Neidio i'r prif gynnwy

Canllawiau i rieni a darparwyr gofal plant ar greu a rheoli eich GOV.UK One Login i gael mynediad at wasanaeth y Cynnig Gofal Plant i Gymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg o GOV.UK One Login

GOV.UK One Login yw'r ffordd newydd o gael mynediad at Gynnig Gofal Plant Cymru, a llawer o wasanaethau llywodraeth eraill, gan ddefnyddio proses fewngofnodi untro.

Darllenwch fwy am GOV.UK One Login ar gov.uk

Mynediad at y Cynnig Gofal Plant i Gymru am y tro cyntaf

Byddwch yn mewngofnodi i'r Cynnig Gofal Plant i Gymru gan ddefnyddio Un Mewngofnodi GOV.UK os ydych chi'n:

Os oes gennych chi GOV.UK One Login eisoes, gallwch chi ei ddefnyddio pan fyddwch chi'n gwneud cais neu'n cofrestru.

Os nad oes gennych chi GOV.UK One Login, byddwch chi'n creu un pan fyddwch chi'n gwneud cais neu'n cofrestru.

Rhieni'n mewngofnodi gyda'ch Un Mewngofnodiad GOV.UK

  1. Ewch i: Rhieni'n mewngofnodi i'ch cyfrif Cynnig Gofal Plant i Gymru
  2. Dewiswch y botwm gwyrdd 'Mewngofnodi'
  3. Cewch eich ailgyfeirio’n awtomatig i’r dudalen GOV.UK One Login
  4. Rhowch y cyfeiriad e-bost a'r cyfrinair a ddefnyddiwyd gennych i greu eich Un Mewngofnodiad GOV.UK
  5. Rhowch y cod diogelwch a anfonwyd i'ch ffôn symudol

Darparwyr yn mewngofnodi gyda'ch Un Mewngofnodiad GOV.UK

  1. Ewch i: Darparwyr yn mewngofnodi i'ch cyfrif Cynnig Gofal Plant i Gymru
  2. Dewiswch y botwm gwyrdd 'Mewngofnodi'
  3. Cewch eich ailgyfeirio’n awtomatig i’r dudalen GOV.UK One Login
  4. Rhowch y cyfeiriad e-bost a'r cyfrinair a ddefnyddiwyd gennych i greu eich Un Mewngofnodiad GOV.UK
  5. Rhowch y cod diogelwch a anfonwyd i'ch ffôn symudol

Creu eich GOV.UK One Login

Byddwch yn defnyddio GOV.UK One Login i gael mynediad at y Cynnig Gofal Plant i Gymru os ydych chi'n gwneud cais neu'n cofrestru am y tro cyntaf.

Os nad oes gennych GOV.UK One Login eisoes, rhaid i chi greu un.

I greu eich GOV.UK One Login bydd angen y canlynol arnoch:

  • cyfeiriad e-bost
  • cyfrinair diogel
  • mynediad at ffôn symudol i dderbyn codau diogelwch

Dylech ddewis cyfeiriad e-bost a rhif ffôn symudol y mae'n debygol y bydd gennych fynediad hirdymor iddynt. Ni ddylech ddefnyddio cyfeiriad e-bost a rennir i greu eich GOV.UK One Login.

Creu eich GOV.UK One Login ar gov.uk

Mewngofnodi gyda'ch GOV.UK One Login

I fewngofnodi i'r Cynnig Gofal Plant i Gymru gyda'ch GOV.UK One Login:

1. Dewiswch y gwasanaeth Cynnig Gofal Plant i Gymru yr hoffech ei ddefnyddio:

2. Dewiswch y botwm gwyrdd 'Mewngofnodi'

3. Ar y sgrin nesaf, dewiswch yr opsiwn i fewngofnodi gydag GOV.UK One Login

4. Rhowch y cyfeiriad e-bost a'r cyfrinair a ddefnyddiwyd gennych i greu eich GOV.UK One Login

5. Rhowch y cod diogelwch a anfonwyd i'ch ffôn symudol

Defnyddwyr presennol sy'n defnyddio Cynnig Gofal Plant Cymru

Rhieni'n mewngofnodi gyda'ch GOV.UK One Login

  1. Ewch i: Rhieni'n mewngofnodi i'ch cyfrif Cynnig Gofal Plant i Gymru
  2. Dewiswch y botwm gwyrdd 'Mewngofnodi'
  3. Cewch eich ailgyfeirio’n awtomatig i’r dudalen GOV.UK One Login
  4. Rhowch y cyfeiriad e-bost a'r cyfrinair a ddefnyddiwyd gennych i greu eich GOV.UK One Login
  5. Rhowch y cod diogelwch a anfonwyd i'ch ffôn symudol

Darparwyr yn mewngofnodi gyda'ch GOV.UK One Login

  1. Ewch i: Darparwyr yn mewngofnodi i'ch cyfrif Cynnig Gofal Plant i Gymru
  2. Dewiswch y botwm gwyrdd 'Mewngofnodi'
  3. Cewch eich ailgyfeirio’n awtomatig i’r dudalen GOV.UK One Login
  4. Rhowch y cyfeiriad e-bost a'r cyfrinair a ddefnyddiwyd gennych i greu eich GOV.UK One Login
  5. Rhowch y cod diogelwch a anfonwyd i'ch ffôn symudol

Dewis cyfeiriad e-bost ar gyfer eich GOV.UK One Login

Wrth greu eich GOV.UK One Login, dylech ddefnyddio cyfeiriad e-bost sy'n unigryw i chi.

Rhaid i chi beidio â defnyddio cyfeiriad e-bost a rennir i greu eich GOV.UK One Login.

Os ydych yn aelod o leoliad gofal plant, rhaid i’ch cyfeiriad e-bost fod yn wahanol i’r un y mae perchennog y lleoliad yn ei ddefnyddio i gael mynediad at Gynnig Gofal Plant Cymru.

Rheoli eich manylion GOV.UK One Login

Unwaith i chi fewngofnodi i'ch GOV.UK One Login gallwch weld a diweddaru eich manylion.

Gallwch:

  • newid eich manylion mewngofnodi, fel cyfeiriad e-bost, cyfrinair neu rif ffôn symudol
  • gweld a chael mynediad at y gwasanaethau rydych chi wedi'u defnyddio gyda'ch GOV.UK One Login
  • dileu eich GOV.UK One Login

Os byddwch chi'n dileu eich GOV.UK One Login, ni fyddwch chi'n gallu cael mynediad at eich cyfrif Cynnig Gofal Plant i Gymru mwyach.

Eich data a GOV.UK One Login

Darllenwch am sut mae GOV.UK One Login yn storio ac yn defnyddio eich gwybodaeth yn hysbysiad preifatrwydd GOV.UK One Login ar gov.uk.

Cael cymorth pellach

Cymorth i gael mynediad at eich cyfrif Cynnig Gofal Plant i Gymru a'i reoli

Mae rhieni'n cysylltu â llinell gymorth Cynnig Gofal Plant i Gymru.

Mae darparwyr yn cysylltu â llinell gymorth Cynnig Gofal Plant i Gymru.

Cymorth i greu, cael mynediad at neu reoli eich GOV.UK One Login

Cysylltwch â thîm GOV.UK One Login ar gov.uk.