Neidio i'r prif gynnwy

Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth, wedi cyhoeddi bod dros £100 miliwn yn cael eu buddsoddi i wella trafnidiaeth gyhoeddus a hyrwyddo twf economaidd.

Cyhoeddwyd gyntaf:
20 Ebrill 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cafodd 22 awdurdod lleol Cymru eu gwahodd i gyflwyno cynigion i Lywodraeth Cymru er mwyn iddynt gael mynd ati i wella trafnidiaeth leol yn eu hardaloedd mewn ffordd a fydd o gymorth i wireddu'r blaenoriaethau a'r amcanion yn Strategaeth Drafnidiaeth Cymru - Llwybr Newydd. 

Dyma rai o'r blaenoriaethau hynny:

  • Mynd i'r afael ag achosion o dywydd garw yn tarfu ar y rhwydwaith priffyrdd
  • Gwella diogelwch ar y ffyrdd
  • Darparu llwybrau cerdded a beicio
  • Gwella amseroedd teithio ar fysiau a gwella cyfleusterau aros
  • Darparu seilwaith gwefru cerbydau trydan fydd ar gael i'r cyhoedd

Mae'r cymorth sylweddol hwn, y bwriedir iddo helpu cynghorau lleol i wella trafnidiaeth yn eu hardal, yn cynnwys cyllid ar gyfer teithio llesol a llwybrau diogel, diogelwch ar y ffyrdd, cyfleusterau gwefru cerbydau trydan, gwella gallu ffyrdd i ymdopi â thywydd garw, trafnidiaeth leol, a ffyrdd heb eu mabwysiadu.

Ymhlith y prosiectau a fydd yn elwa ar y buddsoddiad hwn y mae gwaith i wella cysylltiadau cerdded a beicio â gorsaf Llandudno, cyllid ar gyfer cyfnewidfa fysiau Hwlffordd, buddsoddi mewn diogelwch llwybrau yn Llanidloes, a chymorth ar gyfer coridorau bysiau yng Nghaerdydd.

Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth:

Mae'r grantiau 'ma'n fuddsoddiad sylweddol i gefnogi twf cynaliadwy yn yr economi leol, i wella cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus, ac i greu a gwella llwybrau a fydd yn galluogi ac yn annog rhagor o bobl Cymru i gerdded a beicio.

Mae'r prosiectau 'ma'n enghreifftiau penigamp o'r atebion ymarferol rydyn ni wedi gofyn i'r awdurdodau lleol eu dylunio er mwyn ei gwneud yn haws i drigolion gyrraedd eu gweithleoedd a'u busnesau, ac i wneud hynny mewn ffordd fwy cynaliadwy.

Mae'r cyllid hwn hefyd yn ychwanegu at ddyraniadau a roddwyd mewn blynyddoedd blaenorol ar gyfer camau gwahanol rhai o'r prosiectau. 

Mae rhestr o'r holl brosiectau rydym yn eu hariannu, yn ôl awdurdod lleol, ar gael ar ein wefan.