Fframwaith polisi gofal mewn argyfwng a gofal acíwt newydd: hysbysiad preifatrwydd
Mae’r hysbysiad preifatrwydd hwn yn dweud wrthych beth i’w ddisgwyl pan fyddwch yn cysylltu â Llywodraeth Cymru ac yn rhoi’ch gwybodaeth bersonol i ni.
Ar y dudalen hon
Fframwaith polisi gofal mewn argyfwng a gofal acíwt newydd
Mae'r Tîm Polisi Gofal mewn Argyfwng yn Llywodraeth Cymru yn cynnal arolwg i lywio'r gwaith o ddatblygu fframwaith polisi newydd ar gyfer gofal mewn argyfwng a gofal acíwt, gyda'r nod o wella canlyniadau a phrofiadau i bobl yng Nghymru y mae angen y gwasanaethau gofal hyn arnynt. Nod yr arolwg hwn yw ceisio barn a phrofiadau staff iechyd a gofal cymdeithasol o ran sut mae'r system gofal mewn argyfwng a gofal acíwt yn perfformio, sut mae'r system yn rhyngweithio â'r system iechyd a gofal ehangach, a sut y gellid ei gwella.
Rydym yn arbennig o awyddus i glywed gan staff iechyd a gofal cymdeithasol y mae eu profiad a'u harbenigedd yn darparu mewnwelediad gwerthfawr i sut mae'r system gofal mewn argyfwng a gofal acíwt yn perfformio ar hyn o bryd, a'r mannu lle mae angen ei gwella. Bydd eich adborth yn helpu i lunio polisi yn y dyfodol, gan sicrhau bod y fframwaith yn adlewyrchu profiadau'r rheini sy'n darparu ac yn cefnogi gofal ledled Cymru.
Llywodraeth Cymru yw’r rheolydd data ar gyfer yr arolwg. Ni fydd data personol yn cael eu defnyddio yn y fframwaith polisi a gyhoeddir.
Pa ddata personol a gedwir gennym ac o ble yr ydym yn cael yr wybodaeth honno?
Diffinnir data personol o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data (GDPR y DU) fel unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â pherson y gellid ei defnyddio i adnabod yr unigolyn hwnnw, yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol, drwy gyfeirio at ffactor adnabod.
Rydych wedi cael eich gwahodd i gymryd rhan yn yr arolwg hwn naill ai drwy:
- cyfryngwr, er enghraifft arweinwyr cyfathrebu bwrdd iechyd lleol sy'n dal manylion cyswllt staff fel y gallant ddosbarthu negeseuon sefydliadol pwysig i'r grwpiau staff cywir, gan gynnwys arolygon;
- manylion cyswllt yng Nghyfeirlyfr Gwasanaethau GIG Cymru – cyfeiriadur staff;
- manylion cyswllt y mae Llywodraeth Cymru yn eu cadw'n ddiogel ar gyfer sefydliadau a grwpiau staff yr ydym yn ymgysylltu'n rheolaidd â nhw ee prif swyddogion gweithredu'r byrddau iechyd lleol;
- manylion cyswllt sydd ar gael i'r cyhoedd ee drwy wefannau'r sefydliadau eu hunain.
Nid yw'r arolwg hwn yn casglu data personol ychwanegol.
Rydych yn cymryd rhan ar sail wirfoddol, ac os nad ydych am gymryd rhan neu gael negeseuon atgoffa, e-bostiwch: jamie.wardrop001@llyw.cymru, a bydd eich manylion yn cael eu dileu. Dim ond at ddibenion yr arolwg hwn y bydd y tîm polisi yn defnyddio cyfeiriadau e-bost a'r rhifau ffôn.
Os byddwch yn dewis rhoi data personol ychwanegol fel rhan o'r arolwg, byddwn yn ceisio sicrhau nad yw'n bosibl eich adnabod o'r ymatebion a roddwch, na chysylltu eich enw â'r ymatebion hynny.
Os ydych yn rhoi data wrth ofyn cwestiwn neu wrth wneud cwyn sy’n gofyn am ateb, dim ond at y swyddog perthnasol y bydd yr ymchwilydd yn anfon eich cais, cyn ei ddileu o ddata'r arolwg.
Beth yw’r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?
Y sail gyfreithlon ar gyfer prosesu gwybodaeth yn yr ymarfer casglu data hwn yw ein tasg gyhoeddus; hynny yw, arfer ein hawdurdod swyddogol i ymgymryd â rôl a swyddogaethau craidd Llywodraeth Cymru.
Chi sydd i benderfynu a ydych am gymryd rhan ai peidio. Mae arolygon fel hyn yn bwysig, er mwyn i Lywodraeth Cymru gasglu gwybodaeth a thystiolaeth y gellir gweithredu arni ynghylch ein gallu i gyflawni blaenoriaethau’r Llywodraeth. Gallai'r wybodaeth sy'n cael ei chasglu yn yr arolwg hwn, er enghraifft, gael ei defnyddio i helpu i ddatblygu polisi.
Pa mor ddiogel yw eich data personol?
Mae data personol a roddir i Lywodraeth Cymru yn cael eu cadw ar weinyddion diogel. Dim ond swyddogion Llywodraeth Cymru fydd yn prosesu'r wybodaeth, ac ni fydd yn cael ei rhannu ag eraill.
Wrth gynnal arolygon, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio rhaglen feddalwedd arolwg o'r enw SmartSurvey. Rydym wedi sicrhau bod SmartSurvey yn cydymffurfio â GDPR y DU a'i bod yn bodloni ein disgwyliadau o ran diogelwch unrhyw ddata a gesglir drwy’r feddalwedd.
Mae gan Lywodraeth Cymru weithdrefnau i ymdrin ag unrhyw achosion o dorri rheolau diogelwch data a amheuir. Os amheuir bod rheol ddiogelwch wedi ei thorri, bydd Llywodraeth Cymru yn eich hysbysu chi ac unrhyw reoleiddiwr perthnasol lle bo'n ofynnol inni wneud hynny yn ôl y gyfraith.
Am ba hyd y byddwn ni'n cadw eich data personol?
Bydd unrhyw ddata personol yn cael eu dileu gan y tîm polisi o fewn chwe mis i gyhoeddi Fframwaith Polisi Gofal mewn Argyfwng a Gofal Acíwt. Mae hynny'n cynnwys eich manylion cyswllt.
Hawliau'r unigolyn
O dan GDPR y DU, mae gennych yr hawliau canlynol mewn perthynas â'r wybodaeth bersonol y byddwch yn ei darparu fel rhan o'r arolwg hwn. Yn benodol, mae gennych hawl i wneud y canlynol:
- Gweld copi o'ch data eich hun;
- Mynnu ein bod yn cywiro unrhyw wallau yn y data hynny;
- Gwrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu'r data (o dan amgylchiadau penodol);
- Mynnu bod eich data yn cael eu 'dileu’ (o dan amgylchiadau penodol);
- Cyflwyno cwyn i Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO), sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data.
Dyma fanylion cyswllt Swyddfa’r Comisiynydd Gwybodaeth:
ICO,
Wycliffe House,
Water Lane,
Wilmslow,
Cheshire / Swydd Gaer,
SK9 5AF.
Ffôn: 0303 123 1113
Gwefan: www.ico.org.uk
Rhagor o Wybodaeth
Os oes gennych gwestiynau eraill ynghylch sut y bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r data sy'n cael eu darparu fel rhan o’r arolwg hwn, neu os ydych am arfer eich hawliau o dan Reoliad Cyffredinol y DU ar Ddiogelu Data, cysylltwch â:
Enw: Jamie Wardrop:
Cyfeiriad e-bost: jamie.wardrop001@llw.cymru
Gallwch gysylltu â Swyddog Diogelu Data Llywodraeth Cymru yn
Llywodraeth Cymru,
Parc Cathays,
Caerdydd,
CF10 3NQ
E-bost: SwyddogDiogeluData@llyw.cymru
