Neidio i'r prif gynnwy

Data yn ôl oedran, awdurdod lleol, dull astudio ac incwm gweddilliol ar gyfer Medi 2021 i Awst 2022.

Prif bwyntiau

Gwnaeth cyfanswm o 4,105 o fyfyrwyr mewn addysg bellach (AB) gais am y Grant yn 2021/22, sy’n ostyngiad o 9% o gymharu â 2020/21. O’r ceisiadau hyn, roedd 3,310 yn llwyddiannus, sy’n ostyngiad o 11% o gymharu â 2020/21. O ganlyniad, talwyd gwerth £3.6 miliwn o Grantiau i fyfyrwyr AB yn 2021/22, o gymharu â’r £4.2 miliwn a dalwyd yn 2020/21. Roedd 3,120 (94%) o geisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr amser llawn a 170 (5%) o geisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr rhan-amser.

Mae cyfran y ceisiadau llwyddiannus gan fyfyrwyr amser llawn yn parhau i fod yn uchel, sef tua 97%, a’r ffigur cyfatebol ar gyfer myfyrwyr rhan-amser yn 72%. Roedd 2,335 (75%) o geisiadau amser llawn llwyddiannus a 125 (74%) o geisiadau rhan-amser llwyddiannus gan fyfyrwyr ag incwm gweddilliol o £6,120 neu lai, ac felly dyfarnwyd iddynt y symiau grant llawn. Roedd 1,225 (40%) o geisiadau amser llawn llwyddiannus a 25 (16%) o geisiadau rhan-amser llwyddiannus gan fyfyrwyr 21 oed neu iau.

Adroddiadau

Grantiau Dysgu Llywodraeth Cymru (addysg bellach): Medi 2021 i Awst 2022 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 692 KB

PDF
Saesneg yn unig
692 KB
Os mae arnoch chi angen fersiwn o’r ddogfen hon mewn fformat mwy hygyrch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Cofiwch ddweud wrthym y math o fformat sydd ei angen arnoch chi. Byddai’n help mawr i ni os gallech chi ddweud wrthym ba fath o dechnoleg gynorthwyol rydych yn ei defnyddio hefyd.

Data

Setiau data ac adnoddau rhyngweithiol

Cyswllt

Aron Nyberg

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.