwyddor sydd wrth wraidd democratiaeth yw bod pob unigolyn yn gyfartal ac y dylai gael cyfle cyfartal i ddylanwadu ar newid drwy’r system ddemocrataidd. Mae hyn yn sylfaenol i wleidyddiaeth a chymdeithas yng Nghymru. Mae democratiaeth leol yn sicrhau bod polisïau a gwasanaethau lleol yn adlewyrchu anghenion a dewisiadau cymunedau lleol. Mae democratiaeth leol effeithiol yn cefnogi cyfranogiad y cyhoedd, yn gwella’r modd y darperir gwasanaethau, yn cryfhau cymunedau, yn defnyddio adnoddau’n effeithiol ac yn adlewyrchu amrywiaeth y cymunedau y mae’n eu gwasanaethu.

Mae democratiaeth leol yn seiliedig ar bobl leol yn gwneud penderfyniadau am y ffordd y maent yn cael eu llywodraethu, sut y mae’r gyfraith yn cael ei dehongli a sut y mae’r gwasanaethau y maent yn dibynnu arnyn nhw bob dydd yn cael eu darparu. Er mwyn i ddemocratiaeth leol weithio’n effeithiol, mae’n bwysig bod pob rhan o gymdeithas yn cael ei chynrychioli fel bod y gwasanaethau a’r cyfreithiau yn ystyried y gwahanol gefndiroedd, arferion a diwylliannau mewn ardal a’r heriau sy’n wynebu pobl yr ardal.

Mae’n bwysig bod pobl yn cael cyfle i ddeall pam y mae angen gwneud penderfyniadau a sut y cânt eu gwneud. Mae’n bwysig eu bod yn hyderus bod y pethau iawn wedi cael eu hystyried a bod y rhai sy’n gwneud y penderfyniadau wedi ystyried yr effaith ar fywydau a chyfleoedd y bobl y cawsant eu hethol i’w cynrychioli.

Os na fydd pobl yn gallu uniaethu â’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau am eu dyfodol, mae’n anoddach iddynt ddeall pam y dewiswyd dull penodol o weithredu. Mae cynghorwyr sy’n cynrychioli pobl mewn cymunedau yng Nghymru yn gweithredu ar sail ymddiriedaeth ac ewyllys da’r bobl ac yn gorfod gwneud hyn yn ofalus.

Yng Nghymru, mae nifer o gyfreithiau Cymreig sy’n cynnwys Mesurau a Deddfau’r Senedd, gan gynnwys, yn fwyaf diweddar, Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, (Deddf 2021) wedi nodi trefniadau ar gyfer cryfhau democratiaeth leol.

Mae Deddf 2021 yn rhoi rhagor o gyfleoedd i bobl ymwneud â llywodraeth leol a chymryd rhan mewn democratiaeth leol. Mae gan bobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor sy’n byw’n gyfreithlon yng Nghymru hawl i bleidleisio. Bydd hefyd yn haws i ystod ehangach o bobl sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad llywodraeth leol.

Mae ymgysylltu â’r cyhoedd a chymryd rhan mewn democratiaeth leol yn bwysig. Rhaid i brif gynghorau yng Nghymru annog pobl leol i gymryd rhan ym mhrosesau gwneud penderfyniadau a chraffu llywodraeth leol. Ar ben hynny, rhaid i gynghorau baratoi ‘strategaeth cyfranogiad y cyhoedd’, ymgynghori yn ei chylch, ei chyhoeddi a’i hadolygu, gyda’r nod o’i gwneud yn haws i’r cyhoedd ddeall sut y mae llywodraeth leol yn gweithredu; sut y mae’n gwneud penderfyniadau; a sut y gall pobl leol ddilyn trafodion, rhoi eu barn arnynt, a sicrhau bod atebolrwydd amdanynt.

Mae rhagor o wybodaeth am gymryd rhan mewn democratiaeth leol ar gael yn Rhan 3.

Pam mae amrywiaeth mewn democratiaeth mor bwysig?

Mae cymdeithas yn cynnwys amrywiaeth o bobl. Nid yw rhai o’r bobl hyn yn cael eu cynrychioli gystal ag eraill. Gall hyn arwain at wneud gwasanaethau, cyfreithiau a phenderfyniadau am fywyd bob dydd heb ddeall anghenion rhai pobl. Mae’r Ddeddf Cydraddoldeb, a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2010, yn disodli deddfwriaeth gwrth-wahaniaethu flaenorol megis Deddf Cysylltiadau Hiliol 1976 a Deddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995. Cyflwynodd y Ddeddf ‘nodweddion gwarchodedig’ ac mae’n ceisio sicrhau nad yw pobl yn y categorïau hynny dan anfantais.

Dyma’r nodweddion sy’n cael eu gwarchod gan Ddeddf Cydraddoldeb 2010:

  • oedran
  • anabledd
  • ailbennu rhywedd
  • priodas neu bartneriaeth sifil (mewn cyflogaeth yn unig)
  • beichiogrwydd a mamolaeth
  • hil
  • crefydd neu gred
  • rhyw
  • cyfeiriadedd rhywiol

Mae gan Lywodraeth Cymru gyfres o gynlluniau i hyrwyddo a chefnogi amrywiaeth ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru. Mae’r cynlluniau hyn yn cynnwys:

Beth yw’r Model Cymdeithasol o Anabledd?

Ers 2002 mae Llywodraeth Cymru wedi dilyn y Model Cymdeithasol o Anabledd. Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ffordd o weld y byd. Mae’n dweud mai rhwystrau mewn cymdeithas sy’n golygu bod pobl yn anabl, nid amhariad yr unigolyn ei hun. Gall y rhwystrau hyn gynnwys:

  • agweddau negyddol fel meddwl na all pobl anabl wneud pethau
  • rhwystrau ffisegol fel grisiau

Mae’r Model Cymdeithasol o Anabledd yn ein helpu i adnabod y rhwystrau sy’n gwneud bywyd yn anoddach i bobl anabl. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i weithio gyda phartneriaid i chwalu’r rhwystrau hyn yn y ffordd rydym yn gweithio, a bydd yn disgwyl i egwyddorion y Model Cymdeithasol o Anabledd gael eu hadlewyrchu yn nulliau gweithredu llywodraeth leol. Rydym hefyd yn helpu gwasanaethau a sefydliadau eraill i feddwl fel hyn. Rydym am wneud yn siŵr bod pobl anabl yn gallu gwneud pethau y gall pobl nad ydynt yn anabl eu gwneud.

Beth yw Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru)?

Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) (y Ddeddf) yn canolbwyntio ar wella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.

Mae’r Ddeddf yn rhoi diben cyffredin sy’n rhwymo’n gyfreithiol, y saith nod llesiant, ar gyfer llywodraeth genedlaethol, llywodraeth leol, byrddau iechyd lleol a chyrff cyhoeddus penodol eraill. Mae’n manylu ynghylch sut y mae’n rhaid i gyrff cyhoeddus penodol weithio a chydweithio i wella llesiant Cymru.

Bydd yn gwneud i’r cyrff cyhoeddus a restrir yn y Ddeddf feddwl mwy am y tymor hir, gweithio’n well gyda phobl a chymunedau a chyda’i gilydd, ceisio atal problemau a mabwysiadu dull gweithredu mwy cydgysylltiedig. Mae prif gynghorau wedi'u cynnwys yn y Ddeddf.

Bydd hyn yn ein helpu i greu’r Gymru rydym i gyd am fyw ynddi, nawr ac yn y dyfodol. Er mwyn sicrhau ein bod ni gyd yn gweithio tuag at yr un weledigaeth, mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant.

Dyma’r saith nod llesiant:

  • llewyrchus  
  • cydnerth
  • iachach
  • mwy cyfartal
  • cyfrifol ar lefel fyd-eang
  • diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu
  • cymunedau cydlynus

Sut gallaf gael rhagor o wybodaeth?

Darllenwch ragor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol.

Rhan 2: cyflwyniad i rôl cynghorwyr

Cyflwyniad

Bydd y rhan hon o’r Llawlyfr Democratiaeth Cymru yn rhoi gwybodaeth ichi am yr hyn y mae’r gyfraith yn ei fynnu o ran rôl cynghorydd mewn cyngor sir neu gyngor bwrdeistref sirol a’r ffordd y caiff cynghorwyr eu cefnogi. I wneud hyn, bydd y pynciau canlynol yn cael eu hegluro:

  • beth yw cynghorydd
  • beth yw rôl cynghorydd
  • sut y mae pobl yn dod yn gynghorwyr
  • pwy sy’n penderfynu faint o gynghorwyr sydd ar gyfer pob ardal
  • a yw cynghorwyr yn cael tâl am eu gwaith
  • sut y mae disgwyl i gynghorwyr ymddwyn
  • pa gefnogaeth y mae cynghorwyr yn ei chael i’w helpu yn eu rôl

Beth yw cynghorydd?

Cynghorwyr yw’r bobl sy’n cynnig eu hunain i gynrychioli pobl leol mewn ardal benodol yng Nghymru. Fel arfer, yr ardal y maent yn byw ynddi yw hon. Bydd maint yr ardal a gynrychiolir yn dibynnu ar ba fath o gyngor y caiff y cynghorydd ei ethol iddo, cyngor sir / bwrdeistref sirol neu gyngor cymuned / tref. Gellir ethol cynghorwyr i’r ddau fath o gyngor. Cyfeirir at y cynghorwyr hyn yn aml fel cynghorwyr dwy het. Ceir rhagor o wybodaeth am y mathau o gynghorau yn Rhan 1 y llawlyfr hwn.

Pwy sy’n penderfynu faint o gynghorwyr sydd ym mhob ardal?

Bob blwyddyn mae newidiadau i’r boblogaeth, diwylliant ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol ar draws cymunedau yng Nghymru. Nid yw’r newidiadau hyn yr un fath ym mhob man, er enghraifft, mae rhai ardaloedd yn gweld cynnydd yn y boblogaeth tra bo eraill yn gweld gostyngiad. Mae’n bosibl y bydd y gwahaniaethau sy’n deillio o’r newidiadau hyn dros amser yn effeithio ar faint o gynghorwyr a allai fod eu hangen ar gyfer ward benodol (at ddibenion etholiadau mae ardaloedd cyngor yn cael eu rhannu’n wardiau).

Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru (y Comisiwn) yw’r corff annibynnol sy’n gyfrifol am benderfynu faint o gynghorwyr sydd ym mhob cyngor sir a bwrdeistref sirol yng Nghymru. Mae’n gwneud hyn drwy broses statudol a elwir yn adolygiad etholiadol. Cafodd y rhaglen ddiweddaraf o adolygiadau ei chwblhau yn 2021 cyn etholiadau llywodraeth leol mis Mai 2022.

Pwrpas adolygiadau rheolaidd o drefniadau etholiadol yw lleihau effaith newid cyson drwy sicrhau bod pob cynghorydd lleol mewn cyngor yn cynrychioli tua’r un nifer o bobl, cyn belled ag y bo modd.

Fel rhan o’r broses adolygu, rhaid i’r Comisiwn ymgynghori ag ymgyngoreion gorfodol a phartïon eraill â diddordeb ynghylch y weithdrefn a’r dull y mae’n bwriadu ei ddefnyddio ar gyfer yr adolygiad. Yn benodol, sut y mae’n bwriadu penderfynu ar y niferoedd priodol ar gyfer y cyngor sir yn yr ardal sy’n cael ei hadolygu.

Ar ddiwedd yr adolygiad, mae’r Comisiwn yn cyflwyno adroddiad sy’n cynnwys ei argymhellion i Weinidogion Cymru ei ystyried.

Beth yw rôl cynghorydd?

Mae gan bob cynghorydd amrywiaeth o gyfrifoldebau, ond yn sylfaenol, rôl cynghorydd yw gweithio gyda chymunedau i wneud y lle mae’n ei gynrychioli yn lle gwell i fyw a gweithio ynddo. Cynghorwyr yw’r cyswllt rhwng y cyhoedd a’r cyngor y maent yn aelod ohono. Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o gyfrifoldebau a all gynnwys:

  • cynrychioli buddiannau gorau pawb sy’n byw yn yr ardal neu’r ward y maent wedi’u hethol ynddi
  • hyrwyddo materion lleol a dylanwadu ar y broses gwneud penderfyniadau
  • gweithio tuag at weledigaeth gymunedol ar y cyd â sefydliadau partner
  • datrys gwrthdaro rhwng mudiadau cymunedol
  • llunio atebion i broblemau cymunedol
  • cydbwyso’r galw am adnoddau sy’n cystadlu â’i gilydd
  • cyfrannu at ddadleuon a thrafodaethau am flaenoriaethau ar gyfer buddsoddi
  • craffu ar, neu astudio, penderfyniadau penodol gan arweinwyr y cyngor neu’r polisïau a’r gwasanaethau sy’n cael eu darparu ar hyn o bryd
  • cymryd rhan ym mhrosesau'r cyngor megis penderfynu ar geisiadau cynllunio neu drwyddedu

Mae cynghorwyr yn cyflawni’r cyfrifoldebau hyn drwy:

  • fynd i gyfarfodydd y cyngor a chyfarfodydd eraill, gwrando ar wahanol safbwyntiau cyd-gynghorwyr ac eraill a phleidleisio fel rhan o’r broses o wneud penderfyniadau
  • cynrychioli a chwrdd â’r bobl a’r grwpiau buddiant yn yr ardal y maent yn ei chynrychioli a delio â’r materion y maent yn eu codi. Gall hyn gynnwys ymweld â busnesau a gwasanaethau yn y gymuned leol
  • cynnal cymorthfeydd i alluogi etholwyr i rannu eu barn, nodi problemau a gofyn am help

Y rolau sydd gan gynghorwyr

Mae nifer o rolau y gall cynghorwyr ymgymryd â nhw, gan gynnwys:

Arweinydd y Cyngor

Caiff ei ethol gan y cyngor llawn ac mae’n gyfrifol am gyfeiriad ac amcanion cyffredinol y cyngor ac am sicrhau bod yr amcanion hynny’n cael eu cyflawni. Yr arweinydd yw prif lefarydd gwleidyddol y cyngor ac mae ganddo rôl allweddol yn cynrychioli barn y cyngor i’r cyhoedd a’r sefydliadau y mae’r cyngor yn gweithio gyda nhw i gyflawni ei amcanion.

Mae’r arweinydd hefyd yn gyfrifol am benodi grŵp o bobl i’w gefnogi, drwy fod yn gyfrifol am ran benodol o fusnes y cyngor, er enghraifft addysg, yr amgylchedd neu ofal cymdeithasol. Cyfeirir at hyn yn aml fel cyfrifoldeb portffolio. Gyda’i gilydd, cyfeirir at y grŵp hwn o bobl fel y Cabinet. Mae rhagor o wybodaeth am waith y Cabinet ar gael yn Rhan 4.

Aelodau portffolio mewn cabinet

Caiff y rhain eu penodi gan Arweinydd y Cyngor i fod yn gyfrifol am faes o fusnes y cyngor. Maent yn gweithio’n agos gyda’r uwch-swyddogion yn y maes portffolio gan ysgwyddo cyfrifoldeb dros y broses o wneud penderfyniadau am faterion yn y maes hwnnw a chymryd rhan ynddi. Mae eu rôl yn cynnwys cyflwyno adroddiadau i’r Cabinet, mynd i bwyllgorau priodol y cyngor, cynrychioli safbwynt y cyngor a’r cabinet mewn cyfarfodydd gyda sefydliadau allanol, cysylltu’n rheolaidd ag arweinwyr grwpiau eraill ar faterion portffolio a chefnogi’r arweinydd a’r tîm rheoli i fonitro perfformiad y cyngor.

Cadeirydd Pwyllgor

Mae pwyllgor yn cynnwys grŵp bach o aelodau’r cyngor. Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod cynghorau’n sefydlu pwyllgorau penodol. Mae’r rhain yn cynnwys o leiaf un pwyllgor craffu, pwyllgor llywodraethu ac archwilio, pwyllgor trwyddedu a phwyllgor cynllunio. Gall cynghorau sefydlu pwyllgorau eraill sy'n angenrheidiol i gefnogi gwaith y cyngor, yn eu barn nhw.

Rôl Cadeirydd pwyllgor, boed hwnnw'n bwyllgor statudol neu’n anstatudol, yw sicrhau bod y cyfarfod yn cael ei gynnal yn briodol ac yn unol â’r safonau disgwyliedig fel yr amlinellir yn y rheolau sefydlog (llyfr rheolau’r cyngor ar gyfer sut y bydd yn cynnal ei fusnes). Mae’r Cadeirydd hefyd yn gyfrifol am gytuno ar fusnes ac amcanion cyfarfod, gan sicrhau bod unrhyw benderfyniadau a wneir yn cyd-fynd â chyfrifoldebau’r pwyllgor a threfnu bod y cyhoedd yn cael cymryd rhan mewn cyfarfodydd yn unol â gweithdrefnau cytunedig y cyngor.

Aelod pwyllgor

Mae pob aelod o bwyllgor yn dod ag ystod o wybodaeth a phrofiad gyda nhw i’w defnyddio wrth drafod yr eitemau ar yr agenda. Disgwylir i aelodau gymryd rhan lawn yn y cyfarfod, gwrando ar yr hyn sydd gan eraill i’w ddweud, cyfrannu’n gadarnhaol at y drafodaeth a rhoi sylwadau yn ôl yr angen.  

Pwy gaiff fod yn gynghorydd?

Caiff bron unrhyw un fod yn gynghorydd. Nid oes unrhyw ofynion i gynghorwyr feddu ar gymwysterau penodol, na bod â phrofiad penodol. Yr hyn sy’n allweddol i fod yn gynghorydd yw diddordeb yn y gymuned y mae'n byw ynddi a brwdfrydedd ac ymrwymiad i ddysgu am y materion sy’n effeithio ar bobl leol.

Ni chaiff unigolion fod yn gynghorwyr os ydynt yn fethdalwyr, os oes ganddynt gofnod troseddol a oedd yn cynnwys dedfryd o garchar o dri mis neu fwy o fewn cyfnod o bum mlynedd cyn ceisio cael eu hethol, neu os oes ganddynt swydd o dan gyfyngiadau yn eu cyngor neu mewn cyngor arall. Mae swydd o dan gyfyngiadau’n golygu swydd fel Prif Weithredwr neu uwch-reolwr. Ystyrir bod swyddi o’r fath o dan gyfyngiadau oherwydd byddai sefyll mewn etholiad, heb ymddiswyddo yn gyntaf, yn golygu bod yr unigolyn hwnnw mewn sefyllfa fanteisiol o’i gymharu ag ymgeiswyr eraill a gallai hefyd arwain at anawsterau wrth gynnal busnes y cyngor.

Pa sgiliau sydd eu hangen ar gynghorydd?

Nid oes angen i gynghorydd feddu ar unrhyw gymwysterau penodol; fodd bynnag mae’r wybodaeth/sgiliau canlynol yn fuddiol i gynghorwyr eu cael neu eu datblygu. Nid oes disgwyl i gynghorydd feddu ar yr holl sgiliau hyn pan gaiff ei ethol am y tro cyntaf. Darperir cefnogaeth datblygu a hyfforddi i bob cynghorydd i’w helpu i gyflawni ei rôl.

Dyma enghreifftiau o wybodaeth neu sgiliau defnyddiol:

  • ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus a chynrychioli etholwyr
  • gallu canolbwyntio ar yr hyn sy’n gwella cymunedau ac ardal y cyngor yn gyffredinol
  • gallu ystyried ystod eang o wybodaeth
  • cynnal meddwl gwrthrychol a dadansoddol
  • bod yn bendant a meddwl yn gyflym
  • gallu craffu ar wybodaeth/data a dod i benderfyniad neu gasgliad rhesymegol
  • gallu cyfathrebu ag etholwyr o bob oed a chefndir mewn modd cyfartal, cwrtais, teg a thryloyw
  • bod yn gyfathrebwr a chyflwynydd effeithiol a defnyddio arddull briodol ar gyfer gwahanol gynulleidfaoedd
  • gallu negodi a bod yn ddiplomataidd
  • dealltwriaeth o systemau cyllidebu ac ariannol y cyngor
  • dealltwriaeth o rôl y cyngor a’i drefniadau llywodraethu
  • gallu gweithio gydag eraill
  • gwybodaeth am systemau TG fel e-bost a Microsoft Office

Darllenwch fwy am Hyfforddi, Datblygu a Chynorthwyo Aelodau Awdurdodau Lleol.

Sut y mae pobl yn dod yn gynghorwyr?

I fod yn gynghorydd ar gyfer ward mewn prif gyngor, rhaid ichi fod yn 18 oed neu’n hŷn, rhaid ichi fod wedi cofrestru i bleidleisio yn yr ardal neu rhaid ichi fod wedi byw, gweithio neu fod yn berchen ar eiddo yno am o leiaf 12 mis cyn etholiad. Rhaid ichi hefyd fod yn ddinesydd Prydeinig neu’n ddinesydd tramor cymwys (yn byw yn y DU yn gyfreithlon). Mae angen i unigolyn gael ei enwebu fel ymgeisydd mewn etholiad cyngor. Gwneir hyn drwy lenwi ffurflen enwebu, y mae angen ei llofnodi a chael tyst iddi. Nid oes angen ichi fod yn aelod o blaid wleidyddol.

Caiff ymgeiswyr a enwebir benodi asiant etholiad, ond nid oes rhaid iddynt wneud hynny a gallant weithredu fel eu hasiant eu hunain. Mae asiant etholiad yn gyfrifol am reoli etholiad ymgeisydd yn briodol, er enghraifft, dangos nad yw ymgyrch yr ymgeisydd wedi mynd dros y terfyn ariannol a nodir yn y gyfraith.

Ar ôl cadarnhau’r holl enwebiadau, cyhoeddir hysbysiad o bleidlais gan y Swyddog Canlyniadau sy’n cynnal yr etholiad, yn cadarnhau manylion pob ymgeisydd sy’n sefyll etholiad ym mhob ward.

A yw pob cynghorydd yn rhan o blaid wleidyddol?

Mae rhai ymgeiswyr yn aelodau o bleidiau gwleidyddol. Mae ymgeiswyr eraill yn annibynnol ac nid ydynt yn cynrychioli nac yn perthyn i blaid wleidyddol benodol.

A yw cynghorwyr yn cael tâl am eu gwaith?

Mae Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol, neu’r Panel fel y gelwir ef yn aml, yn gyfrifol am benderfynu ar y swm a’r math o daliad y mae cynghorwyr yn ei gael.

Mae gan bob cynghorydd sir a bwrdeistref sirol hawl i gyflog sylfaenol. Mae’r cyflog ar gyfer cynghorwyr sir unigol yn dibynnu ar nifer y bobl sy’n byw yn y sir. Mae tri band, sef:

  • Grŵp A: ar gyfer siroedd â phoblogaeth o fwy na 200,000
  • Grŵp B: ar gyfer siroedd â phoblogaeth o 100,000 i 200,000
  • Grŵp C: ar gyfer siroedd â phoblogaeth o lai na 100,000

Yn ogystal â’r cyflog sylfaenol, mae’r Panel wedi penderfynu y dylai’r cynghorwyr sy’n ffurfio gweithrediaeth y cyngor (mae’r weithrediaeth yn cynnwys yr Arweinydd ac aelodau’r cabinet) gael taliad ychwanegol i adlewyrchu cyfrifoldebau ehangach ac ymrwymiad amser cynyddol eu rôl. Mae nifer fach o rolau ychwanegol, megis cadeiryddion pwyllgorau, hefyd yn cael taliad ychwanegol. Gelwir y rhain yn gyflogau uwch.

Caiff pob cynghorydd hawlio taliadau am gostau teithio, prydau bwyd a llety os yw’r costau hyn yn ganlyniad uniongyrchol i’w dyletswyddau swyddogol. Mae lefel y taliad y gellir ei hawlio yn dibynnu ar nifer o bethau gan gynnwys:

  • nifer y milltiroedd yr hawlir amdanynt mewn blwyddyn
  • y math o gerbyd a ddefnyddir i deithio
  • a oedd unrhyw deithwyr yn yr un cerbyd
  • lleoliad y llety
  • a oedd y cynghorydd yn aros gyda theulu neu ffrindiau

Gall pob cynghorydd hawlio cyfraniad at gostau Gofal a Chymorth Personol. Pwrpas y taliad hwn yw sicrhau nad yw pobl sydd eisiau bod yn gynghorwyr yn cael eu rhwystro rhag sefyll mewn etholiad oherwydd bod arnynt angen cymorth ariannol i dalu am eu hanghenion cymorth personol ychwanegol neu i dalu costau ychwanegol i ofalu am eraill er mwyn iddyn nhw allu cyflawni eu dyletswyddau’n effeithiol.

Yn benodol, mae costau gofal misol yn amrywio’n sylweddol. Gall hyn ddibynnu ar nifer y dibynyddion, eu hoedran a ffactorau eraill. Dyma’r trefniadau ar gyfer hawlio costau gofalu am eraill:

  • costau gofal ffurfiol (wedi’u cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru) i’w talu yn unol â’r dystiolaeth
  • telir costau gofal anffurfiol (heb eu cofrestru) hyd at y gyfradd uchaf sy’n cyfateb i’r Cyflog Byw Gwirioneddol yn y DU ar yr adeg y bydd y costau’n codi
  • ni ellir talu’r costau gofal i rywun sy’n rhan o aelwyd yr aelod

A yw unigolion cyflogedig yn gallu bod yn gynghorwyr hefyd?

Mae’n bosibl i gynghorwyr fod yn gyflogedig neu’n hunangyflogedig a bod yn gynghorydd hefyd.

Faint o amser y mae’n rhaid i gynghorwyr ei neilltuo?

Mae hyn yn amrywio yn ôl faint o fusnes y cyngor, yr etholaeth a’r blaid wleidyddol y mae gofyn ei wneud yn y rôl benodol. Rhaid i bob cynghorydd fynd i gyfarfodydd y cyngor llawn ac unrhyw bwyllgorau y maent yn aelodau ohonynt a rhaid iddynt fynd i o leiaf un cyfarfod cyngor dros gyfnod o chwe mis neu cânt eu gwahardd yn awtomatig (oni bai fod y cyngor wedi rhoi goddefeb iddynt, er enghraifft oherwydd eu bod yn cael triniaeth am salwch neu’n gofalu am berthynas agos).

A oes rhaid i gyflogwyr ryddhau gweithwyr i gyflawni dyletswyddau’r cyngor?

O dan Ddeddf Hawliau Cyflogaeth 1996 rhaid i gyflogwyr ddarparu amser rhesymol o'r gwaith ar gyfer dyletswyddau cyhoeddus, ond dylech drafod hyn â'ch cyflogwr. Fodd bynnag, dylech fod yn ymwybodol nad oes gofyniad cyfreithiol i gyflogwr dalu i gynghorydd am yr amser y mae’n ei gymryd i gyflawni ei rôl fel cynghorydd.

A all cynghorwyr gael amser o’r gwaith i ofalu am eu teuluoedd?

Mae’n bwysig bod cynghorwyr yn gallu cydbwyso eu dewisiadau gyrfa a’u hymrwymiadau teuluol wrth wasanaethu cymunedau ledled Cymru.

Rhaid i gynghorau sefydlu trefniadau yn eu cyfansoddiad (llyfr rheolau'r cyngor) ar gyfer absenoldeb dros dro cynghorwyr am resymau personol (“absenoldeb teuluol”).

Nodir yn y gyfraith y caiff cynghorwyr sir gymryd cyfnodau o absenoldeb ar gyfer nifer o gerrig milltir teuluol gan gynnwys genedigaeth babi, mabwysiadu plentyn neu faterion rhieni eraill. Bydd y cyfnod o absenoldeb yn dibynnu ar bwrpas yr absenoldeb. Mae’r trefniadau wedi’u nodi mewn rheoliadau, ynghyd â’r gofynion.

  • Absenoldeb mamolaeth, hyd at uchafswm o 26 wythnos pan fo aelod yn bodloni'r amodau a nodir yn y Rheoliadau.
  • Absenoldeb oherwydd babi newydd-anedig, hyd at uchafswm o bythefnos, i’w gymryd o fewn 56 diwrnod i eni’r babi.
  • Absenoldeb mabwysiadu, a all ddechrau hyd at bythefnos cyn dyddiad lleoli’r plentyn ac sy’n para am 26 wythnos.
  • Absenoldeb rhiant, pan fo aelod yn dod yn gyfrifol dros dro neu’n barhaol am blentyn o dan 14 oed. Gall hyn olygu mwy nag un cyfnod o absenoldeb dros flwyddyn benodol.

Caiff cynghorydd sydd â hawl i absenoldeb teuluol fod yn absennol o gyfarfodydd yr awdurdod (ac, os yw'n aelod o’r weithrediaeth, o gyfarfodydd y weithrediaeth) yn ystod y cyfnod o absenoldeb. Fodd bynnag mae’n bosibl i gynghorydd wneud trefniadau i fynd i gyfarfodydd penodol yn ystod cyfnod o absenoldeb os yw’n dymuno, ond rhaid cytuno ar hyn gyda’r awdurdod lleol.

Mae absenoldeb teuluol wedi’i gynllunio i sicrhau bod aelodau sydd ag ymrwymiadau gofal personol brys yn gallu cyflawni’r ymrwymiadau hynny cyn dychwelyd i’w rolau.

Darllenwch fwy am absenoldeb teuluol yn Hyfforddiant, Datblygiad a Chymorth Parhaus i Aelodau.

A yw cynghorwyr yn cael rhannu swydd?

Mae trefniadau rhannu swydd yn caniatáu i ddau gynghorydd neu fwy ymgymryd â rolau penodol o fewn y cyngor drwy rannu cyfrifoldebau a llwyth gwaith y rôl. Fe wnaeth Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 yn ei gwneud yn bosibl i drefniadau rhannu swyddi gael eu rhoi ar waith ar gyfer arweinydd ac aelodau cabinet cyngor sir. Gwnaeth hyn drwy gynyddu nifer uchaf y cynghorwyr y mae’r gyfraith yn caniatáu iddynt fod mewn cabinet, pan fydd trefniadau rhannu swyddi ar waith. Arweinydd y cyngor sy’n penderfynu ar benodiadau i’r cabinet, gan gynnwys a ddylid gwahodd cynghorwyr i ymgymryd â rôl weithredol ar sail rhannu swydd.

Gall trefniadau rhannu swydd gynnig nifer o fanteision, gan gynnwys:

  • y cyfle i gynghorwyr iau neu gynghorwyr llai profiadol, a allai fod â chyfrifoldebau gofalu neu gyfrifoldebau eraill, gymryd rhan fel aelod o’r cabinet
  • annog pobl iau i gymryd rhan mewn democratiaeth leol drwy ystyried sefyll mewn etholiad
  • fel rhan o raglen datblygu gyrfa, galluogi rhagor o unigolion i weithredu ar lefel cabinet

Darllenwch fwy am drefniadau rhannu swydd.

Sut y mae cynghorwyr yn sicrhau ac yn cynnal cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith?

Nid oes unrhyw ddarpariaethau mewn deddfwriaeth sy’n delio’n benodol â chefnogi cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith, ac iechyd meddwl. Fodd bynnag, mae gan gynghorau rwymedigaethau yng nghyswllt Deddf Cydraddoldeb 2010 a Deddf Hawliau Dynol 1998 o ran eu polisïau, eu systemau a’u gweithdrefnau.

Sut y mae disgwyl i gynghorwyr ymddwyn?

Mae fframwaith safonau moesegol statudol ar gyfer pob cynghorydd. Mae’n rhoi arweiniad i aelodau etholedig ar y safonau ymddygiad priodol a ddisgwylir ganddynt wrth ymgymryd â’u rolau, gan roi sicrwydd i’r cyhoedd y bydd camau’n cael eu cymryd os bydd pethau’n mynd o chwith.

Gwyliwch fideo ar y fframwaith safonau moesegol awdurdodau lleol yng Nghymru.

Mae holl aelodau etholedig cynghorau sir a chynghorau bwrdeistref sirol, cynghorau cymuned, awdurdodau tân ac achub, ac awdurdodau parciau cenedlaethol yng Nghymru wedi’u rhwymo gan y Cod Ymddygiad statudol. Mae’r Cod yn gosod cyfres o safonau gorfodadwy ar gyfer y ffordd y dylai aelodau ymddwyn, o ran eu gallu swyddogol ac (mewn rhai achosion) o ran eu bywyd personol hefyd.

Mae’r fframwaith yn cynnwys set o ddeg egwyddor ymddygiad cyffredinol ar gyfer aelodau (sy’n deillio o ‘Saith Egwyddor Bywyd Cyhoeddus’ yr Arglwydd Nolan). Dyma’r egwyddorion:

  • anhunanoldeb
  • gonestrwydd
  • gonestrwydd a phriodoldeb
  • dyletswydd i gynnal y gyfraith
  • stiwardiaeth
  • gwrthrychedd wrth wneud penderfyniadau
  • cydraddoldeb a pharch
  • bod yn agored
  • atebolrwydd
  • arweinyddiaeth

Rhaid i bob prif gyngor sefydlu pwyllgor safonau i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad gan eu haelodau ac aelodau'r cynghorau tref a chymuned yn yr ardal. Mae eu rôl yn cynnwys cynghori’r awdurdod ar fabwysiadu a gweithredu cod ymddygiad, helpu aelodau i gadw at y cod, cefnogi arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gynnal safonau uchel o ymddygiad yn eu grwpiau gwleidyddol a threfnu neu ddarparu hyfforddiant i aelodau ar faterion sy’n ymwneud â’r cod. Mae un o swyddogion y cyngor a elwir yn swyddog monitro yn gweithio’n agos gyda’r pwyllgor safonau i’w gefnogi i ddarparu cyngor o ddydd i ddydd i aelodau ar faterion ymddygiad. Rhaid i Bwyllgorau Safonau lunio adroddiad blynyddol a chefnogi arweinwyr grwpiau gwleidyddol i gyflawni eu dyletswydd statudol i gynnal safonau ymddygiad yn eu grŵp gwleidyddol.

Darllenwch fwy am bwyllgorau safonau.

Caiff unrhyw un wneud cwyn i Ombwdsmon Cymru fod aelod wedi methu â chydymffurfio â chod ymddygiad ei awdurdod. Pan fydd yr Ombwdsmon yn penderfynu bod ymchwiliad yn briodol, gall gynnal yr ymchwiliad ei hun neu gyfeirio’r mater at y swyddog monitro perthnasol ar gyfer ymchwiliad, ac yna ddyfarniad, gan y pwyllgor safonau lleol.

Dyma enghreifftiau o’r ffyrdd y gall aelod dorri cod ymddygiad awdurdod: ymddwyn mewn ffordd sy’n dwyn anfri ar rôl aelodau neu ar yr awdurdod, neu mewn ffordd sy’n effeithio’n negyddol ar enw da’r awdurdod; peidio â thrin pawb yn gyfartal, boed hynny ar sail rhyw, hil, anabledd,  cyfeiriadedd rhywiol, oedran neu grefydd.

Gwyliwch fideo ar sut i gwyno am gynghorydd yng Nghymru.

Mae Panel Dyfarnu Cymru yn ystyried achosion sy’n cael eu cyfeirio ato gan yr Ombwdsmon am eu bod yn achosion mwy difrifol o dorri’r cod ymddygiad. Mae’r Panel Dyfarnu hefyd yn gwrando ar apeliadau gan aelodau yn erbyn penderfyniadau pwyllgorau safonau.

Pa gefnogaeth mae cynghorwyr yn ei chael i’w helpu yn eu rôl?

Yn ôl y gyfraith, rhaid i gynghorau sicrhau bod hyfforddiant a chyfleoedd datblygu rhesymol yn cael eu darparu i'w haelodau. Rhaid i bob aelod (heb gynnwys Arweinydd cyngor), o dan drefniadau gweithredol, gael cyfle i gael adolygiad blynyddol o’i anghenion hyfforddi. Rhan o hyn yw  cyfle i gael cyfweliad â rhywun y mae’r cyngor yn ystyried ei fod “yn briodol gymwys” i roi cyngor ar anghenion hyfforddi a datblygu aelod. (a7, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011). Gall yr arweinydd hefyd ofyn am adolygiad o’i anghenion hyfforddi os yw’n dymuno gwneud hynny.

Darllenwch fwy am Hyfforddi, Datblygu a Chynorthwyo Aelodau Awdurdodau Lleol.

Sut y gall cynghorau helpu cynghorwyr i roi gwybod i’r cyhoedd beth maent wedi bod yn ei wneud?

Rhaid i gynghorau fod â threfniadau i ganiatáu i unrhyw gynghorydd gyhoeddi “adroddiad blynyddol” (a5, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011). Dylai cynghorau sicrhau bod adroddiadau blynyddol yn cael eu drafftio er mwyn dangos i’r etholwyr yr ystod o ddyletswyddau y mae cynghorwyr yn eu cyflawni, a’u cysylltiad â chynlluniau lleol.

Dim ond gwybodaeth ffeithiol y dylid ei chynnwys mewn adroddiadau blynyddol, a dim ond gweithgareddau sy’n cael eu gwneud gan y cynghorydd unigol mewn cysylltiad â rôl y cyngor y dylid eu cynnwys. Ni ddylai’r cynnwys fod yn bleidiol wleidyddol ac ni ddylai fod yn feirniadol o aelod arall, grŵp arall, na swyddog neu swyddogion y cyngor.  

Mae cynghorwyr yn cyflawni amrywiaeth enfawr o swyddogaethau. Mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth y cyhoedd o’r rolau hyn, a gwaith cynghorwyr ar gyfer y cymunedau maent yn eu gwasanaethu; mae adroddiadau blynyddol yn debygol o chwarae rhan bwysig yn hyn. Gall cynghorau ddatblygu templed safonol ar gyfer adroddiadau o'r fath i wneud y dasg yn haws, a gallai hwn gynnwys manylion am y materion y dylid eu cynnwys ac na ddylid eu cynnwys.  

Rhan 3: cyflwyniad i gyfranogiad cyhoeddus

Beth yw cyfranogiad y cyhoedd?

Mae cyfranogiad y cyhoedd yn ymwneud â chyngor a chymunedau yn cydweithio â’i gilydd ac â phartneriaid, megis y sector gwirfoddol, elusennau a busnesau i ddarparu ac i wella gwasanaethau i bobl leol.

Mae cyfranogiad y cyhoedd yn ddull sy’n cydnabod ac yn gwerthfawrogi cyfraniad gweithredol pobl leol wrth nodi, ffurfio a gwerthuso’r gwasanaethau y maen nhw a’u teuluoedd yn dibynnu arnynt. Mae hyn yn wahanol i ymgynghori, sydd fel arfer yn cyfeirio at gais am sylwadau am newid y bwriedir ei wneud.

Pam y mae’n bwysig?

Nid yw pawb yr un fath: maent yn dod o gefndiroedd a diwylliannau gwahanol, mae ganddynt sgiliau gwahanol, anghenion gwahanol ac uchelgeisiau gwahanol. Mae rhai yn cyfathrebu drwy wahanol ieithoedd, yn wynebu heriau gwahanol, rhai corfforol a rhai nad ydynt yn gorfforol, ac mae gan eraill amrywiaeth o gyfrifoldebau dros bobl eraill. Yr her yw sicrhau bod gwahaniaethau rhwng pobl yn cael eu croesawu a’u hystyried wrth ddatblygu gwasanaethau lleol a’r cyfreithiau sy’n rheoli bywydau bob dydd unigolion.

Pwy sy’n gyfrifol am sicrhau bod gan y cyngor drefniadau ar waith ar gyfer gwir gyfranogiad yn hytrach na geiriau teg?

Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod pob cyngor sir yn cyhoeddi strategaeth, neu gynllun, sy’n nodi sut y mae’n bwriadu annog pobl leol i gymryd rhan. Wrth baratoi ei strategaeth rhaid i’r cyngor ymgynghori â phobl leol a phartïon eraill sydd â diddordeb i sicrhau bod eu syniadau a’u safbwyntiau’n cael eu defnyddio wrth ddatblygu’r cynllun.

Rhaid i’r cyngor hefyd adolygu ei strategaeth cyfranogiad y cyhoedd cyn gynted â phosibl ar ôl etholiad llywodraeth leol a gall adolygu’r strategaeth ar unrhyw adeg arall sy’n briodol yn ei farn ef.

Dylai’r strategaeth, pan gaiff ei chyhoeddi, nodi sut y mae wedi cael ei datblygu a phwy sydd wedi bod yn gysylltiedig â hi, gan gynnwys pan fo’n disodli strategaeth hŷn. Dylai nodi’r egwyddorion sylfaenol y bydd y cyngor yn eu defnyddio i lunio ei ddull o gynnwys y cyhoedd, gan gynnwys sut y bydd yn galluogi pobl o bob cefndir ac o bob oed i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau.

Beth ddylai strategaeth cyfranogiad y cyhoedd ei gynnwys?

Rhaid i’r strategaeth gynnwys:

  • ffyrdd o godi ymwybyddiaeth pobl leol o swyddogaethau’r cyngor
  • sut y bydd y cyngor yn codi ymwybyddiaeth pobl leol ynghylch sut i ddod yn aelod o’r cyngor a beth mae cynghorwyr yn ei wneud
  • sut y bydd y cyngor yn rhoi mynediad i bobl leol at wybodaeth am benderfyniadau a wneir, neu sydd i'w gwneud, gan y cyngor
  • sut y bydd y cyngor yn hyrwyddo ac yn cefnogi ffyrdd i bobl leol gyflwyno sylwadau i’r cyngor am benderfyniad cyn ac ar ôl iddo gael ei wneud
  • trefniadau ar gyfer dwyn barn y cyhoedd i sylw pwyllgorau trosolwg a chraffu
  • sut y bydd y cyngor yn codi ymwybyddiaeth ymysg aelodau o fanteision defnyddio cyfryngau cymdeithasol i gyfathrebu â phobl leol

Egwyddorion ymgysylltu â’r cyhoedd

Wrth roi camau ar waith ar gyfer cyfranogiad y cyhoedd, dylai cynghorau roi sylw i'r "egwyddorion ymgysylltu â'r cyhoedd" sydd wedi’u llunio gan Cyfranogaeth Cymru:

  • Cynllunio’r ymgysylltu yn effeithiol i wneud gwahaniaeth.
  • Annog a galluogi pawb yr effeithir arnynt i gymryd rhan, os ydynt yn dymuno.
  • Cynllunio a chyflawni’r ymgysylltu mewn ffordd amserol a phriodol.
  • Gweithio gyda sefydliadau partner perthnasol.
  • Bydd yr wybodaeth a ddarperir yn ddi-jargon, yn briodol ac yn ddealladwy.
  • Ei gwneud yn haws i bobl gymryd rhan.
  • Galluogi pobl i gymryd rhan yn effeithiol.
  • Rhoddir yr adnoddau a’r gefnogaeth briodol i ymgysylltu er mwyn iddo fod yn effeithiol.
  • Mae pobl yn cael gwybod am effaith eu cyfraniad.
  • Dysgu a rhannu gwersi i wella’r broses ymgysylltu. 

Wrth ystyried eu dull o gynnwys y cyhoedd, dylai cynghorau hefyd ystyried y Daith tuag at Ymgyfraniad a luniwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru.

Darllenwch fwy am Strategaethau Cyfranogiad y Cyhoedd.

Deisebau

Cynlluniau deisebau

Rhaid i bob prif gyngor yng Nghymru nodi sut y bydd yn defnyddio deisebau i gefnogi penderfyniadau lleol.

Beth yw deiseb?

Mae deiseb yn ffordd gydnabyddedig i bobl sy’n rhannu’r un pryder neu sy’n pledio’r un achos allu mynegi eu barn wrth sefydliad. Fe’u defnyddir yn aml i awgrymu ffyrdd newydd o wneud pethau ond fe’u defnyddir hefyd i gofnodi siom unigolion â materion penodol.

Yn draddodiadol, dogfennau papur oedd deisebau, a oedd yn nodi safbwynt penodol ac yn gwahodd pobl i gefnogi’r farn honno drwy ychwanegu eu llofnodion at y ddogfen. Yna byddai’r ddogfen, gyda’r llofnodion, yn cael ei chyflwyno i’w hystyried.

Deisebau electronig

Yn sgil y datblygiadau mewn technoleg, rhaid i gynghorau yn awr nodi sut y byddant yn cefnogi deisebau electronig. Rhaid i’r trefniadau nodi:

  • sut y gellir cyflwyno deiseb i’r cyngor
  • sut a phryd y bydd y cyngor yn cydnabod derbyn deiseb
  • y camau y gall y cyngor eu cymryd mewn ymateb i ddeiseb y mae'n ei chael
  • yr amgylchiadau (os oes rhai) pan na all y cyngor gymryd camau pellach mewn ymateb i ddeiseb
  • sut a phryd y bydd y cyngor yn darparu ei ymateb i ddeiseb i’r sawl a gyflwynodd y ddeiseb ac i'r cyhoedd

Rhaid i brif gyngor adolygu ei gynllun deisebau o bryd i'w gilydd ac, os yw’r cyngor o'r farn ei fod yn briodol, adolygu’r cynllun.

Wrth hybu defnyddio deisebau electronig, bydd angen i gynghorau hefyd wneud trefniadau ar gyfer pobl nad ydynt yn gallu creu dogfennau electronig neu gymryd rhan mewn proses electronig.

Darllenwch fwy am ddeisebau.

Caniatáu i'r cyhoedd weld gwybodaeth

Mynd i gyfarfodydd llawn a phwyllgorau’r cyngor

Mae rheolau’n bodoli ynghylch sut y gall y cyhoedd gael mynediad i gyfarfodydd llawn cynghorau a’u his-bwyllgorau. Mae gan y cyhoedd hawl i fynd i gyfarfodydd cyngor llawn prif gyngor a chyfarfodydd ei bwyllgorau ond gellir eu heithrio o gyfarfod lle trafodir materion cyfrinachol. Bydd hyn yn cynnwys adegau pan fo’r drafodaeth yn delio â gwybodaeth bersonol sensitif. Er y gall aelodau’r cyhoedd fynd i’r cyfarfodydd hyn, nid oes gan y cyhoedd hawl awtomatig i siarad.

Papurau ar gyfer cyfarfodydd

Rhaid i gynghorau gyhoeddi amrywiaeth o ddogfennau sy’n ymwneud â’u cyfarfodydd ar wefan y cyngor. Mae hyn yn cynnwys yr agenda, papurau ategol a hysbysiad o’r cyfarfod. Bydd hyn yn cynnwys manylion ynghylch pryd a lle cynhelir y cyfarfod. Efallai na fydd rhai o’r papurau ar gyfer y cyfarfod yn cael eu cyhoeddi mewn achosion lle mae’r wybodaeth yn cael ei hystyried yn gyfrinachol. Yn dilyn y cyfarfod, cyhoeddir nodyn o’r penderfyniadau a dilynir hynny gan set lawn o gofnodion.

Darllenwch fwy am bapurau ar gyfer cyfarfodydd.

Y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth

Mae Cynghorau’n rhwym wrth Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, y Rheoliadau Gwybodaeth Amgylcheddol, a Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data (GDPR) y DU. Gall unrhyw un wneud cais i gyngor am wybodaeth sydd ganddo. Mae’r Ddeddf yn ymdrin â’r holl wybodaeth a gofnodwyd ac nid gwybodaeth sy’n ymwneud â chyfarfodydd yn unig. Mae gwybodaeth am sut y mae cynghorau'n delio â cheisiadau am wybodaeth ar gael ar wefan pob cyngor, ynghyd â manylion am sut i wneud cais.

Rhan 4: cyflwyniad i lywodraethu yn llywodraeth leol

Cyflwyniad

Bydd y rhan hon o Lawlyfr Democratiaeth Cymru yn rhoi gwybodaeth ichi am yr hyn y mae’r gyfraith yn ei fynnu yng nghyswllt llywodraethu gwleidyddol prif gynghorau. I egluro sut y dylai llywodraethu gwleidyddol weithio, bydd y pynciau canlynol yn cael eu hegluro:

  • beth yw’r cyngor llawn
  • beth yw’r trefniadau gweithredol
  • sut y penderfynir ar swyddogaethau a chyfrifoldebau’r cyngor llawn a’r weithrediaeth
  • beth yw pwyllgorau, gan gynnwys beth a olygir wrth ‘gydbwysedd gwleidyddol’ aelodaeth
  • beth yw cyfansoddiadau a pham eu bod yn bwysig
  • y rheolau ynghylch cyfarfodydd y cyngor gan gynnwys agendâu, cofnodion a chofnodi penderfyniadau, cyhoeddi dogfennau ac archwiliadau cyhoeddus, mynd i gyfarfodydd y cyngor a’u gwylio
  • y rheolau ynghylch cyfarfodydd y weithrediaeth gan gynnwys agendâu, cofnodion a chofnodi penderfyniadau, cyhoeddi dogfennau ac archwiliadau cyhoeddus, mynd i gyfarfodydd y cyngor a’u gwylio
  • beth yw craffu a pham y mae’n bwysig
  • beth yw pwyllgor llywodraethu ac archwilio a beth yw ei brif swyddogaethau
  • beth yw’r Cod ar yr Arferion a Argymhellir o ran Cyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol
  • pam y mae rolau rhai uwch-swyddogion wedi’u nodi yn y gyfraith, beth sy’n swyddi sydd o dan gyfyngiadau gwleidyddol, beth yw rôl y dyfarnwr annibynnol, beth yw’r Cod Ymddygiad ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol

Pryd a sut y mae’r cyngor yn cael ei ethol?

Cynhelir etholiadau cynghorau yng Nghymru bob pum mlynedd. Nid oes opsiwn yng Nghymru i gynghorau gael etholiadau gan draean o’u haelodau bob blwyddyn yn barhaus. Mae etholiad lle mae pob swydd etholedig neu ‘sedd’ mewn cyngor yng Nghymru yn cael ei hethol ar yr un pryd yn cael ei alw’n ‘etholiad cyffredin’. Yr etholiad cyffredin sy’n digwydd bob pum mlynedd; pennir dyddiad yr etholiad ar gyfer etholiadau cyffredin yn ôl y gyfraith ac fel arfer dyma’r dydd Iau cyntaf ym mis Mai. Weithiau bydd swydd wag mewn ‘sedd’ benodol yn codi rhwng pob etholiad cyffredin. Er enghraifft, gall hyn ddigwydd oherwydd bod rhywun yn ymddiswyddo, a bydd hyn yn arwain at ‘is-etholiad’ i gymryd ei le. Fel arfer, ni ellir cynnal is-etholiad cyn pen chwe mis ar ôl etholiad cyffredin ac os bydd swydd wag yn codi yn ystod y cyfnod hwn o chwe mis, bydd y ‘sedd’ yn aros yn wag nes cynhelir yr etholiad cyffredin.

Rhennir pob ardal cyngor yn wardiau sy'n cael eu pennu gan gorff annibynnol o'r enw'r Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Mae’r bobl ym mhob ward wedyn yn cael eu cynrychioli gan un  cynghorydd neu fwy, gan ddibynnu ar faint o bobl sy’n byw yn y ward. Gelwir wardiau â mwy nag un cynghorydd yn wardiau 'aml-aelod'.

Gall cynghorau ddewis o blith dwy ffordd o gynnal etholiad, sef  'y cyntaf i'r felin' (FPTP) neu'r bleidlais sengl drosglwyddadwy (STV). Y system cyntaf i’r felin fu’r unig system bleidleisio a ddefnyddiwyd i ethol cynghorau yng Nghymru ers cyflwyno llywodraeth leol etholedig ddiwedd y 19eg ganrif. Mae pleidleiswyr yn marcio eu dewis (neu ddewisiadau mewn wardiau etholiadol aml-aelod) o ymgeiswyr gyda chroes. Dan y system cyntaf i’r felin, caiff yr ymgeiswyr sydd â’r nifer uchaf o bleidleisiau eu hethol, hyd at nifer y cynghorwyr sydd i’w hethol o’r ward etholiadol honno. Mae’r bleidlais sengl drosglwyddadwy yn system bleidleisio “flaenoriaethol”, sy’n golygu y gofynnir i bleidleiswyr roi’r ymgeiswyr sydd ar gael yn nhrefn eu dewis. Gall pleidleiswyr ddewis rhoi’r holl ymgeiswyr sydd ar gael mewn trefn (gan ddefnyddio rhifau yn hytrach na chroes) neu ddim ond cynifer ohonynt ag y dymunant, a all fod cyn lleied â dim ond un.

Gall unrhyw un dros 16 oed sy’n preswylio’n gyfreithlon yng Nghymru bleidleisio, ond er mwyn gwneud hynny rhaid ichi gofrestru. Mae rhagor o wybodaeth am bwy sy’n cael pleidleisio a sut y mae cofrestru ar gael yma Cofrestru i Bleidleisio.

Bydd manylion yr etholiad, gan gynnwys pwy sy'n sefyll, sut y gallwch bleidleisio ac ymhle, ar gael ar wefan eich cyngor yn y cyfnod cyn yr etholiad. Yn y cyfnod cyn yr etholiad, bydd manylion ar gael hefyd yn Dros bwy y gallaf bleidleisio? a Ble ydw i'n pleidleisio? Mae’r safleoedd Dros bwy y gallaf bleidleisio a Ble ydw i’n pleidleisio yn cael eu rhedeg gan elusen o’r enw Democracy Club.

Beth yw’r gwahaniaeth rhwng y cyngor llawn a’r weithrediaeth?

Y 'cyngor llawn' yw'r term a ddefnyddir pan fydd holl aelodau etholedig y cyngor yn cyfarfod gyda'i gilydd. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod pob cyngor yn cynnal cyfarfod cyffredinol blynyddol ar ôl etholiad cyffredin ac yna unwaith y flwyddyn. Dyma’r cyfarfod lle bydd yr aelodau etholedig yn gwneud penderfyniadau pwysig ynghylch pwy y byddant yn ei ethol yn gadeirydd y cyngor neu’n aelod llywyddol y cyngor. Nid oes gan y cadeirydd neu’r aelod llywyddol gyfrifoldebau gwneud penderfyniadau dros gyllidebau neu wasanaethau ond mae’n ffigwr uwch pwysig yn y cyngor a bydd yn cadeirio holl gyfarfodydd y cyngor llawn. Mae rhai rolau yn y cyngor hefyd sy’n ymwneud â thraddodiadau dinesig a swyddogaethau seremonïol. Fel arfer, gelwir y rolau hyn yn faer a dirprwy faer (arglwydd faer weithiau) a phenderfynir pwy fydd yn ymgymryd â nhw yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol.

Bydd penderfyniadau’n cael eu gwneud gan y cyngor llawn, rhai pwyllgorau sydd â statws cyfreithiol penodol, megis pwyllgorau trwyddedu, neu gan weithrediaeth y cyngor. Mae gweithrediaeth y cyngor yn cynnwys nifer bach o aelodau (mae’r nifer yn cael ei bennu gan y gyfraith), sydd fel arfer yn cynnwys y blaid a etholwyd gyda’r mwyafrif o seddi neu, pan nad oes gan unrhyw blaid fwyafrif o seddi, ‘clymblaid’ o aelodau o bleidiau sy’n cytuno i weithio gyda’i gilydd.

Nid yw rhai aelodau etholedig yn aelodau o bleidiau gwleidyddol a gelwir y rhain yn aelodau ‘annibynnol’. Weithiau, mae aelodau annibynnol sydd â safbwyntiau tebyg yn ffurfio ‘grŵp annibynnol’ sy’n cael ei gydnabod yn y gyfraith at ddibenion ffurfio clymblaid ac ar gyfer dyrannu seddi ar bwyllgorau’r cyngor. Nid oes rhaid i aelodau annibynnol ffurfio grŵp nag ymuno ag un. Mae aelodau annibynnol yn y sefyllfa hon fel arfer yn cael eu galw’n aelodau ‘digyswllt’.

Ceir rheolau cyfreithiol llym ynghylch sut y gwneir hyn a rhaid i bob grŵp o aelodau annibynnol sy’n dewis gweithio gyda’i gilydd yn rheolaidd, a’r holl aelodau a etholwyd i’r cyngor sy’n cynrychioli’r un blaid wleidyddol, roi rhybudd i swyddog priodol y cyngor eu bod yn dymuno cael eu hystyried yn grŵp gwleidyddol. Yn ogystal â phenderfynu ar ddyraniad lleoedd ar bwyllgorau, mae hyn hefyd yn galluogi’r grŵp gwleidyddol i benodi cynorthwywyr gwleidyddol. Mae rheolau cyfreithiol llym ynghylch hyn, gan gynnwys sut y bydd nifer y cynorthwywyr yn cael ei gyfrifo a’r cyflog y maent yn ei gael. Mae’r rolau hyn yn darparu cymorth a gallu ymchwil i’r grwpiau gwleidyddol ac yn caniatáu i swyddogion proffesiynol a chyngor gwleidyddol gael eu gwahanu.

O ran y weithrediaeth, gall cynghorau yng Nghymru ddewis rhwng ‘model’ arweinydd a chabinet neu 'fodel' cabinet a maer etholedig. Gellir defnyddio model gweithredol maer etholedig hefyd, lle mae’r cyhoedd yn ardal y cyngor yn dechrau deiseb er mwyn casglu digon o lofnodion gan bleidleiswyr yn ardal y cyngor i’w gwneud yn ofynnol cynnal refferendwm. Os bydd digon o bobl o ardal y cyngor yn pleidleisio o blaid cael maer etholedig yn y refferendwm, cynhelir etholiad i ethol y maer a bydd y maer yn dewis cabinet o blith aelodau’r cyngor. Os mai’r cyngor ei hun a gynigiodd y syniad o gael maer etholedig, rhaid dal i gynnal refferendwm a rhaid i bleidleiswyr gefnogi cyflwyno’r maer etholedig er mwyn i’r newid gael ei wneud. Mae’r maer etholedig yn ychwanegol at nifer yr aelodau etholedig a etholwyd yn yr etholiad cyffredin.

Ar hyn o bryd, nid oes meiri etholedig yng Nghymru ac mae pob un o’r 22 prif gyngor wedi penderfynu cael arweinydd gweithredol a chabinet i wneud penderfyniadau ynghylch rhedeg nifer o agweddau ar fusnes y cyngor o ddydd i ddydd. Mae’r arweinydd gweithredol, a elwir gan amlaf yn ‘arweinydd’, hefyd yn cael ei ethol o blith y corff o gynghorwyr yn y cyfarfod cyffredinol blynyddol. Bydd yr arweinydd wedyn yn dewis nifer o gynghorwyr o’r enw ‘aelodau cabinet’ neu ‘aelodau gweithrediaeth’ i weithio gyda nhw. Gyda’i gilydd, maent yn ffurfio cabinet neu weithrediaeth y cyngor.

Darllenwch am amrywiaeth mewn cabinet.

Fel arfer bydd gan bob aelod o’r cabinet gyfrifoldeb am faes gwasanaeth neu feysydd a elwir yn ‘bortffolio’ fel addysg, gwasanaethau cymdeithasol neu wasanaethau cymunedol. Bydd y cyngor llawn wedyn yn cytuno ar gynllun ar gyfer gwneud penderfyniadau sy’n nodi pa benderfyniadau y gall y cabinet eu gwneud a pha benderfyniadau y mae’r cyngor llawn yn eu gwneud. Mae rhai penderfyniadau yn ôl y gyfraith y mae’n rhaid i’r cyngor llawn eu gwneud, ac mae’r rhain yn cynnwys pennu’r gyllideb a faint o dreth gyngor y mae pawb yn ei thalu.

Er mwyn annog a chefnogi pobl o gefndiroedd amrywiol sydd eisiau dod yn aelodau etholedig ac yn aelodau o’r weithrediaeth, mae’r gyfraith yn galluogi i nifer o swyddi cabinet, gan gynnwys yr arweinydd gweithredol, gael eu gwneud ar sail rhannu swydd gan aelodau etholedig. Dyma’r unig reswm a ganiateir yn y gyfraith i’r Cabinet fod yn fwy na’r uchafswm o 10 aelod, oherwydd os oes swyddi sy'n cael eu rhannu yn y Cabinet gall gynnwys hyd at 13 aelod ond, i bob pwrpas, mae hyn yn dal yn gyfystyr â 10 swydd yn y cabinet. Mae hyn yn gweithio yn yr un ffordd â phe bai dau weithiwr yn rhannu un swydd amser llawn. Mae’r gyfraith hefyd yn galluogi cynghorau i wneud darpariaeth yn eu cyfansoddiadau ynghylch ‘cynorthwywyr i’r weithrediaeth’. Nid yw'r aelodau etholedig sy'n cyflawni'r swyddogaethau hyn yn aelodau o'r weithrediaeth ond gallant helpu aelodau'r weithrediaeth yn eu gwaith. Y pwrpas yw cefnogi amrywiaeth a rhoi cyfle i aelodau etholedig feithrin profiad.

Darllenwch fwy am rannu swydd.

Sut y penderfynir ai’r cyngor llawn neu’r weithrediaeth sy’n gwneud penderfyniadau am rywbeth?

Ceir cyfraith fanwl a chymhleth sy’n ei gwneud yn ofynnol bod rhai penderfyniadau’n cael eu gwneud gan y cyngor llawn ac na ellir dirprwyo’r penderfyniadau hyn i’r weithrediaeth. Fel y nodwyd uchod, mae hyn yn cynnwys cytuno ar y gyllideb a’r dreth gyngor. Yna, mae rhai swyddogaethau y mae’r gyfraith yn dweud y caiff y cabinet eu cyflawni ond nid yw hyn yn rheidrwydd (gelwir y rhain weithiau’n ‘swyddogaethau dewis lleol’). Yn olaf mae swyddogaethau hefyd y mae’r gyfraith yn dweud na allant fod yn gyfrifoldeb llwyr i’r cabinet.

Pan fydd aelodau etholedig yn gwneud penderfyniadau ac yn gweithredu’n unol â’r gyfraith, mae’r gyfraith yn eu hamddiffyn rhag camau cyfreithiol yn eu herbyn fel unigolion drwy roi’r gallu i gynghorau gael ‘indemniadau’. Mae hyn yn golygu, pan fydd achos cyfreithiol yn cael ei ddwyn yn erbyn aelod etholedig unigol oherwydd rhywbeth a wnaeth neu benderfyniad a wnaeth tra’r oedd yn gweithredu ar ran y cyngor, y bydd y cyngor yn talu costau’r cynghorydd am amddiffyn y camau cyfreithiol hynny.

Beth yw pwyllgor?

Mae pwyllgor yn cynnwys grŵp bach o aelodau’r cyngor llawn. Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod cynghorau’n sefydlu pwyllgorau penodol. Mae’r rhain yn cynnwys o leiaf un pwyllgor craffu, pwyllgor llywodraethu ac archwilio, pwyllgor trwyddedu a phwyllgor cynllunio. Gall pwyllgorau trwyddedu a chynllunio wneud penderfyniadau ac mae ganddynt gylch gorchwyl a statws cyfreithiol penodol iawn. Ni fyddant yn cael eu hystyried ymhellach yn y llawlyfr hwn.

Mae’r gyfraith hefyd yn ei gwneud yn ofynnol bod y rhan fwyaf o’r pwyllgorau yn rhai a chanddynt ‘gydbwysedd gwleidyddol’. Mewn geiriau eraill, mae’r seddi ar bob pwyllgor yn adlewyrchu cyfansoddiad gwleidyddol y cyngor, felly os oes gan blaid neu grŵp annibynnol 40% o’r seddi ar y cyngor llawn, bydd yn cael llenwi 40% o’r seddi ar bob pwyllgor o’r cyngor y mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol iddo fod yn bwyllgor a chanddo ‘gydbwysedd gwleidyddol’. Nid yw’r cabinet yn un o bwyllgorau’r cyngor ac felly nid oes rhaid iddo gael ‘cydbwysedd gwleidyddol’.

Weithiau bydd cynghorwyr yn newid  i fod yn aelod o blaid wleidyddol wahanol (a elwir weithiau’n ‘groesi’r llawr’) neu bydd aelodau annibynnol yn gadael neu’n ymuno â grŵp ‘cofrestredig’ rhwng etholiadau. Os bydd hyn yn digwydd, bydd angen ailgyfrif dyraniad y seddi i bleidiau ac i grwpiau annibynnol.

Gall cynghorau yn Lloegr ddewis gweithredu system ‘pwyllgor’ o lywodraethu gwleidyddol. Caiff hon ei gweithredir fel arfer gan gynghorau llai sydd â llai o swyddogaethau, nad ydynt yn cynnwys addysg a gwasanaethau cymdeithasol. Mae pob cyngor yng Nghymru yn cyflawni’r ystod lawn o swyddogaethau llywodraeth leol ac felly nid yw’r system lywodraethu hon ar gael i gynghorau yng Nghymru.

Beth yw cyfansoddiad cyngor a pham y mae’n bwysig?

Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod pob prif gyngor yn llunio cyfansoddiad ac yn cytuno arno. Rhaid iddynt hefyd ei gyhoeddi’n electronig, ei ddiweddaru a diwygio’r copi a gyhoeddwyd o fewn pum niwrnod ar ôl cytuno ar ddiwygiad. Y cyfansoddiad yw’r glasbrint ar gyfer sut y mae’r cyngor yn cael ei lywodraethu i sicrhau bod ei fusnes yn cael ei gynnal mewn ffordd drefnus a chyfreithiol. Mae’n ddogfen bwysig a bydd yn hir ac yn gymhleth. Mae hyn oherwydd cymhlethdod busnes y cyngor a’r amrywiaeth o faterion y mae’n rhaid i’r cyfansoddiad ymdrin â nhw. Bydd yn cynnwys materion megis sut y penderfynir pwy fydd yn gwneud pa benderfyniadau, trefn cyfarfodydd, dyrannu cadeiryddion i bwyllgorau, protocolau rhwng y weithrediaeth a’r pwyllgorau craffu, gweithdrefnau ariannol a llawer o bethau eraill. Felly, rhaid i gynghorau ddarparu canllaw i’r cyfansoddiad i helpu pobl i’w ddefnyddio a chanfod beth mae angen iddynt ei wybod.

Un o’i brif agweddau yw nodi cynllun y cyngor ar gyfer gwneud penderfyniadau dirprwyedig. Er ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i rai penderfyniadau gael eu gwneud gan y cyngor llawn, gellir dirprwyo rhai eraill i’r weithrediaeth neu i uwch-staff y cyngor. Mae hwn yn ddull synhwyrol gan fod gan gynghorau gyllidebau gwerth miliynau o bunnoedd, maent yn cyflogi miloedd o bobl, ac yn darparu amrywiaeth o wasanaethau pwysig i’w cymunedau, sy’n golygu bod llawer o benderfyniadau’n cael eu gwneud bob dydd am bethau pwysig sy’n effeithio ar bawb yn ardal y cyngor. Byddai’n amhosibl i’r holl benderfyniadau hyn gael eu gwneud gan y cyngor llawn ac felly mae’r cyngor yn cytuno ar ‘gynllun dirprwyo’ sy’n rhan o’i ‘gyfansoddiad’. Mae hwn yn nodi pwy sy’n cael gwneud gwahanol fathau o benderfyniadau sy’n ymwneud â darparu gwasanaethau’r cyngor a’i fusnes arall. Bydd cyfansoddiad y cyngor hefyd yn nodi pryd y bydd penderfyniadau'r cabinet yn cael eu gwneud ar y cyd (hynny yw, gan y cabinet cyfan yn gweithredu gyda'i gilydd), neu pryd y gall aelodau unigol o'r cabinet wneud penderfyniadau (o fewn "portffolio" o faterion a nodir yn y cyfansoddiad).

Cyfrifoldeb un o uwch-swyddogion y cyngor yw cadw’r cyfansoddiad yn gyfredol a sicrhau bod y penderfyniadau a wneir o fewn y cyngor yn cydymffurfio â’r rheolau a nodir yn ei gyfansoddiad ei hun.

Beth mae deddfwriaeth yn ei ddweud sy’n gorfod bod yng nghyfansoddiad cyngor?

Rhaid i gynghorau lunio a chyhoeddi cyfansoddiad (a37(1), Deddf Llywodraeth Leol 2000).

Rhaid i’r cyfansoddiad nodi gwybodaeth sy’n unol â chyfarwyddyd Gweinidogion Cymru (a37(1)(a)), copi o reolau sefydlog y cyngor (a37(1)(b), cod ymddygiad y cyngor (a37(1)(c)) a gwybodaeth arall o’r fath (os o gwbl) y mae’r cyngor yn ei hystyried yn briodol (a37(1)(d)).

Rhaid i’r cyfansoddiad hefyd nodi rheolau gweithdrefnau ariannol. Rheolau yw'r rhain sy'n nodi sut y mae'r cyngor yn gwario arian, gan gynnwys llofnodi'r datganiad cyfrifon. Rhaid iddo nodi rheolau gweithdrefnau ar gyfer contractio a chaffael.

Rhaid i gynghorau bennu rheolau sefydlog ar gyfer llofnodi cofnodion cyfarfodydd eithriadol, yn ogystal â chofnodi pleidleisiau (Rheoliad 4, Atodlen 2, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006). Rhaid i reolau sefydlog hefyd ymdrin â phenodi a diswyddo uwch-swyddogion penodol (a10, Mesur Llywodraeth Leol 2011, Atodlen 1, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006).

Yn gyffredinol, dylai cyfansoddiadau ddangos sut y mae’r cyngor yn bodloni gofynion Deddf Llywodraeth Leol 1972 a Deddf Llywodraeth Leol 2000 (a deddfiadau perthnasol eraill) o ran sut y mae’n trefnu (“cynnull”) cyfarfodydd ffurfiol ac yn cyflawni busnes y cyngor.

Darllenwch fwy am ganllawiau ar gyfansoddiadau.

Beth yw’r canllaw i’r cyfansoddiad?

Rhaid i gynghorau hefyd baratoi a chyhoeddi canllaw i’r cyfansoddiad (a45, Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021, gan ddiwygio a37, Deddf Llywodraeth Leol 2000).

Wrth lunio’r canllaw i’r cyfansoddiad, dylai cynghorau ystyried:

  • cynulleidfa debygol canllaw o’r fath
  • sut y byddant yn sicrhau bod anghenion y gynulleidfa honno’n cael eu cofnodi a’u deall
  • sut y byddant yn sicrhau yn y cyd-destun hwnnw bod canllaw yn gwbl hygyrch ac yn ddefnyddiol

Y bwriad yw ei gwneud yn haws i bobl leol ddeall sut y mae’r cyngor yn gweithredu, a’u grymuso i gymryd rhan mewn democratiaeth leol. Dylai’r canllaw:

  • esbonio, mewn iaith gyffredin, elfennau allweddol y cyfansoddiad
  • galluogi’r cyhoedd i ddeall sut y mae’r cyngor yn gweithredu ac yn gwneud penderfyniadau
  • canolbwyntio ar y rhannau hynny o’r cyfansoddiad sydd fwyaf gweladwy i’r cyhoedd a’r rhannau hynny sy’n rheoli’r modd y mae’r cyngor yn rhyngweithio â’r cyhoedd

Ni fydd canllaw cyfansoddiad effeithiol yn fynegai anodedig o’r cyfansoddiad ond bydd yn egluro mewn iaith gyffredin sut y mae system lywodraethu’r cyngor yn gweithio’n fewnol.

Darllenwch fwy am yr arweiniad i’r cyfansoddiad.

Beth yw’r rheolau ynghylch cyfarfodydd, agendâu, cofnodion, mynediad i’r cyhoedd a chofnodi penderfyniadau?

Ceir deddfwriaeth fanwl sy’n nodi rheolau cyfarfodydd cyngor, ar gyfer y cyngor ac ar gyfer y weithrediaeth. Mae’r rheolau hyn hefyd yn nodi sut y bydd aelodau’n cael gwybod neu’n cael eu ‘gwysio’ i’r cyfarfodydd, sut a phryd y bydd y cofnodion yn cael eu cyhoeddi a sut y bydd penderfyniadau’n cael eu cofnodi. Oni bai fod amgylchiadau eithriadol, rhaid i gynghorau roi hysbysiad cyhoeddus o gyfarfod o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod a rhaid iddynt gyhoeddi'r hysbysiad yn electronig. Rhaid i’r agenda a’r papurau ar gyfer y cyfarfod gael eu cyhoeddi’n electronig hefyd ar hyn o bryd (yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol ynghylch cyhoeddi unrhyw wybodaeth sy’n cael ei hystyried yn gyfrinachol neu wedi’i heithrio). Bydd cynghorau’n gwysio aelodau etholedig i’r cyfarfod yn electronig, oni bai fod aelod wedi rhoi rhybudd ysgrifenedig eu bod am i’r hysbysiad gael ei bostio neu ei ddanfon atynt gartref.

Gellir cynnal cyfarfodydd y cyngor wyneb yn wyneb mewn lleoliad neu leoliadau penodol, yn rhithwir  neu drwy gymysgedd o gyfarfodydd wyneb yn wyneb a rhithwir (a elwir yn gyfarfodydd hybrid). Bydd cyfansoddiad y cyngor yn nodi rheolau manwl ar gyfer sut y cynhelir cyfarfod penodol, pa mor aml y bydd y cyngor neu’r pwyllgor yn cyfarfod, yr amser a’r diwrnod y bydd yn cyfarfod, sut y gofynnir cwestiynau yn ystod y cyfarfod a sut y gwahoddir pobl o’r tu allan i’r cyngor i gymryd rhan.

Ar ôl y cyfarfod, mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod nodyn o unrhyw benderfyniadau a wneir yn cael ei gyhoeddi’n electronig o fewn saith niwrnod gwaith i’r cyfarfod a bod cofnodion llawn y cyfarfod yn cael eu cytuno yng nghyfarfod nesaf y cyngor, y pwyllgor neu’r cabinet.

Caiff aelodau’r cyhoedd weld holl bapurau’r cyfarfod a mynd i holl gyfarfodydd cynghorau, cabinetau a phwyllgorau naill ai’n bersonol neu’n rhithwir os yw’r cyfarfod yn cael ei gynnal ar-lein neu fel cyfarfod hybrid. Fel arfer, nid ydynt yn cael cymryd rhan mewn cyfarfod oni bai eu bod wedi cael gwahoddiad at ddiben penodol, er enghraifft, i roi cofnod o’u profiadau personol o wasanaeth mewn pwyllgor craffu. Mae rhai eithriadau i hyn a nodir yn y gyfraith, lle mae agenda’r cyfarfod yn cynnwys trafod materion sy’n gyfrinachol neu wedi’u heithrio (hynny yw, yn fasnachol sensitif neu’n cynnwys manylion personol staff y cyngor).

Rhaid i gynghorau Cymru ddarlledu cyfarfodydd eu cyngor llawn ar y rhyngrwyd. Dylai’r cyfarfod gael ei ddarlledu’n ‘fyw’ a dylai’r recordiad fod ar gael i aelodau o’r cyhoedd ac eraill ei weld yn ddiweddarach. Mae hyn yn golygu bod pobl nad ydynt yn gallu bod yn bresennol yn y cyfarfodydd na’u gweld wrth iddynt gael eu cynnal yn gallu cael mynediad at ddemocratiaeth leol ac yn gallu gweld sut a pha benderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan gynrychiolwyr etholedig lleol. Er mai dim ond darlledu cyfarfodydd llawn y cyngor sy’n ofynnol o dan y gyfraith ar hyn o bryd, caiff cynghorau eu hannog i ddarlledu cynifer o gyfarfodydd â phosibl er mwyn annog a chefnogi cymaint o bobl â phosibl i gymryd rhan mewn democratiaeth leol.

Rhagor o wybodaeth am sut y caiff cyfarfodydd cyngor eu cynnal a’r hyn y mae’n rhaid i gynghorau ei wneud

Mae'r darpariaethau cyfreithiol allweddol ynghylch y trefniadau statudol ar gyfer cyfarfodydd cynghorau llawn, eu pwyllgorau a'u his-bwyllgorau a’u cyd-bwyllgorau wedi'u nodi yn Rhan 5A o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972 ac Atodlen 12 iddi. Mae'r trefniadau cyfatebol ar gyfer cyfarfodydd gweithrediaeth cyngor wedi'u nodi yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 ac ymdrinnir â nhw ar wahân isod.

Mae’r trefniadau wedi’u cynllunio i sicrhau bod y cyngor yn cynnal ei fusnes ac yn gwneud penderfyniadau mewn modd agored a thryloyw. Dylai aelodau o’r cyhoedd allu dilyn hynt busnes y cyngor, drwy allu mynd i gyfarfodydd wyneb yn wyneb neu’n rhithwir a thrwy gael mynediad at amrywiol bapurau cyfarfodydd, adroddiadau a phapurau cefndir (yn amodol ar unrhyw gyfyngiadau cyfreithiol a nodir isod). Bellach, gall cynghorau gyfarfod drwy ddefnyddio dulliau electronig ac mae arweiniad ar gyfarfodydd aml-leoliad.

Sut y mae cyfarfodydd y cyngor llawn, ei bwyllgorau, ei is-bwyllgorau a’i gyd-bwyllgorau yn cael eu cynnal?

Fel arfer, rhaid i gyfarfodydd cynghorau (yn yr adran hon, mae’r term yn cynnwys cyfarfodydd pwyllgorau, is-bwyllgorau a chyd-bwyllgorau hefyd) fod yn agored i’r cyhoedd, a all fod yn bresennol yn bersonol neu o bell, yn dibynnu ar y trefniadau ar gyfer y cyfarfod (gweler isod). Mae hawl y cyhoedd i fynd i gyfarfodydd cyngor wedi’i nodi mewn deddfwriaeth (a100A, Deddf Llywodraeth Leol 1972), ond weithiau gellir eu heithrio o gyfarfod os bydd materion penodol yn cael eu trafod (a100A(2), Atodlen 12A, Deddf Llywodraeth Leol 1972).

Bydd y cyhoedd yn cael eu heithrio o gyfarfod neu ran o gyfarfod yn unig os bydd yr eitem neu’r eitemau busnes yn delio â gwybodaeth sy’n gyfrinachol neu wedi'i heithrio. Caiff y termau hyn eu diffinio yn adrannau 100A(3) a 100I o Ddeddf 1972 yn y drefn honno.

Nid oes gan aelodau’r cyhoedd hawl awtomatig i siarad yng nghyfarfodydd ffurfiol y cyngor. Maent yn gyfarfodydd a gynhelir yn gyhoeddus, yn hytrach na chyfarfodydd cyhoeddus.

Rhaid i hysbysiad cyhoeddus o gyfarfodydd cyngor yng Nghymru gael ei gyhoeddi’n electronig o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod. O bryd i’w gilydd, gellir cynnull cyfarfod ar rybudd byrrach, ac os felly rhaid cyhoeddi’r hysbysiad yn electronig pan fydd y cyfarfod yn cael ei gynnull.

Pan fo'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol bod y cyngor yn cyhoeddi hysbysiad neu ddogfen yn electronig, mae hyn yn golygu bod rhaid i'r cyngor gyhoeddi'r hysbysiad neu'r dogfennau ar ei wefan.

Rhaid i’r hysbysiad cyhoeddus gynnwys gwybodaeth benodol sy’n rhoi manylion y trefniadau ar gyfer y cyfarfod (gan gynnwys a yw’n agored i’r cyhoedd, yn cael ei gynnal drwy ddulliau rhithwir neu hybrid, ei leoliad a sut y mae cael mynediad i gyfarfod o bell).

Rhaid i gopïau o'r agenda ac adroddiadau cysylltiedig ar gyfer cyfarfod cyngor gael eu cyhoeddi'n electronig o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod, oni bai fod y cyfarfod wedi'i drefnu ar rybudd byrrach ac os felly rhaid cyhoeddi'r dogfennau pan gaiff ei drefnu. Mae trefniadau’n bodoli ar gyfer dosbarthu papurau’n ddiweddarach o dan ofynion “brys” arbennig, gyda chymeradwyaeth y Swyddog Monitro.

Rhaid peidio â chyhoeddi papurau neu rannau o bapurau sy’n ymwneud â gwybodaeth gyfrinachol neu esempt.

Pan gaiff aelodau o'r cyhoedd fod yn bresennol wyneb yn wyneb mewn cyfarfod o'r cyngor, rhaid darparu nifer rhesymol o gopïau o'r agenda ac adroddiadau at eu defnydd a gellir darparu copïau ar gais (ac yn ddarostyngedig i daliad) i unrhyw bapur newydd.

Ar ôl cyfarfod o’r cyngor, rhaid i’r cofnodion, yr agenda a’r adroddiadau cysylltiedig gael eu cyhoeddi’n electronig a pharhau i fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd am o leiaf 6 blynedd o ddyddiad y cyfarfod. Os oedd unrhyw bapurau cefndir yn sail i adroddiadau’r cyfarfod, rhaid i’r papurau cefndir gael eu cyhoeddi’n electronig hefyd gan sicrhau eu bod ar gael yn electronig am o leiaf 6 blynedd o ddyddiad y cyfarfod. Os nad yw'n rhesymol ymarferol cyhoeddi dogfen gefndir (er enghraifft, os yw'n ddeiseb neu'n siarter hanesyddol fregus), rhaid i gopi o'r ddogfen fod ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd y cyngor am o leiaf 6 blynedd ar ôl y cyfarfod.

Rhaid llunio, cymeradwyo a chyhoeddi cofnodion yn electronig ar ôl pob cyfarfod o’r cyngor; mae’r rhain yn gofnod cyfreithiol ffurfiol o’r cyfarfod a’i benderfyniadau, er gwaethaf presenoldeb unrhyw recordiad o’r cyfarfod a’i drafodion. Fodd bynnag, ni chaiff cofnodion eu cymeradwyo’n ffurfiol tan gyfarfod nesaf y cyngor neu’r pwyllgor perthnasol, a all fod yn rhai wythnosau neu fisoedd hyd yn oed. Yn y cyfamser, cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyfarfod o'r cyngor, a dim hwyrach na 7 niwrnod gwaith ar ôl y cyfarfod, rhaid i gyngor gyhoeddi'n electronig nodyn byr o'r cyfarfod sy'n nodi enwau'r cynghorwyr a aeth i’r cyfarfod, unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb, unrhyw ddatganiadau o ddiddordeb ac unrhyw benderfyniadau a wnaethpwyd yn y cyfarfod (ond heb gynnwys unrhyw beth a benderfynwyd pan oedd y cyfarfod ar gau i'r cyhoedd).  

Ar gyfer trafodion y Cabinet, rhaid i gynghorau lynu wrth ofynion ffurfiol ar gyfer cyhoeddi agendâu, cofnodion ac adroddiadau fel y nodir yn Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 (fel y’u diwygiwyd).

Diwygiwyd Rheoliadau 2001 gan Reoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2021 i ddileu’r gofyniad i gopïau caled o ddogfennau cyfarfodydd Cabinet fod ar gael i’w harchwilio gan aelodau’r cyhoedd yn swyddfeydd y cyngor (ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol). Roedd y rheoliadau diwygio yn gosod gofynion ar gynghorau i sicrhau bod dogfennau cyfarfodydd Cabinet ar gael yn electronig ar eu gwefannau. Mae’r trefniadau ar gyfer cyfarfodydd Cabinet yn debyg i’r rheini sy’n berthnasol i gyfarfodydd cyngor eraill, ond mae rhai gwahaniaethau.

Sut y mae cyfarfodydd cabinet, ei bwyllgorau a’i is-bwyllgorau’n cael eu cynnal?

Yn yr adran hon, mae cyfeiriadau at gyfarfodydd cabinet hefyd yn cynnwys cyfarfodydd unrhyw bwyllgorau neu is-bwyllgorau’r cabinet.

Yn yr un modd â chyfarfodydd eraill y cyngor, rhaid i gyfarfodydd y cabinet fod yn agored i'r cyhoedd fel arfer, yn amodol ar gyfyngiadau tebyg ynghylch cyfarfodydd neu rannau o gyfarfodydd lle mae eitem neu eitemau busnes yn ymdrin â gwybodaeth gyfrinachol neu esempt. Mae diffiniadau’r termau hyn yr un fath ag ar gyfer cyfarfodydd cyngor eraill.

Rhaid i hysbysiad cyhoeddus o gyfarfodydd cabinet gael ei gyhoeddi’n electronig (eto, mae hyn yn golygu ar wefan yr awdurdod) dri diwrnod clir cyn y cyfarfod neu ar yr adeg y caiff ei gynnull, os caiff ei gynnull ar rybudd byrrach mewn amgylchiadau eithriadol. Rhaid i’r hysbysiad cyhoeddus gynnwys gwybodaeth benodol sy’n rhoi manylion y trefniadau ar gyfer y cyfarfod (gan gynnwys a yw’n agored i’r cyhoedd, yn cael ei gynnal drwy ddulliau rhithwir neu hybrid, ei leoliad a sut y mae cael mynediad i gyfarfod rhithwir).

Rhaid i gopïau o’r agenda ac adroddiadau cysylltiedig ar gyfer cyfarfod o’r cabinet gael eu cyhoeddi’n electronig o leiaf dri diwrnod clir cyn y cyfarfod, oni bai bod y cyfarfod wedi’i drefnu ar rybudd byrrach ac os felly rhaid cyhoeddi’r dogfennau pan gaiff ei drefnu. Rhaid peidio â chyhoeddi papurau neu rannau o bapurau sy’n ymwneud â gwybodaeth gyfrinachol neu esempt. Pan gaiff aelodau o’r cyhoedd fod yn bresennol yn bersonol mewn cyfarfod o’r cabinet, rhaid darparu nifer rhesymol o gopïau o’r agenda a’r adroddiadau at eu defnydd.

Cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl cyfarfod lle gwnaethpwyd penderfyniad gweithrediaeth, rhaid i’r swyddog o’r cyngor sy'n mynd i’r cyfarfod baratoi datganiad ysgrifenedig sy'n cofnodi'r penderfyniad yn ffurfiol, y dyddiad y cafodd ei wneud, y rhesymau dros y penderfyniad, manylion unrhyw ymgynghoriad a gynhaliwyd ar y mater dan sylw, enwau aelodau'r cabinet a ddaeth i'r cyfarfod ac unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb. Rhaid i'r datganiad ysgrifenedig hefyd gofnodi unrhyw ddatganiadau o fuddiant a nodwyd gan unrhyw aelodau o'r cabinet yn y cyfarfod ac, yng nghyswllt unrhyw ddatganiadau o fuddiant, gofnodi unrhyw oddefeb a roddwyd gan bwyllgor safonau'r cyngor.

Mae gofynion tebyg yn berthnasol os bydd cyfansoddiad a threfniadau gweithdrediaeth y cyngor yn caniatáu i aelod unigol o’r cabinet wneud penderfyniad gweithrediaeth. Rhaid i swyddog cyngor lunio datganiad ysgrifenedig cyn gynted ag y bo'n ymarferol, yn cofnodi'r penderfyniad a'r un wybodaeth a restrir yn y paragraff uchod (er mai dim ond yr aelod unigol o'r cabinet a wnaeth y penderfyniad y bydd yn ei enwi). Fel arfer, ni ddylid gweithredu penderfyniad gweithrediaeth a wneir gan aelod unigol o'r cabinet nes bydd y datganiad ysgrifenedig wedi'i lunio, ond mewn amgylchiadau eithriadol caniateir gweithredu'r penderfyniad cyn i'r datganiad gael ei lunio os bydd y penderfynwr yn cael cytundeb gan gadeirydd pwyllgor craffu'r cyngor cysylltiedig, (yn absenoldeb unigolyn o'r fath) cadeirydd y cyngor neu (yn absenoldeb y naill neu'r llall o'r bobl flaenorol) is-gadeirydd y cyngor.

Rhaid i unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig am benderfyniadau gweithrediaeth (boed hynny'n rhai a wneir gan aelodau'r cabinet ar y cyd neu gan unigolyn) gael eu cyhoeddi ar wefan y cyngor cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol, ynghyd ag unrhyw adroddiadau sy'n berthnasol i'r penderfyniad. Gellir darparu copïau o agendâu cyfarfodydd cabinet, unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig ac unrhyw adroddiadau perthnasol ar gais (ac yn amodol ar daliad) i unrhyw bapur newydd.

Os yw’r adroddiadau sy’n ymwneud â phenderfyniad gweithrediaeth yn seiliedig ar unrhyw bapurau cefndir, rhaid i’r papurau cefndir hefyd gael eu cyhoeddi’n electronig cyn gynted ag y bo’n rhesymol ymarferol ar ôl i’r datganiadau ysgrifenedig gael eu cyhoeddi. Os nad yw'n rhesymol ymarferol cyhoeddi dogfen gefndir (er enghraifft, os yw'n ddeiseb neu'n siarter hanesyddol fregus), rhaid i gopi o'r ddogfen fod ar gael i'w archwilio yn swyddfeydd y cyngor.

Rhaid i unrhyw ddatganiadau ysgrifenedig, adroddiadau a phapurau cefndir sy’n ymwneud â phenderfyniad gweithrediaeth fod ar gael yn electronig i aelodau o’r cyhoedd neu, fel y bo’n briodol, fod ar gael i’w harchwilio, am o leiaf 6 blynedd o’r dyddiad y gwnaethpwyd y penderfyniad.

Craffu

Beth yw craffu a pham y mae’n bwysig?

Pwrpas craffu yw dwyn y weithrediaeth i gyfrif am y penderfyniadau y mae'n eu gwneud. Rhan bwysig o’r broses hon yw sicrhau bod gwersi’n cael eu dysgu a bod modd gwella gwasanaethau a phenderfyniadau yn y dyfodol. Mae craffu yn rhan bwysig o systemau’r cyngor ei hun ar gyfer gwella ei berfformiad. Dylai gweithrediaeth cyngor fod yn agored i graffu gan ei fod hefyd yn rhan bwysig o greu hyder, tryloywder a diddordeb mewn democratiaeth leol. Mae hefyd yn bwysig sicrhau bod cyfranogiad mewn democratiaeth yn cael ei ddiogelu a’i fod mor amrywiol â’r cymunedau sydd o fewn ardal y cyngor, o ran eu buddiannau a’u daearyddiaeth.

Darllenwch fwy am drefniadau i sicrhau trosolwg a chraffu effeithiol.

I gefnogi eu gwaith, mae gan bwyllgorau craffu bwerau cyfreithiol helaeth i alw ar aelodau’r weithrediaeth, staff y cyngor a thystion eraill i roi tystiolaeth mewn cyfarfodydd, i archwilio papurau a dogfennau ac i ‘alw i mewn’ benderfyniadau’r weithrediaeth.

Darllenwch fwy am drefniadau ‘galw i mewn’ mewn perthynas â phwyllgorau trosolwg a chraffu.

Rhaid i gynghorau sefydlu trefniadau i ganiatáu i bwyllgor craffu adolygu neu graffu ar benderfyniadau a wneir, ond na chânt eu gweithredu, gan y weithrediaeth. Dyma’r pŵer y cyfeirir ato fel “galw i mewn” (adran 21(3), Deddf Llywodraeth Leol 2000).

Gall pwyllgorau craffu gyhoeddi adroddiadau ac argymhellion ar gyfer gwella,  a dylai’r weithrediaeth eu hystyried ac ymateb iddynt. Gall pwyllgorau craffu weithio gyda phwyllgorau craffu o gynghorau eraill a gellir ffurfio cyd-bwyllgorau craffu lle mae cynghorau’n cydweithio i ddarparu gwasanaethau dros nifer o ardaloedd cynghorau. Gall pwyllgorau craffu hefyd graffu ar waith partneriaethau y mae’r cyngor yn aelod ohonynt megis Byrddau Gwasanaethau Cyhoeddus.

Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod gan bob cyngor o leiaf un pwyllgor craffu ac ni all aelodau’r weithrediaeth fod yn aelodau o bwyllgor craffu. Daw aelodau pwyllgorau craffu o blith aelodau eraill y cyngor, a elwir weithiau’n aelodau ‘meinciau cefn’. Mae’r rhan fwyaf o gynghorau’n cytuno yn eu cyfansoddiad i gael mwy nag un, ac mae’r pwyllgorau fel arfer yn cael eu trefnu ar sail themâu fel ‘plant a phobl ifanc’ neu ‘yr amgylchedd’.

Rhaid i bwyllgorau craffu gael cydbwysedd gwleidyddol, ac er mwyn sicrhau amhleidioldeb gwleidyddol mae rheolau cyfreithiol ychwanegol ynghylch sut y dylid penodi cadeiryddion pwyllgorau craffu i sicrhau na all pob cadeirydd ddod o’r blaid neu’r grŵp mwyafrifol ar y cyngor.

Darllenwch fwy am benodi personau i gadeirio pwyllgorau trosolwg a chraffu.

Sut y gall pwyllgorau craffu gael yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i wneud eu gwaith?

Rhaid i unrhyw ddogfennau sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i wneud penderfyniad gweithrediaeth (boed hynny ar y cyd neu'n unigol), i'r graddau y mae'n rhesymol ymarferol, gael eu darparu ar gais i unrhyw gynghorydd pan ddaw'r cyfarfod i ben neu ar ôl i benderfyniad gael ei wneud. Ni ddylid darparu unrhyw ddogfennau neu rannau o ddogfennau sy’n cynnwys gwybodaeth gyfrinachol neu esempt, ac ni ddylai cynghorydd gwleidyddol neu gynorthwyydd ychwaith roi unrhyw gyngor i aelodau’r cabinet.

Mae gan aelod o unrhyw un o bwyllgorau trosolwg a chraffu’r cyngor hawl i gael copïau o unrhyw ddogfennau sy'n cynnwys gwybodaeth sy'n berthnasol i wneud penderfyniad gweithrediaeth (boed hynny ar y cyd neu'n unigol). Ni fydd gan yr aelod hawl i ddogfennau o’r fath, fodd bynnag, os yw’r dogfennau neu’r rhannau o ddogfennau yn cynnwys gwybodaeth gyfrinachol neu esempt neu gyngor a roddir i aelodau’r cabinet gan gynorthwyydd neu gynghorydd gwleidyddol, oni bai fod yr wybodaeth yn berthnasol i ddarn o waith sy’n cael ei wneud gan y pwyllgor trosolwg a chraffu y mae’r cynghorydd dan sylw yn aelod ohono. Rhaid i’r aelod o’r pwyllgor trosolwg a chraffu sy’n cael gwybodaeth gyfrinachol neu esempt beidio â datgelu’r wybodaeth, oni bai ei fod wedi’i awdurdodi i wneud hynny o dan ryw ddeddfwriaeth arall.

Darllenwch fwy am rannu gwybodaeth rhwng y weithrediaeth a’r pwyllgor graffu.

Beth yw’r gyfraith sy’n ymwneud â phwyllgorau craffu?

Rhaid i gynghorau benodi o leiaf un pwyllgor trosolwg a chraffu (a21, Deddf Llywodraeth Leol 2000) ond cânt benodi mwy na hyn.

Rhaid i gynghorau roi grym i bŵer craffu er mwyn sicrhau’r canlynol:

  • ei gwneud yn ofynnol bod aelodau’r weithrediaeth, a swyddogion y cyngor, yn mynd gerbron y pwyllgor i ateb cwestiynau a darparu gwybodaeth (a21(13), Deddf Llywodraeth Leol 2000)
  • ei gwneud yn ofynnol bod gweithrediaeth yr awdurdod yn ymateb i adroddiadau ac argymhellion (a21B, Deddf Llywodraeth Leol 2000)
  • ei gwneud yn ofynnol bod aelodau eraill o’r cyngor yn bresennol i ateb cwestiynau, yng nghyswllt pwerau y gallant eu harfer o dan adran 56 o Fesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011. (a21(2), Deddf Llywodraeth Leol 2000)

Mae gan aelodau pwyllgorau trosolwg a chraffu hawliau mynediad ychwanegol at wybodaeth. Mae hyn yn cynnwys dogfen o dan reolaeth gweithrediaeth y cyngor sy'n cynnwys deunydd sy'n ymwneud â busnes sy'n cael ei drafod mewn cyfarfod o gorff gwneud penderfyniadau'r awdurdod, neu benderfyniad a wneir gan aelod unigol o'r weithrediaeth. Mae hyn yn cynnwys gwybodaeth esempt neu gyfrinachol, pan fo’n berthnasol i fater y mae pwyllgor yn craffu arno neu sy’n berthnasol i adolygiad mewn rhaglen waith pwyllgor (Rheoliad 11, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001 (fel y’u diwygiwyd)).

Rhaid i gynghorau sicrhau bod y “chwip” (proses reoli wleidyddol lle caiff aelodau o grŵp pleidiol-wleidyddol penodol eu gorchymyn i bleidleisio mewn ffordd benodol) yn cael ei wahardd (a 78, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011). Nid yw hyn yn rhagfarnu cyfreithlondeb defnyddio’r chwip mewn sefyllfaoedd eraill, er enghraifft yng nghyfarfodydd llawn y cyngor.

Rhaid i gynghorau lynu wrth reolau mewn deddfwriaeth ynghylch penodi cadeiryddion i bwyllgorau craffu (a-68-75, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011).

Rhaid i gynghorau benodi rhiant-lywodraethwyr, a chynrychiolwyr eglwysi, i swyddi fel aelodau pleidleisio o bwyllgorau trosolwg a chraffu ar addysg (Cynrychiolwyr Rhiant-lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001).

A ellir cyfethol aelodau ychwanegol i bwyllgorau craffu?  

Dylai cynghorau ystyried cyfethol aelodau o bwyllgorau nad ydynt yn gynghorwyr. Cyfethol yw’r arfer o ddod â phobl i bwyllgor nad ydynt yn gynghorwyr etholedig, ond yn bobl a chanddynt sgiliau a phrofiad defnyddiol ac a allai chwarae rôl werthfawr, naill ai drwy fod yn aelodau llawn o bwyllgorau neu’n aelodau heb bleidlais.

Mae hon yn ffordd o feithrin aelodaeth fwy amrywiol o bwyllgorau craffu. Gall fod yn ffordd o gefnogi cyfranogiad cyhoeddus ehangach mewn democratiaeth leol, fel y trafodir mewn mannau eraill yn y canllawiau hyn.

Craffu ar y cyd

Beth yw cyd-bwyllgor craffu?

Gall dau gyngor neu ragor benderfynu penodi cyd-bwyllgor trosolwg a chraffu (JOSC) (a58, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011). Rhaid i'r penderfyniad hwn fod yn ddarostyngedig i gytundeb sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cynnull y pwyllgor hwn a'i gyfarfodydd, fel y nodir yn y Rheoliadau. Rhaid i drefniadau JOSC ddarparu ar gyfer cyfeirio materion at JOSC gan aelod o awdurdod penodi: 

  • os yw’r mater yn ymwneud ag un o swyddogaethau’r awdurdod
  • os yw'n effeithio ar ardal etholiadol yr aelod neu'n effeithio ar unrhyw un sy'n byw neu'n gweithio yno
  • os nad yw’n fater trosedd ac anhrefn lleol fel y’i diffinnir yn adran 19 o Ddeddf yr Heddlu a Chyfiawnder 2006

Er nad oes rhaid i gyd-bwyllgorau sicrhau cydbwysedd gwleidyddol, rhaid i’r awdurdodau penodi sicrhau bod yr aelodau a benodir ganddynt yn adlewyrchu cydbwysedd eu hawdurdod eu hunain.

Dylai’r fframwaith craffu ar y cyd nodi’r canlynol:

  • y partneriaid allweddol, a’r cyrff, ar lefel leol a allai gael eu goruchwylio gan waith trosolwg a chraffu
  • rôl craffu yng nghyswllt partneriaid a’r partneriaethau hynny, a’r disgwyliadau sydd gan y cyngor a’r partneriaid hynny o ran eu hymgysylltiad eu hunain â’r math hwn o graffu
  • trefniadau llywodraethu presennol sydd ar waith yng nghyswllt y partneriaid hynny
  • yr amgylchiadau lle bydd craffu “lleol” ar bartneriaid yn elwa o gael ei wneud ar y cyd â swyddogaethau craffu awdurdodau cyfagos
  • penodi JOSC, lle bo angen, a threfniadau ar gyfer bod yn aelod a chadeirio
  • trefniadau ar gyfer darparu adnoddau

Mae gan graffu ar y cyd fanteision sylweddol i gynghorau, ac i bartneriaid: 

  • Gall cynghorwyr edrych ar faterion o bersbectif ehangach, gan arwain at archwiliad mwy trylwyr o’r pynciau dan sylw
  • Mae presenoldeb gwahanol gadeiryddion craffu a chefnogaeth gan swyddogion craffu eraill wedi rhoi cyfleoedd i drosglwyddo dulliau dysgu a chyfnewid arferion da
  • Canfuwyd bod profiadau o gydgraffu yn ysgogi aelodau a swyddogion i adolygu’n feirniadol a gwella dulliau a ffyrdd mewnol eu cyngor ‘cartref’ o weithio, gan arwain yn y pen draw at graffu o safon uwch
  • Mae cydgraffu yn dod â golwg newydd ar ddatblygiadau ym mhob cam o’r broses gwneud penderfyniadau. Mae JOSCs yn gallu cyflwyno ffynonellau gwybodaeth newydd nad yw’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau efallai wedi’u hystyried wrth ddatblygu cynlluniau, polisïau a strategaethau
  • Mae gan aelodau nad ydynt yn aelodau gweithrediaeth gyfoeth o wybodaeth leol ac maent mewn sefyllfa dda i werthuso a yw blaenoriaethau partneriaeth a dulliau cyflawni yn ystyrlon i gymunedau lleol. Mae llawer o gynghorwyr yn gysylltiedig ag amrywiaeth o rwydweithiau cymdeithasol a grwpiau cymunedol ac yn gallu bwydo eu barn i brosesau gwneud penderfyniadau
  • Gall JOSCs helpu i leihau dyblygu mewn mecanweithiau atebolrwydd ac adrodd drwy fabwysiadu dull cydlynol o ymdrin â’r mater dan sylw

Darllenwch fwy am gyd-bwyllgorau trosolwg a chraffu.

Beth yw Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio a pham y mae’n bwysig?

Rhaid i bob prif gyngor gael pwyllgor llywodraethu ac archwilio. Mae hwn yn bwyllgor pwysig y mae’n rhaid iddo gael ei gadeirio gan aelod lleyg annibynnol nad yw’n aelod etholedig o’r cyngor, a rhaid i draean o aelodau eraill y pwyllgor hefyd fod yn aelodau lleyg.

Mae hyn er mwyn sicrhau bod y pwyllgor yn wirioneddol annibynnol ar y weithrediaeth a’r cyngor llawn. Mae hefyd yn rhoi sicrwydd i archwilwyr allanol a mewnol, rheoleiddwyr ac eraill sy’n gyfrifol am sicrhau bod y cyngor yn gweithredu o fewn y gyfraith, bod ganddo ddulliau llywodraethu effeithiol, gweithdrefnau cwyno a rheolaeth ariannol, y gallant adrodd yn ôl i bwyllgor a fydd yn ystyried eu hadroddiadau mewn ffordd wleidyddol annibynnol.

Mae gan y Pwyllgor swyddogaethau a nodir yn y gyfraith y mae’n rhaid iddo eu cyflawni. Mae’r rhain yn cynnwys adolygu a chraffu ar ddatganiadau ariannol a materion ariannol y cyngor, adolygu ac asesu’r ffordd y rheolir risg yn y cyngor, asesiad perfformiad y cyngor a gynhelir fel rhan o’i ddyletswyddau i adolygu ei ‘gofynion perfformiad’ (gweler Rhan 5) a gallu’r cyngor i ymdrin â chwynion yn effeithiol. Gall wneud adroddiadau ac argymhellion am yr holl bethau y mae’n gyfrifol am eu hadolygu a’u hasesu. Gall cynghorau hefyd ofyn i’r pwyllgorau hyn ymgymryd â swyddogaethau eraill.

Darllenwch fwy am bwyllgorau llywodraethu ac archwilio.

Sut ydw i’n gwybod nad yw fy arian yn cael ei ddefnyddio gan gynghorau ar weithgareddau gwleidyddol?

Mae’r gyfraith yn atal cynghorau rhag gwario arian cyhoeddus ar weithgareddau gwleidyddol megis ymgyrchu. Mae hyn yn arbennig o bwysig yn y cyfnod sy’n arwain at etholiadau cyngor cyffredin gan ei fod yn sicrhau na all y blaid, y pleidiau na’r grwpiau sy’n arwain y cyngor ragfarnu’r etholiad o’u plaid drwy ddefnyddio’r adnoddau a’r staff sydd ar gael i’r cyngor. Ceir cod statudol, y ‘Cod ar yr Arferion a Argymhellir o ran Cyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol’ y mae’n rhaid i gynghorau ei ddilyn bob amser. Mae hwn yn nodi’r egwyddorion y mae’n rhaid i benderfyniadau sy’n ymwneud â chyhoeddusrwydd gael eu seilio arnynt.

Darllenwch mwy am y Cod ar yr arferion a argymhellir o ran cyhoeddusrwydd awdurdodau lleol.

Pam y mae’r gyfraith yn gwneud i gynghorau gael uwch-swyddogion, pam y maent yn bwysig a beth y maent yn ei wneud?

Mae’r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol bod gan gynghorau bedwar uwch-swyddog. Mae’r swyddogion hyn yn cyflawni rolau gwahanol a phwysig yn y cyngor. Pwrpas y rolau hyn yw cefnogi cynghorwyr i redeg y cyngor yn effeithiol ac yn effeithlon ac o fewn y gyfraith. Er mwyn cyflawni’r swyddogaethau hyn, rhoddir statws unigryw i’r swyddogion hyn yn y gyfraith a elwir weithiau’n ‘amddiffyniad statudol rhag diswyddo’. Y rheswm am hyn yw y bydd y rolau o bryd i’w gilydd yn gofyn i’r swyddogion gynghori cynghorwyr na chânt wneud rhywbeth oherwydd ei fod y tu allan i’r gyfraith, neu adrodd am sefyllfa ariannol ddifrifol i’r cyngor llawn. Byddai’n gwneud y rolau statudol hyn yn amhosibl eu cyflawni’n effeithiol pe na bai gan y swyddogion hyn ddiogelwch cyfreithiol a fyddai’n ei gwneud yn ofynnol i’w prosesau disgyblu a diswyddo gael eu cynnal mewn ffordd wleidyddol niwtral.

Mae’r swyddogion hyn, a holl weithwyr y cyngor, wedi’u rhwymo gan god ymddygiad statudol sy’n ei gwneud yn ofynnol iddynt weithredu mewn modd gwleidyddol niwtral ac yn dilyn egwyddorion bywyd cyhoeddus megis bod yn agored ac yn onest. Mae’r Cod yn rhan o delerau ac amodau cyflogaeth holl weithwyr y cyngor (ac eithrio rhai grwpiau proffesiynol megis athrawon sydd â’u codau proffesiynol eu hunain) ac mae torri’r Cod yn fater disgyblu dan gynllun disgyblu’r cyngor ar gyfer y staff perthnasol fel y nodir yng nghyfansoddiad y cyngor.

I atgyfnerthu pwysigrwydd amhleidioldeb gwleidyddol ymhlith uwch-swyddogion y cyngor, mae eu swyddi yn cael eu galw'n rhai 'o dan gyfyngiadau gwleidyddol'. Mae hyn yn golygu bod rhaid iddynt ymddiswyddo o’u swydd fel swyddog cyngor os ydynt yn dymuno mynd am swydd etholedig. Mae ystod eang o swyddi mewn cynghorau yn perthyn i’r categori ‘o dan gyfyngiadau gwleidyddol’ a rhaid i bob cyngor gyhoeddi rhestr o’r swyddi hyn a’i diweddaru. Mae’r gyfraith hefyd yn darparu ar gyfer ‘Dyfarnwr Annibynnol’ sy’n gyfrifol am benderfynu a ddylai swydd fod o dan gyfyngiadau gwleidyddol pan fydd y gweithiwr dan sylw a’r cyngor yn anghytuno.

Rhaid i gynghorau ddynodi swyddogion i gyflawni’r swyddogaethau canlynol:

Prif Weithredwr (a54, Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021), sy’n gorfod cadw golwg ar:  

  • y modd y cydlynir y ffordd y mae'r cyngor yn arfer ei swyddogaethau gwahanol
  • trefniadau’r cyngor yng nghyswllt cynllunio ariannol, rheoli asedau a rheoli risg (mae’r rolau hyn yn cael eu cyflawni ar y cyd â rolau’r Prif Swyddog Cyllid, y Pennaeth Archwilio Mewnol a’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio)
  • materion staffio, gan gynnwys graddio, trefnu, penodi a rheoli

Prif Swyddog Cyllid / swyddog a151 (a151, Deddf Llywodraeth Leol 1972, a6, Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989), sy’n gorfod gwneud trefniadau ar gyfer gweinyddu materion ariannol yn briodol. Rhaid i’r Prif Swyddog Cyllid fod yn weithiwr cyllid proffesiynol cymwysedig.

Prif Swyddog Cyfreithiol / Swyddog Monitro (a5, Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989), sy’n gorfod sicrhau bod y cyngor yn cadw at ei rwymedigaethau cyfreithiol. Ni all fod yr un person â’r Prif Weithredwr.

Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd (a8, Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011), sy’n gorfod cyflawni ystod o ddyletswyddau sy’n ymwneud â chefnogi aelodau etholedig a’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd.

Mae’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth a chyngor i’r awdurdod yng nghyswllt ei gyfarfodydd; am ddarparu cefnogaeth i waith pwyllgor trosolwg a chraffu’r cyngor; ac am lunio adroddiadau ac argymhellion ar ofynion staffio ar gyfer darparu swyddogaethau gwasanaethau democrataidd yn yr awdurdod. Yn eu hanfod, y swyddogaethau hyn yw’r rheini sy’n ymwneud â chynghorwyr, a threfn cyfarfodydd ffurfiol y cyngor. Mae’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd hefyd yn gyfrifol am farnu a yw cynghorwyr yn gymwys ar gyfer absenoldeb teuluol.

Dim ond y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a all ddynodi’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd; wrth wneud hynny dylai’r Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd ystyried y dyletswyddau eraill sydd gan y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Dylid nodi nad yw “dynodi” Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd yn golygu bod gan y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd y pŵer i benodi unigolyn yn uniongyrchol i swydd barhaol yn sefydliad yr awdurdod.

Rhaid i gynghorau lynu wrth Reoliadau sy'n nodi'n fanwl y trefniadau ar gyfer penodi, disgyblu a diswyddo pob un o'r pedwar swyddog hyn (Atodlen 1, Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006).

Gall y Cyngor ddirprwyo rhai swyddogaethau i’r swyddogion hyn ac i swyddogion eraill, ar yr amod y nodir hyn yn y cynllun dirprwyo yng nghyfansoddiad y cyngor. Mae’r gyfraith yn darparu amddiffyniad i’r swyddogion hyn (a phob swyddog cyngor sy’n arfer swyddogaethau ar ran y cyngor) rhag camau cyfreithiol am gyflawni’r dyletswyddau hyn yn ddidwyll; hynny yw, maent yn arfer y swyddogaeth gan gredu ei bod yn gyfreithlon ac yn briodol iddynt wneud hynny. Mae’r gyfraith yn gwneud hyn drwy alluogi’r cyngor i ddarparu indemniad i’w swyddogion sy’n galluogi’r cyngor i dalu costau camau cyfreithiol pe bai achos cyfreithiol yn cael ei ddwyn yn erbyn y swyddog.  

Atodiad: deddfwriaeth

Deddfwriaeth a dulliau llywodraethu’r prif gyngor

Mae'r canlynol yn nodi'r brif ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â'r pynciau dan sylw. Mae’n cynnwys deddfwriaeth sylfaenol (sef Deddf gan Senedd y DU neu Senedd Cymru) ac is-ddeddfwriaeth ar ffurf rheoliadau, gorchmynion neu godau statudol. Nid yw hyn yn cynnwys disgrifiad llawn o'r ddeddfwriaeth, dim ond trosolwg.

Dim ond os oes pŵer i wneud hynny mewn Deddf y gall Llywodraeth Cymru wneud is-ddeddfwriaeth. Bydd y Ddeddf wedyn yn gosod amodau ar hyd a lled y pŵer hwn a’r broses ar gyfer gwneud yr is-ddeddfwriaeth, er enghraifft efallai y bydd angen ymgynghori â phobl benodol neu efallai bydd angen i’r is-ddeddfwriaeth gael ei thrafod gan y Senedd cyn y gall ddod i rym.

Dylech fod yn ymwybodol bod legislation.gov.uk yn wasanaeth a ddarperir gan yr Archifau Gwladol sy’n cynnwys ac yn diweddaru deddfwriaeth sylfaenol (Deddfau / Mesurau) ac is-ddeddfwriaeth (rheoliadau / gorchmynion) sydd mewn grym ar hyn o bryd yn y DU a’u dogfennau esboniadol cysylltiedig. Efallai y bydd rhywfaint o oedi rhwng diwygio neu greu darn o ddeddfwriaeth gan Senedd Cymru a chyhoeddi’r diwygiad neu’r darn newydd hwnnw o ddeddfwriaeth ar wefan legislation.gov.uk.

Yn ogystal â’r Ddeddf, rheoliadau neu orchmynion, bydd y wefan yn rhoi dolenni ichi at ddogfennau ategol megis nodiadau esboniadol neu femorandwm esboniadol. Mae’r rhain yn egluro pwrpas a chynnwys y ddeddfwriaeth mewn ffordd lai ffurfiol. Os cafodd y ddeddfwriaeth ei gwneud gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru / Senedd Cymru, mae’r fersiynau a basiwyd hefyd ar gael ar wefan Senedd Cymru; mae’r wefan hon hefyd yn cyhoeddi’r holl ddogfennau esboniadol a oedd yn cyd-fynd â’r ddeddfwriaeth, gan gynnwys y nodiadau esboniadol a’r memorandwm esboniadol. Noder, fodd bynnag, nad yw gwefan Senedd Cymru yn diweddaru’r fersiynau gwreiddiol o ddeddfwriaeth os cânt eu diwygio wedi hynny. Mae legislation.co.uk yn diweddaru’r fersiynau gwreiddiol.

Deddf Llywodraeth Leol 1972

Mae hon wedi cael ei diwygio a’i diweddaru droeon ers iddi gael ei phasio i ddechrau, ond mae’n dal i fod yn ddeddf sylfaenol ar gyfer prif gynghorau yng Nghymru (a Lloegr). Roedd Deddf 1972 yn dilyn adolygiadau mawr o lywodraeth leol a’i swyddogaethau a’i threfn lywodraethu yng Nghymru a Lloegr yn y 1960au ac mae’n rhoi’r glasbrint ar gyfer y ffordd y mae’n rhaid i gynghorau gynnal eu busnes, sut a phryd y cynhelir etholiadau a phwy gaiff fod yn gynghorydd.

Mae’n cynnwys darpariaeth fanwl am gyfarfodydd cyngor, agendâu, papurau, cyhoeddi dogfennau a mynediad y cyhoedd i gyfarfodydd ac at ddogfennau. Cafodd y darpariaethau hyn eu diwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 er mwyn galluogi cynghorau i gyfarfod yn hyblyg wyneb yn wyneb, ar-lein neu drwy gyfuniad o’r rhain. Mae’r diwygiadau hyn hefyd yn darparu ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau cyfarfodydd, papurau cyfarfodydd a dogfennau cefndir yn electronig.

Darllenwch: Deddf Llywodraeth Leol 1972.

Deddf Llywodraeth Leol 1986

Mae llawer o’r Ddeddf hon bellach wedi’i diddymu ond mae’r adrannau sy’n ymwneud â chyhoeddusrwydd awdurdodau lleol a gwahardd defnyddio adnoddau’r cyngor ar gyhoeddusrwydd gwleidyddol yn dal mewn grym.

Darllenwch: Deddf Llywodraeth Leol 1986.

Cod ar yr Arferion a Argymhellir o ran Cyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol

Cyhoeddir y Cod hwn o dan adran 4 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1986. Mae’n nodi’r egwyddorion y mae’n rhaid i gynghorau eu dilyn wrth sicrhau bod adnoddau’r cyngor yn cael eu defnyddio’n briodol yng nghyswllt cyhoeddusrwydd.

Darllenwch: Cod ar yr Arferion a Argymhellir o ran Cyhoeddusrwydd Awdurdodau Lleol.

Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989

Roedd hwn yn ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth llywodraeth leol a wnaed i fynd i’r afael â nifer o faterion uchel eu proffil ar y pryd ac mae llawer ohoni wedi cael ei ddiddymu ers hynny. Fodd bynnag, mae’r adrannau sy’n ymwneud â chyfyngiadau gwleidyddol ar swyddogion a staff, dyletswyddau rhai swyddogion (y prif weithredwr a’r swyddog monitro), penodi a rheoli staff (gan gynnwys penodi staff ar sail teilyngdod), penodi cynorthwywyr i grwpiau gwleidyddol a chydbwysedd gwleidyddol pwyllgorau yn dal mewn grym ac yn ffurfio elfennau allweddol o’r fframwaith deddfwriaethol gwleidyddol a llywodraethu cyffredinol.

Darllenwch: Deddf Llywodraeth Leol a Thai 1989.

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990

Mae’r rheoliadau hyn yn nodi sut y pennir grŵp gwleidyddol a sut y dylid dyrannu seddi ar bwyllgorau’r cyngor lle mae’n rhaid cael cydbwysedd gwleidyddol.

Darllenwch: Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) 1990.

Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2014

Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio rheoliadau 1990 i eithrio pwyllgorau ardal rhag y gofyniad i gael cydbwysedd gwleidyddol os nad yw'r ardal yn fwy na hanner cyfanswm ardal yr awdurdod neu ei phoblogaeth. Gall cynghorau gyfansoddi pwyllgorau ardal i gyflawni neu i gynghori ar swyddogaethau yng nghyswllt ardal ddaearyddol benodol o’r cyngor.

Darllenwch: Rheoliadau Llywodraeth Leol (Pwyllgorau a Grwpiau Gwleidyddol) (Diwygio) (Cymru) 2014.

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009

Roedd hyn yn gosod y raddfa gyflog ar gyfer cynorthwywyr grwpiau gwleidyddol. Y raddfa a ddefnyddir yw’r raddfa y cytunir arni’n genedlaethol (Y Cyd-gyngor Cenedlaethol) ar gyfer tâl gweithwyr cyngor sy’n is na’r prif swyddog.

Darllenwch: Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) 2009.

Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2019

Mae’n diwygio’r raddfa gyflog ar gyfer cynorthwywyr gwleidyddol grwpiau gwleidyddol o bwynt graddfa 44 i bwynt graddfa 38, yn dilyn newid yn y ffordd y mae’r raddfa wedi’i strwythuro.

Darllenwch: Gorchymyn Llywodraeth Leol (Cynorthwywyr i Grwpiau Gwleidyddol) (Tâl) (Cymru) (Diwygio) 2019.

Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990

Specifies a number of matters to be set out in the terms and conditions of officers appointed to post deemed to be politically restricted.

Darllenwch: Rheoliadau Swyddogion Llywodraeth Leol (Cyfyngiadau Gwleidyddol) 1990.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006

Dyma'r prif reoliadau sy'n ymwneud â'r rheolau sefydlog y mae'n rhaid i gynghorau eu cael. Rheolau sefydlog sy’n creu’r llyfr rheolau y mae cyngor yn ei ddilyn. Mae’r rheoliadau hyn yn ei gwneud yn ofynnol bod rhaid gwneud rheolau sefydlog yng nghyswllt prif swyddogion, cyfarfodydd a thrafodion, staff a chamau disgyblu.

Darllenwch: Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) 2006.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014

Roedd y rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau 2006 i’w diweddaru ar gyfer newidiadau yn y gyfraith ac i’w gwneud yn ofynnol bod swyddi swyddogion sy’n cael cyflogau dros £100,000 yn cael eu hysbysebu’n allanol a bod penodi neu ddiswyddo’r prif weithredwr yn swyddogaeth i’r cyngor llawn a bod unrhyw newid i gyflog y swyddog hwnnw hefyd yn swyddogaeth i’r cyngor llawn.

Darllenwch: Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Rheolau Sefydlog) (Cymru) (Diwygio) 2014.

Deddf Llywodraeth Leol 2000

Roedd hon yn Ddeddf bwysig arall wrth ddatblygu trefn lywodraethu prif gynghorau. Roedd yn creu’r cysyniad o wahanu’r weithrediaeth oddi wrth y cyngor llawn. Nid oedd yn mynd mor bell â gwahanu staff ac adnoddau’r cyngor ac mae’r rhain yn dal i wasanaethu’r cyngor llawn a’r weithrediaeth. Roedd hefyd yn cyflwyno’r cysyniad o feiri etholedig. Mae'n cynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gan brif gyngor gyfansoddiad, a’i fod yn ei gyhoeddi ac yn ei ddiweddaru. Cafodd hyn ei ddiwygio gan Ddeddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 a oedd yn galluogi cyhoeddi electronig ac yn cyflwyno’r gofyniad i gyhoeddi a diweddaru canllaw i’r cyfansoddiad.

Darllenwch: Deddf Llywodraeth Leol 2000.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001

Mae'r rheoliadau hyn yn nodi'r trefniadau ar gyfer rhoi hysbysiad o gyfarfodydd gweithrediaeth cyngor, cyhoeddi'r papurau ar gyfer cyfarfodydd o'r fath, cofnodi penderfyniadau a wneir gan y weithrediaeth (gan gynnwys pan fydd un o bwyllgorau'r weithrediaeth neu aelod unigol o'r weithrediaeth yn gwneud penderfyniad o’r fath) a hawliau mynediad ychwanegol (gan gynnwys gweld dogfennau sy'n ymwneud â busnes gweithrediaethau) ar gyfer cynghorwyr eraill ac aelodau pwyllgorau trosolwg a chraffu'r cyngor.

Darllenwch: Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) 2001.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2021

Mae’r rheoliadau hyn yn diwygio prif reoliadau 2001 (gweler y cofnod blaenorol) er mwyn galluogi cynghorau i gyfarfod yn hyblyg wyneb yn wyneb, ar-lein neu drwy gyfuniad o’r rhain. Mae’r diwygiadau hefyd yn darparu ar gyfer cyhoeddi hysbysiadau cyfarfodydd, papurau cyfarfodydd a dogfennau cefndir yn electronig.

Darllenwch: Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Penderfyniadau, Dogfennau a Chyfarfodydd) (Cymru) (Diwygio) 2021.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002

Mae'r rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer cyflawni swyddogaethau gweithrediaeth gan weithrediaeth arall, cyngor arall, pwyllgor ardal neu gyd-bwyllgor.

Darllenwch: Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Cyflawni Swyddogaethau) (Cymru) 2002.

Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001

Mae'r Gorchymyn hwn yn cynnwys y Cod Ymddygiad statudol ar gyfer swyddogion cymwys mewn prif gynghorau. Mae’r Cod yn nodi egwyddorion pwysig fel niwtraliaeth wleidyddol, cydymffurfio â pholisïau sy’n ymwneud â chydraddoldeb a stiwardiaeth adnoddau cyhoeddus.

Darllenwch: Gorchymyn Cod Ymddygiad (Cyflogeion Cymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001.

Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001

Mae’r rheoliadau hyn yn nodi pa weithwyr cyngor nad ydynt yn gymwys i gael eu rhwymo gan y Cod Ymddygiad. Athrawon a diffoddwyr tân yw’r gweithwyr hyn. Y rheswm am hyn yw eu bod yn rhwym wrth eu codau ymddygiad proffesiynol eu hunain.

Darllenwch: Rheoliadau Cod Ymddygiad (Cyflogeion Anghymwys Llywodraeth Leol) (Cymru) 2001.

Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Indemniadau ar gyfer Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006

Mae'r rheoliadau hyn yn nodi'r telerau a'r amodau y caiff cynghorau eu defnyddio i gynnig indemniadau i'w haelodau a'u staff sy'n gweithredu ar ran y cyngor.

Darllenwch: Gorchymyn Awdurdodau Lleol (Indemniadau ar gyfer Aelodau a Swyddogion) (Cymru) 2006.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007

Mae'r rheoliadau hyn yn nodi'n fanwl y swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth, y swyddogaethau a all fod, ond nad oes rhaid iddynt fod, yn swyddogaethau i'r weithrediaeth a'r swyddogaethau nad ydynt i fod yn gyfrifoldeb i'r weithrediaeth yn unig.

Darllenwch: Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Trefniadau Gweithrediaeth) (Swyddogaethau a Chyfrifoldebau) (Cymru) 2007.

Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011

Deddfwriaeth sylfaenol i Gymru’n unig yw hon. Roedd y Mesur hwn yn dilyn llawer o ymgynghori ynghylch cefnogaeth i aelodau etholedig a sut y mae gwella’r craffu mewn prif gynghorau. Roedd yn creu rôl y Pwyllgor Gwasanaethau Democrataidd a’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd. Mae’n newid y gweithdrefnau y mae’n rhaid i’r Cyngor eu dilyn wrth newid eu trefniadau gweithrediaeth. Mae’n darparu ar gyfer dirprwyo rhai swyddogaethau i bwyllgorau ardal a chynghorwyr unigol. Mae hefyd yn creu darpariaeth bellach ynghylch rôl pwyllgorau craffu ac yn galluogi creu cyd-bwyllgorau craffu. Mae’n gwahardd defnyddio’r chwip wleidyddol ar bwyllgorau craffu.

Darllenwch: Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011.

Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013

Mae'r rheoliadau hyn yn nodi’r gweithdrefnau ar gyfer gweithredu cyd-bwyllgorau craffu gan gynnwys eu penodi a'u swyddogaethau, eu haelodaeth, eu trafodion a chyfethol aelodau arnynt.

Darllenwch: Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Cyd-bwyllgorau Trosolwg a Chraffu) (Cymru) 2013.

Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021

Roedd y Ddeddf hon (ymhlith pethau eraill) yn diwygio’r teitl pennaeth gwasanaeth cyflogedig i brif weithredwr yn Neddf Llywodraeth Leol a Thai 1989. Roedd hefyd yn dileu’r gwaharddiad ym Mesur 2011 a oedd yn datgan nad oedd y Swyddog Monitro yn cael bod yn Bennaeth Gwasanaethau Democrataidd hefyd. Roedd yn diwygio adran 37 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2000 i’w gwneud yn ofynnol bod cynghorau’n cyhoeddi fersiynau electronig o’u cyfansoddiadau a’r canllaw iddynt. Roedd hefyd yn diwygio Deddf Llywodraeth Leol 1972 er mwyn gallu cynnal cyfarfodydd cyngor yn rhithiol neu’n rhannol ar-lein ac i bapurau cyfarfodydd gael eu cyhoeddi ar ffurf electronig yn unig. Roedd hefyd yn creu cynorthwywyr gweithrediaeth ac yn galluogi aelodau etholedig i ddal hyd at dair swydd weithredol ar sail rhannu swydd. Roedd hefyd yn diwygio teitl, swyddogaethau a gweithdrefnau gweithredu pwyllgorau llywodraethu ac archwilio. Ar ben hynny, roedd yn cynnwys y dyletswyddau sy’n ymwneud â chyfranogiad y cyhoedd a chynlluniau deisebau.

Darllenwch: Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021.

Cyfarfodydd aml-leoliad awdurdodau lleol: canllawiau interim

Canllawiau statudol ar gyfarfodydd awdurdodau lleol a gyhoeddwyd o dan adran 47 o Ddeddf 2021. Mae hyn yn rhoi canllawiau ar gynnal cyfarfodydd aml-leoliad lle gall rhai aelodau fod yn mynychu drwy ddulliau electronig.

Darllenwch: Cyfarfodydd aml-leoliad awdurdodau lleol: canllawiau interim.