Neidio i'r prif gynnwy

Rownd derfynol

Sophie Hendy

Mae Sophie Hendy, 21 oed o Landudno, yn gweithio i Tommy’s Hair Company. Mae bron â chwblhau Prentisiaeth mewn Trin Gwallt ac mae’n gobeithio symud ymlaen i wneud Prentisiaeth Uwch. 

Dywedodd ei darparwr hyfforddiant, ISA Training o Ben-y-bont ar Ogwr, ei bod yn “ysbrydoledig”. Mae wedi rhagori mewn cystadlaethau sgiliau, gan gyrraedd rownd derfynol cystadleuaeth drin gwallt WorldSkills UK y llynedd, lle’r enillodd wobr arbennig. Eleni, enillodd wobr aur yng Nghystadleuaeth Sgiliau Cymru, enillodd rownd ranbarthol WorldSkills UK yn Belfast ac mae wedi cyrraedd rownd derfynol y Skills Show ym mis Tachwedd.