Mae’r adroddiad hwn yn cyflwyno canfyddiadau arolwg yn edrych ar farn ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol ynghylch gweithredu’r system Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY).
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Gwerthusiad o'r system Anghenion Dysgu Ychwanegol
Mae'r adroddiad yn crynhoi canfyddiadau arolwg o ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol mewn ysgolion, unedau cyfeirio disgyblion (UCD), Sefydliadau Addysg Bellach (SAB), Sefydliadau Ôl-16 Arbennig Annibynnol, awdurdodau lleol (ALlau) a byrddau iechyd lleol (BILl). Cafwyd cyfanswm o 603 o ymatebion i'r arolwg.
Cafodd holiadur yr arolwg ei lywio gan ddamcaniaeth newid ar gyfer y system ADY a amlinellir yn yr adroddiad cwmpasu a chyflwynir canfyddiadau mewn perthynas â'r themâu allweddol canlynol:
- Gwybodaeth a dealltwriaeth o'r system ADY
- Cefnogaeth i'r gweithlu
- Rôl y CADY
- Adnabod ADY
- Cynllunio
- Darpariaeth
- Prosesau adolygu
- Pontio
- Gweithio gydag eraill
- Canlyniadau
- Y rhwystrau a’r ffactorau sy’n galluogi gweithredu
