Neidio i'r prif gynnwy

1. Prif ffigurau cenedlaethol

Mewn ymateb i bandemig y coronafeirws (COVID-19), mae gwybodaeth ddyddiol am gofal iechyd wedi cael ei chasglu'n benodol er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG. Mae'r datganiad yn cynnwys ffigurau ar welyau cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, derbyniadau cleifion cysylltiedig â COVID-19 i'r ysbyty, a'r nifer a aeth i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys.

Prif bwyntiau

  • Mae nifer y derbyniadau dyddiol newydd o bobl sydd ag achos a amheuir, neu achos wedi'i gadarnhau o COVID-19 yn codi ac yn gostwng yn ddyddiol. Ers 9 Rhagfyr, mae'r cyfartaledd treigl 7 diwrnod ar gyfer derbyniadau i'r ysbyty gydag achos wedi cynyddu yn gyffredinol, fodd bynnag mae’r cyfartaledd treigl 7 diwrnod wedi gostwng ar gyfer yr wythnos 13 Ionawr i 19 Ionawr 2021. Yn y 7 diwrnod diwethaf chafodd 117 o bobl ar gyfartaledd eu derbyn i'r ysbyty gydag achos wedi'i gadarnhau neu achos a amheuir o COVID-19, i’w cymharu â 131 yn yr wythnos hyd at 12 Ionawr 2021.
  • Mae cyfanswm nifer y gwelyau gyda chleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) wedi gweld cynnydd cyffredinol ers diwedd mis Medi 2020 a chyrhaeddodd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 gydag 2,879 o gleifion.
  • Ar 19 Ionawr 2021, roedd cleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) cysylltiedig mewn 2,700 o welyau gan gyfrif am 34% o'r holl dderbyniadau i'r ysbyty. Mae hyn yn ostyngiad o 2,879 o welyau (179 llai o welyau sy’n llawn) o’i gymharu â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol. (36% o’r holl gleifion).
  • Ar 19 Ionawr 2021, roedd cleifion COVID-19 wedi'u cadarnhau cysylltiedig mewn 1,476 o welyau (134 llai o welyau sy’n llawn). Mae hon yn ostyngiad i'w gymharu â 1,610 ar yr un diwrnod yn yr wythnos flaenorol.
  • Ar 19 Ionawr 2021, roedd 137 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella). Mae hon yn cymharu â 150 o welyau (13 llai o welyau sy’n llawn) â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol ac yn cymharu â 164 (27 llai o welyau sy’n llawn)  ar y brig ym mis Ebrill 2020.

Mae tablau cysylltiedig ar gael am y datganiad hwn, gan gynnwys yr holl ddata isod a hefyd data ar welyau cyffredinol ac acíwt.

Mae ystadegau am alwadau a wnaed i 111 a Galw Iechyd Cymru, absenoldeb staff y GIG a galwadau brys am ambiwlans ar gael ar StatsCymu yn ogystal â’r holl ystadegau eraill yn y datganiad hwn. Yn ogystal, cyhoeddir gwybodaeth am welyau, nifer y cleifion yn yr ysbyty a derbyniadau i’r ysbyty ar ddyddiau'r wythnos ar StatsCymru am 12yp ac mae hyn yn cynnwys data hyd at y diwrnod cynt. Ar ôl 12yp ar ddydd Iau, ni fydd y data a ddangosir yn y datganiad yma yn cynnwys y data cyhoeddedig diweddaraf. Fodd bynnag, mae'r datganiad wythnosol yma yn rhoi sylwebaeth ychwanegol ar dueddiadau yn y data.

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol. Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar riportio gwybodaeth reoli, ansawdd data a thryloywder.

2. Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Mae'r adran hon yn sôn am nifer y cleifion cysylltiedig â COVID-19 a gafodd eu derbyn i'r ysbyty, a'r gwelyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG yn ystod pandemig COVID-19.

Mae'r mathau o ysbytai mae’r adroddiad yn trafod wedi newid dros amser, am fwy o wybodaeth, gwelwch adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg.

2.1 Derbyniadau i ysbytai

Image
Mae Siart 1 yn dangos y nifer y cleifion sy'n cael eu derbyn i'r ysbyty bob dydd gyda COVID-19 wedi'i gadarnhau neu yr amheuir ei fod rhwng 1 Ebrill 2020 a 19 Ionawr 2021. Ers dechrau mis Rhagfyr, mae derbyniadau wedi cynyddu, ond mae'r ffigyrau dyddiol yn gyfnewidiol iawn.

Cleifion a dderbyniwyd i’r ysbyty yr amheuir neu y cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Mae derbyniadau'n cyfeirio at y nifer o gleifion a dderbyniwyd i'r ysbyty rhwng 9am ar ddyddiad y diweddariad a 9am y diwrnod blaenorol. Mae derbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn cynnwys cleifion sydd â COVID-19 neu gleifion yr amheuir bod ganddynt COVID-19.

Ar 13 Mawrth, cyhoeddodd y Gweinidog Iechyd y dylai pob gweithgarwch nad oedd yn frys stopio er mwyn paratoi ar gyfer y pandemig. Ar ôl ailgyflwyno triniaethau dewisol o fis Mehefin 2020 ymlaen, cafodd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ac yr amheuwyd bod ganddynt COVID-19 eu cofnodi i ddechrau ymhlith y derbyniadau COVID-19, hyd yn oed os oeddent yn cael prawf negatif yn nes ymlaen. Arweiniodd hyn at ymchwydd yn nifer yr achosion a amheuir yn yr ysbyty ar yr adeg adrodd. O 29 Mehefin, roedd cleifion a dderbyniwyd ar gyfer triniaethau dewisol ddim ond yn cael eu cynnwys mewn derbyniadau COVID-19 os oeddent yn derbyn canlyniad prawf positif am COVID-19 wrth gyrraedd yr ysbyty. Ers y 3ydd o Orffennaf, diweddarwyd y canllawiau i gynnwys derbyniadau brys yn unig yn y ffigurau derbyniadau sy’n gysylltiedig â COVID-19.

O 29 Mehefin ymlaen, newidiodd y canllawiau hefyd i ofyn yn benodol i fyrddau iechyd eithrio trosglwyddiadau rhwng ysbytai acíwt ac ysbytai cymunedol o'r ffigurau derbyniadau. Cyn hyn, mae'n bosibl bod rhai trosglwyddiadau wedi cael eu cofnodi fel derbyniadau newydd.

Ar 19 Ionawr 2021

  • Mae anwadalrwydd yn y niferoedd dyddiol o dderbyniadau dyddiol newydd gydag achos wedi'i gadarnhau neu achos a amheuir o COVID-19.
  • Ers 9 Rhagfyr 2020, mae'r cyfartaledd treigl 7 diwrnod ar gyfer derbyniadau i'r ysbyty gydag achos posibl neu wedi’u cadarnhau o COVID-19 wedi cynyddu yn gyffredinol, fodd bynnag mae’r cyfartaledd treigl 7 diwrnod wedi gostwng o’r wythnos i 12 Ionawr 2021.
  • Yn y 7 diwrnod diwethaf, cafodd 117 o bobl ar gyfartaledd eu derbyn i'r ysbyty gydag achos wedi'i gadarnhau neu achos a amheuir o COVID-19, i’w cymharu â 131 yn yr wythnos hyd at 12 Ionawr 2021.

2.2 Nifer y bobl yn yr ysbyty

Image
Mae Siart 2 yn dangos y nifer y bobl yn yr ysbyty a gadarnhawyd, a adferodd neu a amheuir gyda COVID-19 rhwng 1 Ebrill 2020 a 19 Ionawr 2021. Ers mis Medi mae’r nifer y cleifion wedi’u cadarnhau gyda COVID-19 wedi bod yn cynyddu i’w lefel uchaf. • Mae’r nifer y cleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) yn yr ysbyty wedi cyrraedd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 ers i’r gyfres ddechrau gyda 2,789 o gleifion.

Nifer y bobl yn yr ysbyty fel rhai a posibl, a sydd wedi'u cadarnhau neu sy'n gwella gyda COVID-19, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Cyflwynwyd y categori cleifion sy'n gwella ar 26 Mai er mwyn casglu gwybodaeth am gleifion oedd â COVID-19 wedi'i gadarnhau yn yr ysbyty ond nad oedd yn dangos unrhyw symptomau am 14+ o ddiwrnodau, ond a arhosodd yn yr ysbyty ar lwybr triniaeth COVID-19, yn aml er mwyn adsefydlu. Bu rhai gwahaniaethau o ran adrodd gan fyrddau iechyd yn y gyfres amser sy'n amlinellu'n fanylach yn yr adran Ansawdd Allweddol.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar y adrodd cleifion sy’n gwella.

Ar 19 Ionawr 2021

  • Mae’r nifer y cleifion wedi’u cadarnhau gyda COVID-19 wedi gweld cynnydd cyffredinol ers mis Medi 2020 a chyrhaeddodd ei lefel uchaf ar 4 Ionawr 2021 gydag 1,643 o gleifion.  
  • Roedd 2,700 o welyau gyda chleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) gan gyfrif am 34% o'r holl gleifion yn yr ysbyty. Mae hyn yn ostyngiad o 2,879 o welyau (179 llai o welyau sy’n llawn) o’i gymharu â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol (36% o’r holl gleifion).
  • Mae cyfanswm nifer y gwelyau gyda chleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) wedi gweld cynnydd cyffredinol ers diwedd mis Medi 2020 a chyrhaeddodd ei lefel uchaf ar 12 Ionawr 2021 gydag 2,879 o gleifion.
  • Roedd 1,476 cleifion COVID-19  sydd wedi'u cadarnhau. Mae hyn yn ostyngiad o 1,610 (134 llai o welyau sy’n llawn) â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol
  • Roedd 134 o welyau gyda chleifion posibl COVID-19 ac 1,090 o welyau gyda chleifion COVID-19 sy’n gwella.

2.3 Gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol

Image
Mae Siart 3 yn dangos y nifer o welyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol rhwng 1 Ebrill 2020 a 19 Ionawr 2021. Mae nifer y gwelyau ymledol a feddiannir gan gleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) wedi lleihau ers uchafbwynt yng nghanol Ebrill. Mae nifer y gwelyau ymledol a feddiannir gan gleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) wedi bod yn cynyddu ers mis Medi.

Nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn ôl defnydd, o 1 Ebrill 2020 (MS Excel)

Nodyn

Ystyr rhif gwaelod yw nifer o welyau roedd ar gael cyn i’r pandemig. Fel arfer mae 152 gwelyau gofal critigol yng Nghymru. Mae nifer y gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol yn cynnwys capasiti ar gyfer ymchwydd dros dro, a gwelyau y tu mewn a’r tu allan i amgylchedd gofal critigol. Cynhwysir cleifion COVID-19 yn y siart cleifion posibl o COVID-19, cleifion sydd wedi'u cadarnhau, a chleifion sy’n gwella.

Ers Mehefin 2020, mae ysbytai wedi dechrau cau rhywfaint o’r capasiti ychwanegol a oedd wedi’i sefydlu ar gyfer cynydd yn nifer y cleifion yn sgil pandemig COVID-19.

Ers 19 Hydref 2020 mae gwelyau gofal critigol arbenigol wedi cael eu cynnwys yn y ffigurau hyn. Gweler yr adran Gwybodaeth ansawdd a methodoleg am ragor o wybodaeth.

O 13 Tachwedd 2020 ymlaen, dim ond gwelyau gofal critigol y gellid eu staffio sy’n cael eu yna cynnwys fel gwelyau sydd ar gael. Fodd bynnag, ni weithredodd pob bwrdd iechyd y newid hwn ar y dyddiad hwnnw. Yn dilyn diweddariad i'r canllawiau, gweithredodd mwy o fyrddau iechyd lleol y newid hwn o 4 Rhagfyr 2020 ymlaen. Gweler yr adran Gwybodaeth ansawdd a methodoleg am ragor o wybodaeth.

O 18 Ionawr 2021, ni ddylid cyfrif unrhyw gleifion sy'n defnyddio gwely lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (gwely gofal critigol) fel cleifion COVID-19 sy'n "gwella" gan eu bod yn parhau i angen lefel uchel o ofal. Bydd unrhyw glaf y nodwyd ei fod yn "gwella" yn cael ei gyfrif nawr o dan "wedi'u cadarnhau". Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y cleifion COVID-19 “wedi’u cadarnhau” sy’n defnyddio gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (cynnydd o tua 14 o gleifion ar y pwynt o weithredu) ac ni fydd unrhyw welyau o’r fath yn cael eu dangos fel rhai sy’n cael eu defnyddio can gleifion sy’n “gwella”. Ni fydd y newid yma yn cael unrhyw effaith ar gyfanswm nifer y cleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19.

Ar 19 Ionawr 2021:

  • Mae nifer y gwelyau ymledol a feddiannir gan gleifion COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella) wedi lleihau ers uchafbwynt yng nghanol Ebrill. Mae nifer y gwelyau ymledol cymorth anadlu a feddiannir wedi bod yn cynyddu yn gyffredinol ers mis Medi 2020.
  • Roedd 137 o welyau cymorth anadlu mewnwthiol mewn defnydd gan gleifion cysylltiedig â COVID-19 (posibl, sydd wedi'u cadarnhau, ac sy’n gwella). Mae hon yn cymharu â 150 o welyau (13 llai o welyau sy’n llawn) â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol ac yn cymharu â 164 (27 llai o welyau sy’n llawn) ar y brig ym mis Ebrill 2020.
  • Roedd 45 o welyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol wag y gellid eu staffio. Mae hon yn cymharu â 39 o welyau (6 mwy o welyau) â’r un diwrnod yn yr wythnos flaenorol.

Mae gwybodaeth am ofal iechyd a gyflwynir ar ddangosfwrdd COVID-19 Llywodraeth y DU ac ar ddangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r cyhoeddiad hwn. Gweler yr adran gwybodaeth ansawdd a methodoleg i gael rhagor o wybodaeth.

3. Derbyniadau i adrannau DacAB

Mae'r adran hon yn sôn am dderbyniadau i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys er mwyn sicrhau tryloywder a meithrin dealltwriaeth o weithgarwch a chapasiti'r GIG yn ystod pandemig COVID-19.

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Gweler blog y Prif Ystadegydd am ragor o wybodaeth ar riportio gwybodaeth reoli, ansawdd data a thryloywder.

Image
Mae Siart 4 yn dangos bod mae nifer y mynychiadau damweiniau ac achosion brys wedi gostwng yn sydyn o ganol mis Mawrth i oddeutu hanner y nifer flaenorol, yna'n dringo'n araf o ddechrau mis Ebrill tan fis Awst, pan oeddent yn agos at lefelau cyn-bandemig. Ym mis Medi, dechreuodd y nifer y mynychiadau damweiniau ac achosion brys leihau eto, ond er cynnydd bach yn rhai wythnosau ym mis Tachwedd mae’n parhau i fod yn is na’r cyfartaledd pum mlynedd.

Nifer y derbyniadau dyddiol i adrannau Damweiniau ac Achosion Brys, o 1 Chwefror 2020 (MS Excel)

Nodyn

Gan gynnwys derbyniadau i ysbytai Mawr a Bach 2020, drwy bob dull cludo, ar draws Cymru. Nid yw rhai unedau bach Damweiniau ac Argyfwng yn gallu cyflwyno data dyddiol, felly mae'n debyg bod tangyfrif bach yn y cyfanswm sy’n mynychu. Mae'r cyfartaledd pum mlynedd yn defnyddio data o'r blynyddoedd 2015-2019. Ar gyfer y data ar 29 Chwefror, dim ond data o'r flwyddyn 2016 a 2021 sydd wedi'u cynnwys.

Prif bwyntiau

Mae nifer y mynychiadau damweiniau ac achosion brys wedi gostwng yn sydyn o ganol mis Mawrth i oddeutu hanner y nifer flaenorol, yna'n dringo'n araf o ddechrau mis Ebrill tan fis Awst, pan oeddent yn agos at lefelau cyn-bandemig. Ym mis Medi, dechreuodd y nifer y mynychiadau damweiniau ac achosion brys leihau eto.

4. Gwybodaeth ansawdd a methodoleg

Daw'r data dod o wybodaeth reoli ac maent yn destun newid. Ni fuont yn destun i’r un prosesau dilysu a gynhaliwyd ar gyfer datganiadau ystadegau swyddogol. Fodd bynnag, fe'u darperir i gefnogi tryloywder a dealltwriaeth o weithgaredd y GIG ar yr adeg hon. Dylai'r ystadegau swyddogol barhau i gael eu hystyried yn ffynhonnell ddata awdurdodol.

Mae’n bosibl y bydd data hanesyddol wedi'u diwygio ac na fyddant, felly, yn union yr un fath â'r hyn a gyhoeddwyd o’r blaen.

Gweithgaredd a chapasiti ysbyty

Yn dilyn gwaith dilysu pellach, penderfynwyd nad oedd cwmpas data cyn 1 Ebrill 2020 ar gyfer derbyniadau, cyfnodau yn yr ysbyty a defnydd gwelyau yn addas i’w gyhoeddi. Felly, bydd y gyfres amser yn dechrau ar 1 Ebrill 2020.

Mae ffigurau ar weithgarwch a chapasiti ysbytai a defnydd gwelyau yn cynnwys data o ysbytai acíwt o 1 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai maes o 20 Ebrill 2020 ymlaen, ysbytai cymunedol o 23 Ebrill 2020 ymlaen ac unedau iechyd meddwl o 10 Gorffennaf 2020 ymlaen, ac yn eithrio data o ysbytai preifat.

Cafodd data o unedau iechyd meddwl eu cynnwys yn ôl-weithredol o 10 Gorffennaf am y tro cyntaf yn natganiad 20 Awst 2020. Cafodd cynnwys gwelyau iechyd meddwl effaith fach ar ffigurau cleifion COVID-19 ond effaith fawr ar yr holl ffigurau ysbytai, gan nad yw’r rhan fwyaf o gleifion iechyd meddwl yn gleifion COVID-19.

O 19 Hydref, mae data ar gyfer gwelyau gofal critigol arbenigol (fel y rhai Llosgi a Phlastig yn Nhreforys) a gwelyau acíwt arbenigol eraill (fel rhai mamolaeth) dros safleoedd acíwt eraill wedi eu cynnwys. Mae’r gwelyau hyn wedi cael eu cynnwys yn y data gan eu bod yn rhan o’r stoc o welyau sydd ar gael, a gellid eu defnyddio ar gyfer cleifion COVID-19 mewn amgylchiadau eithriadol. Nid oes cleifion COVID-19 yn y mwyafrif o’r gwelyau hyn. Nid yw cynnwys y rhain felly yn cael fawr effaith ar nifer y gwelyau â chleifion COVID-19 ond mae’r effaith yn fwy ar nifer y gwelyau gweigion a’r rheini sydd â chleifion sydd ddim â COVID-19.

O 13 Tachwedd ymlaen, dim ond gwelyau gofal critigol y gellid eu staffio sy’n cael eu cynnwys fel gwelyau sydd ar gael. Cyn hynny roedd pob gwely gofal critigol wedi cael ei gynnwys, p’un a ellid staffio’r gwely hwnnw ai peidio. Fodd bynnag, ni weithredodd pob bwrdd iechyd y newid hwn ar y dyddiad hwnnw. Yn dilyn diweddariad i'r canllawiau, gweithredodd mwy o fyrddau iechyd lleol y newid hwn o 4 Rhagfyr ymlaen.

O 16 Tachwedd, bydd data’n cael eu cynnwys o’r ganolfan arbenigol a gofal critigol newydd; Ysbyty Athrofaol y Faenor ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan. Mae agor yr ysbyty newydd wedi arwain at gynnydd yn nifer y gwelyau sydd ar gael gan oddeutu 450 o welyau.

Aneurin Bevan adrodd am gleifion a oedd yn gwella o 7 Mehefin ymlaen, ond cofnodwyd y rhain yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau cyn hynny. Roedd Caerdydd a'r Fro yn cyfrif cleifion a oedd yn gwella fel cleifion heb COVID-19 rhwng 1 Mai a 22 Mai. Ar ôl newid y canllawiau, rhoddodd Caerdydd a'r Fro y cleifion hyn mewn categori arall fel cleifion COVID-19, gan eu cofnodi yn y categori COVID-19 wedi'i gadarnhau, tan i'r categori gwella gael ei gyflwyno ar 26 Mai.

O 18 Ionawr 2021, ni ddylid cyfrif unrhyw gleifion sy'n defnyddio gwely lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (gwely gofal critigol) fel cleifion COVID-19 sy'n "gwella" gan eu bod yn parhau i angen lefel uchel o ofal. Bydd unrhyw glaf y nodwyd ei fod yn "gwella" yn cael ei gyfrif nawr o dan "wedi'u cadarnhau". Bydd hyn yn arwain at gynnydd yn y cleifion COVID-19 “wedi’u cadarnhau” sy’n defnyddio gwelyau lle darperir cymorth anadlu mewnwthiol (cynnydd o tua 14 o gleifion ar y pwynt o weithredu) ac ni fydd unrhyw welyau o’r fath yn cael eu dangos fel rhai sy’n cael eu defnyddio can gleifion sy’n “gwella”. Ni fydd y newid yma yn cael unrhyw effaith ar gyfanswm nifer y cleifion sy'n gysylltiedig â COVID-19.

Cymaroldeb

Gweler dangosfwrdd Llywodraeth y DU i gael gwybodaeth am gofal iechyd ar lefel y DU. Nodwch bod y data gofal iechyd a gyflwynwyd yn nangosfwrdd y DU yn wahanol i’r cyhoeddiad hwn. Mae dangosfwrdd y DU yn cynnwys data ar gyfer ysbytai acíwt i alluogi dwyn gwell cymhariaeth â gwledydd eraill, ond mae’r cyhoeddiad hwn yn cynnwys data o ysbytai acíwt, cymunedol a maes er mwyn darparu golwg mwy cyflawn o’r system yng Nghymru . Cyhoeddir amcangyfrifon o nifer y bobl a gafodd y coronafeirws yng Nghymru a Lloegr hefyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn yr Arolwg o Heintiadau Coronafeirws

Sylwch fod y data gwyliadwraeth gofal iechyd a gyflwynir yn nangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn wahanol i'r hyn sydd yn y cyhoeddiad hwn. Mae dangosfwrdd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn defnyddio data a gesglir yn systematig drwy ICNET, y system data rheoli heintiau mewn ysbytai a ddefnyddir ledled Cymru. Mae'n cynnwys cleifion mewnol mewn ysbytai sydd wedi cael cadarnhad o’u prawf drwy labordy ac nid yw'n cyfrif unrhyw gleifion a gafodd eu derbyn a'u rhyddhau yr un diwrnod.

Mae cyhoeddiad Llywodraeth Cymru yn defnyddio data a geir o wybodaeth reoli ddyddiol a ddarperir gan fyrddau iechyd. Darparwyd canllawiau ar gwblhad a chyflwyniad y casgliad data i fyrddau iechyd lleol. Gall dulliau casglu data amrywio o un bwrdd iechyd i’r llall. Mae'n cynnwys cleifion yr amheuir bod y clefyd arnynt, cleifion y cadarnhawyd ei fod arnynt a chleifion sy’n gwella ohono. Mae hefyd yn cynnwys cleifion nad yw COVID-19 arnynt.

Bydd y diffiniad culach a ddefnyddir gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn debygol o arwain at nifer lai o dderbyniadau sy'n gysylltiedig â COVID o gymharu â'r hyn a gyhoeddir gan Lywodraeth Cymru, ond mae'n ddull systematig o gynnal gwyliadwriaeth ar gleifion y mae angen iddynt aros yn yr ysbyty os cadarnhawyd bod COVID-19 arnynt.

Statws Ystadegau Gwladol

Nid yw’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol. Ond cyn belled ag sy’n ymarferol, maent wedi’u casglu a’u dilysu yn unol â’r pileri a’r egwyddorion yn y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rydym yn parhau i ddatblygu’r data a gasglwyd a’r broses sicrwydd ansawdd i wella’r data.

Cynhyrchwyd yr ystadegau hyn yn gyflym mewn ymateb i ddatblygiadau ar draws y byd.

Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (WFG)

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae’r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru sef Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynol a diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn  ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) gyhoeddi dangosyddion (“dangosyddion cenedlaethol” sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol. Cafodd y 46 o ddangosyddion cenedlaethol eu gosod ym Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a'r wybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn adroddiad Llesiant Cymru.

Gwybodaeth bellach am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Diweddariad nesaf

Bydd y datganiad nesaf am 9.30yb ddydd Iau 28 Ionawr.

5. Manylion cyswllt

Ystadegydd: Alex Fitzpatrick
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Ffôn: 0300 025 5050
E-bost: kas.covid19@llyw.cymru

Cyfryngau: 0300 025 8099

SFR 21/2021