Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Redrow Homes

Mae cwmni Redrow o Sir y Fflint yn arwain y diwydiant ym maes prentisiaethau, hyfforddiant a datblygu staff ac mae’n ymroi i ddenu a chadw’r doniau gorau yn y sector adeiladu.

Wrth barhau i dyfu a llwyddo, mae’r cwmni adeiladu tai mwyaf sydd â’i ganolfan yng Nghymru wedi gweld cynnydd o 12% yn ei weithlu i 2,200 o bobl, gyda 15% o’r staff hynny’n cymryd rhan mewn hyfforddiant a datblygiad. Bu Redrow ymhlith y 100 Uchaf o Gyflogwyr Prentisiaid am bedair blynedd o’r bron ac mae’n cydweithio â’r darparwyr hyfforddiant JTL Training a Choleg Cambria i gyflenwi prentisiaethau. Mae’r cwmni’n ymfalchïo’n fawr yn y ffordd y mae’n mentora prentisiaid ac yn eu helpu i symud ymlaen yn eu gyrfa.