Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r datganiad ystadegol hwn yn cynnwys gwybodaeth gryno am nifer y derbyniadau (nid cleifion) i gyfleusterau iechyd meddwl yng Nghymru yn ffurfiol ac yn anffurfiol, a chleifion sy'n destun triniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth.

Mae Deddf Iechyd Meddwl 1983, a ddiwygiwyd yn 2007, yn caniatáu i bobl ag anhwylder meddwl gael eu derbyn i'r ysbyty, eu cadw a'u trin heb eu caniatâd - boed hynny er eu hiechyd, eu diogelwch eu hunain, neu er mwyn amddiffyn pobl eraill.

Gall pobl gael eu derbyn, eu cadw a'u trin o dan adrannau gwahanol o'r Ddeddf Iechyd Meddwl, yn dibynnu ar yr amgylchiadau. Cyfeirir at bobl sy'n cael eu derbyn yn ffurfiol i'r ysbyty fel cleifion 'ffurfiol' a chyfeirir at bobl sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty pan fyddant yn sâl heb ddefnyddio pwerau gorfodol fel cleifion 'anffurfiol.

Mae'r mwyafrif helaeth o'r derbyniadau hyn yn dderbyniadau i gyfleusterau'r GIG ond mae nifer bach o dderbyniadau yn dderbyniadau i ysbytai annibynnol. Gellir derbyn claf fwy nag unwaith bob blwyddyn ac felly byddai'n cael ei gyfrif yn dderbyniad ar wahân ar bob achlysur.

Mae'r Ddeddf Iechyd Meddwl hefyd yn caniatáu i bobl gael eu rhoi ar driniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth, ar ôl cyfnod o driniaeth orfodol yn yr ysbyty.  

Mae data newydd yn y datganiad hwn yn dod o gyfnod amser yr effeithir arno gan y pandemig COVID-19. O ganlyniad cynghorir pwyll wrth gymharu data ar gyfer 2020-21 gyda blynyddoedd blaenorol gan fod rhai ysbytai wedi nodi newid yn eu harfer er mwyn lleihau nifer y cleifion a oedd yn cael eu cadw mewn cyfleusterau iechyd meddwl bryd hynny, gyda mwy o ddarpariaeth o wasanaethau o fewn y gymuned.

Cyhoeddir data cryno a gynhwysir yn y datganiad hwn ar StatsCymru.

Prif bwyntiau

  • Yn 2020-21, roedd 7,639 o dderbyniadau i gyfleusterau iechyd meddwl yng Nghymru, sef cynnydd o 173 (2%) o 2019-20.
  • Yn 2020-21, roedd 52% o’r holl dderbyniadau ar gyfer cleifion gwrywaidd a 48% ar gyfer cleifion benywaidd.
  • Yn 2020-21, roedd 2,157 (28%) o gyfanswm y derbyniadau yn dderbyniadau ffurfiol o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a deddfwriaeth arall, sef cynnydd o 192 (10%) o 2019-20
  • Cafodd 94% (2,027 o 2,157) o dderbyniadau ffurfiol eu cadw heb ymwneud llysoedd troseddol (Rhan II) gydag 80% o'r rhain (1,618 allan o 2,027) yn cael eu derbyn i'w hasesu, gyda thriniaeth neu hebddi (Adran 2 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983).
  • Yn 2020-21, cafodd 153 o gleifion driniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth (SCT), gan gynnwys 15 yr oedd ysbyty annibynnol yn gyfrifol amdanynt; o'r rhain roedd 87 yn wrywod a 66 yn fenywod.

Derbyniadau yn ôl statws

Image
Mae Ffigur 1 yn dangos bod derbyniadau ffurfiol rhwng 2009-10 a 2020-21 wedi gostwng 45%, tra gwelwyd cynnydd o 49% yn nifer y derbyniadau anffurfiol dros yr un cyfnod.

(a) Ac eithrio cadwadau man diogel.
(b) Amcangyfrif ar gyfer ysbytai annibynnol, gweler gwybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael rhagor o fanylion.

Mae data cymharol ar gael o 2009-10. Mae cyfanswm nifer y derbyniadau yng Nghymru (ac eithrio cadwadau man diogel) wedi gostwng yn raddol rhwng 2009-10 a 2019-20; fodd bynnag, bu cynnydd bach yn 2020-21 lle’r oedd 7,639 o dderbyniadau.

Rhwng 2009-10 a 2020-21 gostyngodd cyfanswm y derbyniadau 33%. Gyrrwyd hyn gan dderbyniadau anffurfiol a ostyngodd 45% yn yr un cyfnod. I'r gwrthwyneb, cynyddodd derbyniadau ffurfiol 49% ers 2009-10.

Image
Mae Ffigur 2 yn dangos ers 2015-16 bod mwy o wrywod na menywod wedi'u derbyn i gyfleusterau iechyd meddwl bob blwyddyn.

(a) Ac eithrio cadwadau man diogel.
(b) Amcangyfrif ar gyfer ysbytai annibynnol, gweler gwybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael rhagor o fanylion.

Ers 2015-16, cafodd mwy o wrywod na menywod eu derbyn i gyfleusterau iechyd meddwl bob blwyddyn. Mae’r tueddiadau tymor hir ar gyfer derbyniadau ffurfiol ac anffurfiol yn debyg ar gyfer derbyniadau gwrywod a menywod. 

Yn 2020-21, roedd 52% o’r holl dderbyniadau ar gyfer cleifion gwrywaidd a 48% ar gyfer cleifion benywaidd.

Statws cyfreithiol

Image
Mae Ffigur 3 yn dangos o'r rhai a dderbyniwyd yn ffurfiol o dan adrannau o'r Ddeddf Iechyd Meddwl rhwng 2016-17 a 2020-21, derbyniwyd y mwyafrif (tua 94% bob blwyddyn) o dan Ran II.

(a) Amcangyfrif ar gyfer ysbytai annibynnol, gweler gwybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael rhagor o fanylion.

Mae nifer y derbyniadau ffurfiol o dan adrannau o'r Ddeddf Iechyd Meddwl wedi cynyddu bob blwyddyn ers 2016-17. Mae'r cynnydd hwn wedi cael ei yrru gan gynnydd yn y rhai a dderbynnir o dan Ran II (mae Rhan II o'r Ddeddf yn caniatáu i glaf gael ei dderbyn yn orfodol o dan y Ddeddf os yw'n dioddef o anhwylder meddwl fel y'i diffinnir yn y Ddeddf). O'r rhai a dderbyniwyd yn ffurfiol, derbyniwyd y mwyafrif mawr ym mhob blwyddyn o dan Ran II (94% yn 2020-21).

Derbyniadau yn ôl math o gyfleuster

Image
Mae Ffigur 4 yn dangos bod 97% o'r holl dderbyniadau yn 2020-21 i gyfleusterau'r GIG. Roedd gweddill y derbyniadau i ysbytai annibynnol.

(a) Ac eithrio cadwadau man diogel.

Roedd 97% o'r holl dderbyniadau yn 2020-21 i gyfleusterau'r GIG a 3% o'r holl dderbyniadau yn ystod 2020-21 i ysbytai annibynnol

O’r 2,157 o dderbyniadau ffurfiol (ac eithrio cadwadau man diogel), roedd 89% i gyfleusterau'r GIG.

Image
Mae Ffigur 5 yn dangos, ar gyfer byrddau iechyd lleol, mai derbyniadau anffurfiol yw'r mwyafrif o gyfanswm y derbyniadau tra bod derbyniadau ffurfiol yn cyfrif am 96% o'r cyfanswm derbyniadau ar gyfer ysbytai annibynnol.

(a) Ac eithrio cadwadau man diogel.
(b) Gweler gwybodaeth am ansawdd a methodoleg am fwy o fanylion am y data a gyflwynwyd ar gyfer Powys.

Cwm Taf Morgannwg oedd â'r nifer uchaf o dderbyniadau anffurfiol (1,275 neu 23% o gyfanswm y derbyniadau anffurfiol y GIG yng Nghymru), tra bod Betsi Cadwaladr â'r nifer uchaf o dderbyniadau ffurfiol (455 neu 24% o gyfanswm y derbyniadau ffurfiol y GIG yng Nghymru).

Powys oedd â'r nifer isaf o dderbyniadau anffurfiol (143 neu 3%) a derbyniadau ffurfiol (57 neu 3%).  

Yn 2020-21, roedd cyfran y derbyniadau a oedd yn anffurfiol yn amrywio o 62% yn Betsi Cadwaladr i 84% yng Nghwm Cwm Taf Morgannwg. Roedd 96% o'r derbyniadau i ysbytai annibynnol yn dderbyniadau ffurfiol.

Tabl 1: Derbyniadau a chyfraddau derbyn fesul 10,000 o'r boblogaeth breswyl yn ôl bwrdd iechyd lleol ac ysbytai annibynnol, 2020-21 (a)
  Nifer Cyfradd (fesul 10,000 o'r boblogaeth) (b)
Bwrdd iechyd lleol / ysbyty annibynnol Anffurfiol Ffurfiol Anffurfiol Ffurfiol
Prifysgol Betsi Cadwaladr  728 455 10.4 6.5
Addysgu Powys  143 57 10.7 4.3
Prifysgol Hywel Dda  447 264 11.5 6.8
Prifysgol Bae Abertawe 1,097 229 28.1 5.9
Prifysgol Cwm Taf Morgannwg  1,275 248 28.3 5.5
Prifysgol Aneurin Bevan  938 224 15.7 3.7
Prifysgol Caerdydd a'r Fro 844 451 16.7 8.9
Ysbytai annibynnol  10 229 . .
Cymru 5,482 2,157 17.3 6.8

(a) Heb gynnwys cadwadaau man diogelwch. Gweler gwybodaeth am ansawdd a methodoleg am fwy o fanylion am y data a gyflwynwyd ar gyfer Powys.
(b) Fesul 10,000 o'r boblogaeth breswyl yn seiliedig ar amcangyfrifon canol y flwyddyn 2020.
Ffynhonnell: Ffurflen casglu data KP90, Llywodraeth Cymru

Mae dadansoddi’r cyfraddau derbyn fesul 10,000 o'r boblogaeth breswyl (a ddangosir yn Nhabl 1) yn cymryd i ystyriaeth maint cymharol bob bwrdd iechyd.

Cwm Taf Morgannwg oedd â'r gyfradd uchaf o dderbyniadau anffurfiol (28.3 fesul 10,000 o'r boblogaeth) a Betsi Cadwaladr oedd â'r gyfradd isaf o dderbyniadau anffurfiol (10.4 fesul 10,000 o'r boblogaeth).

Caerdydd a'r Fro oedd â'r gyfradd uchaf o dderbyniadau ffurfiol (8.9 fesul 10,000 o'r boblogaeth) ac Aneurin Bevan oedd â'r gyfradd isaf o dderbyniadau ffurfiol (3.7 fesul 10,000 o'r boblogaeth).

Roedd cyfraddau derbyn Cymru gyfan yn 17.3 fesul 10,000 o'r boblogaeth ar gyfer derbyniadau anffurfiol, a 6.8 fesul 10,000 o'r boblogaeth ar gyfer derbyniadau ffurfiol.

Mae data ar StatsCymru yn dangos bod cyfradd Cymru ar gyfer derbyniadau anffurfiol yn 2020-21 yn is na'r gyfradd ar gyfer 2019-20, ac felly hefyd y cyfraddau anffurfiol ar gyfer y rhan fwyaf o'r byrddau iechyd (ac eithrio Cwm Taf Morgannwg a Bae Abertawe).

Roedd cyfradd Cymru ar gyfer derbyniadau ffurfiol yn 2020-21 yn uwch nag yn 2019-20, gyda chyfraddau ffurfiol yn uwch ar gyfer y rhan fwyaf o fyrddau iechyd (ac eithrio Cwm Taf Morgannwg a Phowys) o'i gymharu â 2019-20.

Triniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth

Tabl 2: Cleifion a ryddhawyd o'r ysbyty o dan driniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth (SCT), 2020-21
  Statws cyfreithiol cyn SCT  
Bwrdd Iechyd Lleol Adran 3 Adrannau eraill Cyfanswm
Prifysgol Betsi Cadwaladr  19 0 19
Addysgu Powys  5 0 5
Prifysgol Hywel Dda  28 * *
Prifysgol Bae Abertawe 18 0 18
Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 28 0 28
Prifysgol Aneurin Bevan  20 0 20
Prifysgol Caerdydd a'r Fro 17 * *
Cymru (a) 147 6 153

(a) Mae cyfanswm Cymru'n cynnwys cleifion a cafodd eu rhyddhau o ysbytai annibynnol dan driniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth.
* Mae ffigurau'r byrddau iechyd dan 5 wedi'u cuddio er mwyn osgoi'r risg o ddatgelu gwybodaeth am unigolion. Mae ffigurau pellach hefyd wedi'u cuddio er mwyn osgoi datgelu eilaidd.
Ffynhonnell: Ffurflen casglu data KP90, Llywodraeth Cymru

Cafodd 153 o gleifion eu rhyddhau o'r ysbyty dan driniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth (SCT) yn ystod 2020-21, nifer tebyg i 2019-20.

O'r rhain, roedd 96% o gleifion wedi eu derbyn o dan Adran 3, mae hyn yn cymharu â 98% yn 2019-20. Roedd 4% pellach wedi'u derbyn o dan adrannau eraill yn 2020-21, mae hyn i'w gymharu â 2% yn 2019-20.

Darperir diffiniadau o Adrannau o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl yn yr Eirfa.

Tabl 3: Gweithgarwch cysylltiedig â thriniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth (SCT), 2020-21
  Gweithgarwch cysylltiedig â SCT
Bwrdd iechyd lleol Galw yn ôl Dirymiad Rhyddhad Aseiniad i'r ysbyty o glaf SCT Aseiniad o'r ysbyty o glaf SCT
Prifysgol Betsi Cadwaladr  10 9 19 * 0
Addysgu Powys  * 8 * * 0
Prifysgol Hywel Dda  17 11 18 * 0
Prifysgol Bae Abertawe 19 8 12 0 0
Prifysgol Cwm Taf Morgannwg 15 12 18 7 *
Prifysgol Aneurin Bevan  * 12 15 * 0
Prifysgol Caerdydd a'r Fro 11 11 * * 0
Cymru (a) 82 71 93 18 *

(a) Mae cyfanswm Cymru'n cynnwys cleifion a cafodd eu rhyddhau o ysbytai annibynnol dan driniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth.
* Mae ffigurau'r byrddau iechyd dan 5 wedi'u cuddio er mwyn osgoi'r risg o ddatgelu gwybodaeth am unigolion. Mae ffigurau pellach hefyd wedi'u cuddio er mwyn osgoi datgelu eilaidd.
Ffynhonnell: Ffurflen casglu data KP90, Llywodraeth Cymru

I'r cleifion hynny a oedd yn destun triniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth (SCT), roedd 82 o alwadau yn ôl i'r ysbyty, 71 o ddirymiadau a chafodd 93 o gleifion eu rhyddhau.

Geirfa

Deddfau Iechyd Meddwl 1983 a 2007

Ceir amlinelliad o'r brif adran o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 (deddfwriaeth y DU),  y gellir cadw pobl yn ffurfiol yn yr ysbyty o dani, isod. Gwnaed newidiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 (deddfwriaeth y DU).

Derbyniadau Rhan II

Mae Rhan II o'r Ddeddf yn caniatáu i glaf gael ei dderbyn yn orfodol o dan y Ddeddf os yw'n dioddef o anhwylder meddwl fel y'i diffinnir yn y Ddeddf a lle mae hyn yn angenrheidiol:

  • er lles ei iechyd ei hun neu
  • er lles ei ddiogelwch ei hun neu
  • er mwyn diogelu pobl eraill.                  

Adrannau perthnasol

Adran 2

Derbyniad i'r ysbyty ar gyfer asesiad neu asesiad a thriniaeth; mae gan yr adran hon derfyn cadw o 28 diwrnod; ar ôl hynny mae person yn dod yn glaf anffurfiol (oni bai ei fod yn cael ei gadw o dan adran 3).

Adran 3

Derbyniad i'r ysbyty am driniaeth; mae'r adran hon yn caniatáu ar gyfer cadw claf am hyd at chwe mis, ac ar ôl hynny gellir adnewyddu'r gorchymyn am chwe mis arall ac yna am flwyddyn ar y tro.

Adran 4

Derbyniad am asesiad mewn argyfwng; mae gan yr adran hon derfyn cadw o 72 awr ac ni ellir ei adnewyddu ond gellir asesu person i'w gadw ymhellach o dan adran 2 neu 3.

Adran 5(2)

Pŵer ymarferydd meddygol cofrestredig neu bŵer clinigydd cymeradwy i ddal cleifion anffurfiol sydd eisoes yn yr ysbyty; mae gan yr adran hon derfyn cadw o 72 awr ac ni ellir ei adnewyddu.

Adran 5(4)

Pŵer nyrsys i ddal claf anffurfiol sydd eisoes yn yr ysbyty ac yn cael triniaeth am anhwylder meddwl; ni ellir adnewyddu'r terfyn cadw o chwe awr yr adran hon.

Derbyniadau yn dilyn datrysiad llys

Mae Rhan III o'r Ddeddf yn ymwneud â phobl sy'n rhan o achosion troseddol.    

Adrannau perthnasol

Adrannau 35

Person cyhuddedig yn cael ei remandio i'r ysbyty am adroddiad yn ymwneud ag iechyd meddwl y person hwnnw; mae gan yr adran hon gyfnod cadw o 28 diwrnod a gellir ei adnewyddu am ddau gyfnod pellach o 28 diwrnod (12 wythnos i gyd).

Adran 36

Person cyhuddedig yn cael ei remandio i'r ysbyty am driniaeth; mae gan yr adran hon gyfnod cadw o 28 diwrnod a gellir ei adnewyddu am ddau gyfnod pellach o 28 diwrnod (12 wythnos i gyd).

Adran 37

Person a gafwyd yn euog yn cael ei anfon i'r ysbyty am driniaeth (a elwir yn ‘orchymyn ysbyty’); mae'r adran hon yn caniatáu i berson gael ei gadw am hyd at 6 mis, ac ar ôl hynny gellir adnewyddu'r gorchymyn am chwe mis pellach ac yna am flwyddyn ar y tro.

Gall adran 37 fod ynghlwm wrth orchymyn cyfyngu o dan adran 41 (a elwir yn adran 37/41)

Dim ond Tribiwnlys Adolygu Iechyd Meddwl neu'r Ysgrifennydd Gwladol sy'n gallu rhyddhau cleifion sy'n cael eu cadw o dan adran 37/41.

Adran 38

Ni ellir adnewyddu cyfnod person a gafwyd yn euog ac a anfonwyd i'r ysbyty am asesiad cyn cael ei ddedfrydu (gorchymyn ysbyty dros dro) y tu hwnt i gyfnod o 12 mis. Mae adran 37(4) yn para am uchafswm o 28 o ddiwrnodau.

Adran 44

Claf adran 37 posibl yn cael ei anfon i'r ysbyty gan lys ynadon wrth aros am wrandawiad llys y goron am orchymyn cyfyngu.

Adran 45A

Person sydd wedi'i ddedfrydu yn cael cyfarwyddyd ysbyty a chyfarwyddyd cyfyngiadau ochr yn ochr â dedfryd o garchar. Mae'r cyfarwyddyd ysbyty yn cyfateb i orchymyn ysbyty adran 37 ac mae'r cyfarwyddyd cyfyngiadau'n debyg i orchymyn cyfyngu o dan adran 41.

Adran 47

Carcharor, sy'n gwasanaethu dedfryd, sydd wedi ei drosglwyddo o'r carchar (neu ffurf arall o gadwad) i'r ysbyty – naill ai gyda chyfarwyddyd cyfyngu neu hebddo o dan adran 49 (mae cyfarwyddyd cyfyngu yn debyg i orchymyn cyfyngu o dan adran 41).

Adran 48

Carcharor, heb ei ddedfrydu, sydd wedi ei drosglwyddo o'r carchar (neu fath arall o gadwad) i'r ysbyty - naill ai gyda chyfarwyddyd cyfyngu neu hebddo o dan adran 49.

Mae cleifion sy'n cael eu cadw o dan adrannau 45A, 47/49 neu 48/49 yn destun cadwad parhaus nes iddynt gael eu rhyddhau, nes i'r cyfyngiadau'n dod i ben, neu nes iddynt ddychwelyd i'r carchar.

Data am gadwadau man diogel

Yn dilyn y newidiadau i'r Ddeddf Iechyd Meddwl yn ymwneud ag Adrannau 135 a 136 ym mis Rhagfyr 2017, penderfynodd Llywodraeth Cymru roi'r gorau i gasglu data am y defnydd o Adrannau 135 a 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn flynyddol trwy'r ffurflen KP90. Yn y gorffennol, roedd yr wybodaeth yn cael ei chyhoeddi ar lefel Cymru yn unig yn y Datganiad Ystadegol Cyntaf Derbyn cleifion i gyfleusterau iechyd meddwl yn Nhablau 4a a 4b. Cyhoeddwyd yr olaf o'r datganiadau sy'n dangos y data hwn ar 31 Ionawr 2018, yn dangos data 2016-17.

Ers mis Rhagfyr 2019 mae'r data wedi'i gyhoeddi drwy'r ffurflenni data Adran 135 a 136 chwarterol y mae'r byrddau iechyd yn eu darparu ar y ddolen ganlynol Cadwadau o dan Adran 135 ac 136 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl.

Ôl-ofal o dan oruchwyliaeth (ACUS)

Diddymwyd ôl-ofal o dan oruchwyliaeth (neu ACUS) ar 3 Tachwedd 2008. Roedd darpariaethau trosiannol ar waith tan 3 Mai 2009. Roedd ACUS (a gyflwynwyd gan Ddeddf Iechyd Meddwl (Cleifion yn y Gymuned) 1995 ar 1 Ebrill 1996) yn gymwys i gleifion a oedd yn cael eu rhyddhau o gadwad o dan Adran 3, 37, 47 neu 48 a oedd yn peri risg sylweddol o niwed difrifol iddynt eu hunain neu i bobl eraill, oni bai bod eu gofal yn cael ei oruchwylio.

Triniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth

Cyflwynwyd triniaeth gymunedol dan oruchwyliaeth (SCT) yn Neddf Iechyd Meddwl 1983 gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007 a'i diben yw caniatáu i gleifion barhau â'u triniaeth yn y gymuned yn dilyn cyfnod o gadwad yn yr ysbyty. Dim ond ers 3 Tachwedd 2008 y mae SCT wedi bod ar gael.

Gellir rhyddhau cleifion sy'n cael eu cadw yn yr ysbyty am driniaeth o dan adran 3 (a rhai adrannau o Ran III) o'u cadwad i orchymyn triniaeth gymunedol (CTO) i barhau â'u triniaeth yn y gymuned. Tra byddant ar CTO, gallant gael eu galw'n ôl i'r ysbyty, os bydd angen, am hyd at 72 awr, fel arfer am driniaeth bellach. Os oes angen iddynt barhau i gael eu cadw yn yr ysbyty am fwy na 72 awr, gellir dirymu eu CTO. Os bydd hynny'n digwydd, maent yn mynd yn ôl i gael eu cadw o dan yr adran yr oeddent arni cyn mynd ar y CTO ("dirymu SCT”). Mae claf yn cael ei ryddhau rhag SCT pan ddaw ei CTO claf i ben heb gael ei ddirymu.

Trosglwyddo triniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth (SCT)

Mae trosglwyddo SCT yn cyfeirio at y broses o drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros y claf o un ysbyty i'r llall (gan gynnwys lle mae'r rhain yn cael eu rheoli gan yr un rheolwyr ysbyty).

Ysbytai Annibynnol

Sefydliadau yw'r rhain, heblaw ysbyty'r GIG, sy'n darparu triniaeth neu nyrsio (neu'r ddau) i bobl sy'n agored i gael eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Mae Deddf Safonau Gofal 2000 hefyd yn darparu y dylid cofrestru ysbytai annibynnol o'r fath o dan Ran II o'r Ddeddf honno, ac y dylent gydymffurfio â'r cyfryw Safonau Gofynnol Cenedlaethol ag a gaiff eu cyhoeddi. Er mai Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) sy'n cadw'r cyfrifoldeb dros gofrestru ac arolygu'r ysbytai annibynnol, roedd sefydliadau unigol yn gyfrifol am gyflenwi data ar gleifion oedd yn cael eu cadw. Nid yw ysbytai annibynnol sy'n cael eu hystyried yn ganolfannau trin camddefnyddio sylweddau yn cael eu cynnwys ar gyfer 2007-08 ymlaen. Dylid bod yn ofalus wrth ddehongli ffigurau sy'n ymwneud ag ysbytai annibynnol.

Mesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010

Mae data am Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010, yn gosod dyletswyddau ar fyrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol ynghylch asesu a thrin problemau iechyd meddwl.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Perthnasedd

Mae'r datganiad hwn yn darparu data am nifer y derbyniadau i gyfleusterau iechyd meddwl drwy gydol y flwyddyn ariannol yn ôl math o dderbyniad (e.e. ffurfiol neu anffurfiol). Mae'n cyfrif yr holl dderbyniadau seiciatrig i ysbytai yn ystod y cyfnod adrodd yn ôl eu statws cyfreithiol pan gânt eu derbyn. Mae'n cynnwys cleifion sydd wedi cael eu derbyn a'u rhyddhau wedyn yn ogystal â chleifion sy'n dal yn yr ysbyty. Nid yw'n cynnwys pobl 'a dderbynnir' naill ai o dan adran 135(1) neu 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983. Mae cleifion sydd wedi'u derbyn yn ystod y blynyddoedd blaenorol hefyd wedi cael eu hepgor. Nid yw newidiadau mewn statws cyfreithiol tra bo pobl yn yr ysbyty yn cael eu cyfrif fel derbyniadau.

Nid yw cleifion sy'n cael eu trosglwyddo o dan yr un rheolwyr ysbytai neu rai gwahanol yng Nghymru o dan Adran 19 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a chleifion sy'n cael eu trosglwyddo o dan yr un rheolwyr ysbytai neu rai gwahanol yng Nghymru tra bônt yn yr ysbyty yn anffurfiol yn cael eu cynnwys.

Mae cleifion sy'n cael eu trosglwyddo o ysbyty yn Lloegr yn ystod y cyfnod adrodd (ac sydd wedi'u derbyn yn wreiddiol yn Lloegr), yn cael eu cyfrif fel derbyniad.

Rydym hefyd yn cyhoeddi datganiad arall ar iechyd meddwl ‘Cleifion mewn ysbytai ac unedau iechyd meddwl yng Nghymru’. Mae hyn yn darparu data am nifer y bobl a oedd yn preswylio mewn ysbytai ac unedau i bobl â salwch meddwl ac i bobl ag anabledd dysgu ar 31 Mawrth, sef cipolwg ar y dyddiad hwnnw.

Mae diffiniadau o'r termau sy'n cael eu defnyddio i'w gweld yng Ngeiriadur Data GIG Cymru (GIG Cymru).

Mae data'n cael eu casglu yn ôl blwyddyn ariannol gan fyrddau iechyd lleol unigol drwy ffurflen casglu data KP90 ac maent yn destun gwiriadau dilysu yn ganolog cyn cael eu cyhoeddi. Er hynny, cyfrifoldeb y sefydliadau hyn yw sicrhau bod y ffigurau wedi'u llunio'n gywir yn unol â diffiniadau a chanllawiau canolog. Mae rhestr o ysbytai annibynnol sydd wedi eu cofrestru i gadw cleifion yn cael eu darparu i Lywodraeth Cymru bob blwyddyn gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac mae Llywodraeth Cymru yn casglu'r data perthnasol. Gall y rhestr hon amrywio rhwng blynyddoedd. Am y cyfnod rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth 2021, darparodd 54 o gyfleusterau iechyd meddwl y GIG a 20 o ysbytai annibynnol ffurflenni.

Gwnaed newidiadau i’r ffurflen casglu data KP90 a chanllawiau yn 2008-09 i gymryd i ystyriaeth newidiadau i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a wnaed gan Ddeddf Iechyd Meddwl 2007. Gallai'r newidiadau hyn effeithio ar gymariaethau â data am flynyddoedd cynharach.

Gwnaed newidiadau pellach i'r ffurflen casglu data yn 2013 i wneud y ffurflen yn electronig, ychwanegu mwy o fanylion i'r nodiadau cyfarwyddyd a'r diffiniadau. Ymhellach, ar gyfer data 2014-15 ymlaen cyflwynwyd  gwiriadau dilysu pellach gan gynnwys dychwelyd y ffigurau a gyflwynwyd gan y byrddau iechyd eu hunain i'w cymeradwyo.

Mae safonau a diffiniadau y cytunir arnynt yng Nghymru rhoi sicrwydd bod y data'n gyson ar draws y byrddau iechyd lleol. Bob blwyddyn mae'r data'n cael eu casglu o'r un ffynonellau ac yn glynu at y safon genedlaethol, sy'n golygu y dylent fod yn gydlynol o fewn ac ar draws sefydliadau.

Defnyddwyr a defnyddiau'r ystadegau hyn

Rydym yn credu mai prif ddefnyddwyr yr ystadegau hyn yw:

  • y gweinidogion a'u cynghorwyr
  • aelodau o'r Senedd a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn Senedd Cymru
  • llunwyr polisi Llywodraeth Cymru
  • adrannau eraill o'r Llywodraeth
  • GIG Cymru
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • y cyfryngau
  • dinasyddion unigol.

Mae'r ystadegau hyn yn cael eu defnyddio mewn sawl ffordd. Mae rhai defnyddiau'n cynnwys:

  • rhoi cyngor i'r Gweinidogion
  • llywio'r ddadl yn Senedd Cymru a'r tu hwnt
  • monitro nifer a math y cadwadau, yn ogystal â nodi amrywiadau mewn cyfraddau cadw ar draws cyfnodau adrodd ac o fewn ardaloedd gwahanol yng Nghymru
  • ar gyfer dadansoddi tueddiadau yn ogystal â llywio trefniadau ariannu
  • helpu i benderfynu ar y gwasanaeth y gall y cyhoedd ei gael gan y sefydliadau perthnasol.

Rydym yn ymgynghori â defnyddwyr allweddol cyn gwneud newidiadau a, lle bo modd, yn rhoi cyhoeddusrwydd i newidiadau ar y rhyngrwyd ac mewn pwyllgorau a rhwydweithiau eraill er mwyn ymgynghori â defnyddwyr yn ehangach. Rydym yn anelu at ymateb yn gyflym i newidiadau polisi er mwyn sicrhau bod ein hystadegau’n parhau yn berthnasol.

Cywirdeb

Er mwyn lleihau gwallau prosesu mae'r broses ar gyfer cynhyrchu'r datganiad hwn mor awtomataidd â phosibl. Mae gweithdrefnau sicrhau ansawdd ar waith hefyd er mwyn deall ac esbonio symudiadau yn y data ac i wirio bod y system gyfrifiadurol yn cyfrifo'r ystadegau cyhoeddedig yn gywir. Mae hyn yn cynnwys croeswirio data sy'n dod i law â data'r blynyddoedd blaenorol ac os oes unrhyw gyfansymiau'n dangos amrywiannau mawr, cadarnhau'r rhain gyda rheolwyr gwybodaeth perthnasol pob BILl. Gofynnir hefyd i bob rheolwr gwybodaeth BILl gadarnhau'r cyfansymiau BILl ffurfiol ac anffurfiol cyn eu cyhoeddi.

Yn achos Cwm Taf cyn 2015-16 gallai'r ffigurau fod yn is na'r rhai a gyhoeddwyd.   Er hynny, nid yw Cwm Taf yn gallu darparu ffigurau diwygiedig.

Ni ddarparodd un ysbyty annibynnol yn 2012-13 a dau ysbyty annibynnol yn 2017-18, 2018-19 a 2019-20 ffurflen wybodaeth. O ganlyniad, rydym wedi defnyddio eu data a gyflwynwyd ar gyfer 2011-12 a 2016-17 fel amcangyfrif ar gyfer 2012-13, 2017-18, 2018-19 a 2019-20 yn y drefn honno. Mae hyn yn effeithio ar y ffigurau ar dderbyniadau yn y blynyddoedd hynny. Mae data mewn tablau a siartiau y mae hyn yn effeithio arnynt yn cael eu hesbonio yn y troednodiadau perthnasol. Er hynny, mae effaith hyn yn fach iawn. Mae'r cyfanswm amcangyfrifedig ar gyfer yr ysbytai hyn yn 2019-20 yn cyfrif am 0.3% yn unig o'r holl dderbyniadau.

O 1 Ebrill 2019, symudodd darpariaeth y gwasanaeth iechyd ar gyfer trigolion awdurdod lleol Pen-y-bont ar Ogwr o Abertawe Bro Morgannwg i Gwm Taf. Newidiodd enwau'r bwrdd iechyd gyda bwrdd iechyd Prifysgol Cwm Taf yn dod yn fwrdd iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a bwrdd iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn dod yn fwrdd iechyd Bae Abertawe.

Mae'n annhebygol y caiff data anghywir ei gyhoeddi ond os bydd hyn yn digwydd byddai diwygiadau i ddata yn cael eu gwneud a byddai defnyddwyr yn cael eu hysbysu ar y cyd â'n trefniadau ar gyfer diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau.

Mae nodiadau'n hysbysu'r defnyddwyr a yw'r allbynnau wedi'u diwygio ai peidio (a ddynodir ag r). Byddwn hefyd yn rhoi syniad o faint y diwygiad rhwng y datganiad diweddaraf a'r datganiad blaenorol. Yn gyffredinol, nid oes diwygiadau i'r data. Er hynny, os oes diwygiadau nid ydynt yn digwydd yn gyffredinol ond pan fydd y BILl yn ailgyflwyno data'r flwyddyn flaenorol i ni a bydd y diwygiadau'n cael eu cyhoeddi ar yr un pryd â data'r flwyddyn ddiweddaraf.

Defnyddir y symbolau a'r talfyriadau canlynol yn y tablau:

  .  Ddim yn gymwys

* Wedi'i atal i osgoi'r risg o ddatgelu gwybodaeth am unigolion.

Datganiad ar gyfrinachedd a gweld data

Amseroldeb a phrydlondeb

Mae'r holl allbynnau'n cydymffurfio â’r Cod Ymarfer drwy rag-gyhoeddi'r dyddiad cyhoeddi ymlaen llaw drwy'r Calendr yr hyn sydd i ddod. At hynny, os bydd angen gohirio allbwn byddai hyn yn dilyn ein trefniadau ar gyfer diwygiadau, camgymeriadau a gohiriadau.

Rydym yn cyhoeddi datganiadau cyn gynted ag sy'n ymarferol ar ôl y cyfnod amser perthnasol.

Hygyrchedd ac eglurder

Cyhoeddir yr ystadegau ymlaen llaw mewn modd hygyrch, trefnus ar wefan Llywodraeth Cymru am 9.30am ar y diwrnod cyhoeddi. Mae negeseuon RSS yn rhoi gwybod i ddefnyddwyr cofrestredig am y cyhoeddiad hwn. Cyhoeddir y datganiadau ar yr un pryd ar Wefan Cyhoeddiadau Ystadegau Gwladol. Rydym hefyd yn rhoi cyhoeddusrwydd i'n hallbynnau ar Twitter. Gellir lawrlwytho'r holl ddatganiadau yn rhad ac am ddim.

Mae tablau manylach ar gael drwy StatsCymru (gwasanaeth rhyngweithiol ar gyfer lledaenu data).

Rydym yn anelu at ddefnyddio iaith glir yn ein holl allbynnau ac mae'r holl allbynnau'n glynu at bolisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. At hynny, cyhoeddir ein holl benawdau yn Gymraeg a Saesneg.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ystadegau drwy gysylltu â ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cymharedd a chysondeb

Cyflwynir gwybodaeth am dderbyniadau ffurfiol ac anffurfiol i gyfleusterau iechyd meddwl yng Nghymru (gan gynnwys y GIG ac ysbytai annibynnol). Er bod derbyniadau anffurfiol yn cyfrif am y mwyafrif o dderbyniadau i gyfleusterau iechyd meddwl yng Nghymru, er budd ei iechyd neu ei ddiogelwch ei hun, neu er mwyn diogelu pobl eraill, gall person gael ei dderbyn yn ffurfiol i'r ysbyty neu gael ei gadw yn yr ysbyty o dan adrannau amrywiol o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a deddfwriaeth arall.

Ar 1 Ebrill 2010, trosglwyddodd BILl Addysgu Powys wasanaethau iechyd meddwl i BILl Aneurin Bevan, BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr a BILl Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Ar ôl hynny, roedd y data'n cael ei ddangos o dan y BILlau hyn yn y datganiad. Er hynny, yn dilyn trafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a BILl Powys, mae'r data o 2012-13 ymlaen yn cael ei ddangos o dan Bowys. O ganlyniad, ni fydd y data o 2012-13 ymlaen ar gyfer y BILlau hynny yn gymaradwy â data'r blynyddoedd blaenorol. Trosglwyddwyd y gwasanaethau hyn yn ôl wedyn gan BILl Prifysgol Betsi Cadwaladr a BILl Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg ar 31 Tachwedd 2015.  

Mae unrhyw gleifion trawsryweddol wedi cael eu dosbarthu yn y data yn ôl beth yw eu rhywedd yn eu barn hwy.

Pan fo newidiadau i'r data a ddarperir, dangosir hyn yn glir yn yr allbynnau. Pan fo rhagrybudd yn hysbys am newidiadau yn y dyfodol, bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi ymlaen llaw yn unol â threfniadau Llywodraeth Cymru.  

Mae gwybodaeth debyg ar gael o rannau eraill o'r DU ond nid oes modd cymharu'r data'n union oherwydd diffiniadau a safonau lleol ym mhob ardal.  

Mae ystadegau ar dderbyn cleifion i gyfleusterau iechyd meddwl yn Lloegr a'r defnydd o driniaeth gymunedol o dan oruchwyliaeth yn cael eu cyhoeddi gan NHS Digital (GIG Cymru).

Ystadegau gweithgarwch ysbytai seiciatrig ar gyfer yr Alban: Gofal Cleifion Mewnol Ysbytai Iechyd Meddwl (Iechyd Cyhoeddus yr Alban).

Ystadegau gweithgarwch iechyd meddwl ac anableddau dysgu ar gyfer Gogledd Iwerddon: Cleifion Mewnol Iechyd Meddwl ac Anableddau Dysgu (Adran Iechyd Gogledd Iwerddon).

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Bethan Sherwood
E-bost: stats.healthinfo@gov.wales

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 196/2022