Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Adam Griffiths

Cafodd Adam Griffiths ragoriaeth â seren yn ei flwyddyn gyntaf er iddo gael symptomau anewrysm ac aeth ymlaen i ennill Diploma BTEC Lefel 3 mewn Adeiladu a’r Amgylchedd Adeiledig, Diploma Lefel 3 mewn Peirianneg Sifil ar gyfer Technegwyr, Cyfathrebu Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru, Cymhwyso Rhif Lefel 2 Sgiliau Hanfodol Cymru a Hawliau a Chyfrifoldebau Cyflogaeth.

Erbyn hyn, mae Adam, 28 oed, yn gynorthwywr cefnogaeth dechnegol gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Bu ganddo ran allweddol yn datblygu nifer o brosiectau TGCh ac mae ar fin cychwyn ar HND mewn Peirianneg Sifil.