Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae'r ystadegau yn y datganiad hwn yn seiliedig ar waith deintyddol y GIG a gyflawnwyd gan ddeintydd yn y GIG yng Nghymru ac a gyflwynwyd ar gyfer derbyn taliad. Caiff y data eu cyflenwi a’u prosesu gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG.

Darperir ystadegau newydd ar gyfer: nifer a chanran y cleifion a gafodd eu trin yn ystod y cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023; ac ar gyfer nifer y cyrsiau triniaeth a gwblhawyd, y gweithgarwch clinigol sylfaenol a gyflawnwyd, y gweithlu deintyddol, a gweithgarwch orthodonteg yn y flwyddyn ariannol 2022-23. 

Mae diffiniadau o'r termau a ddefnyddir yn y datganiad ar gael yn yr adran ansawdd a methodoleg.

Prif bwyntiau

Yn y cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023, bu traean o gynnydd (34.0%) yn nifer yr oedolion a gafodd eu trin gan ddeintydd yn y GIG (34.0%) ac ers y cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022 bu 41.1% o gynnydd yn nifer y plant a gafodd driniaeth. 

Er bod nifer y cleifion a gafodd eu trin wedi cynyddu'n sylweddol, mae'r nifer yn parhau i fod yn is na'r hyn oedd cyn y pandemig. 

Roedd mwy na 180,000 o'r cleifion a gafodd eu trin yn y flwyddyn ariannol 2022-23 yn gleifion newydd (cleifion nad oedd wedi cael unrhyw driniaethau Band 1, 2 neu 3 yn y GIG yn y pedair blynedd flaenorol). Roedd hyn yn 17.2% o'r holl gleifion a gafodd eu trin yn ystod y flwyddyn.

Yn 2022-23, cofnodwyd bron i 1.4 miliwn o gyrsiau triniaeth, sydd draean (29.4%) yn fwy nag yn y flwyddyn flaenorol, ond bron i 42% yn is nag yn y flwyddyn cyn y pandemig (2019-20).

Roedd mwy na hanner (53.5%) y triniaethau yng nghategori Band 1 a bu cynnydd mewn gweithgarwch ar gyfer triniaethau ym Mand 1, 2 a 3 o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Fodd bynnag, bu gostyngiad o 38.6% mewn triniaethau am ddim, a ostyngodd i'r lefel isaf ar gofnod, a bu gostyngiad o16.6% mewn triniaethau brys: y gostyngiad blynyddol cyntaf mewn triniaethau brys ers y pandemig.

Roedd ychydig dros chwech o bob deg (62.7%) o gyrsiau triniaeth oedolion ac wyth o bob deg (81.6%) o gyrsiau triniaeth plant yn cynnwys farnais fflworid, ac roedd ychydig dros chwech o bob deg (62.1%) o gyrsiau triniaeth oedolion a saith o bob deg (70.5%) o gyrsiau triniaeth plant yn cynnwys yr asesiad sydd newydd gael ei gyflwyno – yr Asesiad o Risgiau ac Anghenion Clinigol y Geg (ACORN)

Yn 2022-23, codwyd £22.7m o refeniw o daliadau cleifion, cynnydd o 19.6% ers 2021-22 ond 34.9% yn is na'r lefel cyn y pandemig, sef £34.9m yn 2019-20.

Cofnodwyd mwy na 10,000 (10,695) o driniaethau orthodonteg yn 2022-23, cynnydd o 13.7% ers y flwyddyn flaenorol a'r nifer uchaf i'w gofnodi. 

Cofnododd 1,434 o ddeintyddion waith GIG yn 2022-23, cynnydd o 1.0% ers y flwyddyn flaenorol. Mae cyfanswm nifer y deintyddion a wnaeth unrhyw waith GIG yn ystod y flwyddyn wedi aros yn weddol debyg am y deng mlynedd flaenorol. 

Fe wnaeth nifer cyfartalog y cyrsiau triniaeth a gyflawnwyd gan bob deintydd yn 2022-23 gynyddu 28.1% o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol, ond mae'n parhau i fod yn is na'r hyn oedd cyn y pandemig. 

Yn 2022-23, roedd ychydig dros hanner (50.8%) o ddeintyddion y GIG yn fenywod. Mae canran y gweithlu benywaidd wedi cynyddu ym mhob un o'r deng mlynedd diwethaf. 

Roedd dwy ran o dair (64.0%) o ddeintyddion y GIG yn 44 oed neu'n iau ac roedd un o bob deg (10.0%) yn siarad Cymraeg. 

Cleifion a gafodd eu trin

Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell bod cleifion yn cael eu galw'n ôl i archwilio’u dannedd, ar ôl cyfnod o dri mis i 24 mis, gan ddibynnu ar eu statws o ran iechyd y geg. Felly mae ystadegau 'cleifion a gafodd eu trin' yn seiliedig ar gyfnod treigl o 24 mis. Mae hyn yn golygu bod y pandemig COVID-19 yn dal i effeithio ar ystadegau trin cleifion gan fod y cyfnod 24 mis diweddaraf yn gorgyffwrdd â chyfnod y pandemig.

Dim ond unwaith y bydd pob claf yn cael ei gyfrif, hyd yn oed os yw wedi cael sawl cyfnod o ofal yn ystod y cyfnod o 24 mis. Gall cleifion gael eu trin y tu allan i'w bwrdd iechyd preswyl ac mae cleifion orthodontig yn cael eu cynnwys.

Mae'r ystadegau ynghylch canran y boblogaeth a gafodd wasanaethau deintyddol y GIG yn 2022-23 yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). Dyma'r data poblogaeth diweddaraf sydd ar gael adeg cyhoeddi'r ystadegau. 

Gweler yr adran ansawdd a methodoleg i gael gwybod mwy am amcangyfrifon poblogaeth a’r adroddiad ansawdd i gael gwybod mwy am sut y caiff cleifion eu cyfrif.  

Ffigur 1: Canran y boblogaeth oedolion a phlant a gafodd eu trin yn y cyfnod o 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth bob blwyddyn, 2014 i 2023 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 1: Roedd canran yr oedolion a gafodd eu trin ym mhob cyfnod o 24 mis yn sefydlog rhwng 2014 a 2020, cyn gostwng yn ystod pandemig COVID-19. Cynyddodd y ganran yn sydyn yn y cyfnod diweddaraf, ond mae'n dal yn is na'r hyn oedd cyn y pandemig. Roedd canran y plant a oedd yn cael eu trin ym mhob cyfnod o 24 mis yn cynyddu'n gyson tan y pandemig. Cynyddodd y ganran yn sydyn hefyd yn y cyfnod diweddaraf ond mae'n dal yn is na'r hyn oedd cyn y pandemig. 

Ffynhonnell: ffurflen FP17W, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG 

[Nodyn 1] Mae oedolion yn cynnwys nifer y poblogaethau preswyl 18 oed neu hŷn. Mae plant yn cynnwys nifer y poblogaethau preswyl rhwng 0 a 17 oed.

Canran y boblogaeth oedolion a phlant a gafodd eu trin ym mhob cyfnod o 24 mis sy'n dod i ben ym mis Mawrth bob blwyddyn (StatsCymru)

Yn y cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023, cafodd ychydig dros 981,000 o oedolion (neu 39.4% o'r boblogaeth sy’n oedolion) a bron i 350,000 o blant (neu 56.8% o'r boblogaeth sy’n blant) eu trin gan ddeintyddion y GIG. Drwyddi draw, cafodd 1,331,440 o gleifion (neu 42.9% o gyfanswm y boblogaeth) eu trin.

O'i gymharu â'r cyfnod o 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2022, cynyddodd nifer yr oedolion a gafodd eu trin 34.0% (neu 249,252 o gleifion) a chynyddodd canran y boblogaeth oedolion a gafodd eu trin 10.0 pwynt canran.

Cynyddodd nifer y plant a gafodd eu trin 41.1% (101,987 o gleifion) a chynyddodd canran y plant a gafodd eu trin 16.5 pwynt canran.

Drwyddi draw, roedd cynnydd o 35.8% (351,239 o gleifion) yng nghyfanswm y cleifion a gafodd eu trin, a chynyddodd canran y boblogaeth gyfan a gafodd eu trin 11.3 pwynt canran.

Roedd cyfanswm nifer y cleifion a gafodd eu trin yn ystod y 24 mis a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2023 23.0% yn is na'r nifer a gafodd eu trin yn ystod y cyfnod 24 mis diwethaf nad oedd y pandemig wedi effeithio llawer arno (y 24 mis hyd at fis Mawrth 2020).

Cleifion newydd a gafodd eu trin

Fel rhan o'r rhaglen diwygio contractau deintyddol, mae practisau deintyddol yn cael eu talu am weld cleifion newydd ac mae data am gleifion newydd yn cael eu casglu ers mis Ebrill 2022. 

'Cleifion newydd' yw'r rhai sy'n cael triniaeth a chanddynt Asesiad o Risgiau ac Anghenion Clinigol y Geg (ACORN) wedi'i nodi ar y ffurflen FP17W yn y cyfnod presennol, nad oeddent wedi cwblhau cwrs o driniaeth Band 1, 2, neu 3 yn y pedair blynedd cyn y dyddiad y cawsant eu derbyn i gael y driniaeth bresennol.

Ffigur 2: Cleifion deintyddol newydd y GIG a gafodd eu trin, fel canran o'r holl gleifion a gafodd eu trin, yn ôl oedolion a phlant, 2022-23 [Nodyn 1][Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 2: Roedd bron i un o bob saith o'r oedolion a bron i un bob pedwar o'r plant a gafodd eu trin yn 2022-23 yn gleifion newydd.

Ffynhonnell: FP17W, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

[Nodyn 1] Mae oedolion yn cyfeirio at gleifion 18 oed a hŷn; mae plentyn yn cyfeirio at gleifion 17 oed ac iau.

[Nodyn 2] Gan mai dim ond o fis Ebrill 2022 y mae data cleifion newydd ar gael, mae'r enwadur ar gyfer cyfrifo'r ganran yn cynnwys nifer y cleifion a gafodd eu trin yn y cyfnod o 12 mis a ddaeth i ben ar 31 Mawrth 2023 yn unig.

Cleifion GIG newydd a gafodd eu trin (StatsCymru)

Cafodd ychydig dros 112,000 (112,457) o gleifion newydd sy'n oedolion eu trin yn 2022-23, sef 14.8% o'r holl gleifion sy'n oedolion a gafodd driniaeth yn ystod y flwyddyn.

Cafodd ychydig dros 70,000 (70,325) o gleifion newydd sy'n blant eu trin, sef 23.2% o'r holl blant a gafodd eu trin yn ystod y flwyddyn.

Drwyddi draw, cafodd bron i 183,000 (182,782) o gleifion newydd eu trin yn 2022-23, sef 17.2% o'r holl gleifion a gafodd eu trin yn ystod y flwyddyn. 

Gweithgarwch: cyrsiau triniaeth

Mae'r data gweithgarwch yn y datganiad hwn yn seiliedig ar driniaethau a gwblhawyd ac a gofnodwyd drwy Ffurflenni FP17W a brosesir gan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG. Caiff triniaethau eu categoreiddio yn ôl bandiau triniaeth a ddefnyddir i benderfynu ar y ffi a delir gan gleifion. 

Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adroddiad ansawdd.

Ffigur 3: Nifer y cyrsiau triniaeth yn ôl band triniaeth, bob blwyddyn rhwng 2013-14 a 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 3: Roedd cyfanswm y cyrsiau triniaeth yn weddol sefydlog dros y tymor hwy, cyn gostwng yn sydyn yn ystod y pandemig. Mae nifer y triniaethau wedi cynyddu yn y blynyddoedd diwethaf, ond mae'n dal yn is na'r hyn oedd cyn y pandemig. 

Ffynhonnell: ffurflen FP17W, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

Cyrsiau triniaeth yn ôl band triniaeth (StatsCymru)

Yn 2022-23, cofnodwyd bron i 1.4 miliwn o gyrsiau triniaeth, cynnydd o bron i draean (29.4%) ers y flwyddyn flaenorol. Roedd cyfanswm y cyrsiau triniaeth 41.9% yn is nag yn ystod y cyfnod diwethaf, nad oedd y pandemig wedi effeithio llawer arno (2019-20).

Triniaethau Band 1 oedd y band triniaeth mwyaf cyffredin, sef dros hanner (53.5%) yr holl gyrsiau triniaeth. Cynyddodd nifer y triniaethau Band 1 fwy na hanner (57.4%) ers y flwyddyn flaenorol. 

Bu chwarter o gynnydd mewn triniaethau Band 2 (25.8%) a gwelwyd cynnydd o 12.4% mewn triniaethau Band 3 ers y flwyddyn flaenorol. 

Roedd tua un o bob saith (14.1%) o gyrsiau triniaeth yn rhai brys a gostyngodd nifer y triniaethau brys 16.6% ers y flwyddyn flaenorol; y gostyngiad blynyddol cyntaf mewn triniaethau brys ers y pandemig. 

Gostyngodd nifer y triniaethau am ddim 38.6% a dyma'r lefel isaf ar gofnod (4,256 o driniaethau).

Taliadau cleifion

Yn 2022-23, roedd ychydig o dan 660,000 (659,662) o gyrsiau triniaeth taladwy ar gyfer oedolion sy'n talu; 313,000 (313,117) o gyrsiau triniaeth ar gyfer oedolion nad ydynt yn talu ac ychydig o dan 380,000 (379,939)) o gyrsiau triniaeth i blant. Cynhyrchwyd £22.7 miliwn drwy daliadau cleifion, i fyny 19.6% ers 2021-22.

Mae data ar gyfer cyrsiau triniaeth yn ôl math o gleifion a data taliadau cleifion ar gael ar StatsCymru.

Mae data ar gyfer Unedau o Weithgarwch Deintyddol ar gael ar StatsCymru

Gweithgarwch: gweithgarwch deintyddol clinigol

Yn y datganiad ystadegol hwn caiff data gweithgarwch deintyddol clinigol eu categoreiddio fel triniaethau corfforol; cyngor ataliol; eitemau a roddwyd ar bresgripsiwn; neu weithgarwch arall. Mae data ar gyfer gweithgarwch 'arall' ar gael ar StatsCymru yn unig. Gweler yr adran ansawdd a methodoleg i gael rhagor o wybodaeth. Ceir rhagor o wybodaeth yn yr adran ansawdd a methodoleg.

Ffigur 4: Canran y cyrsiau triniaeth a oedd yn cynnwys pob un o'r pum triniaeth gorfforol amlaf i oedolion a phlant, 2022-23 [Nodyn 1][Nodyn 2] [Nodyn 3]

Image

Disgrifiad o Ffigur 4: Farnais fflworid oedd y driniaeth gorfforol a roddwyd amlaf i oedolion a phlant yn 2022-23. Y triniaethau corfforol mwyaf cyffredin eraill oedd: Asesiad o Risgiau ac Anghenion Clinigol y Geg (ACORN), radiograffau, archwiliadau a llenwadau parhaol. 

Ffynhonnell: ffurflen FP17W, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

[Nodyn 1] Y data ar gyfer y pum triniaeth gorfforol a roddir amlaf yn unig a ddangosir yn y siart, ond mae data ar gyfer pob triniaeth gorfforol arall ar gael ar StatsCymru.

[Nodyn 2] Mae'n bosibl y bydd mwy nag un eitem glinigol wedi'i chofnodi ar ffurflen FP17W. Felly, ni fydd swm y canrannau yn ôl triniaeth gorfforol yn hafal i 100%.

[Nodyn 3] Mae oedolion yn cyfeirio at gleifion 18 oed neu hŷn; mae plant yn cyfeirio at gleifion 17 oed neu iau.

Gweithgarwch deintyddol clinigol: triniaethau corfforol (StatsCymru)

Yn 2022-23, roedd mwy na chwech o bob deg (62.7%) o gyrsiau triniaeth oedolion yn cynnwys farnais fflworid. Roedd nifer y cyrsiau triniaeth oedolion a oedd yn cynnwys farnais fflworid wedi cynyddu 26.1% ers 2021-22. 

Roedd mwy nag wyth o bob deg (81.6%) o gyrsiau triniaeth plant yn cynnwys farnais fflworid. Roedd nifer y cyrsiau triniaeth plant a oedd yn cynnwys farnais fflworid wedi cynyddu 37.7% ers 2021-22. 

Roedd mwy na phedwar o bob deg (43.4%) o gyrsiau triniaeth oedolion a 14.0% o gyrsiau triniaeth plant yn cynnwys radiograffau.

Roedd mwy na chwarter (27.1%) o gyrsiau triniaeth oedolion a 15.3% o gyrsiau triniaeth plant yn cynnwys llenwadau parhaol. 

Mae Asesiadau o Risgiau ac Anghenion Clinigol y Geg (ACORN) yn eitem ddata glinigol newydd y dechreuwyd ei chasglu a’i dilysu’n ffurfiol ym mis Ebrill 2022. Mae ACORN yn darparu pecyn cymorth sy'n caniatáu i ddeintyddion gynnal asesiadau risgiau ac anghenion mewn ffordd systematig. Os cynhelir ACORN, nid oes angen cofnodi'r 'archwiliad'. 

Yn 2022-23, cofnodwyd mwy na 600,000 (606,809) o asesiadau ACORN ar gyfer oedolion a bron i 270,000 (267,745) ar gyfer plant. Roedd 62.1% o'r holl gyrsiau triniaeth oedolion a 70.5% o'r holl gyrsiau triniaeth plant yn cynnwys ACORN.

Gweler yr adran ansawdd a methodoleg i gael gwybodaeth am newidiadau i'r ffordd y casglwyd rhai eitemau data clinigol drwy'r FP17W o 2022-23.

Ffigur 5: Canran y cyrsiau triniaeth â chyngor ataliol i oedolion a phlant, 2022-23 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 5: Yn 2022-23, cyngor ar bast dannedd fflworid a phoeri heb rinsio oedd y cyngor ataliol a gynigiwyd amlaf mewn cyrsiau triniaeth i oedolion a phlant.

Ffynhonnell: ffurflen FP17W, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

[Nodyn 1] Mae'n bosibl y bydd mwy nag un eitem glinigol wedi'i chofnodi ar ffurflen FP17W. Felly, ni fydd swm y canrannau yn ôl cyngor ataliol yn hafal i 100%.

[Nodyn 2] Mae oedolion yn cyfeirio at gleifion 18 oed neu hŷn; mae plant yn cyfeirio at gleifion 17 oed neu iau.

Gweithgarwch deintyddol clinigol: cyngor ataliol (StatsCymru)

Yn 2022-23, roedd un o bob pump (20.0%) o gyrsiau triniaeth oedolion yn cynnwys cyngor ar bast dannedd fflworid a phoeri heb rinsio, ac roedd un o bob chwech (17.2%) yn cynnwys cyngor ar frwsio dannedd. 

Roedd bron i chwarter (24.2%) o gyrsiau triniaeth plant yn cynnwys cyngor ar bast dannedd fflworid a phoeri heb rinsio, ac roedd bron i un o bob pump (19.0%) yn cynnwys cyngor ar frwsio dannedd. 

Ffigur 6: Nifer y cyrsiau triniaeth ag eitemau a ragnodwyd ar gyfer oedolion a phlant, 2022-23 [Nodyn 1] [Nodyn 2]

Image

Disgrifiad o Ffigur 6: Gwrthfiotigau oedd yr eitem a ragnodwyd fwyaf mewn cyrsiau triniaeth i oedolion, a phast dannedd fflworid uchel / rinsio dyddiol oedd yr eitem a ragnodwyd fwyaf mewn cyrsiau triniaeth i blant.

Ffynhonnell: ffurflen FP17W, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

[Nodyn 1] Mae'n bosibl y bydd mwy nag un eitem glinigol wedi'i chofnodi ar ffurflen FP17W. Ni fydd swm yr eitemau unigol a ragnodwyd yn cyfateb o reidrwydd i gyfanswm y cyrsiau triniaeth, lle rhagnodwyd eitem.

[Nodyn 2]  Mae oedolion yn cyfeirio at gleifion 18 oed neu hŷn; mae plant yn cyfeirio at gleifion 17 oed neu iau.

Gweithgarwch deintyddol clinigol: eitemau a ragnodwyd (StatsCymru)

Yn 2022-23 roedd ychydig yn llai na 30,000 (28,171) o gyrsiau triniaeth oedolion yn cynnwys rhagnodi gwrthfiotigau ac roedd mwy na 18,000 (18,721) yn cynnwys rhagnodi past dannedd fflworid uchel / rinsio dyddiol. 

Roedd ychydig dros 5,000 (5,078) o gyrsiau triniaeth plant yn cynnwys rhagnodi past dannedd fflworid uchel / rinsio bob dydd ac roedd ychydig dros 4,000 (4,038) yn cynnwys rhagnodi gwrthfiotigau. 

Roedd nifer bach iawn o gyrsiau triniaeth yn cynnwys rhagnodi paratoadau cryfach.

Roedd cyfanswm o 513 o gyrsiau triniaeth (oedolion a phlant wedi'u cyfuno) yn cynnwys presgripsiynau ar gyfer poenleddfwyr a 24 yn cynnwys presgripsiynau ar gyfer tawelyddion. 

Gweithgarwch orthodonteg

Mae orthodonteg yn faes deintyddol arbenigol sy'n ymwneud â thwf a datblygiad y dannedd a'r genau, ac atal a thrin abnormaleddau yn y datblygiad hwnnw. Plant yw'r rhan fwyaf o'r cleifion, felly. 

Mae rhagor o fanylion am orthodonteg ar gael yn yr adroddiad ansawdd.

Ffigur 7: Nifer y triniaethau orthodontig a gynhaliwyd, 2013-14 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 7: Roedd nifer y triniaethau orthodontig yn cynyddu'n gymedrol cyn y pandemig, yna bu cwymp sydyn yn ystod y pandemig. Yn 2021-22 cynyddodd y triniaethau i lefel debyg i'r hyn oedd cyn y pandemig, cyn cynyddu i lefel sy'n record yn 2022-23. 

Ffynhonnell: Ffurflen FP17OW (Ffurflen FP17OW a aseswyd ac a dderbyniwyd, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

Nifer y triniaethau a gynhaliwyd (ffurflenni FP17OW a aseswyd ac a dderbyniwyd) (StatsCymru)

Yn 2022-23, cofnodwyd mwy na 10,000 (10,695) o driniaethau orthodontig, y nifer uchaf i’w gofnodi. Mae hyn yn gynnydd o 13.7% ers y flwyddyn flaenorol ac yn gynnydd o 15.5% o’i gymharu â deng mlynedd yn ôl.

Y gweithlu

Mae ystadegau'r gweithlu deintyddol yn cyfeirio at gyfanswm nifer y deintyddion y cofnodwyd unrhyw weithgarwch GIG ar eu cyfer rhwng 1 Ebrill a 31 Mawrth bob blwyddyn. Ffigur cyfrif pennau yw hwn; nid oes data cyfwerth ag amser llawn ar gael ar hyn o bryd.

Mae system adrodd newydd yn cael ei chyflwyno ar gyfer y gweithlu deintyddol yng Nghymru a rhagwelir y bydd data o'r system honno ar gael i'w cyhoeddi yn 2024.

Mae ystadegau ar ddeintyddion fesul 100,000 o'r boblogaeth ar gyfer 2022-23 yn seiliedig ar amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG). 

Gweler yr adran ansawdd a methodoleg i gael rhagor o wybodaeth am y gweithlu a'r boblogaeth.

Ffigur 8: Cyfanswm nifer y deintyddion â gweithgarwch y GIG a nifer y cyrsiau o driniaethau fesul deintydd, 2013-14 i 2022-23 [Nodyn 1]

Image

Disgrifiad o Ffigur 8: Bu ychydig o ostyngiad yn nifer deintyddion y GIG yn ystod y pandemig ond mae wedi cynyddu ychydig ers hynny, ac yn 2022-23 roedd ychydig yn is na'r lefel cyn y pandemig. Mae nifer y cyrsiau triniaeth fesul deintydd wedi cynyddu yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn dilyn cwymp sydyn yn ystod y pandemig, ond mae'n dal yn is na'r hyn oedd cyn y pandemig. 

Ffynhonnell: Ffurflen FP17W.

[Nodyn 1] Cyflawnwyr â gweithgarwch y GIG wedi'i gofnodi drwy ffurflenni FP17W.

Deintyddion â gweithgarwch y GIG (StatsCymru)

Cyrsiau triniaeth yn ôl band triniaeth (StatsCymru)

Yn 2022-23, roedd gweithgarwch y GIG wedi'i gofnodi ar gyfer 1,434 o ddeintyddion yng Nghymru. Mae hyn yn gynnydd o 1.0% ers 2021-22 (neu 14 yn fwy o ddeintyddion) ac yn ostyngiad o 0.3% (neu 4 deintydd) o'i gymharu â deng mlynedd yn ôl.

Cwblhaodd pob deintydd gyfartaledd (cymedr) o 946 o gyrsiau triniaeth yn 2022-23. Mae hyn 28.1% yn uwch nag yn 2021-22, ond 42.7% yn is na 10 mlynedd yn ôl. 

Mae nifer y deintyddion fesul pen o'r boblogaeth wedi bod yn weddol sefydlog dros y 10 mlynedd diwethaf, gyda dim ond newidiadau bach o flwyddyn i flwyddyn. 

Roedd 46 deintydd fesul 100,000 o'r boblogaeth yn 2022-23. Mae hyn yr un fath ag yn 2021-22 a 2013-14.

Ffigur 9: Canran y deintyddion â gweithgarwch y GIG yn ôl rhyw, 2013-14 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 9: Siart bar sy'n dangos bod canran y deintyddion benywaidd wedi cynyddu dros y deng mlynedd diwethaf a bod ychydig dros hanner y deintyddion yn fenywod yn 2022-23. 

Ffynhonnell: ffurflen FP17W 

Deintyddion â gweithgarwch y GIG (StatsCymru)

Mae'r patrwm deintyddion y GIG o ran eu rhyw wedi bod yn newid yn raddol dros amser yng Nghymru. Ddeng mlynedd yn ôl, dynion oedd mwyafrif y deintyddion, ond mae canran y deintyddion benywaidd wedi cynyddu bob blwyddyn ers hynny ac yn y ddwy flynedd ddiwethaf roedd mwy o ddeintyddion benywaidd nag o rai gwrywaidd. 

Yn 2022-23, roedd 50.8% o ddeintyddion â gweithgarwch y GIG yn fenywod, cynnydd o 0.4 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol a chynnydd o 7.7 pwynt canran o'i gymharu â deng mlynedd yn ôl. 

I'r gwrthwyneb, yn 2022-23, roedd 49.2% o ddeintyddion â gweithgarwch y GIG yn ddynion, gostyngiad o 0.4 pwynt canran ers y flwyddyn flaenorol a gostyngiad o 7.7 pwynt canran o'i gymharu â deng mlynedd yn ôl. 

Ffigur 10: Canran y deintyddion â gweithgarwch y GIG yn ôl oedran, 2013-14 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 10: Ym mhob un o'r deng mlwyddyn ddiwethaf, roedd bron i ddwy ran o dair o ddeintyddion y GIG yn iau na 45 oed. Y grŵp oedran â'r nifer mwyaf o ddeintyddion oedd y grŵp dan 35, ac yna 35 i 44. Roedd gan y grŵp 55 neu hŷn y nifer lleiaf o ddeintyddion ym mhob un o'r deng mlwyddyn ddiwethaf. 

Ffynhonnell: ffurflen FP17W 

Deintyddion â gweithgarwch y GIG (StatsCymru)

At ei gilydd, nid yw proffil oedran gweithlu deintyddol y GIG wedi newid dros y 10 mlynedd diwethaf. 

Yn 2022-23, roedd mwy na thraean (36.8%) o ddeintyddion yn 34 oed neu'n iau; roedd mwy na’u chwarter (27.2%) rhwng 35 a 44 oed; roedd ychydig dros un o bob pump (22.7%) rhwng 45 a 54 oed; ac roedd bron i un o bob saith (13.3%) yn 55 oed neu'n hŷn.

Ymylol oedd y newid ym mhob grŵp oedran ers y flwyddyn flaenorol; roedd y cynnydd mwyaf yn y grŵp oedran 45 i 54 (1.2 pwynt canran) ac roedd y gostyngiad mwyaf yn y grŵp oedran 55 neu hŷn (0.8 pwynt canran). 

Deintyddion a ymunodd ac a ymadawodd

Diffinnir ‘deintydd a ymunodd’ fel deintydd a gofnododd weithgarwch GIG yn y flwyddyn ddiweddaraf ond nid yn y flwyddyn flaenorol. Diffinnir ‘deintydd a ymadawodd’ fel un a gofnododd weithgarwch GIG yn y flwyddyn flaenorol ond nid yn y flwyddyn ddiweddaraf. Felly, mae oedi o flwyddyn yn y data ar gyfer y rhai a ymadawodd. 

Ceir rhagor o wybodaeth am ddeintyddion a ymunodd ac a ymadawodd yn yr adroddiad ansawdd.

Ffigur 11: Deintyddion a ymadawodd ac a ymunodd â'r GIG, 2013-14 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 11: Mae nifer y rhai a ymunodd ac a ymadawodd wedi bod yn weddol agos am y rhan fwyaf o'r 10 mlynedd diwethaf, gyda rhai amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn. Roedd y gwahaniaeth mwyaf yn y flwyddyn cyn y pandemig, pan ymadawodd 76 yn fwy o ddeintyddion nag a ymunodd. Ymunodd 37 yn fwy o ddeintyddion nag a ymadawodd yn 2021-22, y gwahaniaeth cadarnhaol mwyaf ar ôl 2012-13. 

Ffynhonnell: ffurflen FP17W 

Deintyddion a ymadawodd ac a ymunodd â'r GIG (StatsCymru)

Er bod amrywiadau o flwyddyn i flwyddyn, mae nifer y rhai a ymunodd ac a ymadawodd wedi bod yn agos dros y deng mlynedd diwethaf, gyda chyfartaledd (cymedr) o 156 yn ymuno ac 149 yn ymadael bob blwyddyn.

Yn 2021-22, rhoddodd 126 o ddeintyddion (8.9% o'r holl ddeintyddion yn 2021-22) y gorau i wneud gwaith y GIG, o'i gymharu â 163 o ddeintyddion (11.5% o'r holl ddeintyddion yn 2021-22) a ddechreuodd wneud gwaith y GIG yn 2021-22.

Mae'r data diweddaraf ar gyfer 2022-23 yn dangos bod 140 wedi ymuno, sef 23 yn llai nag yn 2021-22.

Y Gymraeg

Mae'n ofynnol i bob deintydd sy'n ymgymryd â deintyddiaeth y GIG yng Nghymru gael eu cofrestru ar y Rhestr Cyflawnwyr Deintyddol. Wrth gofrestru, y deintydd ei hun sy’n cofnodi a yw’n gallu siarad Cymraeg. Ar hyn o bryd, mae'r wybodaeth hon yn cael ei chasglu drwy gwestiwn syml 'Ydw/Nac ydw' ac fel arfer nid yw'n cael ei diweddaru drwy gydol y cyfnod y bydd y deintydd ar y rhestr.

Mae ystadegau ar gyfer nifer y deintyddion sy'n siarad Cymraeg fesul 10,000 o siaradwyr Cymraeg (o Gyfrifiad 2021) a nifer y deintyddion Cymraeg eu hiaith fesul 10,000 o'r boblogaeth gyffredinol, yn seiliedig ar amcangyfrifon canol 2021 SYG, ar gael ar StatsCymru.

Ffigur 12: Canran deintyddion y GIG y cofnodwyd eu bod yn siarad Cymraeg, 2018-19 i 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 12: Mae canran y deintyddion a gofnodwyd fel siaradwyr Cymraeg wedi aros yn gyson ar tua 10% ym mhob un o'r chwe blwyddyn y mae data ar gael ar ei chyfer. 

Ffynhonnell: Rhestr Cyflawnwyr Deintyddol, Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru. Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn SYG, y Swyddfa Ystadegau Gwladol.

Deintyddion sy'n siarad Cymraeg (StatsCymru)

Amcangyfrifon Poblogaeth y Swyddfa Ystadegau Gwladol (StatsCymru)

Roedd 144 (neu 10.0%) o ddeintyddion Cymraeg eu hiaith wedi'u cofnodi yn y Rhestr Cyflawnwyr Deintyddol yng Nghymru, ym mis Awst 2023. Mae hyn yn gynnydd o 13 deintydd sy'n siarad Cymraeg o'i gymharu â 2021-22.

Efallai na fydd yr ystadegau hyn o reidrwydd yn cyfateb i nifer y deintyddion sy'n trafod yn Gymraeg ar hyn o bryd neu sy'n gallu gwneud hynny.

Mae canran y deintyddion a oedd ag unrhyw sgiliau siarad Cymraeg yn 2022-23 (10.0%) yn is na'r ganran o boblogaeth Cymru sydd â sgiliau siarad Cymraeg. Mae Cyfrifiad 2021 (StatsCymru) yn amcangyfrif bod gan 17.8% o bobl Cymru rywfaint o sgiliau siarad Cymraeg, ac mae'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth ym mis Mawrth 2023 yn amcangyfrif bod gan 29.7% o bobl Cymru rywfaint o sgiliau siarad Cymraeg.

Practisau deintyddol

Ffigur 13: Practisau deintyddol cyffredinol, 2022-23

Image

Disgrifiad o Ffigur 13: Map o Gymru yn dangos lleoliad practisau deintyddol a oedd yn cynnig apwyntiadau GIG neu Wasanaeth Deintyddol Cymunedol yn 2022-23. Mae crynodiad uwch o bractisau deintyddol yn y De o'i gymharu â’r Canolbarth a’r Gogledd, sy’n adlewyrchu dwysedd y boblogaeth yn gyffredinol.

Ffynhonnell: FP17W, Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG

Contractau a phractisau deintyddol (StatsCymru)

Yn 2022-23, roedd 432 o bractisau deintyddol a 552 o gontractau deintyddol yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys dau gontract a leolir yn Lloegr (Swydd Amwythig).

Mae hyn yn seiliedig ar o leiaf un ffurflen FP17W neu FP17OW yn cael ei chyflwyno drwy gontract mewn practis deintyddol.

Mae diffiniadau o gontractau a phractisau ar gael yn yr adran ansawdd a methodoleg.

Gwybodaeth am ansawdd a methodoleg

Cyhoeddir gwybodaeth fanwl am yr ystadegau yn y datganiad hwn yn yr adroddiad ansawdd.

Effaith COVID-19

Cafodd COVID-19 effaith sylweddol ar wasanaethau deintyddol yng Nghymru ac effeithiwyd ar y data a gasglwyd o chwarter olaf blwyddyn ariannol 2019-20 hyd at flynyddoedd ariannol llawn 2020-21 a 2021-22.

Roedd practisau wedi'u cyfyngu o ran y triniaethau y gallent eu darparu ar anterth y pandemig, ac ers hynny mae mesurau atal a rheoli heintiau wedi'u llacio'n raddol. Ceir rhagor o fanylion yn yr adroddiad ansawdd

Cyrsiau triniaeth

Mae data ar gyrsiau triniaeth a gwblhawyd gan ddeintydd y GIG yn cael eu cyflwyno i Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG i'w dalu trwy ffurflen FP17W electronig, drwy'r system Compass.

Mae cwrs triniaeth yn cael ei ddiffinio fel: 

  • (a) archwiliad o glaf, asesiad o iechyd ei geg, a chynllunio unrhyw driniaeth sydd i'w darparu i'r claf hwnnw o ganlyniad i'r archwiliad a'r asesiad;  
  • (b) darparu unrhyw driniaeth gynlluniedig (gan gynnwys unrhyw driniaeth a gynlluniwyd ar adeg heblaw adeg yr archwiliad cychwynnol) i'r claf hwnnw.

Bydd y cwrs triniaeth hefyd yn cynnwys unrhyw driniaeth a ddarganfyddir yn ystod y cwrs, hyd yn oed os yw ar ddyddiad sy'n hwyrach na'r asesiad cychwynnol. Er enghraifft, gallai'r clinigwr sydd â'u cwmpas ymarfer ddweud bod angen tri llenwad ar glaf, ond pan fydd y claf yn dychwelyd i gael y llenwad terfynol bydd y clinigwr yn sylweddoli bod angen llenwad pellach ar y claf. Byddai hyn yn cael ei gynnwys yn yr un cwrs triniaeth ac o dan yr un tâl cychwynnol. 

Mae triniaethau'n cael eu rhannu'n fandiau triniaeth, yn ôl lefel cymhlethdod ac mae'r bandiau hyn yn cael eu defnyddio i bennu'r tâl sy'n cael ei dalu gan gleifion. Diffinnir y bandiau fel:

Band 1

Mae'n cynnwys archwiliad a thriniaeth syml (fel archwiliad, diagnosis (e.e. pelydr-x), cyngor ar fesurau ataliol, a farnais fflworid).

Band 2

Mae'n cynnwys triniaethau canolig (fel llenwadau, echdyniadau, a gwaith ar sianel y gwreiddyn) yn ogystal â gwaith Band 1.

Band 3

Mae'n cynnwys triniaethau cymhleth (fel coronau, dannedd gosod, a phontydd) yn ogystal â gwaith Band 1 a Band 2.

Brys

Triniaethau lle mae gofal yn cael ei ddarparu'n gyflym oherwydd, ym marn yr ymarferydd deintyddol, bod iechyd ceg yr unigolyn yn debygol o ddirywio'n sylweddol, neu bod yr unigolyn mewn poen difrifol oherwydd cyflwr y geg; a dim ond i'r graddau sy'n angenrheidiol i atal y dirywiad sylweddol hwnnw neu i fynd i'r afael â'r boen ddifrifol honno y mae gofal a thriniaeth yn cael eu darparu.

Am ddim

Triniaethau na chodir tâl ar gleifion amdanynt: maent yn cynnwys atal gwaedu, atgyweirio pont, atgyweirio dannedd gosod, tynnu pwythau, a materion yn ymwneud â phresgripsiwn.

Mae manylion llawn y triniaethau ym mhob un o'r bandiau lle codir tâl i'w gweld ar wefan y GIG.

Gweithgarwch deintyddol clinigol

Mae'r eitemau data clinigol yn y ffurflen FP17W yn cynnwys triniaethau corfforol yn ogystal â chyngor ataliol ac eitemau a roddir ar bresgripsiwn. Er enghraifft, gallai un cwrs o driniaeth gynnwys gweithgarwch deintyddol clinigol fel llenwad parhaol, cyngor ar frwsio dannedd, a phresgripsiwn am wrthfiotig. Mae'r holl ddata ar gael ar StatsCymru. 

Mae'r eitemau data clinigol sydd ar gael yn adlewyrchu'r rhai a gesglir yn y ffurflen FP17W (Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG).

Ers y datganiad ystadegol diwethaf, bu newidiadau i'r ffordd y casglwyd rhai eitemau data clinigol drwy'r FP17W. Mae hyn yn cynnwys cyflwyno asesiad ACORN sy'n becyn cymorth sy'n galluogi timau deintyddol i grynhoi canfyddiadau o hanes ac archwiliad clinigol y claf mewn modd systematig. Os bydd asesiad ACORN yn cael ei gynnal, nid oes angen cofnodi 'archwiliad'. Felly, ni chaiff data archwiliadau eu casglu ar yr un sail ag yn y blynyddoedd blaenorol. Sylwer hefyd nad oes angen cynnal asesiad ACORN ar gyfer cyrsiau triniaeth brys. 

Gall cleifion gael mwy nag un driniaeth glinigol o fewn un cwrs o driniaeth. Gweler gwefan Awdurdod Gwasanaethau Busnes y GIG i gael rhagor o wybodaeth am eitemau clinigol.

Diffiniadau o'r termau clinigol a ddefnyddir yn y datganiad hwn

Farnais fflworid

Paratoad fflworid sy’n cael ei roi ar arwyneb dannedd fel prif fesur ataliol.

Radiograff(au)

Mae radiograffau deintyddol, neu belydr-x fel y'u gelwir yn aml, yn rhoi delwedd o’r dannedd, y geg a/neu’r deintgig sy’n gallu helpu’r deintydd i ganfod problemau sylfaenol, fel pydredd ac afiechyd y deintgig.

Llenwadau parhaol a llenwad selydd

Adfer dant drwy lenwi ceudod i gymryd lle meinwe a gollwyd yn y dant. Gellir defnyddio sylweddau amrywiol, gan gynnwys resin cyfansawdd, amalgam neu ionomer gwydr.

Archwiliad

Bydd hyn fel arfer yn cynnwys siartio’r dannedd, cofnodi’r cyflwr periodontol ac archwilio’r feinwe feddal. Caiff y manylion i gyd eu nodi gyda’r manylion clinigol angenrheidiol eraill ar y cofnod clinigol.

Gwnaed newidiadau i'r ffordd y dylid cofnodi archwiliadau yn FP17W ym mis Ebrill 2020 ac eto ym mis Ebrill 2022. O fis Ebrill 2022 ymlaen, os cofnodir asesiad ACORN mewn FP17W, ni ddylid cynnal archwiliad. 

Asesiad o Risgiau ac Anghenion Clinigol y Geg (ACORN)

Offeryn asesu risg, a ddylai gael ei gofnodi fel rhan o asesiad trylwyr o iechyd y geg. Mae asesiad ACORN yn cynnwys 8 thema sy'n cael eu cofnodi ar y FP17Ws: hanes meddygol; hanes cymdeithasol; hanes deintyddol; pydredd dannedd; cyfanswm y dannedd yn y geg; cyfanswm nifer y dannedd â phydredd dentinol; iechyd periodontol; ac anghenion deintyddol eraill.

Cyngor ataliol

Cael gwared ar ffactorau sy’n cadw plac

Mae hyn yn cynnwys cael gwared ar ffactorau sy’n cadw plac, er enghraifft calchgen a bargodiad.

Cyngor ar frwsio dannedd

Pan fo angen cyngor ar frwsio dannedd, gan gynnwys dangos sut i wneud.

Cymhorthion glanhau rhwng dannedd

Dangos y cymhorthion a gwylio'r claf yn defnyddio brwsys glanhau rhwng y dannedd yn y rhannau perthnasol o'r geg.

Cynllun gwella hylendid y geg

Trafodir cynllun i wella hylendid y geg y claf. 

Gweithlu'r GIG

Mae system adrodd gweithlu newydd yn cael ei chyflwyno i holl bractisau deintyddol y GIG yng Nghymru, yn seiliedig ar System Genedlaethol Adrodd am y Gweithlu Cymru sydd wedi'i defnyddio i gasglu data am y gweithlu meddygon teulu ers 2020. Pan fydd y system ar waith, bydd data'r gweithlu yn cael ei echdynnu a bydd ystadegau swyddogol newydd ar weithlu deintyddol y GIG yn cael eu cynhyrchu. Rhagwelir y bydd yr ystadegau hyn yn cael eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2024. 

Contractau a phractisau deintyddol

Contract deintyddol: ymarferydd deintyddol neu grŵp o ymarferwyr deintyddol sy'n ymrwymo i gontract â Bwrdd Iechyd Lleol i ddarparu gwasanaethau deintyddol y GIG. Gall mwy nag un ymarferydd deintyddol gyflawni gwaith deintyddol y GIG o dan yr un contract (er enghraifft, gall yr ymarferydd sy’n ymrwymo i’r contract is-gontractio i ymarferwyr deintyddol eraill i wneud gwaith o dan yr un contract).

Practis deintyddol: y lleoliad daearyddol lle cynhaliwyd triniaeth ddeintyddol. Mae’n bosibl y bydd gwahanol ymarferwyr deintyddol yn gwneud gwaith yno os ydynt wedi ymrwymo i gontractau deintyddol ar wahân â’r Bwrdd Iechyd Lleol.  

Amcangyfrifon poblogaeth canol blwyddyn

Cyfrifir canrannau cleifion/oedolion/plant a gafodd eu trin yn y cyfnod 24 mis diweddaraf gan ddefnyddio amcangyfrifon poblogaeth canol 2021 y Swyddfa Ystadegau Gwladol (SYG) gan nad oedd amcangyfrifon poblogaeth canol 2022 wedi'u cyhoeddi adeg cyhoeddi'r datganiad hwn. 

Bydd y SYG hefyd yn cyhoeddi amcangyfrifon canol blwyddyn wedi'u hailsylfaenu ar gyfer y cyfnod rhwng canol 2012 a chanol 2020 ar ôl i'r ystadegau hyn gael eu cyhoeddi. 

Mae hyn yn golygu y bydd yr ystadegau ar gyfer canran y cleifion/oedolion/plant a gafodd eu trin yn ystod y 24 mis perthnasol yn cael eu diwygio yn natganiad ystadegol deintyddol nesaf y GIG. Disgwylir mai bach fydd y newidiadau yn y canrannau, ond os byddant yn fawr byddant yn cael sylw manylach yn y datganiad ystadegol. 

Statws Ystadegau Gwladol

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi bod yr holl ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Ystadegau a Gwasanaeth Cofrestru 2007, sy’n dangos eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau.

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod ystadegau swyddogol yn cyrraedd y safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth cyhoeddus.

Dylai unrhyw ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Dyfernir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan gangen reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r DU. Mae'r Awdurdod yn ystyried a yw'r ystadegau'n bodloni'r safonau uchaf o ran cydymffurfio â'r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau a thrafodaethau cyhoeddus. 

Dynodwyd yr ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol ym mis Mehefin 2012 yn dilyn asesiad llawn yn erbyn y Cod Ymarfer gan y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau.

Ers adolygiad diwethaf y Swyddfa Rheoleiddio Ystadegau, rydym wedi parhau i gydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau, ac wedi gwneud y gwelliannau canlynol:

  • Cynnwys data agored ychwanegol, gyda dadansoddiadau manylach, ar ein gwefan StatsCymru.
  • Diweddaru gwybodaeth allweddol am ansawdd a diweddaru sylwadau drwy’r holl ddatganiad, gan gynnwys cymariaethau data dros amser hirach.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fo Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) gyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Fe gafodd y dangosyddion cenedlaethol  hyn osodwyd gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021. yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Rydym am gael eich adborth

Rydym yn croesawu adborth ar unrhyw agwedd ar yr ystadegau hyn. Gallwch ei anfon mewn e-bost i: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Sabir Ahmed
E-bost: ystadegau.iechyd@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

Ystadegau Gwladol

SFR 83/2023