Neidio i'r prif gynnwy
Eluned Morgan AS

Cyfrifoldebau'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Bywgraffiad

Cafodd Eluned Morgan ei geni ym 1967 yn Nhrelái, Caerdydd. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf. Enillodd ysgoloriaeth i Goleg Iwerydd a gradd mewn Astudiaethau Ewropeaidd o Brifysgol Hull. Bu'n gweithio fel ymchwilydd i S4C, Agenda a'r BBC.

Dechreuodd gyrfa wleidyddol Eluned yn 27 oed pan gafodd ei hethol fel aelod ieuengaf Senedd Ewrop ym 1994. Hi oedd y bumed merch yng Nghymru i gael ei hethol i rôl wleidyddol lawnamser, a'r gwleidydd llawnamser cyntaf yng Nghymru i gael babi tra oedd hi yn ei swydd. Cynrychiolodd Gymru ar ran y Blaid Lafur o 1994 i 2009. Yn y rôl hon, bu'n llefarydd Llafur ar ddiwydiant, gwyddoniaeth ac ynni, ac yn llefarydd ar ran y Grŵp Sosialaidd o 200 o bobl ar faterion yn ymwneud â Rheoli'r Gyllideb. Ysgrifennodd y Papur Gwyrdd ar ynni ar ran Senedd Ewrop ac arweiniodd drafodaethau'r Senedd ar y Gyfarwyddeb Drydan lle sicrhaodd hawliau newydd ar gyfer cwsmeriaid a mynnu bod Aelod-wladwriaethau'r UE yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd.

O ddiwedd 2009 tan fis Gorffennaf 2013, gweithiodd fel Cyfarwyddwr Datblygu Busnes Cenedlaethol Cymru SSE (SWALEC), un o gwmnïau ynni mwyaf y DU. Yn ystod 2013-2016, gwasanaethodd Eluned Morgan fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Gymru yn Nhŷ'r Arglwyddi, ac o 2014-2016 gwasanaethodd fel Gweinidog yr Wrthblaid dros Faterion Tramor. Cafodd ei gwneud yn aelod o Dŷ’r Arglwyddi yn 2011, a'i henw ffurfiol yw'r Farwnes Morgan o Drelái.

Etholwyd Eluned Morgan i'r Cynulliad Cenedlaethol ym Mai 2016 fel aelod rhanbarthol dros y Canolbarth a'r Gorllewin. Ym mis Tachwedd 2017, cafodd Eluned ei phenodi yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Ar 13 Rhagfyr 2018, cafodd ei phenodi yn Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. Penodwyd Eluned yn Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar 13 Mai 2021.

Cyfrifoldebau

  • Iechyd y Cyhoedd: Ymateb i COVID-19, sgrinio a brechu
  • Darpariaeth a pherfformiad yn y GIG
  • Gweithdrefnau uwchgyfeirio
  • Derbyn ac ymateb i adroddiadau gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, a'u llywio
  • Goruchwylio perthynas Llywodraeth Cymru â Swyddfa Archwilio Cymru mewn perthynas â gweithgareddau'r GIG
  • Hyfforddiant a datblygiad y gweithlu meddygol [ac eithrio blynyddoedd 1-5 Addysg Prifysgol Meddygon]
  • Ymchwil a datblygu ym maes iechyd a gofal cymdeithasol
  • Arloesi iechyd a digidol
  • Gwasanaethau iechyd meddwl
  • Atal hunanladdiad
  • Dementia
  • Awtistiaeth
  • Effaith gamblo cymhellol ar iechyd
  • Camddefnyddio sylweddau
  • Iechyd y Lluoedd Arfog a Chyn-filwyr
  • Iechyd y Cyhoedd: Gwasanaethau gwella iechyd a llesiant
  • Strategaeth gordewdra
  • Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru, gan gynnwys diogelwch bwyd
  • Bwyd sydd wedi'i addasu'n enetig (ac eithrio tyfu cnydau sydd wedi'u haddasu'n enetig)
  • Profiad cleifion, cyfranogiad a llais y dinesydd
  • Diogelu
  • Gwasanaethau mabwysiadu a gofal maeth
  • Eiriolaeth i blant a phobl ifanc, gan gynnwys cwynion, sylwadau ac eiriolaeth o dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014
  • Rhannu gwybodaeth o dan Ddeddf Plant 2004
  • CAFCASS Cymru
  • Polisi a goruchwylio holl weithgareddau’r Awdurdodau Lleol yng Nghymru o ran gwasanaethau cymdeithasol, gan gynnwys cyhoeddi canllawiau statudol
  • Goruchwylio Gofal Cymdeithasol Cymru
  • Rheoleiddio lleoliadau preswyl, gofal cartref, lleoliadau i oedolion, gofal maeth, darpariaeth gofal i blant dan 8 oed a gofal iechyd preifat
  • Arolygu'r gwasanaethau cymdeithasol a ddarperir gan Awdurdodau Lleol yng Nghymru, a llunio adroddiadau am yr arolygon hynny (drwy Arolygiaeth Gofal Cymru), gan gynnwys adolygiadau ar y cyd o wasanaethau cymdeithasol ac ymateb i adroddiadau
  • Hawliau plant a phobl ifanc, gan gynnwys Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn
  • Blynyddoedd cynnar, gofal plant a chwarae, gan gynnwys y cynnig Gofal Plant a'r gweithlu
  • Addysg a gofal plentyndod cynnar
  • Dechrau'n Deg ar gyfer plant 0-3 oed
  • Teuluoedd yn Gyntaf a pholisïau chwarae

Ysgrifennu at Eluned Morgan