Neidio i'r prif gynnwy

Mae’r datganiad hwn yn adrodd ar waharddiadau o ysgolion ar gyfer disgyblion mewn ysgolion cynradd, canol, uwchradd ac arbennig a gynhelir yng Nghymru. Gall gwaharddiadau ysgol fod yn barhaol neu am gyfnod penodol.

Cyflwyniad a throsolwg

Mae'r datganiad hwn yn cwmpasu'r holl waharddiadau parhaol a chyfnod penodol o ysgolion a gynhelir yng Nghymru rhwng Medi 2021 ac Awst 2022. Gwneir cymariaethau â blynyddoedd academaidd cynharach o 2011/12 ymlaen.

Data ar gyfer blwyddyn academaidd 2021/22 yw’r set gyntaf o ddata gwaharddiadau ers 2018/19 nad yw’r pandemig coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio’n uniongyrchol arnynt. Cesglir y data yng Ngwanwyn 2023 ac mae’n cynnwys gwaharddiadau yn ystod blwyddyn academaidd 2021/22.

O ganlyniad i’r pandemig COVID-19 bu ysgolion ar gau am gyfnodau penodol rhwng Medi 2020 a Rhagfyr 2020, caewyd pob ysgol rhwng Ionawr 2021 a Chwefror 2021 gyda dychweliad graddol wedi’i gwblhau erbyn Ebrill 2021. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion ynghylch pryd y caewyd ysgolion yn yr amserlen cau ysgolion (Ymchwil y Senedd).

Mae'r cau ysgolion wedi golygu bod llai o waharddiadau rhwng Medi 2020 ac Ebrill 2021. Ceir rhagor o wybodaeth yn y tablau data sy'n cyd-fynd â'r datganiad hwn.
Rhennir gwaharddiadau yn ôl hyd / math y gwaharddiad, yn 3 chategori (gellir gweld mwy o fanylion yn y Diffiniadau):

  • Gwaharddiadau tymor penodol -  5 diwrnod neu lai
  • Gwaharddiadau tymor penodol -  dros 5 diwrnod
  • Gwaharddiadau parhaol

Cofnodir gwaharddiadau fel rhan o'r Cyfrifiad Ysgol Blynyddol Lefel Disgyblion (PLASC) ar gyfer y flwyddyn academaidd flaenorol. Felly, eleni, pan gasglwyd y PLASC ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/23, mae'r data gwaharddiadau yn cyfeirio at flwyddyn academaidd 2021/22.

Mae’r siartiau isod yn dangos cyfradd y gwaharddiadau dros amser, mae’r ardaloedd sydd wedi’u tywyllu yn dangos y blynyddoedd y mae pandemig y coronafeirws (COVID-19) wedi effeithio arnynt.

Ffigur 1: Cyfradd Gwaharddiadau Cyfnod Penodol 5 Diwrnod neu Lai

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Graff llinell yn dangos cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol 5 diwrnod neu lai rhwng 2011/12 a 2021/22. Cynyddodd y gyfradd yn araf o 28.0 o waharddiadau fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2013/14 i 39.0 o waharddiadau fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2018/19. Yn ystod y pandemig coronafeirws (Covid-19) gostyngodd y gyfradd i lefelau 2013/14. Yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar gael, sef 2021/22, mae’r gyfradd wedi cynyddu i 50.6 fesul 1,000 o ddisgyblion.

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).

Ffigur 2: Cyfradd Gwaharddiadau Cyfnod Penodol dros 5 diwrnod

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Graff llinell yn dangos cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol o fwy na 5 diwrnod rhwng 2011/12 a 2021/22. Mae'r gyfradd yn isel. Dechreuodd ar 2.3 o waharddiadau fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2011/12 a gostyngodd yn raddol i 1.1 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2020/21. Yn y flwyddyn ddiweddaraf y mae data ar ei chyfer, sef 2021/22, mae’r gyfradd wedi cynyddu i 1.9 o waharddiadau fesul 1,000 o ddisgyblion.

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).

Ffigur 3: Cyfradd Gwaharddiadau Parhaol

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Graff llinell yn dangos cyfradd y gwaharddiadau parhaol rhwng 2011/12 a 2021/22. Cynyddodd y gyfradd yn raddol o 0.1 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2011/12 i 0.4 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2018/19. Gostyngodd i 0.2 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2020/21 yn ystod y pandemig coronafeirws (Covid-19). Yn 2021/22 cynyddodd i 0.5 fesul 1,000 o ddisgyblion.

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).

Prif bwyntiau: ysgolion a gynhelir

Mae’n bosibl bod rhywfaint o’r cynnydd mewn gwaharddiadau rhwng 2020/21 a 2021/22 oherwydd y nifer sylweddol o ysgolion wedi cau yn ystod blwyddyn ysgol 2020/21. O ganlyniad, bydd y cymariaethau a gyflwynwn yn y datganiad hwn rhwng 2021/22 a 2018/19, y flwyddyn academaidd ddiwethaf cyn pandemig y coronafeirws (COVID-19).

  • Mae cyfradd y gwaharddiadau parhaol wedi gostwng yn 2021/22 i 0.5 fesul 1,000 o ddisgyblion, o’i gymharu â 0.4 fesul 1000 o ddisgyblion yn 2018/19.
  • Mae cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol (dros 5 diwrnod) wedi gostwng yn 2021/22 i 2.0 fesul 1,000 o ddisgyblion, o’i gymharu â 1.7 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2018/19
  • Mae cyfradd y gwaharddiadau tymor penodol (5 diwrnod neu lai) wedi gostwng yn 2021/22 i 50.6 fesul 1,000 o ddisgyblion, o’i gymharu â 41.0 fesul 1,000 o ddisgyblion yn 2018/19 

Math o ysgol

Ysgolion uwchradd oedd â'r cyfraddau gwahardd uchaf ar gyfer pob hyd gwaharddiad. Mae hyn yn wahanol i'r patrwm hanesyddol lle roedd y cyfraddau uchaf o waharddiadau ar gyfer gwaharddiadau cyfnod penodol ymysg ysgolion arbennig. Mae cyfradd y gwaharddiadau o ysgolion uwchradd wedi cynyddu ar gyfer pob hyd gwaharddiad rhwng 2018/19 a 2021/22.

Ysgolion uwchradd oedd â’r gyfradd uchaf o waharddiadau parhaol.

Hawl i brydau ysgol am ddim (PYD)

Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn cael rhai budd-daliadau prawf modd neu daliadau cymorth penodol.

Mae cyfradd y gwaharddiadau bron 4 gwaith yn uwch ar gyfer y rhai sy’n gymwys i gael PYD na’r rhai nad ydynt yn gymwys i gael PYD ar gyfer gwaharddiadau cyfnod penodol a pharhaol yn 2021/22. Mae hyn yn gynnydd ers 2018/19.

Anghenion Addysgol Arbennig/ Anghenion Dysgu Ychwanegol (AAA/ADY)

Gall fod gan ddisgyblion fwy nag un angen, sy’n golygu wrth gyfrif nifer y disgyblion â phob angen y gall cyfanswm y disgyblion ar draws yr holl anghenion fod yn fwy na’r nifer gwreiddiol o ddisgyblion.

Er enghraifft, os yw disgybl yn cael ei wahardd am gyfnod penodol a bod ganddo’r ddau angen:

  • Dyslecsia
  • Anawsterau Dysgu Cymedrol

byddai hynny'n cyfrif fel 1 gwaharddiad ym mhob angen ac 1 disgybl ym mhob angen.

Disgyblion ag anghenion Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd (ADHD) neu Anawsterau Ymddygiadol, Emosiynol a Chymdeithasol (BESD) oedd â’r cyfraddau uchaf o waharddiadau yn 2021/22:

  • Cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol ar gyfer disgyblion ag ADHD AAA/ADY oedd 406.4 fesul 1,000 o ddisgyblion
  • Cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol gydag AAA/ADY oedd 393.9 fesul 1,000 o ddisgyblion.

Disgyblion ag Anghenion Dysgu Dwys a Lluosog sydd â'r gyfradd isaf o waharddiadau cyfnod penodol. Y disgyblion hyn yw'r unig grŵp ag AAA/ADY sydd â chyfradd is o waharddiadau na disgyblion heb AAA/ADY.

Mae cyfradd y gwaharddiadau cyfnod penodol wedi cynyddu ar gyfer y rhan fwyaf o anghenion rhwng 2018/19 a 2021/22. Fodd bynnag, mae cyfradd y gwaharddiadau ar gyfer disgyblion heb AAA/ADY bron wedi dyblu o 16.5 i 31.4 yn yr un cyfnod.

Cefndir ethnig

Nid oes gennym ddata ar gyfer cefndir ethnig yr holl ddisgyblion. Mae'n well gan rai disgyblion beidio â darparu'r wybodaeth, ac i rai ni chafwyd y wybodaeth. Ar gyfer disgyblion mae gennym wybodaeth ar gyfer:

  • Disgyblion sydd â chefndir ethnig Roma sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (5 diwrnod neu lai) uchaf. 
  • Disgyblion sydd â chefndir ethnig Indiaidd sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (5 diwrnod neu lai) isaf. 
  • Disgyblion sydd â chefndir ethnig “Gwyn” sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (dros 5 diwrnod) uchaf. 
  • Disgyblion sydd â chefndir ethnig Tsieineaidd sydd â'r cyfraddau gwahardd tymor penodol (dros 5 diwrnod) isaf. 
  • Disgyblion sydd â chefndir ethnig Du sydd â'r cyfraddau gwahardd parhaol uchaf. 
  • •    Disgyblion sydd â chefndir ethnig Tsieineaidd sydd â'r cyfraddau gwahardd parhaol isaf. 

Ffigur 4: Cyfradd yr holl waharddiadau fesul nodweddion disgybl, 2021/22

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Siart bar yn dangos cyfradd y gwaharddiadau yn ôl nodweddion disgyblion. Disgyblion sy'n gymwys i gael PYDd sydd â'r gyfradd uchaf o waharddiadau (123.8 fesul 1000 o ddisgyblion) tra bod gan ddisgyblion o gefndir Du, Asiaidd neu Leiafrifoedd Ethnig arall y gyfradd isaf (36.5 fesul 1000 o ddisgyblion).

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).

Rhesymau ar gyfer gwaharddiadau

Ffigur 5: Canran yr holl hydoedd gwahardd yn ôl Rheswm Gwahardd, 2021/22 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Siart bar yn dangos y rhesymau dros waharddiadau fel canran o'r holl waharddiadau. Roedd y ganran uchaf o waharddiadau ar gyfer ymddygiad aflonyddgar parhaus (22.4%) a’r isaf ar gyfer camymddwyn rhywiol (1%).

Ffynhonnell: Cyfrifiad Ysgolion Blynyddol ar Lefel Disgyblion (CYBLD).

[Nodyn 1] Mae'r ffigur hwn yn cynnwys pob gwaharddiad, o bob hyd, cyfnod penodol a pharhaol.

Y rheswm mwyaf cyffredin a roddwyd dros bob gwaharddiad yn 2021/22 oedd ‘ymddygiad aflonyddgar parhaus’ gydag ychydig dan chwarter yr holl waharddiadau.

Gan edrych ar hyd gwaharddiadau:

  • ‘Ymddygiad aflonyddgar parhaus’ oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros waharddiadau tymor penodol o 5 diwrnod neu lai gyda 25.0% o’r holl waharddiadau o’r un fath. 
  • ‘Ymosodiad corfforol yn erbyn disgybl’ oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros waharddiadau tymor penodol dros 5 diwrnod gyda 25.4% o’r holl waharddiadau o’r un fath. 
  • ‘Ymosodiad corfforol yn erbyn disgybl’ oedd y rheswm mwyaf cyffredin dros waharddiadau parhaol gyda 22.7% o’r holl waharddiadau o’r un fath.

Diffiniadau

Mathau o waharddiadau a diffiniadau eraill

Gwaharddiad parhaol

Yn cyfeirio at ddisgybl sy’n cael ei wahardd ac mae ei enw’n cael ei ddileu o gofrestr yr ysgol. Byddai disgybl o’r fath wedyn yn cael ei addysgu mewn ysgol arall neu drwy ddarpariaeth o ryw fath arall.

Gwaharddiad cyfnod

Penodol yn cyfeirio at ddisgybl sy’n cael ei wahardd o ysgol ond sy’n aros ar gofrestr yr ysgol honno oherwydd y disgwylir iddo ddychwelyd ar ôl i gyfnod y gwaharddiad ddod i ben.

Symudiad wedi’i reoli

Trefniant lle mae rhieni disgyblion sydd mewn perygl o gael eu gwahardd yn cytuno ag ysgolion ac awdurdodau lleol ei bod er budd pennaf eu plentyn gael ei dynnu o gofrestr yr ysgol bresennol a’i symud i sefydliad addysgol arall.

Newidiadau i ddata anghenion addysgol arbennig yn dilyn Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018

Daeth Cod Anghenion Dysgu Ychwanegol Cymru 2021 (y Cod ADY) a rheoliadau i rym ar 1 Medi 2021 i sicrhau bod plant a phobl ifanc 0 i 25 oed yn gallu cael mynediad at gymorth ychwanegol i ddiwallu eu hanghenion sydd wedi’i gynllunio’n briodol a’i ddiogelu, gyda dysgwyr wrth galon y broses.

Mae datganiadau a chynlluniau fel cynlluniau addysg unigol (IEPs) a chynlluniau dysgu a sgiliau (LSP) yn cael eu disodli gan gynllun newydd o'r enw Cynllun Datblygu Unigol (CDU). Ni fydd y termau a'r data ar 'Ddisgyblion â datganiadau', 'Gweithredu Ysgol a Mwy', a 'Gweithredu Ysgol' bellach yn cael eu defnyddio na'u casglu pan fydd y broses o bontio a gweithredu'r system ADY wedi'i chwblhau.

Mae plant yn symud o'r system Anghenion Addysgol Arbennig (AAA) i'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) mewn grwpiau dros bedair blynedd, er mwyn sicrhau digon o amser i feithrinfeydd, ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion ac awdurdodau lleol drafod y cymorth sydd ei angen ac i baratoi cynlluniau.

Yn ystod y cyfnod pontio, caiff plant a phobl ifanc eu hadrodd mewn un o bedwar categori tra bod y ddwy system yn rhedeg ochr yn ochr.

Cynlluniau Datblygu Unigol

Mae Cynlluniau Datblygu Unigol (CDU) yn gynlluniau statudol a grëwyd o dan Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, ar gyfer dysgwyr sydd wedi’u darganfod ag anghenion dysgu ychwanegol. Gall dysgwr fod ag CDU a gynhelir mewn ysgol neu CDU a gynhelir gan awdurdod lleol.

Disgyblion â datganiadau

Disgyblion lle mae'r awdurdod yn cynnal datganiad o anghenion addysgol arbennig o dan Ran IV o Ddeddf Addysg 1996. Gall datganiad fod wedi'i gyhoeddi yn flaenorol gan yr awdurdod lleol ar ôl asesu anghenion plentyn.  

Gweithredu gan yr Ysgol a Mwy

Pan mae’r athro dosbarth neu bwnc a’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn derbyn cyngor neu gefnogaeth gan arbenigwyr o’r tu allan, fel bod ymyriadau amgen sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd i’r disgybl trwy ‘Weithredu gan yr Ysgol’ yn bodoli. Mae’r Cydlynydd Anghenion Addysgol Arbennig yn arwain fel arfer, er cyfrifoldeb yr athro dosbarth neu bwnc yw’r ddarpariaeth dydd i ddydd.

Gweithredu gan yr Ysgol

Pan mae athro dosbarth neu bwnc yn nodi bod y disgybl ag anghenion addysgol arbennig ac yn darparu ymyriad sy’n ychwanegol neu’n wahanol i’r rhai a ddarparwyd fel rhan o gwricwlwm arferol yr ysgol.

Prydau ysgol am ddim

Mae disgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau prawf modd penodol neu daliadau cymorth

Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd

Fel rhan o’r Cytundeb Cydweithredu rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru, bydd holl blant ysgol gynradd Cymru yn cael prydau ysgol am ddim erbyn 2024. Dechreuodd y broses gyflwyno ym mis Medi 2022 gyda’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yn darparu prydau ysgol am ddim i blant oed Derbyn o’r dechrau tymor yr hydref (Medi 2022) ac ymestyn y cynnig i flynyddoedd 1 a 2 heb fod yn hwyrach na dechrau tymor yr haf (Ebrill 2023).

Er bod y broses hon o gyflwyno prydau ysgol am ddim i’r rhai nad oeddent yn gymwys i’w cael o’r blaen wedi dechrau, nid yw’r data a gyflwynir yn y datganiad hwn yn adlewyrchu cyfanswm nifer y disgyblion sy’n cael prydau ysgol am ddim ym mis Ionawr 2023. Yn hytrach, mae ond yn cynnwys nifer y disgyblion sy’n gymwys i brydau ysgol am ddim os yw eu rhieni neu warcheidwaid yn derbyn budd-daliadau penodol (fel yr adroddwyd mewn blynyddoedd blaenorol). Gweler y canllaw gwybodaeth prydau ysgol am ddim am fanylion llawn y meini prawf cymhwysedd a'r buddion.

Gwarchodaeth drosiannol ar gyfer prydau ysgol am ddim

Ar 1 Ebrill 2019 cyflwynodd Llywodraeth Cymru polisi gwarchodaeth drosiannol newydd ar gyfer prydau ysgol am ddim. Daethpwyd â hyn i mewn i sicrhau bod prydau ysgol am ddim y disgyblion yn cael eu gwarchod yn ystod y cyfnod cyflwyno Credyd Cynhwysol.

Mae'r warchodaeth hon yn berthnasol i ddisgyblion unigol a bydd yn parhau tan ddiwedd eu cyfnod ysgol bresennol, sef diwedd ysgol gynradd neu ddiwedd ysgol uwchradd.

Dylai unrhyw ddisgybl a oedd yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim wrth gyflwyno'r polisi ar 1 Ebrill 2019 hefyd gael gwarchodaeth drosiannol. Yn ogystal, dylid gwarchod unrhyw ddisgybl sydd wedi dod yn gymwys ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gyflwyno Credyd Cynhwysol o dan y meini prawf cymhwysedd newydd.

Mae'r dadansoddiad FSM yn y datganiad hwn yn cynnwys disgyblion sy'n gymwys drwy'r meini prawf prawf modd yn unig. Nid yw'r rhai sy'n gymwys drwy TP neu UPFSM wedi'u cynnwys.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Gellir gweld rhagor o fnaylion yn yr adroddiad ansawdd ar gyfer y datganiad hwn.

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf y Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007 ac sy’n golygu eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu fod yr ystadegau swyddogol yn cwrdd â’r safonau uchaf o ddibynadwyaeth, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai holl ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd o’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Ceir eu dyfarnu fel statws Ystadegau Gwladol yn dilyn asesiad gan fraich rheoli Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried os ydy’r ystadegau yn cwrdd â’r safonau uchaf o gydymffurfiad â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ychwanegu i benderfyniadau a dadlau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Cadarnhawyd y statws parhaus o’r ystadegau hyn fel Ystadegau Gwladol yn Gorffennaf 2010 yn dilyn gwiriad cydymffurfiaeth gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Ers yr adolygiad diweddaraf gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac rydym wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • ychwanegu at, a mireinio gwybodaeth am ddimensiynau ansawdd a disgrifio cysylltiadau â pholisi
  • cynhyrchwyd y datganiad diweddaraf mewn fformat newydd i gynnwys siartiau sy'n rhoi mewnwelediad pellach i rywfaint o'r wybodaeth allweddol
  • darparu mwy o ddata ar StatsCymru
  • wedi ychwanegu dadansoddiad manylach o gefndir ethnig

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw i gynnal cydymffurfiad â’r safonau a ddisgwylir o Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu os yw’r ystadegau yma yn dal i gwrdd â’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon gyda’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei diddymu ar unrhyw bryd pan mae’r safonau uchaf heb eu cynnal, a’i ddyfarnu unwaith eto pan mae’r safonau yn cael eu hadfer.

Mae'r adran hon yn darparu crynodeb o wybodaeth am yr allbwn hwn yn erbyn pum dimensiwn ansawdd: Perthnasedd, Cywirdeb, Prydlondeb a Prydlondeb, Hygyrchedd a Eglurder, a Chymhariaeth. Mae hefyd yn ymdrin â materion penodol sy'n ymwneud ag ansawdd data 2021, ac yn disgrifio'r offeryn rheoli ansawdd a gymhwysir i'r maes gwaith hwn.

Perthnasedd

Mae’r ystadegau’n cael eu defnyddio y tu mewn a’r tu allan i Lywodraeth Cymru i fonitro tueddiadau addysgol ac fel llinell sylfaen ar gyfer dadansoddi’r data sylfaenol ymhellach. Dyma rai o’r prif ddefnyddwyr:

  • gweinidogion a Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn y Senedd
  • aelodau Senedd Cymru
  • yr Adran Polisi Addysg yn Llywodraeth Cymru
  • adrannau arall yn Llywodraeth Cymru
  • adrannau llywodraethol eraill
  • Estyn
  • y gymuned ymchwil
  • myfyrwyr, academyddion a phrifysgolion
  • dinasyddion unigol a chwmnïau preifat

Defnyddir yr ystadegau hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd. Dyma rai enghreifftiau:

  • cyngor i weinidogion
  • llywio'r broses o wneud penderfyniadau polisi addysg yng Nghymru gan gynnwys ad-drefnu ysgolion
  • Estyn yn ystod arolygiadau ysgol
  • cynorthwyo gydag ymchwil i mewn i gyrhaeddiad addysgol

Hygyrchedd ac eglurder

Mae’r Datganiad Ystadegol Cyntaf hwn yn cael ei hysbysebu ymlaen llaw ac yna ei gyhoeddi ar yr adran Ystadegau o wefan Llywodraeth Cymru. Ynghyd â’r datganiad mae Thaenlen Dogfen Agored a thablau manylach ar StatsCymru, gwasanaeth rhad ac am ddim i'w ddefnyddio sy'n caniatáu i ymwelwyr weld, trin, creu a lawrlwytho data.

Cymaroldeb

Lloegr 

School attendance and Absence (GOV.UK)

Yr Alban

School exclusion statistics (Llywodraeth yr Alban)

Gogledd Iwerddon

Pupil suspensions and expulsions (Yr Adran Addysg, Gogledd Iwerddon)

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratifau ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn yr Adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Stephen Hughes
Ebost: ystadegau.ysgolion@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Image
Ystadegau Gwladol

SFR 97/2023