Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Billy Brown

Gorbryder difrifol, dim hunan-hyder a dymuniad i ddianc rhag pawb – dyna oedd bywyd arferol Billy Brown ar un adeg. Anaml yr âi i’r ysgol, roedd ei gartref yn llawn anhrefn ac fe gloiodd ei hunan yn ei lofft am dair blynedd.

Fodd bynnag, mae hynny i gyd yn y gorffennol i’r bachgen 18 oed o’r Barri, oherwydd bu’n ddigon dewr i roi ei enw ar gyfer Rhaglen Dîm Ymddiriedolaeth y Tywysog oedd yn cael ei rhedeg gan y darparwr hyfforddiant People BusinessWales Ltd ac yn para tri mis. Dri mis ar ôl dechrau ar y rhaglen Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) mwynhaodd Billy bythefnos o flas ar waith gyda Crystal IT a gwnaeth ffrindiau ar arhosiad preswyl.