Neidio i'r prif gynnwy

Beth yw'r ystadegau hyn?

Mae ystadegau ar werthiannau tai cymdeithasol yn rhoi crynodeb o faint o dai cymdeithasol sy'n cael eu gwerthu gan landlordiaid cymdeithasol, gan gynnwys awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig)

Yn ogystal â'r wybodaeth isod, mae rhagor o wybodaeth ar gael yn Adroddiad ansawdd ystadegau tai sydd ar gael ar ein gwefan.

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol

Hanfod Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol 2015 yw gwella llesiant cymdeithasol, economaidd, amgylcheddol a diwylliannol Cymru. Mae'r Ddeddf yn sefydlu saith nod llesiant i Gymru. Mae'r rhain er mwyn sicrhau Cymru fwy cyfartal, llewyrchus, cydnerth, iach a chyfrifol ar lefel fyd-eang, gyda chymunedau cydlynus a diwylliant bywiog lle mae'r Gymraeg yn ffynnu. O dan adran (10)(1) o’r Ddeddf, rhaid i Weinidogion Cymru (a) cyhoeddi dangosyddion (‘dangosyddion cenedlaethol’ sy’n gorfod cael eu cymhwyso at ddibenion mesur cynnydd tuag at gyflawni’r nodau llesiant, a (b) gosod copi o’r dangosyddion cenedlaethol gerbron Senedd Cymru. O dan adran 10(8) o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, pan fydd Gweinidogion Cymru yn diwygio'r dangosyddion cenedlaethol, rhaid iddynt, cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol (a) cyhoeddi'r dangosyddion fel y'u diwygiwyd a (b) gosod copi ohonynt gerbron y Senedd. Cafodd y dangosyddion cenedlaethol hyn eu gosod gerbron y Senedd yn 2021. Mae'r dangosyddion a osodwyd ar 14 Rhagfyr 2021 yn disodli'r set a osodwyd ar 16 Mawrth 2016.

Mae gwybodaeth am y dangosyddion, ynghyd â naratif ar gyfer pob un o'r nodau llesiant a gwybodaeth dechnegol gysylltiedig ar gael yn Adroddiad Llesiant Cymru.

Rhagor o wybodaeth am Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.

Gallai’r ystadegau a ddefnyddir yn y datganiad hwn hefyd ategu’r dangosyddion cenedlaethol a chael eu defnyddio gan fyrddau gwasanaethau lleol mewn perthynas â’u hasesiadau llesiant a’u cynlluniau llesiant lleol.

Cefndir

Dylanwadir ar y ffordd mae deiliadaeth y stoc annedd bresennol yn cael ei dosbarthu gan landlordiaid cymdeithasol yn gwerthu tai, drwy gynlluniau Hawl i Brynu a chynlluniau eraill. Mae anheddau sy'n cael eu gwerthu gan awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn ystod y flwyddyn yn dod yn anheddau sector preifat. Felly bydd gwerthiannau'n arwain at gynnydd yn nifer y tai stoc breifat – bydd ffactorau eraill fel adeiladu tai newydd ac addasu tai hefyd yn effeithio ar lefelau stoc breifat.

O fis Mawrth 2011, roedd Mesur Tai (Cymru) 2011 yn galluogi awdurdodau tai lleol i wneud cais i atal yr Hawl i Brynu a hawliau cysylltiedig mewn ardaloedd lle roedd pwysau oherwydd prinder tai, am hyd at bum mlynedd. Cafodd cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael eu hatal gan saith awdurdod lleol – Ynys Môn, Powys, Caerdydd, Sir Gaerfyrddin, Sir Ddinbych, Sir y Fflint ac Abertawe. Mae'n bosibl bod ceisiadau i atal yr Hawl i Brynu a'r Hawl i Gaffael wedi dylanwadu ar nifer y gwerthiannau statudol o fewn yr awdurdodau hyn yn y cyfnod cyn i'r atal dros dro ddod i rym.

Yn ystod 2015, ymgynghorodd Llywodraeth Cymru ar yr ymgynghoriad ar y cynigion ar ddyfodol y cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael. Roedd yr ymgynghoriad yn ceisio barn ar y ddau gynnig canlynol:

  1. Newid y ddeddfwriaeth bresennol – byddai gwneud hyn yn lleihau y disgownt uchaf sydd ar gael i denant sy'n gwneud cais i brynu ei dŷ gan y Cyngor neu gan Landlord Cymdeithas Dai;
  2. Datblygu deddfwriaeth newydd – byddai gwneud hyn yn dod â’r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael i ben, os caiff ei phasio gan y Cynulliad Cenedlaethol (Senedd Cymru erbyn hyn).

Ar 14 Gorffennaf 2015, cafodd y disgownt uchaf sydd ar gael ar gyfer prynu eiddo drwy’r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael ei leihau o £16,000 to £8,000. Gwnaed y newid hwn o dan Orchymyn Tai (Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael) (Terfynau'r Disgownt) (Diwygio) (Cymru) 2015.

Cafodd Bil Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) ei gyflwyno ym mis Mawrth 2017, a derbyniodd Gydsyniad Brenhinol fel Deddf Diddymu’r Hawl i Brynu a Hawliau Cysylltiedig (Cymru) 2018 ar 24 Ionawr 2018. Mae'r Ddeddf yn diddymu holl amrywiadau'r Hawl i Brynu, gan gynnwys yr Hawl i Brynu a Gadwyd. I sicrhau bod tenantiaid yn gwybod bod yr Hawl i Brynu yn dod i ben, roedd y Ddeddf yn ei gwneud y ofynnol i Lywodraeth Cymru gyhoeddi gwybodaeth, yr oedd yn rhaid i landlordiaid cymdeithasol ei rhoi i denantiaid yr effeithiwyd arnynt, o fewn dau fis i'r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol.

Er mwyn hybu datblygu stoc tai newydd, ac i ddiogelu buddsoddiadau ddiweddar, daeth yr Hawl i Brynu a’r Hawl i Gaffael i ben ar gyfer cartrefi newydd ddau fis ar ôl i'r Bil dderbyn Cydsyniad Brenhinol ar 24 Mawrth 2018. 'Cartref newydd’ yw un nad yw wedi cael ei osod fel tŷ cymdeithasol yn ystod y chwe mis cyn 24 Mawrth 2018. Ar gyfer stoc tai cymdeithasol a oedd eisoes yn bodoli, cafodd yr hawliau eu diddymu’n derfynol ar 26 Ionawr 2019.

Er nad oes gennym unrhyw dystiolaeth benodol o sut y gallai tenantiaid fod wedi ymateb i'r ddeddfwriaeth, mae'n debyg ei bod wedi effeithio ar y rhai a oedd yn gwneud cais i ddefnyddio'r cynlluniau hyn cyn iddynt gael eu diddymu'n derfynol ym mis Mawrth 2018 (ar gyfer cartrefi newydd) a mis Ionawr 2019 (ar gyfer stoc a oedd eisoes yn bodoli).

Er i'r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael ddod i ben ym mis Ionawr 2019, cafodd nifer o werthiannau statudol eu cwblhau drwy'r cynlluniau Hawl i Brynu a Hawl i Gaffael yn y blynyddoedd wedyn, am fod estyniadau wedi cael eu cymeradwyo ar gyfer y gwerthiannau hyn am amryw resymau.

Cyd-destun Polisi a Gweithredol

Mae'r wybodaeth am werthiannau tai cymdeithasol yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru, yn ogystal ag awdurdodau lleol, i fonitro tueddiadau mewn perthynas â gwerthiannau tai cymdeithasol yng nghyd-destun lefel gyffredinol y stoc dai yng Nghymru. Mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio gan Lywodraeth Cymru i fonitro effeithiolrwydd polisïau ac i ddatblygu polisïau ar gyfer y dyfodol. Mae'n bosibl hefyd y bydd yr wybodaeth yn cael ei defnyddio i fonitro effaith diwygio lles a newidiadau i fudd-dal tai.

Pwy sy'n eu defnyddio a sut

Mae'r wybodaeth hon yn cael ei chasglu i asesu lefel y gwerthiannau tai gan landlordiaid cymdeithasol ledled Cymru yn ystod y cyfnod. Mae'r data yn cael eu defnyddio i helpu i fonitro tueddiadau o fewn lefel gyffredinol y stoc dai yng Nghymru. Mae'r data yn cael eu defnyddio hefyd gan Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i asesu lefel a math y cyflenwad tai ledled Cymru ac yn ffordd o fesur a yw'r angen o ran tai yn cael ei ddiwallu.

Yn fwy cyffredinol mae'r wybodaeth yn cael ei defnyddio at y dibenion canlynol:

  • monitro tueddiadau tai
  • datblygu polisïau
  • rhoi cyngor i Gweinidogion
  • arwain trafodaethau yn Senedd Cymru a'r tu hwnt, proffilio daearyddol, gwneud cymariaethau a meincnodi

Mae amrywiaeth o bobl yn defnyddio'r ystadegau hyn gan gynnwys llywodraeth genedlaethol a lleol, ymchwilwyr, academyddion a myfyrwyr. I gael rhagor o wybodaeth am bwy sy'n defnyddio'r wybodaeth a sut, gweler Adroddiad ansawdd ystadegau tai.

Ffynhonnell a chwmpas y data

Mae Gwybodaeth yn cael ei chasglu bob blwyddyn gan ddefnyddio taenlenni Excel, a lawrlwythir o wefan ffeiliau Afon, sef cyfrwng diogel i ddefnyddwyr ddarparu data. Mae copïau o ffurflenni casglu data ar werthiannau tai cymdeithasol ar gael.

Mae rhagor o wybodaeth am y cylch prosesu data ar gael hefyd yn Adroddiad ansawdd ystadegau tai sydd ar gael ar ein gwefan.

Cafodd data eu casglu ar gyfer 2022-23 oddi wrth yr holl awdurdodau lleol yr oedd ganddynt stoc ar 31 Mawrth 2023 a'r holl landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ar 31 Mawrth 2023, gan gynnwys cymdeithasau Abbeyfield, Elusennau Amlshouse a chymdeithasau cyfberchnogaeth.

Bydd y lefelau uchel o stoc awdurdodau lleol a gafodd eu trosglwyddo'n wirfoddol wedi dylanwadu ar ganran y stoc tai cymdeithasol a reolir gan landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Roedd yr holl drosglwyddiadau'n cynnwys 100% o'r stoc awdurdodau lleol. Isod mae rhestr o'r stoc awdurdodau lleol a gafodd ei throsglwyddo'n wirfoddol ar raddfa fawr i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Stoc awdurdodau lleol a gafodd ei throsglwyddo'n wirfoddol ar raddfa fawr i landlordiaid cymdeithasol cofrestredig

Awdurdod lleol

Dyddiad trosglwyddo

Landlord Cymdeithasol Cofrestredig

Pen-y-bont ar Ogwr

12 Medi 2003

Cymoedd i'r Arfordir

Rhondda Cynon Taf

10 Rhagfyr 2007

Cartrefi RCT

Sir Fynwy

17 Ionawr 2008

Cymdeithas Tai Sir Fynwy

Torfaen

1 Ebrill 2008

Tai Cymunedol Bron Afon

Conwy

29 Medi 2008

Cartrefi Conwy

Casnewydd

9 Mawrth 2009

Cartrefi Dinas Casnewydd

Merthyr Tudful

20 Mawrth 2009

Cartrefi Cymoedd Merthyr

Ceredigion

30 Tachwedd 2009

Tai Ceredigion

Gwynedd

12 Ebrill 2010

Cartrefi Cymunedol Gwynedd

Blaenau Gwent

26 Gorffennaf 2010

Tai Cymunedol Tai Calon

Castell-nedd Port Talbot

5 Mawrth 2011

Cartrefi NPT

Safonau

Mae Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig wedi dynodi’r ystadegau hyn yn Ystadegau Gwladol, yn unol â Deddf Gwasanaeth Ystadegau a Chofrestru 2007, gan gadarnhau eu bod yn cydymffurfio â’r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau

Mae statws Ystadegau Gwladol yn golygu bod yr ystadegau swyddogol yn bodloni’r safonau uchaf o ran dibynadwyedd, ansawdd a gwerth i’r cyhoedd.

Dylai unrhyw ystadegau swyddogol gydymffurfio â phob agwedd ar y Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Rhoddir statws Ystadegau Gwladol iddynt yn dilyn asesiad gan adain reoleiddio Awdurdod Ystadegau'r Deyrnas Unedig. Mae’r Awdurdod yn ystyried a yw’r ystadegau yn bodloni’r safonau uchaf o ran cydymffurfio â’r Cod, gan gynnwys y gwerth y maent yn ei ychwanegu at benderfyniadau cyhoeddus a thrafodaethau cyhoeddus.

Cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cydymffurfio â’r safonau a ddisgwylir gan Ystadegau Gwladol. Os ydym yn pryderu nad yw’r ystadegau hyn yn bodloni’r safonau priodol, byddwn yn trafod hyn yn brydlon â’r Awdurdod. Gall statws Ystadegau Gwladol gael ei ddiddymu unrhyw bryd os na chaiff y safonau uchaf eu cynnal, a gellir ei adfer unwaith eto pan fodlonir y safonau.

Sicrhau ansawdd data gweinyddol

Mae data'n cael eu casglu oddi wrth awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gan ddefnyddio taenlenni Excel. Mae'r rhain yn cael eu lawrlwytho o wefan ffeiliau Afon, sef cyfrwng diogel i ddefnyddwyr ddarparu data.

Mae'r taenlenni'n caniatáu i'r ymatebwyr ddilysu rhywfaint o'r data cyn eu hanfon i Lywodraeth Cymru. Mae ymatebwyr yn cael cyfle i ddarparu gwybodaeth gyd-destunol hefyd os gwelir bod newidiadau mawr wedi digwydd (er enghraifft, eitemau data wedi newydd mwy na 10% o'u cymharu â'r flwyddyn diwethaf).  Mae hyn eu galluogi i lanhau rhywfaint ar y data cyn eu cyflwyno gan leihau ymholiadau dilynol.

Rhoddir gwybod i awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig am yr amserlen casglu data ymlaen llaw.  Mae hyn yn rhoi digon o amser iddynt gasglu’r wybodaeth, a nodi unrhyw bryderon sydd ganddynt. Mae'r daenlen yn cynnwys canllawiau sy'n helpu defnyddwyr i gwblhau'r ffurflen. 

Mae enghreifftiau o wiriadau dilysu o fewn y ffurflenni'n cynnwys newidiadau o flwyddyn i flwyddyn, croeswirio â thablau data eraill a gwiriadau i wirio bod y data yn rhesymegol gyson.

Ansawdd

Mae ystadegau tai Cymru yn cydymffurfio â Strategaeth Rheoli Ansawdd Ystadegol Llywodraeth Cymru, a hynny yn unol â chwe dimensiwn ansawdd System Ystadegol Ewrop, a restrir yn Egwyddor 4 o'r Cod Ymarfer ar gyfer Ystadegau. Mae rhagor o fanylion ynghylch sut y cydymffurfir â'r rhain yn Adroddiad ansawdd ystadegau tai sy'n cynnwys yr egwyddorion a'r prosesau cyffredinol sy'n sail i gynhyrchu ein hystadegau tai. Mae’r adroddiad yn cynnwys amryw bynciau gan gynnwys diffiniadau, cwmpas, amseroldeb a chymaroldeb.

Isod rhoddir rhagor o wybodaeth nad yw'n cael ei chynnwys yn yr adroddiad ansawdd am ansawdd sy'n berthnasol yn benodol i dai cymdeithasol gwag, gosodiadau ac ôl-ddyledion rhent.

Cywirdeb

Pa mor agos at y canlyniad a amcangyfrifir mae'r gwir werth (anhysbys).

Pan fyddant wedi derbyn y ffurflenni casglu data, mae'r tîm casglu data’n cynnal ail broses ddilysu ac yn gweithio'n agos gyda'r gwahanol fathau o ddarparwyr data i sicrhau bod yr wybodaeth a roddwyd yn gywir ac yn gyson. Hefyd mae cadarnhad yn cael ei geisio ar gyfer nifer fawr o'r unedau yr adroddwyd yn eu cylch. Os oes unrhyw broblemau neu newidiadau annisgwyl yn y data, cysylltir â'r darparwr a gofynnir iddo gadarnhau neu gywiro'r data. Mae copïau o'r ffurflenni casglu data ar gyfer gwerthiannau tai cymdeithasol ar gael ar y wefan.

Cymaroldeb

Cyn 2011-12, roedd gwybodaeth am werthiannau tai cymdeithasol yn cael ei chasglu bob chwarter. Mae'r ffigurau chwarterol wedi cael eu cyfuno i greu cyfansymiau blynyddol y gellir eu cymharu â data ar gyfer 2011-12 ymlaen.

Yn dilyn ymgynghoriad ar newidiadau arfaethedig i'r ffordd roedd data ar Werthiannau Tai Landlordiaid Cymdeithasol yn cael eu casglu, o 2013-14 roedd yr un ffurflen yn cael ei defnyddio ar gyfer landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac awdurdodau lleol. Gwnaed hefyd newidiadau i'r eitemau data a oedd yn cael eu casglu, yn unol â chynhigion yr ymgynghoriad. Gofynnid am wybodaeth am werthu anheddau tai cymdeithasol ac anheddau nad ydynt yn dai gymdeithasol ar wahân. Mae'r newidiadau hyn yn cael eu hadlewyrchu yn y cyhoeddiad.

Newidiadau

Gall diwygiadau godi o ganlyniad i ddigwyddiadau fel awdurdodau lleol neu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yn cyflwyno’r data’n hwyr, neu pan fydd cyflenwr data'n hysbysu Llywodraeth Cymru ei fod wedi cyflwyno gwybodaeth anghywir ac yn ailgyflwyno'r wybodaeth hon. O bryd i'w gilydd, bydd angen newidiadau oherwydd gwallau yn ein prosesau ystadegol. Ym mhob un o'r achosion hyn, bydd angen penderfynu a yw'r newid yn ddigon mawr i gyfiawnhau cyhoeddi datganiad ystadegol diwygiedig.

Lle yr ystyrir nad yw’r newidiadau'n sylweddol, h.y. mân newidiadau, Byddant yn cael eu hymgorffori yn natganiad ystadegol y flwyddyn ganlynol. Ond fe all mân newidiadau gael eu hymgorffori yn nhablau StatsCymru cyn y datganiad nesaf hwnnw.

Nodir data diwygiedig gydar (r) yn y datganiad ystadegol

Rydym yn dilyn Polisi Llywodraeth Cymru ar ddiwygio ystadegau.

Hygyrchedd ac eglurder

Mae hygyrchedd yn golygu pa mor hawdd y gall defnyddwyr gael gafael ar y data, ac mae hefyd yn golygu fformat(au) y data a ph'un a oes gwybodaeth ategol ar gael. Eglurder yw ansawdd a digonedd y metadata, delweddau a chyngor ategol.

Mae ystadegau gwerthiannau tai ar gyfer Cymru yn cael eu cyhoeddi mewn ffordd hygyrch a threfnus, a nodir ymlaen llaw, ar wefan Llywodraeth Cymru am 9.30am ar y diwrnod cyhoeddi.

Anelwn at hysbysu defnyddwyr allweddol hysbys am gyhoeddi'r ystadegau pan gânt eu cyhoeddi. Anfonir e-bost at y Grŵp Gwybodaeth Tai.

Anelwn at ddefnyddio iaith glir yn ein hallbynnau ac mae pob allbwn yn dilyn polisi hygyrchedd Llywodraeth Cymru. Hefyd, cyhoeddir ein holl benawdau yn Gymraeg a Saesneg.

Gellir cael rhagor o wybodaeth am yr ystadegau drwy gysylltu â'r staff perthnasol a nodir ar y datganiad neu drwy ystadegau.tai@llyw.cymru.

Mae set lawn o ddata ar werthiannau tai cymdeithasol, yn ôl i 1981-82, ar gael i'w lawrlwytho o'n gwefan ryngweithiol StatsCymru.

Cydlyniaeth

Amcangyfrifon o'r stoc annedd

Mae amcangyfrifon o gyfanswm y stoc annedd yn cael eu cyfrifo gan Lywodraeth Cymru, ac maent yn seiliedig ar ddata o'r cyfrifiadau poblogaeth. Mae dadansoddiad o'r amcangyfrifon o'r stoc annedd yn ôl deiliadaeth yn cael ei amcangyfrif o wybodaeth o Gyfrifiad 2011 a gwybodaeth o'r Arolwg Blynyddol o'r Boblogaeth, datganiadau awdurdodau lleol a datganiadau landlordiaid cymdeithasol cofrestredig.

Ystadegau cysylltiedig

Rydym yn cyhoeddi amrediad o ystadegau ar y cyflenwad tai. Mae'r rhain yn cynnwys adeiladu tai newydd, darpariaeth tai fforddiadwy a Chymorth i Brynu: Cymru.

Ystadegau cysylltiedig ar gyfer gwledydd eraill y DU

Lloegr

Mae Lloegr yn casglu ac yn cyhoeddi gwybodaeth bob blwyddyn am werthiannau tai gan landlordiaid cymdeithasol ar gyfer awdurdodau lleol, ac yn cyhoeddi rhywfaint o wybodaeth gryno am werthiannau gan Ddarparwyr Cofrestredig (a elwid yn gynt yn landlordiaid cymdeithasol cofrestredig neu gymdeithasau tai). Mae'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer 2021-22 ar gael ar wefan GOV.UK.

Yr Alban

Mae'r Alban yn casglu gwybodaeth bob chwarter am yr holl dai sy'n eiddo i awdurdodau lleol sy'n cael eu gwerthu, gan ddefnyddio dau gasgliad data sy'n wahanol o ran eu cynnwys.

Mae datganiad SALES1 yn casglu gwybodaeth am werthiannau tai sy'n eiddo i awdurdodau lleol yn unig, a cheisiadau i werthu tai o'r fath. Mae'n cynnwys pob gwerthiant, nid tai a werthir i denantiaid cyfredol yn unig. Mae datganiad SALES3 yn seiliedig ar achosion ac yn casglu gwybodaeth am dai a werthir i denantiaid cyfredol yn unig. Mae hyn yn cynnwys gwerthiannau drwy gynlluniau hawl i brynu, gwerthiannau rhent i forgais a gwerthiannau gwirfoddol. Mae'r tablau a gyhoeddwyd ar gael ar wefan Llywodraeth yr Alban.

Mae rhagor o ddata am drafodiadau Hawl i Brynu gan Gymdeithasau Tai yn cael eu cyhoeddi gan Reoleiddiwr Tai yr Alban.

Daeth Deddf Tai (yr Alban) 2014 â'r Hawl i Brynu i ben ar gyfer pob tenant. Daeth y Ddeddf hon i rym yn dilyn cyfnod rhybudd o ddwy flynedd a ddaeth i ben ym mis Awst 2016. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar wefan Llywodraeth yr Alban.

Gogledd Iwerddon

Mae gwybodaeth am werthiannau i denantiaid tai cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon ar gael gan Department of Communities Northern Ireland.

Gwerthuso

Rydym bob amser yn croesawu adborth ar ein hystadegau. Cysylltwch â ni drwy e-bost: ystadegau.tai@llyw.cymru

Cynhyrchwyd gan y Gwasanaethau Gwybodaeth a Dadansoddi, Llywodraeth Cymru

Diweddariad diwethaf: Gorffennaf 2023