Neidio i'r prif gynnwy

Data yn ôl oedran, awdurdod lleol, dull astudio ac incwm gweddilliol ar gyfer Medi 2017 i Awst 2018.

Mae’r data, sy’n seiliedig ar geisiadau a dderbyniwyd erbyn 31 Gorffennaf 2018, yn gywir ar 1 Awst 2018.

Prif bwyntiau

  • Bu gostyngiad yn nifer y ceisiadau llwyddiannus yn 2017/18 o gymharu â 2016/17. O ganlyniad, talwyd gwerth £5.6 miliwn o Grantiau i fyfyrwyr addysg bellach (AB) yn 2017/18, o gymharu â’r £5.8 miliwn a dalwyd yn 2016/17.
  • Gwnaeth cyfanswm o 6,045 o fyfyrwyr mewn AB gais am y Grant yn 2017/18,  sy’n ostyngiad o 3% o gymharu â 2016/17. O’r ceisiadau hyn, roedd 5,145 yn llwyddiannus, sy’n ostyngiad o 5% o gymharu â 2016/17.
  • Wrth ddadansoddi’r ceisiadau llwyddiannus, gwelwyd bod nifer y myfyrwyr amser llawn a nifer y myfyrwyr rhan-amser ychydig yn wahanol i’r blynyddoedd diwethaf. Roedd 4,760 (92%) o geisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr amser llawn a 350 (7%) o geisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr rhan-amser.
  • Roedd ceisiadau llwyddiannus yn cyfrif am 85% o’r ceisiadau a dderbyniwyd. Mae’r gyfran hon wedi gostwng ychydig o 87% yn 2016 /17. Mae’r gyfran o geisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr amser llawn yn parhau i fod yn uchel iawn ar tua 98%, tra bo’r ffigur cyfatebol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser yn 85%.
  • Roedd 3,700 (78%) o geisiadau amser llawn llwyddiannus a 280 (81%) o geisiadau rhan-amser llwyddiannus gan fyfyrwyr ag incwm gweddilliol o £6,120 neu lai, ac felly dyfarnwyd iddynt y symiau grant llawn o £1,500 a £750. Nid yw’r cyfrannau hyn wedi newid llawer ers 2008/09.
  • Roedd 2,015 (42%) o geisiadau amser llawn llwyddiannus a 65 (19%) o geisiadau rhan-amser llwyddiannus gan fyfyrwyr 21 oed neu iau.

Adroddiadau

Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru: addysg bellach, Medi 2017 i Awst 2018 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 847 KB

PDF
Saesneg yn unig
847 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Llinell Ymholiadau Cyffredinol

Rhif ffôn: 0300 025 5050

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.