Fframwaith NYTH (iechyd meddwl a llesiant): diweddariad gweithredu 2025
Diweddariad ar y cynnydd tuag at wella gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant i fabanod, plant a phobl ifanc.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Introduction
Mae’r fframwaith NYTH yn offeryn cynllunio wedi'i gydgynhyrchu ar gyfer sefydliadau ac arweinwyr strategol i rannu egwyddorion ac iaith allweddol ar gyfer iechyd meddwl a llesiant.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu dull system gyfan o ymdrin â gwasanaethau iechyd meddwl a llesiant ar gyfer babanod, plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae gweithredu fframwaith NYTH yn rhan allweddol o gefnogi gwasanaethau i weithio mewn partneriaeth er mwyn darparu gwasanaethau meithrin, grymuso, diogel a dibynadwy mwy cydlynus.
Mae'r diweddariad blynyddol hwn ar weithredu NYTH yn dwyn ynghyd adroddiadau o hunanasesiadau NYTH Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol a Llywodraeth Cymru i ddangos y cynnydd sy'n cael ei wneud wrth roi NYTH ar waith.
Gweithredu cenedlaethol
Mae ein cymuned ymarfer NYTH yn cynnwys ystod eang o dros 200 o randdeiliaid ledled Cymru gyda phynciau fel hawliau babanod, canlyniadau a gwerthusiadau, strategaeth iechyd meddwl a thlodi plant.
Mae offeryn hunanasesu NYTH yn cael ei ddefnyddio ym mhob cwr o'r wlad, gan bob sector, i ymwreiddio egwyddorion NYTH wrth gyflawni.
Rydym yn cynnal fforwm cenedlaethol NYTH bob mis i roi cymorth wrth gwblhau hunanasesiadau NYTH.
Rydym wedi cydgynhyrchu fideos arferion da sy'n dangos NYTH ar waith.
Mae fframwaith NYTH yn cael ei ddefnyddio ymhob rhan o Lywodraeth Cymru a gyda phartneriaid cenedlaethol gan gynnwys manyleb gwasanaeth CAMHS a'r Fframwaith Amlasiantaethol ar gyfer Gwasanaethau Plant.
Er mwyn cydnabod pwysigrwydd iechyd meddwl babanod a'r rôl allweddol sydd gan ddarparwyr gofal plant a chwarae mewn dull system gyfan, rydym wedi diweddaru'r fframwaith i gynnwys babanod fel rhanddeiliaid allweddol a gofal plant fel rhan o'r system gyfan.
NYTH a hyfforddiant hawliau plant
Mae 536 o bobl ar draws gwahanol sectorau wedi cofrestru ar gyfer ein hyfforddiant hawliau plant a NYTH a gynhyrchwyd ar y cyd, ac mae cyfraddau bodlonrwydd yn uchel. Mae gwerthusiadau o'r sesiynau hyfforddi yn dangos;
- ymrwymiad cryf i ymarfer sy'n canolbwyntio ar blant a dulliau seiliedig ar hawliau
- Bwriad eang i rannu'r hyn a ddysgwyd, ymgorffori egwyddorion, a llywio newid systemig
- ymgysylltiad uchel â’r cysyniad o "ffurfio nyth o amgylch y plentyn" a'r ethos "dim byd amdanoch chi, hebddoch chi"
Safbwyntiau rhanbarthol
Ym mis Hydref 2025, fe wnaeth pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol gyflwyno hunanasesiadau NYTH. Mae'r adroddiad hwn yn ymdrin â'r themâu, yr arferion da a'r pryderon a ddaeth yn sgil dadansoddi'r hunanasesiadau hynny.
I ffurfio eu hunanasesiadau, cynhaliodd pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol weithdai gyda phartneriaid gan wrando ar blant, pobl ifanc a theuluoedd. Gofynnwyd i’r holl brosiectau a ariannwyd gan y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol gwblhau hunanasesiadau NYTH hefyd, a defnyddiwyd y rhain i lywio’r hyn a gyflwynwyd yn rhanbarthol.
Mae'r adroddiad hwn yn defnyddio 6 egwyddor allweddol NYTH i ddangos y cynnydd sy'n cael ei wneud wrth weithredu. Wrth ymyl pob egwyddor, fe welwch y “sgôr taith NYTH” cyfartalog. Dyma gyfartaledd holl sgoriau pob Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol a hunanddyfarnwyd ar raddfa o 1i 4:
- 1 yw lefel sylfaenol: derbyn egwyddor ac ymrwymiad i weithredu
- 2 yw cynnydd cynnar: cam datblygu cyntaf a chynllunio gweithredu
- 3 yw cynnydd sylweddol: camau gweithredu'r cam cyntaf wedi'u gwneud gyda chanlyniadau da
- 4 yw wedi ymgorffori (cylch myfyriol a gwella): arferion da wedi'u hymgorffori, parhau i adolygu, dysgu o ymchwil
Mae'r tabl hwn yn dangos sgoriau cyfartalog taith NYTH rhwng 2023 a 2025. Mae'n dangos y cynnydd sylweddol a adroddwyd ar draws y rhanbarthau.
Oedolion y gellir ymddiried ynddynt
Sgôr Taith NYTH ar gyfartaledd ar draws pob rhanbarth: 3
Adborth gan Adroddiad Ymgysylltu Interplay Gorllewin Morgannwg:
Pwysleisiodd llawer o bobl ifanc pa mor bwysig yw cael oedolion dibynadwy y gallant siarad â nhw, fel rhieni, neiniau a theidiau, athrawon, a ffrindiau
Mae rhanbarthau'n parhau i wneud cynnydd wrth ymgorffori'r rôl Oedolion y gellir ymddiried ynddynt (TA) o fewn prosesau recriwtio, goruchwylio a hyfforddi. Yn benodol, mae Powys wedi datblygu cwestiynau ar gyfer cyfweliadau, datganiadau recriwtio a fformatau goruchwylio sy’n barod i'w defnyddio er mwyn helpu i weithredu egwyddor oedolion y gellir ymddiried ynddynt yn gyson.
Adborth gan ranbarth Cwm Taf Morgannwg:
Mae gwasanaethau yn dangos tystiolaeth glir o oruchwyliaeth strwythuredig, cynllunio hirdymor, ac integreiddio rolau oedolion y gellir ymddiried ynddynt ym maes recriwtio a darparu gwasanaethau.
Er gwaetha'r datblygiadau hyn, mae sawl her yn parhau. Mae trosiant staff, cyfyngiadau amser, sy'n aml wedi'u gwaethygu gan drefniadau cyllido tymor byr, a dealltwriaeth anghyson o'r rôl oedolion y gellir ymddiried ynddynt yn golygu bod rhwystrau’n parhau sy’n atal rhoi ar waith yn effeithiol. Ar ben hynny, mae diffyg iaith gyffredin ac eglurder ynglŷn â’r hyn a olygir wrth oedolyn y gellir ymddiried ynddo, a all rwystro cysondeb ar draws gwasanaethau.
Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn, mae rhanbarthau'n datblygu dulliau goruchwylio gwell, ymarfer myfyriol, a mecanweithiau cymorth gan gymheiriaid ar gyfer oedolion y gellir ymddiried ynddynt. Hefyd, mae pwyslais ar gynnwys pobl ifanc wrth ddiffinio beth yn union y mae oedolyn y gellir ymddiried ynddo yn ei olygu iddyn nhw. Mae hyn yn mynd law yn llaw â phwysigrwydd plant a phobl ifanc yn dewis ac enwi’r oedolion y maen nhw’n gallu ymddiried ynddynt a phwysigrwydd gwasanaethau yn gwerthfawrogi cydberthnasoedd sy’n bodoli’n barod.
Mae hyfforddiant ac ymarfer sy'n ystyriol o drawma yn cael eu hystyried yn alluogwyr allweddol o ran yr egwyddor oedolion y gellir ymddiried ynddynt. Fodd bynnag, mae cynnwys dulliau sy'n ystyriol o drawma yn gyson ar draws pob gwasanaeth yn her barhaus, gyda gwaith pellach yn angenrheidiol i sicrhau bod holl aelodau'r staff wedi'u paratoi i ddarparu cymorth perthynol, sensitif i drawma.
Adborth o ranbarth Tîm Bargod Gwasanaethau Plant Caerffili:
Mae'n wych rhoi gwybodaeth ac offer i ni, ond mae hefyd yn ein helpu trwy'r ffaith ein bod yn gallu eu rhoi ar waith a chael pâr saff o ddwylo i ddweud rhowch gynnig arni.
Roedd llawer o ranbarthau yn rhoi pwyslais ar bwysigrwydd cefnogi oedolion y gellir ymddiried ynddynt yn ystod 1000 diwrnod cyntaf bywyd plentyn. Mae gwasanaethau o'r farn taw'r ffordd orau o ddarparu cymorth iechyd meddwl babanod yw darparu cymorth i rieni, gan ganolbwyntio ar eu helpu i fod mewn cytgord â llais eu babi.
Adborth gan Orllewin Cymru:
Mae Tîm Ymyrraeth y Blynyddoedd Cynnar (EYIT) yn credu mai'r ffordd orau o gefnogi plentyn yw trwy gefnogi'r rhiant/rhieni: “Mae EYIT yn gyfeillgar, yn hygyrch a dydyn nhw ddim yn beirniadu. Mae’r tîm yn awyddus i gefnogi ac yn barod i ymweld ar unwaith. Mae EYIT wedi bod yn gyson ac yn anfon negeseuon testun yn aml i weld a yw popeth yn iawn, a helpodd hynny i leihau'r ymdeimlad o unigrwydd fel mam ifanc
Yng Ngorllewin Morgannwg, mae CAMHS bellach yn cynnig gweithdai Rhieni/Gofalwyr sydd wedi'u cynllunio i roi'r wybodaeth a'r strategaethau sydd eu hangen ar rieni a gofalwyr i daclo pryderon iechyd meddwl. Mae'r gweithdai hyn yn grymuso oedolion i ddod yn oedolion y gellir ymddiried ynddynt sydd yn gefnogol ac mewn cytgord emosiynol â’u plant a phobl ifanc. Yn y Gogledd, mae rhaglenni fel Gro Brain, Circle of Security, a gwaith ar y berthynas rhwng rhieni a babanod yn cael eu defnyddio i gryfhau datblygiad perthynas cadarnhaol.
Llesiant ar draws addysg
Sgôr Taith NYTH ar gyfartaledd ar draws pob rhanbarth: 2.7
Ledled Cymru, mae ffocws parhaus ar gefnogi plant a phobl ifanc drwy drawsnewidiadau allweddol, gan gynnwys symud o leoliadau blynyddoedd cynnar i'r ysgol, ac o addysg gynradd i addysg uwchradd. Mae hunanasesiadau rhanbarthol yn tynnu sylw at bwysigrwydd sicrhau bod lles emosiynol a chydberthnasoedd y gellir ymddiried ynddynt yn parhau gydol y cyfnodau critigol hyn.
Adborth gan ranbarth Powys:
Mae Tîm Cynghori Gofal Plant Dechrau'n Deg yn cyflwyno egwyddorion NYTH/NEST yn eu gwaith bob dydd. Maen nhw wedi ymgorffori’r gwerthoedd hyn yn eu hymweliadau sicrhau ansawdd a chymorth, wedi datblygu adnoddau ymarferol, ac wedi darparu hyfforddiant staff ar draws lleoliadau. Mae eu Gwobr Hyrwyddwr NYTH/NEST wedi helpu i dynnu sylw at arferion da, a dathlu hynny.
Mae rhanbarthau yn sicrhau bod eu camau gweithredu NYTH yn gydnaws â’r dull ysgol gyfan o ymdrin â lles emosiynol a meddyliol. Mae hyn yn helpu i ymwreiddio iechyd emosiynol fel blaenoriaeth graidd mewn lleoliadau addysg ac yn cefnogi dull mwy cyson, system-gyfan, o ymdrin â llesiant. Er bod camau sylweddol wedi'u cymryd i integreiddio addysg i'r system gyfan, mae heriau'n parhau o ran sicrhau cynrychiolaeth addysg ar weithgorau rhanbarthol. Mae cryn awydd o hyd i gysylltu ysgolion ymhellach ag ystod ehangach o wasanaethau i sicrhau cefnogaeth gyfannol i ddysgwyr.
Mae llais ieuenctid a chydgynhyrchu yn cael eu cynnwys fwyfwy mewn cynlluniau lles ysgolion, gyda sawl rhanbarth yn dweud bod twf mewn mentrau dan arweiniad pobl ifanc.
Mae rhai rhieni wedi mynegi pryderon bod ysgolion yn rhoi gormod o bwyslais ar reoli ymddygiad negyddol, yn hytrach na meithrin cydberthnasoedd gydag oedolion y gellir dibynnu arnynt sy'n cefnogi lles emosiynol. Mewn ymateb, mae'r angen am hyfforddiant parhaus i staff addysg yn flaenoriaeth o hyd, yn enwedig ym meysydd ymarfer sy'n ystyriol o drawma, niwroamrywiaeth, ac iechyd meddwl. Pan fo hyfforddiant o'r fath ar gael, mae'n cael effaith gadarnhaol ar ymarfer. Er enghraifft, yng Ngorllewin Morgannwg, mae cyngor a chanllawiau penodol ar gyfer niwroamrywiaeth wedi'u rhoi i ysgolion er mwyn helpu athrawon i ddeall ac ymateb i ymddygiad yn yr ystafell ddosbarth.
Yng ngorllewin Cymru, mae tîm Llesiant Addysg Sir Gâr wedi gosod ymarferwyr sy'n ystyriol o drawma mewn ysgolion er mwyn darparu cyngor, cymorth a hyfforddiant rheolaidd i staff sy'n gweithio gyda phlant sy'n derbyn gofal. Mae creu 'mannau diogel' heb feirniadaeth i staff ysgolion rannu eu pryderon wedi'i ddisgrifio fel cam arwyddocaol, gan helpu i gynnal lleoliadau a sicrhau eu bod yn ffynnu, hyd yn oed mewn amgylchiadau heriol.
Adborth o ranbarth gorllewin Cymru:
Roedd profi'r anawsterau sy'n wynebu pobl awtistig (bob dydd) yn agoriad llygad. Dwi bellach yn deall y math o broblemau synhwyraidd sydd gan bobl awtistig ac yn teimlo 'mod i'n gallu eu cefnogi'n well (Athro).
Mae enghreifftiau o ymarfer effeithiol yn cynnwys penodi arweinwyr llesiant mewn ysgolion, gweithredu Cynorthwywyr Cymorth Llythrennedd Emosiynol (ELSA), a datblygu mentrau lles dan arweiniad ieuenctid.
Arloesi trwy gydgynhyrchu
Sgôr Taith NYTH ar gyfartaledd ar draws pob rhanbarth: 2.8
Adborth gan ranbarth Cwm Taf Morgannwg:
Fe wnaethon nhw newid pethau go iawn. Dyw hynny erioed wedi digwydd o'r blaen.
Mae cydgynhyrchu yn rhan gynyddol amlycach o strategaeth ac ymarfer, rhwng y defnydd o fyrddau ieuenctid, fforymau rhieni, a hyrwyddwyr cydgynhyrchu. Bu cynnydd sylweddol mewn dealltwriaeth o ymgysylltu ystyrlon a phwysigrwydd defnyddio mathau gwahanol o ymgysylltu i sicrhau bod lleisiau pobl ifanc sydd ar yr ymylon neu sydd wedi ymddieithrio yn cael eu clywed.
Adborth o ranbarth Gwent:
Mae teuluoedd a phobl ifanc wedi cyfrannu'n uniongyrchol at y gwaith o gydgynhyrchu deunyddiau hyfforddi a gweithdai ar gyfer gweithwyr proffesiynol a defnyddwyr gwasanaeth eraill. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan yn y gwaith o gynllunio pecynnau cymorth lles emosiynol, adnoddau iechyd meddwl, a rhaglenni mewn ysgolion, gan sicrhau bod y cynnwys yn berthnasol ac yn ystyrlon.
Mae cydgynhyrchu yn cael ei gynnwys mewn strwythurau system, gan gynnwys defnyddio adroddiadau profiad cleifion a siarterau ac addewidion cydgynhyrchu. Fodd bynnag, cydnabyddir bod angen gwneud mwy i sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed ar bob lefel, gan gynnwys hwyluso eu cyfraniad at asesiadau anghenion poblogaeth.
Mae enghreifftiau o arferion da yn cynnwys Cwm Taf Morgannwg sy'n rhedeg grant cyd-gynhyrchu i alluogi dulliau cydgynhyrchu arloesol fel perfformiadau theatrig a chelf ar y cyd.
Mynediad hawdd at arbenigedd
Sgôr Taith NYTH ar gyfartaledd ar draws pob rhanbarth: 2.7
Roedd tystiolaeth sylweddol gan ranbarthau bod cynnwys arbenigedd fel dull amlddisgyblaethol yn gweithio er mwyn gwella canlyniadau. Rhoddwyd enghreifftiau o hyn mewn sawl sector gan gynnwys gwasanaeth mewngymorth CAMHS ar gyfer addysg, rôl gyswllt CAMHS gyda gweithwyr cymdeithasol, arbenigedd seicoleg blynyddoedd cynnar a chymorth therapiwtig i blant â phrofiad gofal.
Adborth gan ranbarth Caerdydd a'r Fro:
Mae Babies Best Beginnings yn canolbwyntio ar gynnig cyngor seicoleg i weithwyr proffesiynol eraill sy'n gweithio gyda theuluoedd agored i niwed yn ystod beichiogrwydd, gan sicrhau bod seicoleg yn cael ei wau i mewn i drafodaethau, gan greu dull sy'n ystyriol o drawma.
Fodd bynnag, mae symud cymorth o fod yn ymatebol wrth ymateb i argyfwng i fod yn rhagweithiol, fel cynnig ataliol, yn her. Hefyd, dywedodd rhanbarthau eu bod yn cael trafferth sicrhau dulliau cyson o gael mynediad hawdd at arbenigedd ar draws sectorau, gan fod pocedi o arferion da yn hytrach na chysondeb rhanbarthol.
Mae'r angen am brotocolau rhannu data ar y cyd a systemau integredig gwell yn parhau i fod yn allweddol er mwyn cyflawni dull system gyfan, yn enwedig pan fydd yn cynnwys y trydydd sector. Mae rhwystrau gwledig yn parhau'n her i rai rhanbarthau hefyd, gyda mynediad ffisegol at wasanaethau yn profi'n anodd i sawl teulu.
Tynnodd Powys sylw at y ffaith eu bod wedi sicrhau mynediad hawdd at arbenigedd o fewn eu his-grŵp plant, gan annog aelodau i rannu eu harbenigedd eu hunain neu gynnig cyfleoedd hyfforddi, gan helpu i adeiladu amgylchedd dysgu cydweithredol sy'n cryfhau ymarfer ac yn meithrin diwylliant o gyfrifoldeb ar y cyd a gwelliant parhaus.
Roedd gwasanaethau a rhanbarthau yn cydnabod yr angen i wella mynediad at arbenigedd i deuluoedd ethnig leiafrifol a'r rhai o gefndiroedd ymylol. Roedd rhai rhanbarthau yn gwella gwasanaethau cyfieithu ar gyfer teuluoedd nad ydynt yn siarad Saesneg a Chymraeg, ac yn defnyddio ymweliadau cartref neu gymunedol er mwyn helpu teuluoedd i deimlo'n fwy cyfforddus ac yn gallu defnyddio'r gwasanaeth. Mae cydberthnasoedd oedolion y gellir ymddiried ynddynt a ddatblygwyd gyda gwasanaethau yn cael eu hystyried yn allweddol ar gyfer sicrhau hygyrchedd:.
Adborth o ranbarth Gwent:
Mae angen i ni wneud yn siŵr bod y cymorth hwn yn mynd y tu hwnt i gyfeirio pobl. Mae'r egwyddor NYTH/NEST o ddal ati yn ein hatgoffa nad mater o gyfeirio teuluoedd at y drws cywir yn unig yw e — ond cerdded gyda nhw, aros wrth eu hochr a gwneud yn siŵr mai'r drws hwn yw'r un addas ar gyfer eu hanghenion nhw.
Cymunedau diogel a chefnogol
Sgôr Taith NYTH ar gyfartaledd ar draws pob rhanbarth: 2.7
Mae rhanbarthau a phartneriaid yn poeni am ddiwedd y Gronfa Integreiddio Rhanbarthol yn 2027, a fydd yn effeithio ar staffio a hyfywedd prosiectau. Trafodwyd cynaliadwyedd a chyllid tymor byr prosiectau fel rhwystrau sylweddol ar draws pob egwyddor.
Mae pobl ifanc yn tynnu sylw'n gyson at bwysigrwydd teulu cefnogol, cyngor da, siopau lleol, parciau, mynediad i glybiau a grwpiau, a thrafnidiaeth well. Nodwyd rhwystrau eraill fel diffyg trafnidiaeth ac ymwybyddiaeth o'r adnoddau sydd ar gael hefyd.
Yn dilyn argymhellion blaenorol, mae rhanbarthau wedi gweithio'n galed i integreiddio ieuenctid a gwaith chwarae i'w dull system gyfan. Mae rhai rhanbarthau bellach yn defnyddio asesiadau digonolrwydd chwarae i lywio eu dealltwriaeth o gymunedau ac anghenion. Yn ardaloedd y Gogledd, adlewyrchir hyn yn eu darpariaeth breswyl sy'n cynnal cysylltiadau â gwasanaethau a gweithgareddau ieuenctid yn ogystal â defnyddio partneriaethau hamdden a mynediad at fannau gwyrdd.
Adborth o ranbarth Gwent:
Gweithio gyda phartneriaid lleol i greu amgylcheddau diogel fel parciau, canolfannau cymunedol, ac ysgolion lle gall plant feithrin cydberthnasoedd a datblygu ymdeimlad o berthyn.
Dywedodd rhanbarthau fod gwerthfawrogiad cynyddol o bwysigrwydd penderfynyddion ehangach iechyd meddwl a'r angen i fynd i'r afael â thai a thlodi ochr yn ochr â phryderon iechyd meddwl.
Adborth gan ranbarth Caerdydd a'r Fro:
Mae Goleudy ac Enfys yn gweld newid diwylliannol mewn agweddau, gyda chydweithwyr gwaith cymdeithasol yn deall anghenion plant sy'n dod i'r system ofal, er enghraifft "roedd y gefnogaeth mor werthfawr ac roedd (x) eisiau rhannu... Ar ôl i chi siarad, roedd hi'n teimlo'n llawer gwell ac mae hi'n cael sesiynau anhygoel gyda (plentyn).” Mae'r dull yn rhoi pwyslais ar ystyried y systemau o amgylch plant a phobl ifanc, o sut olwg sydd ar yr ystafell wely i'r hyn maen nhw'n ei fwyta, chwarae a dysgu, a mynediad at weithgareddau cymunedol
Dull dim drws anghywir
Sgôr Taith NYTH ar gyfartaledd ar draws pob rhanbarth: 2.6
Roedd pob adroddiad ar yr egwyddor hon yn dangos awydd cryf am newid, gyda phob rhanbarth naill ai'n cyflawni'n llawn neu'n treialu modelau un pwynt mynediad, dim drws anghywir. Mae llawer yn tynnu ar arferion da paneli llesiant SPACE Gwent i sefydlu eu dulliau tîm amlddisgyblaethol eu hunain o sicrhau dull system gyfan at atgyfeiriadau. Fodd bynnag, mae'r gwaith hwn yn aml wedi'i lesteirio gan ddiffyg cronfeydd data a chyfeirlyfrau cyffredin a chytundebau rhannu data.
Cydnabuwyd yr angen i gynnig cymorth rhagweithiol, gyda dycnwch a sensitifrwydd i anghenion a phrofiadau unigol y teulu. Dysgu mai'r hyn sy'n bwysig yw sut mae teuluoedd yn teimlo wrth estyn mas am gymorth.
Adborth o ranbarth gogledd Cymru:
Mae'r tîm (Supported Lodgings) yn helpu pobl ifanc i lywio atgyfeiriadau a chymhwystra trwy gynnig cymorth clir, wedi'i deilwra mewn cyfarfodydd personol, dros y ffôn neu'n ddigidol. Mae'r dull hwn yn addasu i anghenion diwylliannol, arddulliau dysgu, a dewisiadau cyfathrebu. Mae cymorth emosiynol, cymorth argyfwng, a sgyrsiau cychwynnol ar gael, hyd yn oed yn ystod prosesau atgyfeirio.
Roedd llawer o wasanaethau yn sôn am gynnig ymgysylltiad rhagweithiol, tosturiol sy'n ymatebol i anghenion a dewisiadau'r plant, pobl ifanc a'u teuluoedd. Mae gan Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol strategaethau plant ar waith sy'n darparu arweinyddiaeth ar gyfer yr egwyddor 'dim drws anghywir'.
Er enghraifft, mae strategaeth System Gyfan, Calon Gyfan Cwm Taf Morgannwg:
'yn ceisio meithrin diwylliant o ymyrraeth gynnar a gofal yn y gymuned, gan ddychmygu dyfodol lle mae lles plant yn cael ei gefnogi gan gydweithredu cryf rhwng asiantaethau a phroses o gynllunio gwasanaethau sy'n cael ei yrru gan ddata.
Er bod cydnabyddiaeth bod cydberthnasoedd gydag oedolion y gellir ymddiried ynddynt yn ganolog o ran ennyn diddordeb teuluoedd, tynnwyd sylw hefyd at y perygl o orddibynnu ar weithwyr proffesiynol unigol er mwyn helpu teuluoedd i lywio system sydd wedi torri, yn hytrach na llwybrau cydlynus, hawdd eu deall sy'n creu system ar y cyd.
Casgliad
Mae'r cynnydd sylweddol yn y defnydd o offeryn hunanasesu a hyfforddiant NYTH yn cynrychioli'r ymrwymiad cynyddol i nodau'r fframwaith ar draws ystod eang o bartneriaid a sectorau. Er bod y defnydd o'r fframwaith yn dod yn fwyfwy eang a bod dealltwriaeth ar y cyd o'r iaith a'r egwyddorion, mae rhagor o waith i'w wneud i fynd i'r afael â'r heriau a nodwyd yn yr adroddiad hwn.
Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio i rannu enghreifftiau o arferion da sy'n dangos sut mae modd cyflawni cytundebau rhannu data a phrotocolau ar y cyd i gefnogi dull dim drws anghywir. A byddwn yn gweithio gyda'r trydydd sector a'r rhai sydd â phrofiad bywyd i fynd i'r afael â'r rhwystrau systemig sy'n wynebu babanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd o gefndiroedd ethnig leiafrifol wrth geisio cymorth iechyd meddwl a llesiant.
Fel bob amser, rydym yn gwbl ymrwymedig i sicrhau bod safbwyntiau a phrofiadau babanod, plant, pobl ifanc a theuluoedd yn siapio ac yn cyfarwyddo ein gwaith parhaus.
