Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad am ein system, ein canllawiau a’n digwyddiadau Treth Trafodiadau Tir (TTT) i weithwyr treth proffesiynol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
26 Ebrill 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Sut i gadw copi o'ch cyfrifiad treth

I gadw eich cyfrifiad cyfrifiannell dreth fel PDF:

  1. Dewiswch y botwm 'Argraffu neu arbed' ar dudalen ganlyniadau'r gyfrifiannell.
  2. Defnyddiwch yr opsiwn 'save to PDF' neu 'Print to PDF', yn dibynnu ar eich porwr.

Darganfod a yw cod post yng Nghymru ar gyfer TTT

Defnyddiwch ein gwiriwr codau post ar gyfer TTT i weld a yw cod post y tir neu'r eiddo sy'n cael ei brynu neu ei lesu yng Nghymru.

Bydd hyn yn eich helpu i benderfynu a oes angen ffeilio ffurflen dreth gyda ni.

Cyfrifo TTT gyda rhyddhad anheddau lluosog (MDR)

Gellir hawlio MDR pan gaiff eiddo yng Nghymru ei brynu oddi wrth yr un gwerthwr, yn yr un trafodiad (neu drafodiadau cysylltiol), os yw'n cynnwys mwy nag 1 annedd.

Er mwyn helpu i gyfrifo'r dreth sy'n ddyledus ar drafodiadau os ydych yn hawlio MDR, sy’n cynnwys nifer o drafodiadau cysylltiol, mae gennym gyfrifiannell taenlen MDR dros dro ar ein gwefan.

I gael gwybod pryd y gallai MDR fod yn berthnasol i drafodiad, defnyddiwch ein Canllaw MDR neu gwyliwch ein fideos byr yn egluro MDR.

Mae'r gyfrifiannell mewn cyfnod beta. Rhowch adborth i'n helpu i'w gwella.

Mae angen eich help arnom: cymerwch ran

Ymchwil defnyddwyr

Rydym bob amser yn ceisio gwneud ein gwasanaethau'n haws i'w defnyddio. Cofrestrwch er mwyn ymuno â'n grŵp adborth defnyddwyr a helpwch ni i wella drwy e-bostio dweudeichdweud@acc.llyw.cymru

Rydym yn datblygu ffyrdd o wneud trafodiadau a allai fod â hawl i MDR yn haws i'w ffeilio. Rydym yn datblygu cyfrifiannell ar-lein tebyg i'n cyfrifiannell dreth a'n gwiriwr cyfraddau uwch. Hefyd, rydym yn diwygio'r ffurflen TTT i'ch helpu i ffeilio trafodiadau MDR yn gywir.

Bydd y gwelliannau hyn yn eich helpu chi a ni i arbed amser a chost adolygu trafodiadau sydd eisoes wedi'u ffeilio. Er mwyn gwneud i'r newidiadau hyn weithio, mae angen eich help arnom gan eich bod yn defnyddio ein system bob dydd.

Cosbau am ffeilio hwyr ac am dalu treth yn hwyr

Rydym am wneud yn siŵr bod y system dreth yng Nghymru yn deg er mwyn helpu pobl i dalu'r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir.

Os oes rhaid talu TTT, ac os nad yw’r terfynau amser a'r gofynion wedi’u bodloni, efallai y byddwn yn codi cosb.

Efallai y bydd angen talu cosb os caiff y ffurflen TTT ei ffeilio'n hwyr neu os fydd y bil treth yn cael ei dalu’n hwyr.

I gael gwybod mwy am gosbau treth ar gyfer TTT, sut y cyfrifir hyn a beth y gallwch chi ei wneud, darllenwch ein canllawiau cosbau.

Diweddariadau technegol treth

Rydym wedi diweddaru ein canllawiau yn y meysydd canlynol lle rydym wedi derbyn ymholiadau neu gamgymeriadau ar ffurflenni treth: 

Rhowch wybod i ni beth yw eich barn gan ddefnyddio'r dolenni adborth ar frig ein tudalennau canllaw. Rydym yn monitro eich adborth yn rheolaidd er mwyn gwella’n cynnwys.

TTT ar gyfer eiddo amhreswyl a defnydd cymysg

Er mwyn talu'r swm cywir o dreth rhaid dewis y math cywir o drafodiad wrth lenwi ffurflen dreth:

  • preswyl
  • amhreswyl
  • defnydd cymysg

Gwyliwch ein fideo byr yn egluro defnydd cymysg sy'n cynnwys 6 phrawf busnes i'ch helpu i benderfynu. Mae gennym hefyd ganllaw amhreswyl a defnydd cymysg.

Gwelliannau i’r gyfrifiannell TTT

Yn seiliedig ar adborth gan ddefnyddwyr, rydym wedi gwella’n Cyfrifiannell TTT. Mae'r gyfrifiannell bellach yn gyflymach ac yn haws i'w defnyddio.

Rydym hefyd wedi diweddaru URL y gyfrifiannell. Os byddwch yn defnyddio'r URL blaenorol bydd yn eich ailgyfeirio. Nid yw tudalen gychwynnol LLYW.CYMRU y gyfrifiannell wedi newid. Er mwyn osgoi dryswch, rydym yn argymell eich bod bob amser yn defnyddio tudalen gychwynnol y gyfrifiannell TTT ar LLYW.CYMRU yn hytrach na sgrin gyntaf y gyfrifiannell.

Rydym hefyd wedi diweddaru URL y gwiriwr cyfraddau uwch. Os byddwch yn defnyddio'r URL blaenorol bydd yn eich ailgyfeirio. Rydym yn argymell eich bod bob amser yn defnyddio tudalen gychwynnol y gwiriwr cyfraddau uwch ar LLYW.CYMRU.

Dweud eich dweud

Os oes gennych unrhyw gwestiynau neu sylwadau am y diweddariad hwn, neu unrhyw agwedd ar ein gwasanaeth, e-bostiwch: dweudeichdweud@acc.llyw.cymru

Desg gymorth

Mae ein gwasanaeth desg gymorth ar agor i alwadau o ddydd Llun i ddydd Gwener 10am i 3pm, i roi cymorth gydag unrhyw ymholiadau. Rhif ffôn ein desg gymorth yw 0300 254 000.

Gallwch hefyd ddefnyddio ein ffurflen gyswllt ar-lein.