Neidio i'r prif gynnwy

Enillydd

Ar ôl colli ei dad a’i fam a gorfod symud o’i gartref yn Stoke-on-Trent, mae Jordan William Jones wedi cychwyn ar yrfa yn y diwydiant moduron. Gydag anogaeth a chefnogaeth ei fodryb a’i ewythr ym Mangor a rhaglen Hyfforddeiaeth (Ymgysylltu) gyda’r darparwr dysgu Grwp Llandrillo Menai ar gampws Caernarfon, mae’r bachgen 18 oed wedi cael hwb mawr i’w hunan-hyder.

Yn ystod lleoliad cychwynnol gyda Tyn Lon Volvo yn Llanfair Pwll dechreuodd Jordan ragori, gan ddechrau gyda Diploma Lefel 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau Ysgafn ac yna gwblhau cymwysterau ychwanegol Sgiliau Hanfodol Cymru mewn Cyfathrebu a Chymhwyso Rhif, y ddau ar Lefel 2.