Diweddariad ar ein gwasanaethau Treth Trafodiadau Tir (TTT) a chanllawiau ar gyfer gweithwyr proffesiynol treth.
Rydym yn adolygu ein diweddariadau TTT. Rhowch eich barn (mae'n cymryd 30 eiliad).
Pryd mae cyfraddau uwch yn berthnasol
Prynu gyda rhywun arall
Rydym wedi diweddaru ein canllawiau ar brynu gyda rhywun arall ac wedi cynnwys rhai enghreifftiau yn ein canllaw cyflym cyfraddau uwch.
Fideos cyfraddau uwch
Gall ein fideos gweminar ar YouTube eich helpu i ddeall pryd mae'r cyfraddau uwch yn berthnasol.
Gwiriwch a yw’r cyfraddau uwch yn berthnasol
Gallwch hefyd ddefnyddio ein gwiriwr cyfraddau uwch i'ch helpu i gyfrifo pa gyfradd TTT sy'n berthnasol i'ch pryniant preswyl.
I gael esboniad manylach, neu os ydych yn ansicr sut mae'r dreth yn berthnasol:
- defnyddiwch ein canllawiau technegol ar y cyfraddau uwch
- efallai y byddwch am holi cyfreithiwr, drawsgludydd neu gysylltu â ni
Diweddariad blaenorol
Mae ein diweddariad blaenorol y gwasanaeth Treth Trafodiadau Tir Gorffennaf 2024 yn cynnwys:
- estyniad i’r cyfnod ad-dalu cyfraddau uwch ar gyfer diffygion diogelwch tân a sefyllfaoedd argyfwng
- canllawiau hunanasesu ar gyfer TTT
- pa gyfeiriad i'w ddefnyddio ar y ffurflen TTT
- offer defnyddiol
Helpwch ni i wella ein gwasanaethau
Rydym bob amser yn ceisio gwella ein gwasanaethau a sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei wneud yn bodloni eich anghenion chi. Mae eich adborth yn rhan hanfodol o hyn. I gymryd rhan, e-bostiwch dweudeichdweud@acc.llyw.cymru, a byddwn yn rhoi gwybod i chi am y sesiynau ymchwil defnyddwyr sydd ar ddod.
Mae cymryd rhan yn wirfoddol a gallwch optio allan ar unrhyw adeg. Ni fyddwn yn rhannu eich manylion cyswllt ag unrhyw drydydd parti nac yn eu defnyddio at ddibenion marchnata. Darllenwch fwy yn ein polisi preifatrwydd.