Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Megan Hession

Gan fod Megan Hession mor benderfynol o lwyddo yn y sector gofal iechyd, mae wedi cwblhau Prentisiaeth Uwch chwe mis cyn pryd ac wedi cael tri dyrchafiad yn y gwaith o fewn dwy flynedd. A hithau’n ddim ond 24 oed, mae’n rheoli dau dy byw gyda chymorth, grwp o ddefnyddwyr gwasanaethau, a thimau staff ar gyfer Montana Healthcare o Gaerffili, sy’n cefnogi oedolion â gwahanol anghenion cymhleth.

Mae Megan, o Lanisien, Caerdydd, wedi gwneud Prentisiaeth mewn Gwasanaethau Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Lefel 3, a Phrentisiaeth Uwch, Lefel 5, er iddi gael llawdriniaeth fawr. Erbyn hyn mae’n mentora pum prentis.