Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Archway Court

Sefydlwyd meithrinfa Archway Court yn 1993 ac mae’n cyflogi 37 aelod o staff, llawn amser a rhan amser, gan gynnig swyddi hyblyg sy’n addas ar gyfer amgylchiadau personol y gweithwyr. Ers iddynt ddechrau cynnig prentisiaethau yn 2014, mae’r feithrinfa wedi cofrestru 17 aelod o staff ar y rhaglen.

Mae’r hyfforddiant yn amrywio o Brentisiaeth Sylfaen mewn Gwaith Chwarae i Brentisiaeth Uwch Lefel 5 mewn Gofal, Addysg a Datblygiad Plant, a gyflenwir gan y darparwr hyfforddiant ITEC. Mae’r feithrinfa’n arbenigo mewn dull dysgu ymarferol, gyda’r prentisiaid yn cael profiad yn y gweithle. Cefnogir y prentisiaid gan aseswyr medrus ac maent yn datblygu’n ymarferwyr o safon uchel sy’n cyfoethogi profiad dysgu’r plant.