Neidio i'r prif gynnwy

Bydd angen copïau o ddogfennau arnoch er mwyn gwneud cais am Gynnig Gofal Plant Cymru, er enghraifft prawf o enillion.

Cyhoeddwyd gyntaf:
7 Tachwedd 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Dyma’r mathau o ffeiliau rydyn ni’n eu derbyn: DOC, DOCX, RTF, PDF, JPG, JPEG, TIFF, BMP, XLS, XLSX, PPT, PPTX a PNG.

Sicrhewch fod maint y ffeil yn llai na 30MB.

Nodwch fod y system uwchlwytho yn cau i ddiweddaru rhwng 2am a 4am.  Yn ystod y cyfnod hwn ni fydd modd uwchlwytho na lawrlwytho dogfennau.

Tystysgrif geni llawn eich plentyn

Tystysgrif geni llawn eich plentyn, os nad oes gennych chi fersiwn lawn o’r dystysgrif geni, bydd angen y rhain arnoch chi:

  • fersiwn fer o'r dystysgrif geni a
  • prawf o gyfrifoldeb rhiant, fel un o’r pethau canlynol:
    • Llythyr Budd-dal Plant
    • Llythyr Credyd Treth
    • llythyr oddi wrth adran derbyn meithrin eich awdurdod lleol
    • cofnod meddygol neu lyfr coch eich plentyn

Os yw enw'r plentyn wedi cael ei newid yn swyddogol, bydd angen tystiolaeth.

Prawf o’ch cyfeiriad

Prawf o’ch cyfeiriad, wedi’i ddyddio o fewn y tri mis diwethaf:

  • bil cyfleustodau diweddaraf, fel bil trydan, nwy neu ddŵr
  • datganiad treth y cyngor diweddaraf
  • datganiad banc diweddaraf

Os nad oes gennych unrhyw un o'r rhain, gallwch chi lanlwytho copi o'ch contract prynu tŷ neu gytundeb tenantiaeth.

Prawf o gyflogaeth ac incwm

Byddwch chi angen y slipiau cyflog y tri mis diweddaraf, neu gopi o'ch contract, os ydych wedi newid swydd yn ystod y tri mis diwethaf, ar eich cyfer chi a'ch partner cartref.

Mewn addysg neu hyfforddiant

Os ydych chi mewn addysg neu hyfforddiant, bydd angen i chi ddarparu tystiolaeth o'r canlynol:

  • os ydych chi mewn Addysg Uwch: eich bod chi wedi cofrestru ar gwrs israddedig neu ôl-raddedig, gan gynnwys y rhai sy’n cael eu darparu drwy ddysgu o bell, sydd o leiaf 10 wythnos o hyd
  • os ydych chi mewn Addysg Bellach (AB): eich bod chi wedi cofrestru ar gwrs sy'n cael ei gyflwyno drwy Sefydliad AB, sydd o leiaf 10 wythnos o hyd

Absenoldeb mabwysiadu neu ofalwr maeth

Bydd angen i chi gadarnhau bod mynychu gofal plant wedi’i gytuno yng nghynllun gofal y plentyn.  Bydd awdurdodau lleol sy'n asesu eich cais yn cysylltu â'r adran Gwasanaethau Cymdeithasol berthnasol i gael cadarnhad.

Hunangyflogedig (gan gynnwys gofal maeth)

Os ydych chi neu’ch partner yn hunangyflogedig (gan gynnwys fel gofalwr maeth) bydd angen i chi ddarparu un o'r canlynol:

  • ffurflen SA302
  • ffurflen dreth Hunanasesiad ddiweddaraf (gan gynnwys Cyfeirnod Treth Unigryw (UTR) a dyddiad cofrestru)

Os nad yw’r rhain gennych chi, byddwn ni angen math arall o dystiolaeth, fel:

  • copi o'ch cyfrifon diweddaraf
  • llythyr oddi wrth eich cyfrifydd am faint rydych chi’n ei ennill

Derbyn budd-daliadau cymwys neu ar absenoldeb statudol neu absenoldeb rhiant di-dâl

Byddwch chi angen y datganiad budd-daliadau diweddaraf ar gyfer pob budd-dal rydych chi’n ei gael.

Os ydych chi’n derbyn tâl mamolaeth, tâl salwch neu absenoldeb rhiant di-dâl, byddwch chi angen llythyr oddi wrth eich cyflogwr i brofi hyn.