Neidio i'r prif gynnwys

Mae rhieni'n mewngofnodi i'r gwasanaeth hwn i:

  • diweddaru manylion eich cais
  • cadarnhau eich cymhwysedd parhaus
  • trefnu gofal plant gyda’r darparwr(wyr) o’ch dewis
  • gwneud cais am blentyn newydd

Dim ond os ydych chi eisoes wedi gwneud cais am Gynnig Gofal Plant Cymru y gallwch chi fewngofnodi yma.

Rhaid i chi ddiweddaru manylion eich cais os bydd manylion neu amgylchiadau chi neu rai eich partner aelwyd yn newid. Er enghraifft, newid swydd neu fudd-daliadau.

Oherwydd gwaith cynnal a chadw hanfodol, ni fydd platfform digidol Cynnig Gofal Plant Cymru ar gael o 7yp Dydd Gwener, 23 Hydref tan 7yb Dydd Llun, 26 Hydref 2026. 

Cyn ichi ddechrau

Ni all darparwyr gofal plant fewngofnodi yma. Rhaid iddynt fewngofnodi i’w cyfrif darparwr ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru.