Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Mae dros 140 o gontractwyr wedi cymryd rhan yn rhaglen rhannu prentisiaethau Sgiliau Adeiladu Cyfle ac mae’n cynnig hyfforddiant gwerthfawr a gweithwyr medrus i’r diwydiant adeiladu yn y gorllewin. Sefydlwyd Cyfle ddeng mlynedd yn ôl ac mae’n cyflogi 135 o brentisiaid a rennir ledled Sir Gaerfyrddin, Ceredigion, Sir Benfro, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot, sy’n golygu ei fod yn un o’r cyflogwyr mwyaf o’i fath ym Mhrydain.

Mae’r cwmni’n ymfalchïo mewn hybu amrywiaeth yn y gweithle, gan ddenu ac annog dysgwyr o gefndiroedd nad ydynt yn cymryd rhan mewn rhaglenni Prentisiaethau gan amlaf. Mae hyn yn cynnwys pobl ifanc ag anableddau, aelodau o’r gymuned deithwyr a merched