Neidio i'r prif gynnwy

Hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ffurflen werthuso gwerthusiad digwyddiad dysgu a rennir cyfiawnder teuluol cenedlaethol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Mawrth 2026
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cefndir

Mae'r tîm Gwella Canlyniadau i Blant yn Llywodraeth Cymru yn hwyluso diwyddiad Cyfiwnder Teuluol Cenedlaethol. Er mwyn gwerthuso llwyddiant y digwyddiad hwn, mae ffurflen we wedi’i paratoi.

Wrth gwblhau’r ffurflen, dim ond os yw’r unigolyn sy’n llenwi’r ffurflen yn dymuno darparu gwybodaeth bersonol ar gyfer cysylltiad yn y dyfodol y bydd Llywodraeth Cymru’n derbyn gwybodaeth bersonol.

Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn yr wybodaeth bersonol hon (enw, cyfeiriadau e-bost a’r ymatebion) gan fynychwyr pan fyddant yn dewis rhoi’r wybodaeth hon yn y rhan hon.

Beth ydyn ni'n ei wneud gyda'ch gwybodaeth?

Bydd y wybodaeth bersonol a ddarperwch yn cael ei chadw er mwyn rhannu â chi am grwpiau gweithio yn y dyfodol a chyfleoedd i gydweithio â ni ar ddatblygu polisi sy’n ymwneud â Chyfiawnder Teuluol.

Ni fydd yn bosibl i ddirprwyon eraill weld eich gwybodaeth bersonol ac rydym yn sicrhau bod mesurau ar waith i gadw cyfeiriadau e-bost a gwybodaeth bersonol yn ddiogel.

Beth yw'r sail gyfreithlon dros ddefnyddio eich data?

Llywodraeth Cymru ('ni') fydd y rheolydd data ar gyfer y data personol rydych chi'n ei ddarparu er mwyn sicrhau ein bod yn gallu cysylltu â chi ynghylch digwyddiadau yn y dyfodol a chyfleoedd i weithio gyda’n gilydd.

Pa mor hir y byddwn yn cadw eich gwybodaeth?

Bydd Llywodraeth Cymru yn cadw manylion cyswllt cyfranogwyr am y 12 mis nesaf er mwyn rhannu gwybodaeth am grwpiau gweithio a digwyddiadau yn y dyfodol. Cedwir ymatebion dienw i’r arolwg er mwyn llywio ein dysgu ar gyfer y digwyddiad nesaf.

Ni fydd yr wybodaeth yn cael ei rhannu y tu allan i Lywodraeth Cymru.

Eich hawliau mewn perthynas â'ch gwybodaeth

O dan y ddeddfwriaeth diogelu data, mae gennych yr hawl: 

  • i gael gafael ar y data personol sydd gan Lywodraeth Cymru amdanoch chi; 
  • ei gwneud yn ofynnol i ni gywiro anghywirdebau yn y data hwnnw 
  • i wrthwynebu neu gyfyngu ar brosesu neu gyfyngu ar brosesu 
  • er mwyn (mewn amgylchiadau penodol) i'ch data gael ei 'ddileu' 
  • cyflwyno cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO) sef ein rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer diogelu data. 

Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Wycliffe House
Water Lane
Wilmslow
Swydd Gaer
SK9 5AF

Rhif ffôn:

0303 123 1113

Gwefan: www.ico.gov.uk.

Rhagor o wybodaeth

I gael rhagor o wybodaeth am y wybodaeth sydd gan Lywodraeth Cymru a'i ddefnydd, neu os hoffech arfer eich hawliau o dan GDPR y DU, gweler y manylion cyswllt isod:

Gwella Canlyniadau i Blant

Iechyd, Gofal Cymdeithasol a'r Blynyddoedd Cynnar
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau gwybodaeth, cysylltwch â: 

Swyddog Diogelu Data

Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.