Neidio i'r prif gynnwy

Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am ofal iechyd wedi cael ei chasglu'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae'r datganiad yn cynnwys ffigurau ar welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, a derbyniadau cleifion cysylltiedig â COVID-19 i'r ysbyty.

Nodwch nad oedd un ysbyty yng Nghymru yn gallu darparu data ar nifer y cleifion a dderbyniwyd ar 13 Gorffennaf 2021 oherwydd mater prosesu data. Darperir mwy o wybodaeth yn yr adran derbyniadau i ysbytai.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd lle bo amheuaeth neu gadarnhad o COVID-19 yn amrywio. O ystyried hynny, mae'r cyfartaledd treigl 7 diwrnod wedi gostwng o Ionawr 2021 i ddechrau Mehefin 2021, ac wedi parhau yn eithaf sefydlog ers hyn. Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd yn agos i’r lefelau isaf ers dechrau adrodd ar 1 Ebrill 2020.
  • Yn y 7 diwrnod diwethaf cafodd cyfartaledd o 8 o bobl y dydd eu derbyn i'r ysbyty gydag achos wedi'i gadarnhau neu achos a amheuir o COVID-19. Mae hyn yn debyg i’r cyfartaledd o 6 ar gyfer yr wythnos hyd at 6 Gorffennaf 2021.
  • Er gwaethaf amrywiadau, mae cyfanswm nifer y gwelyau gyda chleifion COVID-19 (achosion wedi’u cadarnhau, achosion a amheuir, a chleifion sy’n gwella) wedi lleihau yn gyffredinol ers Ionawr 2021, fodd bynnag mae wedi cynyddu ychydig yn yr wythnosau diwethaf.
  •  Ar 13 Gorffennaf 2021, roedd 135 o welyau yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi’u cadarnhau, achosion a amheuir, a chleifion sy’n gwella), sef 1.6% o'r holl gleifion ysbyty. Mae hyn yn gynnydd o 127 ar 6 Gorffennaf 2021 (1.5% o'r holl gleifion ysbyty) o gymharu ag 86, sef y nifer isaf o welyau a ddefnyddir gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 ers i’r cofnodi ddechrau ar 1 Ebrill 2020.
  • Ar 13 Gorffennaf 2021, roedd 69 o welyau yn cael eu defnyddio gan gleifion COVID-19 a gadarnhawyd. Bu cynnydd cyson yn nifer y gwelyau sy’n cael eu defnyddio gan y cleifion hyn dros yr wythnosau diwethaf, sydd wedi cyfrannu at y cynnydd cyffredinol yn nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19.
  • Ar 13 Gorffennaf 2021, roedd 10 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi'u cadarnhau ac achosion a amheuir). Mae hyn o gymharu â 6 ar 6 Gorffennaf 2021 ac yn cymharu â 164 ar y brig ym mis Ebrill 2020. Mae nifer y gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol sy’n cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 yn parhau yn isel er gwaethaf cynnydd bach dros yr wythnosau diwethaf.

Mae tablau cysylltiedig ar gael am y datganiad hwn, gan gynnwys yr holl ddata isod a hefyd data ar welyau cyffredinol ac acíwt.

Mae ystadegau am absenoldeb staff y GIG ar gael ar StatsCymu yn ogystal â’r holl ystadegau eraill yn y datganiad hwn.

Yn ogystal, cyhoeddir gwybodaeth am welyau, nifer y cleifion yn yr ysbyty a derbyniadau i’r ysbyty ar ddyddiau'r wythnos ar StatsCymru am 12pm ac mae hyn yn cynnwys data hyd at y diwrnod cynt. Ar ôl 12pm ar ddydd Iau, ni fydd y data a ddangosir yn y datganiad yma yn cynnwys y data cyhoeddedig diweddaraf. Fodd bynnag, mae'r datganiad wythnosol yma yn rhoi sylwebaeth ychwanegol ar dueddiadau yn y data.

Daw'r data o wybodaeth reoli ac mae’n bosibl y byddant yn newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol. Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth am y ffordd o adrodd gwybodaeth reoli, ansawdd data a thryloywder.

Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Mae'r adran hon yn sôn am nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 a gafodd eu derbyn i'r ysbyty, a'r gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG yn ystod pandemig COVID-19.

Mae'r mathau o ysbytai y mae’r adroddiad yn eu trafod wedi newid dros amser, am fwy o wybodaeth, gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Derbyniadau i ysbytai

Image
Mae Siart 1 yn dangos bod nifer y derbyniadau cleifion, yr oedd amheuaeth bod ganddynt COVID-19, neu yr oeddent wedi cael prawf positif ar ei gyfer, ar ôl cyrraedd brig ym mis Ebrill, wedi cyrraedd ei lefel uchaf ar 30 Rhagfyr 2020 cyn gostwng eto.

Cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty yr amheuir neu y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Mae derbyniadau'n cyfeirio at y nifer o gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty rhwng 9am ar ddyddiad y diweddariad a 9am y diwrnod blaenorol. Mae derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 neu gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19.

Nodwch nad oedd Ysbyty Glan Clwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gallu darparu data ar y nifer o gleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty ar gyfer 13 Gorffennaf 2021 oherwydd mater prosesu data. Mae nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty gyda COVID-19 wedi’i gadarnhau neu dan amheuaeth ar gyfer Ysbyty Glan Clwyd ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr nawr yn gymharol isel ac ar 12 Gorffennaf 2021 roedd 1 derbyniad. Bydd y data ar gyfer 13 Gorffennaf 2021 yn cael ei ddiwygio ar StatsCymru cyn gynted â phosibl.

Gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y set gyflawn o nodiadau a newidiadau hanesyddol yn ymwneud â ffigurau derbyniadau.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd lle bo amheuaeth neu gadarnhad o COVID-19 yn amrywio. O ystyried hynny, mae'r cyfartaledd treigl 7 diwrnod wedi gostwng o Ionawr 2021 i ddechrau Mehefin 2021, ac wedi parhau yn eithaf sefydlog ers hyn. Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd yn agos i’r lefelau isaf ers dechrau adrodd ar 1 Ebrill 2020.
  • Yn y 7 diwrnod diwethaf cafodd cyfartaledd o 8 o bobl y dydd eu derbyn i'r ysbyty gydag achos wedi'i gadarnhau neu achos a amheuir o COVID-19. Mae hyn yn debyg i’r cyfartaledd o 6 ar gyfer yr wythnos hyd at 6 Gorffennaf 2021.

Nifer y bobl yn yr ysbyty

Image
Mae Siart 2 yn dangos bod nifer y bobl â COVID-19 yn yr ysbyty wedi cyrraedd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 cyn gostwng eto, er hynny mae wedi cynyddu ychydig yn yr wythnosau diwethaf.

Nifer y bobl yn yr ysbyty fel rhai a posibl, a sydd wedi'u cadarnhau neu sy'n gwella gyda COVID-19, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Cyflwynwyd y categori cleifion sy'n gwella ar 26 Mai 2020 er mwyn casglu gwybodaeth am gleifion oedd â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty ond nad oedd yn dangos unrhyw symptomau am 14+ o ddiwrnodau, ond a arhosodd yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID-19, yn aml er mwyn adsefydlu. Bu rhai gwahaniaethau o ran adrodd gan fyrddau iechyd yn y gyfres amser sy'n cael eu hamlinellu'n fanylach yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth am y ffordd o adrodd am gleifion sy’n gwella.

Er mwyn sicrhau bod nifer y cleifion sy'n gwella o COVID-19 yn cael eu cofnodi'n gywir ac yn gyson yn y data ar gyfnodau yn yr ysbyty, atgoffwyd pob bwrdd iechyd i ddilyn y canllawiau cenedlaethol ar gyfer adrodd ar SITREP, a gofynnwyd iddynt sicrhau bod unrhyw newidiadau angenrheidiol i'w hadroddiadau dyddiol wedi cael eu gweithredu erbyn 12 Ebrill 2021. Yn groes i'r canllawiau, roedd rhai byrddau iechyd yn cyfrif cleifion arhosiad hir a oedd wedi gwella'n llwyr o COVID-19 yng nghategori gwella o COVID-19, yn hytrach na'r categori cleifion nad ydynt yn gleifion COVID-19, a oedd wedi chwyddo nifer y cleifion sy'n gwella o COVID-19. Arweiniodd y newid hwn at ostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sy'n gwella (gostyngiad o tua 123 o gleifion ar y pwynt gweithredu). Er bod yr effaith wedi’i gweld ar draws y rhan fwyaf o fyrddau iechyd, gwelwyd yr effeithiau pennaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

Gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y set gyflawn o nodiadau a newidiadau hanesyddol yn ymwneud â ffigurau cyfnodau yn yr ysbyty.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y gwelyau sy'n cael eu defnyddio gan gleifion COVID-19 ar hyn o bryd yn agos i’r lefelau isaf ers dechrau adrodd ar 1 Ebrill 2020.
  • Cynyddodd cyfanswm nifer y gwelyau gyda chleifion COVID-19 (achosion wedi’u cadarnhau, achosion a amheuir, a chleifion sy’n gwella) o ddiwedd mis Medi 2020 a chyrraedd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 (2,879 o gleifion). Ers Ionawr 2021, er gwaethaf amrywiadau, mae nifer y gwelyau gyda chleifion COVID-19 wedi lleihau ar y cyfan, er hynny mae wedi cynyddu ychydig yn yr wythnosau diwethaf.
  • Cyrhaeddodd nifer y cleifion wedi’u cadarnhau gyda COVID-19 a nifer y cleifion sy’n gwella o COVID-19 uchafbwynt ar wahanol adegau; gyda'r niferoedd uchaf o gleifion wedi’u cadarnhau gyda COVID yn digwydd yn gynnar ym mis Ionawr 2021 (1,643 ar 4 Ionawr 2021) a'r niferoedd uchaf o gleifion sy'n gwella i’w gweld rhai wythnosau yn ddiweddarach (1,192 ar 31 Ionawr 2021).

Ar 13 Gorffennaf 2021

  • Bu cynnydd cyson yn nifer y gwelyau sy’n cael eu defnyddio gan gleifion COVID-19 a gadarnhawyd yn yr wythnosau diwethaf, sydd wedi cyfrannu at y cynnydd cyffredinol yn nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19. Mae nifer y gwelyau sy'n cael eu defnyddio gan gleifion yr amheuir bod COVID-19 arnynt yn gymharol isel ac yn tueddu i amrywio. Mae nifer y gwelyau sy'n cael eu defnyddio gan gleifion COVID-19 sy’n gwella wedi bod yn gostwng yn gyffredinol.
  • Roedd 135 o welyau yn cael eu defnyddio gan gleifion COVID-19 (achosion wedi’u cadarnhau, achosion a amheuir, a chleifion sy’n gwella), sef 1.6% o'r holl gyfnodau yn yr ysbytai. O'r rhain, roedd 69 gwely yn llawn gyda chleifion COVID-19 wedi'u cadarnhau, 33 gwely yn llawn gyda chleifion COVID-19 posibl a 33 gwely yn llawn gyda chleifion sy’n gwella.

Gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol

Image
Mae Siart 3 yn dangos bod nifer y gwelyau â chymorth anadlu mewnwthiol a oedd yn cael eu defnyddio gan gleifion COVID-19, ar ôl cyrraedd brig ym mis Ebrill 2020, wedi cyrraedd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr cyn gostwng eto, er hynny mae wedi cynyddu ychydig yn yr wythnosau diwethaf.

Nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Ystyr rhif gwaelodol yw nifer y gwelyau oedd ar gael cyn y pandemig. Fel arfer mae 152 o welyau gofal critigol yng Nghymru. Mae nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn cynnwys capasiti ar gyfer ymchwydd dros dro, a gwelyau y tu mewn a’r tu allan i amgylchedd gofal critigol. Mae cleifion COVID-19 yn y siart hon yn cynnwys cleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19, cleifion sydd â COVID-19 wedi’i gadarnhau, a chleifion sy’n gwella. Rhwng 26 Mai 2020 ac 17 Ionawr 2021 cafodd rhai cleifion eu categoreiddio fel ‘yn gwella’. O 18 Ionawr 2021 cafodd y cleifion hyn eu categoreiddio fel cleifion y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt. Ni chafodd y newid hwn effaith ar gyfanswm nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19.

Gweler adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg ar gyfer y set gyflawn o nodiadau a newidiadau hanesyddol yn ymwneud â ffigurau gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol.

Prif bwyntiau

  • Cynyddodd nifer y gwelyau mewn defnydd lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn gyffredinol o fis Medi 2020, gan gyrraedd 150 ar 12 Ionawr 2021. Wedi hynny gostyngodd y niferoedd yn raddol hyd at fis Mai 2021 ac maent wedi aros yn weddol sefydlog yn yr wythnosau diwethaf.

Ar 13 Gorffennaf 2021

  • Roedd 10 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (achosion wedi'u cadarnhau ac achosion a amheuir). Mae hyn o gymharu â 6 ar 6 Gorffennaf 2021 ac yn cymharu â 164 ar y brig ym mis Ebrill 2020. Mae nifer y gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol sy’n cael eu defnyddio gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 yn parhau yn isel er gwaethaf cynnydd bach dros yr wythnosau diwethaf.
  • Roedd 141 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion nad oeddent yn gysylltiedig â COVID-19. Mae hyn yn cymharu â 147 o welyau (6 yn llai o welyau llawn) ar 6 Gorffennaf 2021.
  • Roedd 60 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol gwag y gellid eu staffio. Mae hyn yn cymharu â 61 (1 gwely yn llai) ar 6 Gorffennaf 2021.

Mae gwybodaeth am ofal iechyd a gyflwynir ar ddangosfwrdd COVID-19 Llywodraeth y DU ac ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r cyhoeddiad hwn. Gweler yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg i gael rhagor o wybodaeth.

Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Daw'r data o wybodaeth reoli ac mae’n bosibl y byddant yn newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Mae’n bosibl y bydd data hanesyddol wedi'u diwygio ac na fyddant, felly, yn union yr un fath â'r hyn a gyhoeddwyd o’r blaen.

Newidiadau i gynnwys y cyhoeddiad hwn

O 17 Mehefin 2021, newidiodd cynnwys y datganiad hwn, fel yr amlinellir isod.

Absenoldeb a chyfradd hunanynysu staff y GIG

Roedd yr wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi bob dydd Iau ar StatsCymru. O 17 Mehefin 2021, dechreuwyd cyhoeddi’r casgliad hwn bob pythefnos yn hytrach na bob wythnos.

Cyflwynwyd y casgliad data hwn ar ddechrau'r pandemig i helpu i ddeall a rheoli capasiti yn y GIG er mwyn ymateb yn gyflym i'r anghenion a'r blaenoriaethau newidiol. Roedd y gwaith o gasglu data yn ddwys o ran adnoddau i gyrff y GIG ac, er nad yw absenoldeb staff oherwydd COVID yn ffactor o bwys erbyn hyn wrth ddarparu gwasanaethau hanfodol y GIG, rydym am leihau'r baich ar gyrff sy'n casglu ac yn cyflenwi'r data hyn.

Derbyniadau i Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys y GIG

Roedd yr wybodaeth hon yn cael ei chyhoeddi yn y datganiad ystadegol hwn a hefyd ar StatsCymru bob dydd Iau. O 17 Mehefin 2021, cafodd yr adran hon ei dileu o’r datganiad ystadegol ac nid ydym yn diweddaru’r data yma ar StatsCymru mwyach.

Ar ddechrau'r pandemig, cafodd ystadegau swyddogol ar dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys eu rhewi, a chyflwynwyd data wythnosol a dynnwyd o wybodaeth reoli. Er hynny, mae ystadegau swyddogol am dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys yn cael eu cyhoeddi unwaith eto bob mis fel rhan o'r datganiad ystadegol Gweithgarwch a Pherfformiad y GIG. Hefyd, yn y misoedd diwethaf dengys y data fod derbyniadau ar lefelau tebyg erbyn hyn i gyfartaledd 2015-19.

Galwadau a wnaed i 111 a Galw Iechyd Cymru

Roedd hwn yn cael ei gyhoeddi bob dydd Iau ar StatsCymru. O 17 Mehefin 2021, nid ydym yn diweddaru’r data yma mwyach.

Mae galwadau i 111 a Galw Iechyd Cymru'n cael eu cyhoeddi gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar ei Ddangosfwrdd gwyliadwriaeth gyflym COVID-19. Mae gwybodaeth ar gael am bob galwad a chyfran y galwadau sydd ar gyfer symptomau COVID-19. Mae'r wybodaeth ar gael ar lefel byrddau iechyd lleol.

Galwadau ambiwlans argyfwng yn ôl dyddiad

Roedd hwn yn cael ei gyhoeddi bob dydd Iau ar StatsCymru. O 17 Mehefin 2021, nid ydym yn diweddaru’r data yma mwyach.

Ar ddechrau'r pandemig, cafodd ystadegau swyddogol ar alwadau argyfwng i'r gwasanaeth ambiwlans eu rhewi, a chyflwynwyd data wythnosol a dynnwyd o wybodaeth reoli. Er hynny, mae ystadegau swyddogol am alwadau i'r gwasanaeth ambiwlans yn cael eu cyhoeddi unwaith eto bob mis fel rhan o'r datganiad ystadegol Gweithgarwch a Pherfformiad y GIG.

Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Ar 13 Mawrth 2020, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y dylai pob gweithgarwch nad oedd yn frys stopio er mwyn paratoi ar gyfer y pandemig.

Yn dilyn gwaith dilysu pellach, penderfynwyd nad oedd data derbyniadau a chyfnodau yn yr ysbyty cyn 1 Ebrill 2020 yn addas i’w cyhoeddi. Felly, mae’r gyfres amser yn dechrau ar 1 Ebrill 2020.

Mae ffigurau ar weithgarwch a chapasiti ysbytai a defnydd gwelyau yn cynnwys data o ysbytai acíwt o 1 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai maes o 20 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020 ymlaen ac unedau iechyd meddwl o 10 Gorffennaf 2020 ymlaen, ac yn eithrio data o ysbytai preifat.

Derbyniadau i ysbytai

Mae derbyniadau'n cyfeirio at y nifer o gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty rhwng 9am ar ddyddiad y diweddariad a 9am y diwrnod blaenorol. Mae derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 neu gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19.

Ers 3 Gorffennaf 2020, diweddarwyd y canllawiau i gynnwys derbyniadau brys yn unig yn y ffigurau derbyniadau sy’n gysylltiedig â COVID-19.

O 29 Mehefin 2020 ymlaen, newidiodd y canllawiau hefyd i ofyn yn benodol i fyrddau iechyd eithrio trosglwyddiadau rhwng ysbytai acíwt ac ysbytai cymunedol o'r ffigurau derbyniadau. Cyn hyn, mae'n bosibl bod rhai trosglwyddiadau wedi cael eu cofnodi fel derbyniadau newydd.

O 29 Mehefin 2020, roedd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ddim ond yn cael eu cynnwys mewn derbyniadau COVID-19 os oeddent yn derbyn canlyniad prawf positif am COVID-19 wrth gyrraedd yr ysbyty.

Ar ôl ailgyflwyno triniaethau dewisol o fis Mehefin 2020 ymlaen, cafodd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ac yr amheuwyd bod ganddynt COVID-19 eu cofnodi i ddechrau ymhlith y derbyniadau COVID-19, hyd yn oed os oeddent yn cael prawf negatif yn nes ymlaen. Arweiniodd hyn at ymchwydd yn nifer yr achosion a amheuir yn yr ysbyty ar yr adeg adrodd.

Nifer y bobl yn yr ysbyty

Er mwyn sicrhau bod nifer y cleifion sy'n gwella o COVID-19 yn cael eu cofnodi'n gywir ac yn gyson yn y data ar gyfnodau yn yr ysbyty, atgoffwyd pob bwrdd iechyd i ddilyn y canllawiau cenedlaethol ar gyfer adrodd ar SITREP, a gofynnwyd iddynt sicrhau bod unrhyw newidiadau angenrheidiol i'w hadroddiadau dyddiol wedi cael eu gweithredu erbyn 12 Ebrill 2021. Yn groes i'r canllawiau, roedd rhai byrddau iechyd yn cyfrif cleifion arhosiad hir a oedd wedi gwella'n llwyr o COVID-19 yng nghategori gwella o COVID-19, yn hytrach na'r categori cleifion nad ydynt yn gleifion COVID-19, a oedd wedi chwyddo nifer y cleifion sy'n gwella o COVID-19. Arweiniodd y newid hwn at ostyngiad sylweddol yn nifer y cleifion sy'n gwella (gostyngiad o tua 123 o gleifion ar y pwynt gweithredu). Er bod yr effaith wedi’i gweld ar draws y rhan fwyaf o fyrddau iechyd, gwelwyd yr effeithiau pennaf ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe.

O 8 Mawrth 2021, sicrhaodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro fod eu data yn fwy cydnaws â’r canllawiau cenedlaethol ar gyfer adrodd ar y sefyllfa (SITREP). Cafodd y newid hwn effaith fach ar y ffigurau ar gyfnodau yn yr ysbyty, a arweiniodd at gynnydd bach yn nifer y cleifion gyda COVID-19 a gadarnhawyd a gostyngiad bach yn nifer y cleifion COVID-19 sy’n gwella.

O 1 Chwefror 2021, ailadroddwyd canllawiau i fyrddau iechyd y dylai cleifion a oedd eisoes yn yr ysbyty ac wedi dal COVID-19, ond sydd bellach wedi gwella ac sydd yn ôl yn eu lleoliad gwreiddiol, gael eu hadrodd fel rhai nad ydynt yn COVID-19. Gall hyn fod wedi effeithio ar nifer fach o gleifion oedd mewn ysbytai acíwt neu leoliadau iechyd meddwl a gallai fod wedi arwain at ostyngiad yn nifer y cleifion sy'n gwella a chynnydd yn nifer y cleifion nad ydynt yn gleifion COVID-19.

O 16 Tachwedd 2020, cynhwysir data o ysbyty Athrofaol y Faenor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae hyn wedi arwain at gynnydd o oddeutu 450 yng nghyfanswm nifer y gwelyau sydd ar gael.

Cafodd data o unedau iechyd meddwl eu cynnwys yn ôl-weithredol o 10 Gorffennaf 2020 am y tro cyntaf yn natganiad 20 Awst 2020. Roedd cynnwys gwelyau iechyd meddwl wedi cael effaith fach ar ffigurau a oedd yn dangos nifer y gwelyau llawn gyda chleifion COVID-19, ond effaith fawr ar yr holl welyau llawn gyda chleifion heb COVID-19 a gwelyau gwag, gan nad yw’r rhan fwyaf o welyau iechyd meddwl yn cynnwys cleifion COVID-19. Caiff data unedau iechyd meddwl eu cyflwyno bob dydd Gwener, a chaiff y sefyllfa ar y dydd Gwener ei defnyddio fel procsi ar gyfer yr wythnos ganlynol, oni bai bod yr amgylchiadau’n newid yn ddirfawr.

Cyflwynwyd y categori cleifion sy'n gwella ar 26 Mai 2020 er mwyn casglu gwybodaeth am gleifion oedd â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty ond nad oedd yn dangos unrhyw symptomau am 14+ o ddiwrnodau, ond a arhosodd yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID-19, yn aml er mwyn adsefydlu. Bu rhai gwahaniaethau o ran adrodd gan fyrddau iechyd yn y gyfres amser sy'n cael eu hamlinellu'n fanylach yn yr adran gwybodaeth am ansawdd a methodoleg.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar y adrodd cleifion sy’n gwella.

O ran adrodd am gleifion sy’n gwella, dechreuodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan adrodd am gleifion a oedd yn gwella o 7 Mehefin 2020 ymlaen, ond cofnodwyd y rhain yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau cyn hynny. Roedd Caerdydd a'r Fro yn cyfrif cleifion a oedd yn gwella fel cleifion heb COVID-19 rhwng 1 Mai 2020 a 22 Mai 2020. Ar ôl newid y canllawiau, rhoddodd Caerdydd a'r Fro y cleifion hyn mewn categori arall fel cleifion COVID-19, gan eu cofnodi yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau, tan i'r categori gwella gael ei gyflwyno ar 26 Mai 2020.

Ers Mehefin 2020, mae ysbytai wedi dechrau cau rhywfaint o’r capasiti ychwanegol a oedd wedi’i sefydlu ar gyfer cynnydd yn nifer y cleifion yn sgil pandemig COVID-19.

Gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol

O 18 Ionawr 2021, ni chyfrifir unrhyw gleifion sy'n defnyddio gwely lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (gwely gofal critigol) fel cleifion COVID-19 sy'n ‘gwella’ gan fod angen lefel uchel o ofal arnynt o hyd. Caiff unrhyw glaf y nodwyd ei fod yn ‘gwella’ ei gyfrif nawr o dan ‘wedi'u cadarnhau’. Arweiniodd y newid hwn at gynnydd yn nifer y cleifion COVID-19 ‘wedi’u cadarnhau’ a oedd yn defnyddio gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (cynnydd o tua 14 o gleifion ar y pwynt gweithredu) ac nid oedd unrhyw welyau o’r fath yn cael eu dangos fel rhai oedd yn cael eu defnyddio gan gleifion sy’n ‘gwella’. Ni chafodd y newid hwn unrhyw effaith ar gyfanswm nifer y cleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19.

O 13 Tachwedd 2020 ymlaen, dim ond gwelyau gofal critigol y gellid eu staffio a gafodd eu cynnwys fel gwelyau oedd ar gael. Mae gwelyau wedi’u staffio yn golygu’r rheini y gellir eu staffio adeg y cyfrifiad. Fodd bynnag, ni weithredodd pob bwrdd iechyd y newid hwn ar y dyddiad hwnnw. Yn dilyn diweddariad i'r canllawiau, gweithredodd mwy o fyrddau iechyd lleol y newid hwn o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen.

O 19 Hydref 2020, mae data ar gyfer gwelyau gofal critigol arbenigol (fel y rhai Llosgi a Phlastig yn Nhreforys) a gwelyau acíwt arbenigol eraill (fel rhai mamolaeth) dros safleoedd acíwt eraill wedi eu cynnwys. Mae’r gwelyau hyn wedi cael eu cynnwys yn y data gan eu bod yn rhan o’r stoc o welyau sydd ar gael, a gellid eu defnyddio ar gyfer cleifion COVID-19 mewn amgylchiadau eithriadol. Nid oes cleifion COVID-19 yn y mwyafrif o’r gwelyau hyn. Nid yw cynnwys y rhain felly yn cael fawr o effaith ar nifer y gwelyau â chleifion COVID-19 ond mae’r effaith yn fwy ar nifer y gwelyau gweigion a’r rheini sydd â chleifion sydd ddim â COVID-19.

Cymaroldeb

Gweler dangosfwrdd Llywodraeth y DU am wybodaeth am ofal iechyd ar lefel y DU. Sylwer: mae'r data gofal iechyd a gyflwynwyd yn dangosfwrdd y DU yn wahanol i'r cyhoeddiad hwn. Mae’r data ar gyfer Cymru ar ddangosfwrdd y DU yn cynnwys data ar gyfer ysbytai acíwt yn unig a ddarparwyd yn wreiddiol er mwyn gallu cymharu'n well â gwledydd eraill. Ond mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data o ysbytai acíwt, cymunedol a maes ac unedau iechyd meddwl er mwyn darparu darlun mwy cynhwysfawr o'r system yng Nghymru. O 11 Rhagfyr 2020 ymlaen, diweddarwyd data ar gyfer Lloegr a gyflwynwyd ar ddangosfwrdd y DU er mwyn cyd-fynd â chyhoeddiadau GIG Lloegr ac o ganlyniad diwygiwyd y gyfres amser gyfan ar gyfer yr eitem hon. Mae’r data ar gyfer Lloegr ar ddangosfwrdd y DU yn awr yn cynnwys data o ysbytai acíwt, cymunedol a maes ac unedau iechyd meddwl. Oherwydd y newid hwn i’r dull adrodd, rydym yn adolygu cyfaddasrwydd y data a ddarperir ar hyn o bryd ar gyfer Cymru. Cyhoeddir amcangyfrifon o nifer y bobl a gafodd y coronafeirws yng Nghymru a Lloegr hefyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn yr Arolwg o Heintiadau Coronafeirws

Sylwch fod y data gwyliadwriaeth gofal iechyd a gyflwynir yn nangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r hyn sydd yn y cyhoeddiad hwn. Mae dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio data a gesglir yn systematig drwy ICNET, y system data rheoli heintiau mewn ysbytai a ddefnyddir ledled Cymru. Mae'n cynnwys cleifion mewnol mewn ysbytai sydd wedi cael cadarnhad o’u prawf drwy labordy ac nid yw'n cyfrif unrhyw gleifion a gafodd eu derbyn a'u rhyddhau yr un diwrnod.

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn defnyddio data a geir o wybodaeth reoli ddyddiol a ddarperir gan fyrddau iechyd. Darparwyd canllawiau i fyrddau iechyd lleol ar gwblhau a chyflwyno’r data. Gall dulliau casglu data amrywio o un bwrdd iechyd i’r llall. Mae'n cynnwys cleifion yr amheuir bod y clefyd arnynt, cleifion y cadarnhawyd ei fod arnynt a chleifion sy’n gwella ohono. Mae hefyd yn cynnwys cleifion nad yw COVID-19 arnynt.

Bydd y diffiniad culach a ddefnyddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn debygol o arwain at nifer lai o dderbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID o gymharu â'r hyn a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n ddull systematig o gynnal gwyliadwriaeth ar gleifion y mae angen iddynt aros yn yr ysbyty os cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol”) sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Bydd y datganiad nesaf am 9.30yb Ddydd Iau 22 Gorffennaf 2021.

Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 207/2021